Search Legislation

Deddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Deddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013. Help about Changes to Legislation

Close

Changes to Legislation

Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Ar hyn o bryd mae unrhyw newidiadau neu effeithiau hysbys a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol wedi'u gwneud i destun y ddeddfwriaeth yr ydych yn edrych arni gan y tîm golygyddol. Gweler 'Cwestiynau Cyffredin' am fanylion ynglŷn â'r amserlenni ar gyfer nodi a chofnodi effeithiau newydd ar y safle hwn.

RHAN 1LL+CCYFLWYNIAD

1Trosolwg o’r DdeddfLL+C

(1)Mae’r Ddeddf hon yn gwneud darpariaeth ynghylch safleoedd cartrefi symudol yng Nghymru.

(2)Yn y Ddeddf hon—

(a)mae Rhan 2 yn gwneud darpariaeth ar gyfer trwyddedu safleoedd rheoleiddiedig etc. ac mewn cysylltiad â hynny,

(b)mae Rhan 3 yn gwneud darpariaeth i amddiffyn rhag troi allan o safleoedd gwarchodedig,

(c)mae Rhan 4 yn gwneud darpariaeth ynghylch telerau cytundebau i osod cartrefi symudol ar safleoedd gwarchodedig,

(d)mae Rhan 5 yn gwneud darpariaeth y caiff awdurdodau lleol ddarparu safleoedd i gartrefi symudol a gwahardd gosod cartrefi symudol ar dir comin odani, ac

(e)mae Rhan 6 yn gwneud darpariaeth atodol a chyffredinol.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 1 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 64(2)

I2A. 1 mewn grym ar 1.10.2014 gan O.S. 2014/11, ergl. 3(1)(a) (ynghyd ag ergl. 4)

2Safleoedd cartrefi symudol sy’n ddarostyngedig i’r DdeddfLL+C

(1)Yn y Ddeddf hon ystyr “safle rheoleiddiedig” yw unrhyw dir yng Nghymru y gosodir cartref symudol arno er mwyn i bobl fyw ynddo (gan gynnwys unrhyw dir yng Nghymru a ddefnyddir ar y cyd â thir o’r fath) heblaw—

(a)safle y mae Atodlen 1 yn darparu nad yw i fod yn safle rheoleiddiedig, neu

(b)safle gwyliau.

(2)Yn y Ddeddf hon ystyr “safle gwarchodedig” yw tir sydd—

(a)yn safle rheoleiddiedig, neu

(b)yn safle a fyddai’n safle rheoleiddiedig heblaw am baragraff 11 o Atodlen 1.

(3)Yn is-adran (1) ystyr “safle gwyliau” yw safle y mae’r caniatâd cynllunio perthnasol neu’r drwydded safle ar ei gyfer o dan Ddeddf Safleoedd Carafannau a Rheoli Datblygu 1960—

(a)yn mynegi ei fod wedi ei roi neu ei bod wedi ei rhoi at ddibenion gwyliau yn unig, neu

(b)yn ei gwneud yn ofynnol bod adegau o’r flwyddyn pan na chaniateir gosod cartref symudol ar y safle i bobl fyw ynddo.

(4)Er mwyn penderfynu a yw safle’n safle gwyliau neu beidio, mae unrhyw ddarpariaeth yn y caniatâd cynllunio perthnasol neu yn nhrwydded y safle sy’n caniatáu gosod cartref symudol ar y tir i bobl fyw ynddo drwy gydol y flwyddyn i’w anwybyddu os awdurdodwyd y cartref symudol i’w feddiannu—

(a)gan y person sy’n berchennog y safle, neu

(b)gan berson a gyflogir gan y person hwnnw ond nad yw’n meddiannu’r cartref symudol o dan gytundeb y mae Rhan 4 yn gymwys iddo.

(5)Yn y Ddeddf hon ystyr “safle awdurdod lleol i Sipsiwn a Theithwyr” yw tir y mae awdurdod lleol yn berchen arno i osod cartrefi symudol arno sy’n rhoi llety i Sipsiwn a Theithwyr.

Gwybodaeth Cychwyn

I3A. 2 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 64(2)

I4A. 2 mewn grym ar 1.10.2014 gan O.S. 2014/11, ergl. 3(1)(a) (ynghyd ag ergl. 4)

3Perchnogion safleoeddLL+C

Yn y Ddeddf hon ystyr “perchennog”, o ran unrhyw dir, yw’r person—

(a)y mae ganddo hawl i feddiannu’r tir, neu

(b)y byddai ganddo hawl i feddiannu’r tir heblaw am hawliau unrhyw berson arall o dan unrhyw drwydded neu gontract a roddwyd ar gyfer y tir (gan gynnwys trwydded neu gontract i osod neu i feddiannu cartref symudol yno),

yn rhinwedd ystâd neu fuddiant yn y tir, ond gweler hefyd adrannau 39(2), 42(7) a 55(2)(a).

Gwybodaeth Cychwyn

I5A. 3 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 64(2)

I6A. 3 mewn grym ar 1.10.2014 gan O.S. 2014/11, ergl. 3(1)(a) (ynghyd ag ergl. 4)

RHAN 2LL+CTRWYDDEDU SAFLEOEDD CARTREFI SYMUDOL ETC.

CyflwyniadLL+C

4Trosolwg o’r RhanLL+C

(1)Mae’r Rhan hon yn gwneud darpariaeth ynghylch trwyddedu safleoedd rheoleiddiedig a materion perthynol.

(2)Yn y Rhan hon—

(a)mae adrannau 5 i 8 yn gwneud darpariaeth ar gyfer trwyddedau safle,

(b)mae adrannau 9 i 25 yn gwneud darpariaeth ynghylch amodau trwyddedau safle,

(c)mae adrannau 26 a 27 yn gwneud darpariaeth ynghylch dirymu ac ildio trwyddedau safle,

(d)mae adrannau 28 a 29 yn ei gwneud yn ofynnol i reolwyr safleoedd fod yn bersonau addas a phriodol,

(e) mae adrannau 30 a 31 yn gwneud darpariaeth ar gyfer penodi rheolwyr interim,

(f)mae adrannau 32 a 33 yn cynnwys darpariaethau eraill ynglŷn â gorfodi, ac

(g)mae adrannau 34 i 39 yn cynnwys darpariaethau amrywiol ac atodol.

Gwybodaeth Cychwyn

I7A. 4 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 64(2)

I8A. 4 mewn grym ar 1.10.2014 gan O.S. 2014/11, ergl. 3(1)(b) (ynghyd ag ergl. 4)

Trwyddedau safleLL+C

5Gwahardd defnyddio tir fel safle rheoleiddiedig heb drwydded safleLL+C

(1)Rhaid i berchennog safle rheoleiddiedig beidio ag achosi na chaniatáu i’r safle gael ei ddefnyddio fel safle rheoleiddiedig oni bai bod gan y perchennog drwydded o dan y Rhan hon ar gyfer y tir (“trwydded safle”).

(2)Mae person sy’n mynd yn groes i is-adran (1) yn cyflawni trosedd.

(3)Mae person sy’n euog o drosedd o dan is-adran (2) yn agored o’i gollfarnu’n ddiannod i ddirwy.

Gwybodaeth Cychwyn

I9A. 5 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 64(2)

I10A. 5 mewn grym ar 1.10.2014 gan O.S. 2014/11, ergl. 3(1)(b) (ynghyd ag ergl. 4)

6Gwneud cais am drwydded safleLL+C

(1)Mae cais am ddyroddi trwydded safle ar gyfer unrhyw dir i’w wneud gan berchennog y tir i’r awdurdod lleol y mae’r tir wedi ei leoli yn ei ardal.

(2)O ran cais o dan yr adran hon—

(a)rhaid iddo bennu’r tir y gwneir y cais ar ei gyfer,

(b)rhaid iddo enwi’r ymgeisydd,

(c)os nad yr ymgeisydd fydd rheolwr y safle, rhaid iddo enwi’r person sydd am fod yn rheolwr ar y safle, a

(d)rhaid iddo gydymffurfio ag unrhyw ofynion eraill a bennir gan yr awdurdod lleol.

(3)Rhaid i ymgeisydd, naill ai ar adeg gwneud y cais neu wedyn, roi i’r awdurdod lleol unrhyw wybodaeth arall y mae’n rhesymol i’r awdurdod lleol ofyn amdani.

(4)I gyd-fynd â’r cais rhaid cael datganiad gan yr ymgeisydd—

(a)mewn achos lle nad yw’r ymgeisydd am fod yn rheolwr ar y safle, fod y person a enwir yn unol ag is-adran (2)(c), neu

(b)mewn unrhyw achos arall, fod yr ymgeisydd,

yn berson addas a phriodol i reoli’r safle.

(5)Caiff awdurdod lleol ei gwneud yn ofynnol i ffi a bennir gan yr awdurdod lleol gael ei hanfon ynghyd â’r cais am drwydded safle (gweler adran 36 ynglŷn â hyn).

Gwybodaeth Cychwyn

I11A. 6 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 64(2)

I12A. 6 mewn grym ar 1.10.2014 gan O.S. 2014/11, ergl. 3(1)(b) (ynghyd ag ergl. 4)

7Dyroddi trwydded safleLL+C

(1)Caiff awdurdod lleol ddyroddi trwydded safle ar gyfer tir os oes gan yr ymgeisydd, pan ddyroddir y drwydded safle, hawl i fanteisio ar ganiatâd cynllunio i ddefnyddio’r tir fel safle i gartrefi symudol heblaw drwy orchymyn datblygu.

(2)Os oes gan yr ymgeisydd hawl i fanteisio ar ganiatâd cynllunio o’r fath ar y dyddiad y mae’r ymgeisydd yn rhoi’r wybodaeth y gofynnir amdani yn rhinwedd adran 6, caiff yr awdurdod lleol ddyroddi trwydded safle ar gyfer y tir o fewn 2 fis ar ôl y dyddiad hwnnw neu, os bydd yr ymgeisydd a’r awdurdod lleol yn cytuno mewn ysgrifen y caniateir cyfnod hirach i’r awdurdod lleol ddyroddi trwydded safle, o fewn y cyfnod y cytunir arno.

(3)Os caiff yr ymgeisydd hawl i fanteisio ar ganiatâd cynllunio rywbryd ar ôl rhoi’r wybodaeth y gofynnir amdani yn rhinwedd adran 6, caiff yr awdurdod lleol ddyroddi trwydded safle ar gyfer y tir o fewn 6 wythnos ar ôl y dyddiad y mae’r ymgeisydd yn cael yr hawl i fanteisio ar ganiatâd cynllunio neu, os bydd yr ymgeisydd a’r awdurdod lleol yn cytuno mewn ysgrifen y caniateir cyfnod hirach i’r awdurdod lleol ddyroddi trwydded safle, o fewn y cyfnod y cytunir arno.

(4)Pan fo awdurdod lleol yn penderfynu peidio â dyroddi trwydded safle o dan is-adran (2) neu (3)—

(a)rhaid i’r awdurdod lleol hysbysu’r ymgeisydd am y rhesymau dros y penderfyniad ac am hawl yr ymgeisydd i apelio o dan baragraff (b),

(b)caiff yr ymgeisydd, o fewn y cyfnod o 28 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y gwneir y penderfyniad, apelio at dribiwnlys eiddo preswyl yn erbyn y penderfyniad, ac

(c)ni chaniateir hawlio digollediad am golled a ddioddefir yn sgil y penderfyniad hyd nes y ceir canlyniad yr apêl.

(5)Rhaid i awdurdod lleol beidio ar unrhyw adeg â dyroddi trwydded safle i berson y gŵyr yr awdurdod lleol ei fod wedi dal trwydded safle a ddirymwyd o dan adran 18 neu 28 lai na 3 blynedd cyn yr adeg honno.

(6)Pan fo awdurdod lleol yn methu penderfynu ar gais am drwydded safle o fewn y cyfnod y mae’n ofynnol iddo wneud hynny, nid oes trosedd o dan adran 5 wedi ei gyflawni o ran y tir gan y person a wnaeth y cais am y drwydded safle ar unrhyw adeg ar ôl diwedd y cyfnod hwnnw hyd nes bod penderfyniad ar y cais wedi ei wneud.

Gwybodaeth Cychwyn

I13A. 7 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 64(2)

I14A. 7 mewn grym ar 1.10.2014 gan O.S. 2014/11, ergl. 3(1)(b) (ynghyd ag ergl. 4)

8Parhad trwydded safleLL+C

(1)Daw trwydded safle’n weithredol ar yr adeg a bennir yn y drwydded safle neu odani ac, oni chaiff ei therfynu drwy gael ei dirymu, mae’n parhau mewn grym am y cyfnod a bennir yn y drwydded safle neu odani.

(2)Rhaid i’r cyfnod hwnnw ddod i ben heb fod yn fwy na 5 mlynedd ar ôl y diwrnod y daw’r drwydded safle yn weithredol.

Gwybodaeth Cychwyn

I15A. 8 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 64(2)

I16A. 8 mewn grym ar 1.10.2014 gan O.S. 2014/11, ergl. 3(1)(b) (ynghyd ag ergl. 4)

Amodau trwyddedau safleLL+C

9Pŵer i osod amodau ar drwydded safleLL+C

(1)Caniateir i drwydded safle a ddyroddir gan awdurdod lleol ar gyfer unrhyw dir gael ei dyroddi o dan unrhyw amodau y mae’r awdurdod lleol o’r farn ei bod yn angenrheidiol neu’n ddymunol eu gosod ar berchennog y tir er lles—

(a)personau sy’n byw ar y tir mewn cartrefi symudol,

(b)unrhyw ddosbarth arall o bersonau, neu

(c)y cyhoedd yn gyffredinol.

(2)Mae’r amodau y caniateir i drwydded safle gael ei dyroddi yn unol â hwy yn cynnwys amodau (ond heb fod yn gyfyngedig i amodau)—

(a)i gyfyngu’r achlysuron pan osodir cartrefi symudol ar y tir er mwyn i bobl fyw ynddynt, neu gyfanswm y cartrefi symudol a osodir ar y tir at y diben hwnnw ar unrhyw un adeg,

(b)i reoli (boed drwy gyfeirio at eu maint, at eu cyflwr neu, yn ddarostyngedig i is-adran (3), at unrhyw nodwedd arall) y mathau o gartref symudol a osodir ar y tir,

(c)i reoleiddio ym mha safleoedd y gosodir cartrefi symudol ar y tir er mwyn i bobl fyw (yn enwedig er mwyn lleihau risg o lifogydd ac erydu arfordirol) ac i wahardd, cyfyngu neu reoleiddio fel arall ar osod neu godi ar y tir, ar unrhyw adeg pan fo cartrefi symudol wedi eu gosod ar y tir at y diben hwnnw, strwythurau a cherbydau o unrhyw ddisgrifiad a phebyll,

(d)i sicrhau y cymerir unrhyw gamau i gadw neu i wella amwynder y tir, gan gynnwys plannu ac ailblannu’r tir â choed a llwyni,

(e)i sicrhau, ar bob adeg y bydd cartrefi symudol wedi eu gosod ar y tir, fod mesurau priodol yn cael eu cymryd i atal a chanfod tanau a bod dulliau digonol i ymladd tân yn cael eu darparu a’u cynnal,

(f)i sicrhau, ar bob adeg y bydd cartrefi symudol wedi eu gosod ar y tir, fod mesurau priodol yn cael eu cymryd i warchod rhag risg o lifogydd ac erydu arfordirol ac i gyfathrebu unrhyw risg hysbys i lifogydd neu erydu arfordirol i berson sy’n byw ar y tir mewn cartrefi symudol,

(g)i sicrhau bod cyfleusterau iechydol digonol, ac unrhyw gyfleusterau, gwasanaethau neu offer eraill a bennir, yn cael eu darparu i’w defnyddio gan bersonau sy’n byw ar y tir mewn cartrefi symudol a bod unrhyw gyfleusterau ac offer a ddarperir i’w defnyddio ganddynt yn cael eu cynnal yn briodol, ar bob adeg pan fo cartrefi symudol wedi eu gosod ar y tir er mwyn i bobl fyw ynddynt, ac

(h)i’w gwneud yn ofynnol i ddatganiad gael ei wneud, os bydd y person sy’n rheoli’r safle yn newid, gan ddeiliad y drwydded safle i’r awdurdod lleol fod y rheolwr newydd yn berson addas a phriodol i reoli’r safle.

(3)Ni chaniateir gosod amod sy’n rheoli’r mathau o gartrefi symudol a osodir ar y tir drwy gyfeirio at y deunyddiau a ddefnyddiwyd i’w hadeiladu.

(4)Pan fo Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân) 2005 yn gymwys i dir, ni chaniateir gosod amod mewn trwydded safle sy’n ymwneud â’r tir i’r graddau y mae’n ymwneud ag unrhyw fater y gosodwyd neu y gellid gosod gofynion neu waharddiadau mewn perthynas ag ef gan neu o dan y Gorchymyn hwnnw.

(5)Rhaid i drwydded safle a ddyroddir ar gyfer unrhyw dir, oni bai ei bod wedi ei dyroddi o dan amod sy’n cyfyngu cyfanswm y cartrefi symudol y caniateir eu gosod ar y tir ar unrhyw un adeg i 3 neu lai, gynnwys amod bod rhaid i gopi o’r drwydded safle sydd am y tro mewn grym, ynghyd â chopïau o’r biliau cyfleustodau mwyaf diweddar sy’n ymwneud â’r safle ac o unrhyw dystysgrif yswiriant atebolrwydd cyhoeddus sy’n ymwneud â’r safle, gael ei ddangos ar y tir mewn man amlwg bob amser y bydd cartrefi symudol wedi eu gosod ar y tir er mwyn i bobl fyw ynddynt.

(6)Yn is-adran (5) ystyr “biliau cyfleustodau” yw biliau am ddarparu gwasanaethau nwy, trydan, dŵr, carthffosiaeth neu wasanaethau tebyg eraill.

(7)Caiff amod yn y drwydded safle, os yw’n ei gwneud yn ofynnol i unrhyw waith gael ei wneud ar y tir y dyroddir y drwydded safle ar ei gyfer, wahardd neu gyfyngu ar ddod â chartrefi symudol i’r tir er mwyn i bobl fyw ynddynt hyd nes bod yr awdurdod lleol wedi ardystio mewn ysgrifen fod y gwaith wedi ei orffen i’w foddhad.

(8)Pan fo’r tir y mae’r drwydded safle’n ymwneud ag ef yn cael ei ddefnyddio ar y pryd fel safle i gartrefi symudol, caiff amod sy’n ei gwneud yn ofynnol i unrhyw waith gael ei wneud ar y tir, p’un a yw’n cynnwys unrhyw waharddiad neu gyfyngiad a grybwyllir yn is-adran (7) neu beidio, ei gwneud yn ofynnol i’r gwaith gael ei gwblhau er boddhad yr awdurdod lleol o fewn cyfnod a nodir.

(9)Mae amod mewn trwydded safle yn ddilys hyd yn oed os nad oes modd cydymffurfio ag ef ond drwy wneud gwaith nad oes gan ddeiliad y drwydded safle hawl i’w wneud fel mater o hawl.

Gwybodaeth Cychwyn

I17A. 9 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 64(2)

I18A. 9 mewn grym ar 1.10.2014 gan O.S. 2014/11, ergl. 3(1)(b) (ynghyd ag ergl. 4)

10Safonau enghreifftiolLL+C

(1)Caiff Gweinidogion Cymru bennu at ddibenion adran 9 safonau enghreifftiol o ran cynllun safleoedd rheoleiddiedig neu fathau penodol o safleoedd rheoleiddiedig, ac o ran darparu cyfleusterau, gwasanaethau ac offer iddynt.

(2)Wrth benderfynu pa amodau i’w gosod (os gosodir unrhyw amodau o gwbl) mewn trwydded safle, rhaid i awdurdod lleol roi sylw i unrhyw safonau enghreifftiol sydd wedi eu pennu.

(3)Ni chaniateir pennu safonau enghreifftiol o ran tir y mae Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân) 2005 yn gymwys iddo i’r graddau y mae’r safonau’n ymwneud ag unrhyw fater arall y gosodwyd neu y gellid gosod gofynion neu waharddiadau mewn perthynas ag ef gan neu o dan y Gorchymyn hwnnw.

(4)Mae dyletswydd awdurdod lleol i roi sylw i safonau a bennir o dan yr adran hon i’w dehongli, o ran safonau sy’n ymwneud â rhagofalon tân, fel dyletswydd i roi sylw iddynt yn ddarostyngedig i unrhyw gyngor a roddir gan yr awdurdod tân ac achub o dan adran 11.

(5)Yn yr adran hon ac yn adran 11 ystyr “rhagofalon tân” yw rhagofalon sydd i’w cymryd at unrhyw un neu ragor o’r dibenion a bennir yn adran 9(2)(e).

Gwybodaeth Cychwyn

I19A. 10 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 64(2)

I20A. 10 mewn grym ar 1.10.2014 gan O.S. 2014/11, ergl. 3(1)(b) (ynghyd ag ergl. 4)

11Rhagofalon tânLL+C

(1)Rhaid i’r awdurdod lleol, wrth ystyried pa amodau i’w gosod mewn trwydded safle sy’n ymwneud ag unrhyw dir, ymgynghori â’r awdurdod tân ac achub ynghylch i ba raddau y mae unrhyw safonau enghreifftiol sy’n ymwneud â rhagofalon tân sydd wedi eu pennu o dan adran 10 yn briodol i’r tir.

(2)Os—

(a)nad oes safonau o’r fath wedi eu pennu, neu

(b)ei bod yn ymddangos i’r awdurdod tân ac achub fod unrhyw safon a bennwyd yn amhriodol i’r tir,

rhaid i’r awdurdod lleol ymgynghori â’r awdurdod tân ac achub ynghylch pa amodau sy’n ymwneud â rhagofalon tân a ddylai gael eu gosod.

(3)Nid yw’r adran hon yn gymwys pan fo Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân) 2005 yn gymwys i’r tir.

Gwybodaeth Cychwyn

I21A. 11 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 64(2)

I22A. 11 mewn grym ar 1.10.2014 gan O.S. 2014/11, ergl. 3(1)(b) (ynghyd ag ergl. 4)

12Apelio yn erbyn amodau trwydded safleLL+C

(1)Pan fo awdurdod lleol yn penderfynu dyroddi trwydded safle yn ddarostyngedig i amodau (heblaw’r amod sy’n ofynnol gan adran 9(5)), rhaid i’r awdurdod lleol hysbysu’r ymgeisydd am y rhesymau dros wneud hynny ac am hawl yr ymgeisydd i apelio o dan is-adran (2).

(2)Caiff yr ymgeisydd, o fewn y cyfnod o 28 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y gwneir y penderfyniad, apelio at dribiwnlys eiddo preswyl yn erbyn y penderfyniad.

(3)Caiff y tribiwnlys amrywio neu ddileu’r amod os yw wedi ei fodloni (ar ôl rhoi sylw, ymhlith pethau eraill, i unrhyw safonau a all fod wedi eu pennu gan Weinidogion Cymru o dan adran 10) fod yr amod yn amhriodol o feichus.

(4)Mewn achos pan fo tribiwnlys eiddo preswyl yn amrywio neu’n dileu amod o dan is-adran (3), caiff osod amod newydd ar y drwydded safle hefyd.

(5)I’r graddau y mae effaith amod y dyroddir trwydded safle yn ddarostyngedig iddo ar gyfer unrhyw dir yn arwain at ei gwneud yn ofynnol i unrhyw waith gael ei wneud ar y tir, nid yw’r amod yn effeithiol—

(a)yn ystod y cyfnod pan fo gan y person y dyroddwyd y drwydded safle iddo hawl i apelio yn erbyn yr amod, na

(b)tra bo apêl yn erbyn yr amod yn yr arfaeth.

Gwybodaeth Cychwyn

I23A. 12 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 64(2)

I24A. 12 mewn grym ar 1.10.2014 gan O.S. 2014/11, ergl. 3(1)(b) (ynghyd ag ergl. 4)

13Pŵer awdurdod lleol i amrywio amodau trwydded safleLL+C

(1)Caniateir i amodau trwydded safle gael eu hamrywio unrhyw bryd (boed drwy amrywio neu ddileu amodau presennol, drwy ychwanegu amodau newydd, neu drwy gyfuniad o unrhyw ddulliau o’r fath) gan yr awdurdod lleol—

(a)os bydd deiliad y drwydded safle’n gwneud cais i’r awdurdod lleol wneud hynny, neu

(b)os bydd yr awdurdod lleol yn canfod gwybodaeth newydd neu os yw o’r farn bod amgylchiadau wedi newid.

(2)Cyn amrywio amodau trwydded safle o dan is-adran (1)(b), rhaid i’r awdurdod lleol roi cyfle i ddeiliad y drwydded safle gyflwyno sylwadau.

(3)Pan fo Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân) 2005 yn gymwys i’r tir y mae’r drwydded safle yn ymwneud ag ef, ni chaniateir ychwanegu amod newydd i’r drwydded safle o dan is-adran (1) i’r graddau y mae’n ymwneud ag unrhyw fater y gosodwyd neu y gellid gosod gofynion neu waharddiadau mewn perthynas ag ef gan neu o dan y Gorchymyn hwnnw.

(4)Caiff awdurdod lleol ei gwneud yn ofynnol i ffi a bennir gan yr awdurdod lleol (gweler adran 36 ynglŷn â hyn) gael ei hanfon ynghyd â chais am amrywio amodau’r drwydded safle.

(5)Nid yw amrywiad ar amodau trwydded safle gan awdurdod lleol i fod yn effeithiol hyd nes bod deiliad y drwydded safle wedi cael hysbysiad ysgrifenedig yn ei gylch.

(6)Wrth arfer y pwerau a roddir gan is-adran (1), rhaid i awdurdod lleol roi sylw (ymhlith pethau eraill) i unrhyw safonau a all fod wedi eu pennu gan Weinidogion Cymru o dan adran 10.

(7)Rhaid i’r awdurdod lleol ymgynghori â’r awdurdod tân ac achub cyn arfer y pwerau a roddir gan is-adran (1) o ran amod mewn trwydded safle a osodir at y dibenion a nodir yn adran 9(2)(e).

(8)Nid yw is-adran (7) yn gymwys pan fo Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân) 2005 yn gymwys i’r tir.

Gwybodaeth Cychwyn

I25A. 13 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 64(2)

I26A. 13 mewn grym ar 1.10.2014 gan O.S. 2014/11, ergl. 3(1)(b) (ynghyd ag ergl. 4)

14Apelio yn erbyn amrywio amodau trwydded safleLL+C

(1)Pan fo deiliad trwydded safle wedi ei dramgwyddo gan unrhyw amrywiad ar amodau’r drwydded safle o dan adran 13(1)(b) neu gan benderfyniad yr awdurdod lleol i wrthod cais am amrywio’r amodau hynny, caiff y deiliad, o fewn y cyfnod o 28 o ddiwrnodau sy’n dechrau drannoeth y diwrnod y cafodd y deiliad hysbysiad o’r newid neu o’r penderfyniad i wrthod, apelio at dribiwnlys eiddo preswyl.

(2)Caiff y tribiwnlys, os yw’n caniatáu’r apêl, roi unrhyw gyfarwyddiadau i’r awdurdod lleol sy’n angenrheidiol i roi ei effaith i benderfyniad y tribiwnlys.

(3)I’r graddau y bydd amrywiad ar drwydded safle yn gosod gofyniad ar ddeiliad y drwydded safle i wneud unrhyw waith ar y tir y mae’r drwydded safle yn ymwneud ag ef na fyddai’n ofynnol fel arall i ddeiliad y drwydded safle ei wneud, nid yw’r amrywiad i fod yn effeithiol yn ystod y cyfnod pan fo gan y deiliaid hawl i apelio yn erbyn yr amrywiad na thra bydd apêl yn erbyn yr amrywiad yn yr arfaeth.

(4)Wrth arfer y pwerau a roddir gan is-adran (2) rhaid i dribiwnlys eiddo preswyl roi sylw ymhlith pethau eraill i unrhyw safonau a all fod wedi eu pennu gan Weinidogion Cymru o dan adran 10.

Gwybodaeth Cychwyn

I27A. 14 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 64(2)

I28A. 14 mewn grym ar 1.10.2014 gan O.S. 2014/11, ergl. 3(1)(b) (ynghyd ag ergl. 4)

Torri amodLL+C

15Torri amodLL+C

(1)Os yw’n ymddangos i awdurdod lleol sydd wedi dyroddi trwydded safle bod perchennog y tir yn methu neu wedi methu cydymffurfio ag unrhyw un neu ragor o amodau’r drwydded safle, caiff yr awdurdod lleol roi i’r perchennog—

(a)hysbysiad cosb benodedig, neu

(b)hysbysiad cydymffurfio.

(2)Caiff Gweinidogion Cymru ddyroddi canllawiau i’r awdurdodau lleol ynghylch yr ystyriaethau y dylent eu hystyried wrth benderfynu a ddylid ymdrin â methiant i gydymffurfio ag amod mewn trwydded safle drwy roi hysbysiad cosb benodedig ynteu hysbysiad cydymffurfio.

(3)Rhaid i awdurdod lleol roi sylw i unrhyw ganllawiau o’r fath wrth wneud penderfyniad o’r fath.

(4)Pan fo hysbysiad cosb benodedig yn cael ei roi i berson mewn perthynas â methiant ond nad yw’r swm a bennir ynddo yn cael ei dalu yn unol â’r hysbysiad, caiff yr awdurdod lleol dynnu’r hysbysiad cosb benodedig yn ôl a rhoi hysbysiad cydymffurfio i’r person mewn perthynas â’r methiant.

Gwybodaeth Cychwyn

I29A. 15 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 64(2)

I30A. 15 mewn grym ar 1.10.2014 gan O.S. 2014/11, ergl. 3(1)(b) (ynghyd ag ergl. 4)

16Hysbysiad cosb benodedigLL+C

(1)Mae hysbysiad cosb benodedig yn hysbysiad sydd—

(a)yn nodi’r amodau o dan sylw a manylion y methiant i gydymffurfio ag ef,

(b)yn ei gwneud yn ofynnol i berchennog y tir dalu swm penodedig i’r awdurdod lleol mewn cyfeiriad a bennir yn yr hysbysiad, ac

(c)yn pennu ym mha gyfnod y mae’n rhaid i’r swm penodedig gael ei dalu.

(2)Rhaid i’r swm a bennir mewn hysbysiad cosb benodedig a roddi ar unrhyw adeg beidio â bod yn fwy na’r swm a bennir ar yr adeg honno fel lefel 1 ar raddfa safonol troseddau diannod.

(3)Heb ragfarnu taliad drwy unrhyw ddull arall, caniateir talu’r gosb benodedig drwy ei ragdalu a phostio llythyr sy’n cynnwys swm y gosb (mewn arian parod neu fel arall) at yr awdurdod lleol yn y cyfeiriad a ddarperir yn yr hysbysiad; ac os felly ystyrir bod y taliad wedi ei wneud ar yr adeg y byddai’r llythyr hwnnw yn cael ei ddosbarthu yng nghwrs arferol y post.

Gwybodaeth Cychwyn

I31A. 16 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 64(2)

I32A. 16 mewn grym ar 1.10.2014 gan O.S. 2014/11, ergl. 3(1)(b) (ynghyd ag ergl. 4)

17Hysbysiadau cydymffurfioLL+C

(1)Mae hysbysiad cydymffurfio yn hysbysiad sydd—

(a)yn nodi’r amod o dan sylw a manylion y methiant i gydymffurfio ag ef,

(b)yn ei gwneud yn ofynnol i berchennog y tir gymryd unrhyw gamau sydd ym marn yr awdurdod lleol yn briodol ac a bennir yn yr hysbysiad er mwyn sicrhau y cydymffurfir â’r amod,

(c)yn pennu ym mha gyfnod y mae’n rhaid i’r camau hynny gael eu cymryd, a

(d)yn esbonio’r hawl i apelio a roddir gan is-adran (2).

(2)Caiff perchennog tir y cyflwynwyd hysbysiad cydymffurfio iddo apelio at dribiwnlys eiddo preswyl yn erbyn yr hysbysiad hwnnw (gweler adran 23).

(3)Caiff awdurdod lleol—

(a)dirymu hysbysiad cydymffurfio, neu

(b)amrywio hysbysiad cydymffurfio drwy estyn y cyfnod a bennir yn yr hysbysiad o dan is-adran (1)(c).

(4)Mae’r pŵer i ddirymu neu i amrywio hysbysiad cydymffurfio yn arferadwy gan yr awdurdod lleol—

(a)ar gais a wneir gan berchennog y tir y cyflwynwyd yr hysbysiad iddo, neu

(b)ar symbyliad yr awdurdod lleol ei hun.

(5)Pan fo awdurdod lleol yn dirymu neu’n amrywio hysbysiad cydymffurfio, rhaid iddo hysbysu perchennog y tir y mae’r hysbysiad yn ymwneud ag ef am y penderfyniad cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol.

(6)Pan fo hysbysiad cydymffurfio’n cael ei ddirymu, mae’r dirymiad yn dod i rym ar yr adeg y caiff ei wneud.

(7)Pan fo hysbysiad cydymffurfio’n cael ei amrywio—

(a)os nad yw’r hysbysiad wedi dod yn weithredol pan wneir yr amrywiad, daw’r amrywiad i rym ar unrhyw adeg (os oes un) y daw’r hysbysiad yn weithredol yn unol ag adran 24, a

(b)os yw’r hysbysiad wedi dod yn weithredol pan wneir yr amrywiad, daw’r amrywiad i rym ar yr adeg y mae’n cael ei wneud.

Gwybodaeth Cychwyn

I33A. 17 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 64(2)

I34A. 17 mewn grym ar 1.10.2014 gan O.S. 2014/11, ergl. 3(1)(b) (ynghyd ag ergl. 4)

18Hysbysiad cydymffurfio: trosedd a chollfarnau lluosogLL+C

(1)Mae perchennog tir y cyflwynwyd hysbysiad cydymffurfio iddo sydd wedi dod yn weithredol yn cyflawni trosedd os bydd y perchennog yn methu cymryd y camau a bennir yn yr hysbysiad o dan adran 17(1)(b) o fewn y cyfnod a bennir yn yr hysbysiad o dan adran 17(1)(c).

(2)Mae person sy’n euog o drosedd o dan is-adran (1) yn agored o’i gollfarnu’n ddiannod i ddirwy.

(3)Mewn achos yn erbyn perchennog tir am drosedd o dan is-adran (1), mae’n amddiffyniad bod gan y perchennog esgus rhesymol dros fethu cymryd y camau y cyfeirir atynt yn is-adran (1) o fewn y cyfnod y cyfeirir ato yn yr is-adran honno.

(4)Mae is-adran (5) yn gymwys—

(a)pan gollfernir perchennog tir am drosedd o dan is-adran (1), a

(b)pan fo’r perchennog wedi ei gollfarnu ar ddau neu fwy o achlysuron blaenorol am drosedd o dan is-adran (1) mewn perthynas â’r drwydded safle y mae’r gollfarn a grybwyllir ym mharagraff (a) yn ymwneud â hi.

(5)Ar gais gan yr awdurdod lleol a gyflwynodd yr hysbysiad cydymffurfio, caiff y llys y collfarnwyd perchennog y tir ger ei bron wneud gorchymyn yn dirymu’r drwydded safle ar y dyddiad a bennir yn y gorchymyn.

(6)Rhaid i orchymyn o dan is-adran (5) beidio â phennu dyddiad sydd cyn diwedd y cyfnod pryd y caniateir i hysbysiad o apêl (boed yn ôl yr achos datganedig ynteu fel arall) gael ei roi yn erbyn y gollfarn a grybwyllir yn is-adran (4)(a).

(7)Pan wneir apêl yn erbyn y gollfarn a grybwyllir yn is-adran (4)(a) gan berchennog y tir cyn y dyddiad a bennir mewn gorchymyn o dan is-adran (5), nid yw’r gorchymyn yn effeithiol—

(a)hyd nes i’r apêl gael ei phenderfynu’n derfynol, neu

(b)hyd nes i’r apêl gael ei thynnu’n ôl.

(8)Ar gais gan berchennog y tir neu gan yr awdurdod lleol a ddyroddodd y drwydded safle, caiff y llys a wnaeth y gorchymyn o dan is-adran (5) wneud gorchymyn yn pennu dyddiad pryd y mae dirymiad y drwydded safle i ddod yn effeithiol sy’n hwyrach na’r dyddiad a bennir yn y gorchymyn o dan is-adran (5).

(9)Ond rhaid i’r llys beidio â gwneud gorchymyn o dan is-adran (8) oni bai ei fod wedi ei fodloni bod hysbysiad digonol o’r cais wedi ei roi i’r perchennog (os yr awdurdod lleol yw’r ymgeisydd) neu i’r awdurdod lleol (os y perchennog yw’r ymgeisydd).

Gwybodaeth Cychwyn

I35A. 18 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 64(2)

I36A. 18 mewn grym ar 1.10.2014 gan O.S. 2014/11, ergl. 3(1)(b) (ynghyd ag ergl. 4)

19Hysbysiad cydymffurfio: pŵer i hawlio treuliauLL+C

(1)Wrth gyflwyno hysbysiad cydymffurfio i berchennog tir, caiff awdurdod lleol godi tâl ar y perchennog fel modd i adennill treuliau yr eir iddynt gan yr awdurdod lleol—

(a)wrth benderfynu a ddylai gyflwyno’r hysbysiad, a

(b)wrth baratoi a chyflwyno’r hysbysiad neu hawliad o dan is-adran (3).

(2)Mae’r treuliau y cyfeirir atynt yn is-adran (1) yn cynnwys treuliau sicrhau cyngor arbenigol (gan gynnwys cyngor cyfreithiol) (ond heb fod yn gyfyngedig i’r costau hyn).

(3)Mae’r pŵer o dan is-adran (1) yn arferadwy drwy gyflwyno’r hysbysiad cydymffurfio ynghyd â hawliad sy’n nodi—

(a)cyfanswm y treuliau y mae’r awdurdod lleol yn ceisio eu hadennill o dan is-adran (1) (“treuliau perthnasol”),

(b)dadansoddiad manwl o’r treuliau perthnasol, ac

(c)pan fo’r awdurdod lleol yn bwriadu codi llog o dan adran 25, y gyfradd log ar y treuliau perthnasol.

(4)Pan fo tribiwnlys yn caniatáu apêl o dan adran 17 yn erbyn yr hysbysiad cydymffurfio y cyflwynwyd hawliad gydag ef, caiff y tribiwnlys wneud unrhyw orchymyn y mae’n barnu ei fod yn briodol—

(a)yn cadarnhau, yn lleihau neu’n dileu unrhyw dâl o dan yr adran hon a wnaed mewn perthynas â’r hysbysiad, a

(b)yn amrywio’r hawliad fel y bo’n briodol o ganlyniad i hyn.

Gwybodaeth Cychwyn

I37A. 19 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 64(2)

I38A. 19 mewn grym ar 1.10.2014 gan O.S. 2014/11, ergl. 3(1)(b) (ynghyd ag ergl. 4)

20Pŵer i gymryd camau ar ôl collfarnu’r perchennogLL+C

(1)Pan gollfernir perchennog tir am drosedd o dan adran 18(1), caiff yr awdurdod lleol a ddyroddodd yr hysbysiad cydymffurfio—

(a)cymryd unrhyw gamau y mae’n ofynnol o dan yr hysbysiad cydymffurfio i’r perchennog eu cymryd ond sydd heb eu cymryd, a

(b)cymryd unrhyw gamau eraill sy’n briodol ym marn yr awdurdod i sicrhau y cydymffurfir â’r amod a bennir yn yr hysbysiad cydymffurfio.

(2)Pan fo awdurdod lleol yn bwriadu cymryd camau o dan is-adran (1), rhaid iddo gyflwyno i berchennog y tir hysbysiad—

(a)sy’n nodi’r tir a’r hysbysiad cydymffurfio y mae’n ymwneud â hwy,

(b)sy’n nodi bod yr awdurdod lleol yn bwriadu mynd i’r tir,

(c)sy’n disgrifio’r camau y mae’r awdurdod lleol yn bwriadu eu cymryd ar y tir,

(d)os nad un o swyddogion yr awdurdod lleol yw’r person y mae’r awdurdod lleol yn bwriadu ei awdurdodi i gymryd y camau ar ei ran, sy’n nodi enw’r person hwnnw, ac

(e)sy’n nodi’r dyddiadau a’r amserau pryd y bwriedir i’r camau gael eu cymryd (gan gynnwys pryd y mae’r awdurdod lleol yn bwriadu dechrau cymryd y camau a phryd y mae’n disgwyl i’r camau gael eu cwblhau).

(3)Rhaid i’r hysbysiad gael ei gyflwyno’n ddigon cynnar cyn bod yr awdurdod lleol yn bwriadu mynd i’r tir er mwyn rhoi hysbysiad rhesymol i berchennog y tir am y bwriad i fynd iddo.

(4)Mewn achos pan fo’r awdurdod lleol yn awdurdodi person heblaw un o swyddogion yr awdurdod lleol i gymryd y camau ar ei ran, mae’r cyfeiriad yn adran 32(1) at swyddog awdurdodedig i’r awdurdod lleol yn cynnwys y person hwnnw.

(5)Nid yw’r gofyniad yn adran 32(2) bod rhaid rhoi 24 awr o hysbysiad o’r bwriad i fynd i’r tir, o’i gymhwyso at achos yn yr adran hon, yn gymwys ond ar gyfer y diwrnod y mae’r awdurdod lleol yn bwriadu dechrau cymryd y camau ar y tir.

Gwybodaeth Cychwyn

I39A. 20 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 64(2)

I40A. 20 mewn grym ar 1.10.2014 gan O.S. 2014/11, ergl. 3(1)(b) (ynghyd ag ergl. 4)

21Pŵer i gymryd camau brysLL+C

(1)Caiff awdurdod lleol sydd wedi dyroddi trwydded safle gymryd camau mewn perthynas ag unrhyw dir sy’n ffurfio’r safle os yw’n ymddangos i’r awdurdod lleol—

(a)bod perchennog y tir yn methu neu wedi methu cydymffurfio ag unrhyw un neu ragor o amodau’r drwydded safle, a

(b)bod risg ar fin digwydd o niwed difrifol i iechyd neu ddiogelwch unrhyw berson sydd ar y tir neu a all fod ar y tir o ganlyniad i’r methiant hwnnw.

(2)Y camau y caiff awdurdod lleol eu cymryd o dan yr adran hon (y cyfeirir atynt yn yr adran hon fel “camau brys”) yw unrhyw gamau y mae’n ymddangos i’r awdurdod lleol eu bod yn angenrheidiol er mwyn dileu’r risg sydd ar fin digwydd o niwed difrifol a grybwyllir yn is-adran (1)(b).

(3)Pan fo awdurdod lleol yn bwriadu cymryd camau brys, rhaid i’r awdurdod lleol gyflwyno i berchennog y tir hysbysiad—

(a)sy’n nodi’r tir y mae’n ymwneud ag ef,

(b)y’n nodi bod yr awdurdod lleol yn bwriadu mynd i’r tir,

(c)sy’n disgrifio’r camau brys y mae’r awdurdod lleol yn bwriadu eu cymryd ar y tir,

(d)os nad un o swyddogion yr awdurdod lleol yw’r person y mae’r awdurdod lleol yn bwriadu ei awdurdodi i gymryd y camau ar ei ran, sy’n nodi enw’r person hwnnw, ac

(e)sy’n pennu’r pwerau o dan yr adran hon ac o dan adran 32 fel y pwerau y mae’r awdurdod lleol yn bwriadu mynd i’r tir odanynt.

(4)Caiff hysbysiad o dan is-adran (3) nodi y byddai’r awdurdod lleol yn bwriadu gwneud cais am warant o dan adran 32(3) pe bai mynediad i’r tir yn cael ei wrthod.

(5)Rhaid i hysbysiad o dan is-adran (3) gael ei gyflwyno yn ddigon cynnar cyn bod yr awdurdod lleol yn bwriadu mynd i’r tir er mwyn rhoi hysbysiad rhesymol i berchennog y tir am y bwriad i fynd iddo.

(6)Mewn achos pan fo’r awdurdod lleol yn awdurdodi person heblaw un o swyddogion yr awdurdod lleol i gymryd y camau brys ar ei ran, mae’r cyfeiriad yn adran 32(1) at swyddog awdurdodedig i’r awdurdod lleol yn cynnwys y person hwnnw.

(7)Mae adran 32, o’i chymhwyso at achos yn yr adran hon, yn effeithiol fel pe bai—

(a)y geiriau “ar bob adeg resymol” yn is-adran (1), a

(b)is-adran (2),

wedi eu hepgor.

(8)O fewn y cyfnod o 7 niwrnod sy’n dechrau â’r dyddiad y mae’r awdurdod lleol yn dechrau cymryd y camau brys, rhaid i’r awdurdod lleol gyflwyno i berchennog y tir hysbysiad—

(a)sy’n disgrifio’r risg sydd ar fin digwydd o niwed difrifol i iechyd neu ddiogelwch personau sydd ar y tir neu a all fod ar y tir,

(b)sy’n disgrifio’r camau brys sydd wedi eu cymryd gan yr awdurdod lleol ar y tir, ac unrhyw gamau brys sydd i’w cymryd gan yr awdurdod lleol ar y tir,

(c)sy’n nodi pryd y dechreuodd yr awdurdod lleol gymryd y camau brys a phryd y mae’r awdurdod lleol yn disgwyl iddynt gael eu cwblhau,

(d)os nad un o swyddogion yr awdurdod lleol yw’r person y mae’r awdurdod lleol yn bwriadu ei awdurdodi i gymryd y camau ar ei ran, sy’n nodi enw’r person hwnnw, ac

(e)sy’n esbonio’r hawl i apelio a roddir gan is-adran (9).

(9)Caiff perchennog tir y mae awdurdod lleol wedi cymryd neu yn cymryd camau brys mewn perthynas ag ef apelio at dribiwnlys eiddo preswyl yn erbyn cymryd y camau gan yr awdurdod lleol (gweler adran 23).

(10)Caniateir apelio ar y seiliau canlynol—

(a)nad oedd risg ar fin digwydd o niwed difrifol fel y’i crybwyllir yn is-adran (1)(b) (neu, os yw’r camau’n dal i gael eu cymryd, nad oes risg o’r fath), neu

(b)nad oedd angen y camau y mae’r awdurdod wedi eu cymryd er mwyn dileu’r risg a oedd ar fin digwydd o niwed difrifol a grybwyllir yn is-adran (1)(b) (neu, os yw’r camau’n dal i gael eu cymryd, nad oes eu hangen er mwyn dileu’r risg).

(11)Mae’r dulliau a ganiateir ar gyfer cyflwyno hysbysiad o dan yr adran hon yn cynnwys ei osod ar fan amlwg ym mhrif fynedfa’r tir neu yn agos ati.

Gwybodaeth Cychwyn

I41A. 21 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 64(2)

I42A. 21 mewn grym ar 1.10.2014 gan O.S. 2014/11, ergl. 3(1)(b) (ynghyd ag ergl. 4)

22Camau o dan adran 20 neu 21: pŵer i hawlio treuliauLL+C

(1)Pan fo awdurdod lleol yn cymryd camau o dan adran 20 neu gamau brys o dan adran 21, caiff yr awdurdod lleol godi tâl ar berchennog y tir fel modd i adennill treuliau yr aed iddynt gan yr awdurdod lleol—

(a)wrth benderfynu a ddylai gymryd y camau,

(b)wrth baratoi a chyflwyno unrhyw hysbysiad o dan adran 20 neu 21 neu hawliad o dan is-adran (6), ac

(c)wrth gymryd y camau.

(2)Mae’r treuliau y cyfeirir atynt yn is-adran (1) yn cynnwys treuliau sicrhau cyngor arbenigol (gan gynnwys cyngor cyfreithiol) (ond heb fod yn gyfyngedig i’r rhain).

(3)Yn achos camau brys o dan adran 21, ni chaniateir codi tâl o dan is-adran (1) tan unrhyw adeg (os oes un) a bennir yn unol ag is-adran (4).

(4)At ddibenion is-adran (3), yr adeg pan ganiateir i dâl gael ei godi am gamau brys yw—

(a)os na ddygir apêl yn erbyn penderfyniad yr awdurdod lleol i gymryd y camau brys o dan adran 21(9) o fewn y cyfnod apelio o dan adran 23, diwedd y cyfnod hwnnw, a

(b)os dygir apêl o’r fath ac os yw’r penderfyniad ar yr apêl yn cadarnhau penderfyniad yr awdurdod lleol—

(i)os yw’r cyfnod pryd y caniateir dwyn apêl i’r Tribiwnlys Uwch yn dod i ben heb i apêl o’r fath gael ei dwyn, diwedd y cyfnod hwnnw, a

(ii)os dygir apêl i’r Tribiwnlys Uwch, pan roddir penderfyniad ar yr apêl sy’n cadarnhau penderfyniad yr awdurdod lleol.

(5)At ddibenion is-adran (4)—

(a)mae tynnu apêl yn erbyn penderfyniad gan yr awdurdod lleol yn ôl yn creu’r un effaith â phenderfyniad ar yr apêl sy’n cadarnhau penderfyniad yr awdurdod lleol, a

(b)mae cyfeiriadau at benderfyniad ar yr apêl sy’n cadarnhau penderfyniad yr awdurdod lleol yn gyfeiriadau at benderfyniad sy’n cadarnhau’r penderfyniad hwnnw ag amrywiadau neu heb amrywiadau.

(6)Mae’r pŵer o dan is-adran (1) yn arferadwy drwy gyflwyno i berchennog y tir hawliad am y treuliau—

(a)sy’n nodi cyfanswm y treuliau y mae’r awdurdod lleol yn ceisio eu hadennill o dan is-adran (1) (“treuliau perthnasol”),

(b)yn nodi dadansoddiad manwl o’r treuliauperthnasol,

(c)os yw’r awdurdod lleol yn bwriadu codi llog o dan adran 25, yn nodi’r gyfradd log ar y treuliau perthnasol, a

(d)yn esbonio’r hawl i apelio a roddir gan is-adran (7).

(7)Caiff perchennog tir y cyflwynir hawliad iddo o dan yr adran hon apelio at dribiwnlys eiddo preswyl yn erbyn yr hawliad (gweler adran 23).

(8)Rhaid i hawliad o dan yr adran hon gael ei gyflwyno—

(a)yn achos camau o dan adran 20, cyn diwedd y cyfnod o 2 fis sy’n dechrau â’r dyddiad y cafodd y camau eu cwblhau, a

(b)yn achos camau brys o dan adran 21—

(i)cyn diwedd y cyfnod o 2 fis sy’n dechrau â’r dyddiad cynharaf (os oes un) y caniateir i dâl gael ei godi yn unol ag is-adran (4), neu

(ii)os nad yw’r camau wedi eu cwblhau erbyn diwedd y cyfnod hwnnw, cyn diwedd y cyfnod o 2 fis sy’n dechrau â’r dyddiad y cwblheir y camau.

Gwybodaeth Cychwyn

I43A. 22 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 64(2)

I44A. 22 mewn grym ar 1.10.2014 gan O.S. 2014/11, ergl. 3(1)(b) (ynghyd ag ergl. 4)

23Apelio o dan adran 17, 21 neu 22LL+C

(1)Rhaid i apêl o dan adran 17, 21 neu 22 gael ei gwneud cyn diwedd y cyfnod o 21 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y cyflwynwyd y ddogfen berthnasol (y cyfeirir ato yn yr adran hon ac adran 24 fel “y cyfnod apelio”).

(2)Yn is-adran (1) ystyr “dogfen berthnasol” yw—

(a)yn achos apêl o dan adran 17, yr hysbysiad cydymffurfio,

(b)yn achos apêl o dan adran 21, yr hysbysiad o dan is-adran (8) o’r adran honno, ac

(c)yn achos apêl o dan adran 22, yr hawliad o dan yr adran honno.

(3)Caiff tribiwnlys eiddo preswyl ganiatáu i apêl o dan adran 17, 21 neu 22 gael ei gwneud iddo ar ôl diwedd y cyfnod apelio os yw wedi ei fodloni bod rheswm da dros fethu apelio cyn diwedd y cyfnod hwnnw (a thros unrhyw ohirio wedyn cyn gwneud cais am ganiatâd i apelio allan o amser).

(4)O ran apêl o dan adran 17, 21 neu 22—

(a)mae i gael ei chynnal ar ffurf ail-wrandawiad, ond

(b)caniateir iddi gael ei phenderfynu gan roi sylw i faterion na wyddai’r awdurdod lleol a wnaeth y penderfyniad amdanynt.

(5)Caiff y tribiwnlys drwy orchymyn—

(a)ar apêl o dan adran 17, gadarnhau, amrywio neu ddileu’r hysbysiad cydymffurfio,

(b)ar apêl o dan adran 21, cadarnhau, amrywio neu wrth-droi penderfyniad yr awdurdod lleol, neu

(c)ar apêl o dan adran 22, cadarnhau, amrywio neu ddileu’r hawliad.

Gwybodaeth Cychwyn

I45A. 23 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 64(2)

I46A. 23 mewn grym ar 1.10.2014 gan O.S. 2014/11, ergl. 3(1)(b) (ynghyd ag ergl. 4)

24Pryd y daw hysbysiad cydymffurfio neu hawliad treuliau yn weithredolLL+C

(1)Mae’r adeg pryd y daw hysbysiad cydymffurfio o dan adran 17 neu hawliad o dan adran 19 neu 22 yn weithredol (os yw’n weithredol o gwbl) i’w phenderfynu yn unol â’r adran hon.

(2)Os na ddygir apêl o dan adran 17 o fewn y cyfnod apelio yn erbyn yr hysbysiad cydymffurfio, daw’r hysbysiad ac unrhyw hawliad o dan adran 19 a gyflwynwyd gydag ef yn weithredol ar ddiwedd y cyfnod hwnnw.

(3)Os na ddygir apêl o dan adran 22 o fewn y cyfnod apelio, daw’r hawliad o dan yr adran honno yn weithredol ar ddiwedd y cyfnod hwnnw.

(4)Os dygir apêl o dan adran 17, a bod penderfyniad ar yr apêl yn cadarnhau’r hysbysiad cydymffurfio, daw’r hysbysiad ac unrhyw hawliad o dan adran 19 a gyflwynwyd gydag ef yn weithredol—

(a)os daw’r cyfnod pryd y caniateir dwyn apêl i’r Tribiwnlys Uwch i ben heb apêl o’r fath, ar ddiwedd y cyfnod hwnnw, neu

(b)os dygir apêl i’r Tribiwnlys Uwch a bod penderfyniad ar yr apêl yn cael ei roi sy’n cadarnhau’r hysbysiad, adeg y penderfyniad.

(5)Pan ddygir apêl o dan adran 22, a bod penderfyniad ar yr apêl yn cadarnhau’r hawliad o dan yr adran honno, daw’r hawliad yn weithredol—

(a)os daw’r cyfnod pryd y caniateir dod ag apêl i’r Tribiwnlys Uwch i ben heb apêl o’r fath, ar ddiwedd y cyfnod hwnnw, neu

(b)os ceir apêl i’r Tribiwnlys Uwch a bod penderfyniad ar yr apêl yn cael ei roi sy’n cadarnhau’r hysbysiad, adeg y penderfyniad.

(6)At ddibenion is-adrannau (4) a (5)—

(a)mae tynnu apêl yn erbyn hysbysiad neu hawliad yn ôl yn creu’r un effaith â phenderfyniad ar yr apêl sy’n cadarnhau’r hysbysiad neu’r hawliad, a

(b)mae cyfeiriadau at benderfyniad sy’n cadarnhau’r hysbysiad neu’r hawliad yn gyfeiriadau at benderfyniad sy’n cadarnhau’r hysbysiad neu’r hawliad ag amrywiadau neu heb amrywiadau.

Gwybodaeth Cychwyn

I47A. 24 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 64(2)

I48A. 24 mewn grym ar 1.10.2014 gan O.S. 2014/11, ergl. 3(1)(b) (ynghyd ag ergl. 4)

25Adennill treuliau a hawlir o dan adran 19 neu 22LL+C

(1)O’r adeg y daw hawliad o dan adran 19 neu 22 yn weithredol, mae’r treuliau perthnasol a nodir yn yr hawliad yn cario llog ar unrhyw gyfradd a bennir gan yr awdurdod lleol hyd nes i’r holl symiau sy’n ddyledus o dan yr hawliad gael eu hadennill; ac mae’r treuliau ac unrhyw gyfradd log yn adenilladwy ganddynt fel dyled.

(2)O’r adeg honno ymlaen, mae’r treuliau ac unrhyw log, hyd nes y cânt eu hadennill, yn arwystl ar y tir y mae’r hysbysiad cydymffurfio neu’r camau brys yn ymwneud ag ef.

(3)Mae’r arwystl yn dod yn effeithiol ar yr adeg honno fel arwystl cyfreithiol sy’n bridiant tir lleol.

(4)Er mwyn gorfodi’r arwystl mae gan yr awdurdod lleol yr un pwerau a rhwymedïau o dan Ddeddf Cyfraith Eiddo 1925 ac fel arall â phe bai yn forgeisiai drwy weithred sydd â phwerau i werthu ac i brydlesu, pwerau i dderbyn ildiad prydles ac i benodi derbynnydd.

(5)Mae’r pŵer i benodi derbynnydd yn arferadwy unrhyw bryd ar ôl diwedd y cyfnod o 1 mis sy’n dechrau â’r dyddiad y daw’r arwystl yn effeithiol.

(6)Yn yr adran hon mae i “treuliau perthnasol”—

(a)yn achos hawliad o dan adran 19, yr ystyr a roddir gan is-adran (3) o’r adran honno, a

(b)yn achos hawliad o dan adran 22, yr ystyr a roddir gan is-adran (6) o’r adran honno.

Gwybodaeth Cychwyn

I49A. 25 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 64(2)

I50A. 25 mewn grym ar 1.10.2014 gan O.S. 2014/11, ergl. 3(1)(b) (ynghyd ag ergl. 4)

Dirymu ac ildio trwyddedau safleLL+C

26Dirymu yn sgil marwolaeth, newid perchnogaeth neu roi’r gorau i ddefnyddio safleLL+C

(1)Pan fo deiliad trwydded safle ar gyfer unrhyw dir yn marw neu’n peidio â bod yn berchennog y tir, dirymir y drwydded safle.

(2)Pan fo tir y mae trwydded safle mewn grym ar ei gyfer yn peidio â chael ei ddefnyddio fel safle rheoleiddiedig, dirymir y drwydded safle.

Gwybodaeth Cychwyn

I51A. 26 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 64(2)

I52A. 26 mewn grym ar 1.10.2014 gan O.S. 2014/11, ergl. 3(1)(b) (ynghyd ag ergl. 4)

27Dyletswydd deiliad trwydded safle i ganiatáu i drwydded gael ei newidLL+C

(1)Caiff awdurdod lleol sydd wedi dyroddi trwydded safle ei gwneud yn ofynnol ar unrhyw adeg i’r deiliad wneud beth bynnag y mae’r awdurdod lleol yn credu ei bod yn angenrheidiol i alluogi’r awdurdod lleol i gynnwys ynddi unrhyw amrywiad ar amodau’r drwydded a wneir yn unol â’r Rhan hon.

(2)Os bydd deiliad trwydded safle yn methu heb esgus rhesymol â chydymffurfio â gofyniad o dan yr adran hon, mae deiliad y drwydded yn cyflawni trosedd.

(3)Mae person sy’n euog o drosedd o dan is-adran (2) yn agored o’i gollfarnu’n ddiannod i ddirwy heb fod yn uwch na lefel 1 ar y raddfa safonol.

Gwybodaeth Cychwyn

I53A. 27 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 64(2)

I54A. 27 mewn grym ar 1.10.2014 gan O.S. 2014/11, ergl. 3(1)(b) (ynghyd ag ergl. 4)

Rheolwyr safle i fod yn bersonau addas a phriodolLL+C

28Gofyniad bod rhaid i reolwr safle fod yn berson addas a phriodolLL+C

(1)Ni chaiff perchennog tir achosi na chaniatáu i unrhyw ran o’r tir gael ei defnyddio fel safle rheoleiddiedig oni bai (yn ychwanegol at yr angen i’r perchennog ddal trwydded safle) bod yr awdurdod lleol y mae’r tir wedi ei leoli yn ei ardal—

(a)wedi ei fodloni bod y perchennog yn berson addas a phriodol i reoli’r safle neu (os nad y perchennog sy’n rheoli’r safle) fod person a benodwyd i wneud hynny gan y perchennog yn berson addas a phriodol i wneud hynny, neu

(b)gyda chydsyniad y perchennog, wedi penodi person ei hun i reoli’r safle.

(2)Os bydd perchennog tir sy’n dal trwydded safle ar gyfer y tir yn torri is-adran (1), caiff yr awdurdod lleol y mae’r tir wedi ei leoli yn ei ardal wneud cais i’r tribiwnlys eiddo preswyl am orchymyn yn dirymu’r drwydded safle.

(3)Mae person sy’n mynd yn groes i’r gofyniad a osodir gan is-adran (1) yn cyflawni trosedd.

(4)Mae person sy’n euog o drosedd o dan is-adran (3) yn agored o’i gollfarnu’n ddiannod i ddirwy.

(5)Os collfernir y perchennog tir sy’n dal trwydded safle ar gyfer tir am drosedd o dan is-adran (3) mewn perthynas â’r tir ac os yw’r person wedi ei gollfarnu o’r trosedd mewn perthynas â’r tir ar 2 neu ragor o achlysuron blaenorol, caiff y llys ynadon y collfernir y perchennog ger ei fron, ar gais gan yr awdurdod lleol y mae’r tir wedi ei leoli yn ei ardal, wneud gorchymyn sy’n dirymu trwydded safle’r perchennog ar y diwrnod a bennir yn y gorchymyn.

Gwybodaeth Cychwyn

I55A. 28 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 64(2)

I56A. 28 mewn grym ar 1.10.2014 gan O.S. 2014/11, ergl. 3(1)(b) (ynghyd ag ergl. 4)

29Penderfynu a yw person yn addas a phriodolLL+C

(1)Wrth benderfynu a yw person yn berson addas a phriodol i reoli safle rheoleiddiedig rhaid i awdurdod lleol roi sylw i bob mater y mae o’r farn eu bod yn briodol.

(2)Mae’r materion y mae’n rhaid i’r awdurdod lleol roi sylw iddynt yn cynnwys unrhyw dystiolaeth o fewn is-adran (3) neu (4).

(3)Mae tystiolaeth yn dod o fewn yr is-adran hon os yw’n dangos bod y person—

(a)wedi cyflawni unrhyw drosedd sy’n ymwneud â thwyll neu anonestrwydd arall, trais, arfau tanio neu gyffuriau neu unrhyw drosedd sydd wedi ei restru yn Atodlen 3 i Ddeddf Troseddau Rhywiol 2003 (troseddau mae gofynion ynglŷn â hysbysu yn gymwys iddynt),

[F1(b)wedi aflonyddu ar rywun neu wahaniaethu’n anghyfreithlon yn ei erbyn ar sail unrhyw nodwedd sy’n nodwedd warchodedig o dan adran 4 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010, neu wedi erlid person arall yn groes i’r Ddeddf honno, wrth gynnal unrhyw fusnes neu mewn cysylltiad â hynny, neu]

(c)wedi torri unrhyw ddarpariaeth yn y gyfraith sy’n ymwneud â thai (gan gynnwys cartrefi symudol) neu landlord a thenant.

(4)Mae tystiolaeth yn dod o fewn yr is-adran hon—

(a)os yw’n dangos bod unrhyw berson sydd neu a fu gynt yn gysylltiedig â’r person (ar sail bersonol, ar sail gwaith neu ar sail arall) wedi gwneud unrhyw un neu ragor o’r pethau a nodir yn is-adran (3), a

(b)os yw’n ymddangos i’r awdurdod lleol fod y dystiolaeth yn berthnasol i’r cwestiwn a yw’r person yn berson addas a phriodol i reoli safle rheoleiddiedig.

(5)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ddiwygio’r adran hon i amrywio’r dystiolaeth y mae’n rhaid i awdurdod lleol roi sylw iddi wrth benderfynu a yw person yn berson addas a phriodol i reoli safle rheoleiddiedig.

(6)Pan fo awdurdod lleol yn penderfynu nad yw person yn berson addas a phriodol i reoli safle—

(a)rhaid i’r awdurdod lleol hysbysu’r person am y rhesymau dros y penderfyniad ac o hawl y person i apelio o dan baragraff (b), a

(b)caiff y person, cyn pen y cyfnod o 28 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y gwneir y penderfyniad, apelio yn erbyn y penderfyniad i dribiwnlys eiddo preswyl.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I57A. 29 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 64(2)

I58A. 29 mewn grym ar 1.10.2014 gan O.S. 2014/11, ergl. 3(1)(b) (ynghyd ag ergl. 4)

Rheolwyr interimLL+C

30Penodi rheolwr interimLL+C

(1)Os bydd unrhyw un neu ragor o’r amodau a bennir yn is-adran (2) wedi eu bodloni o ran safle rheoleiddiedig, caiff awdurdod lleol y trwyddedwyd y safle ganddo benodi rheolwr interim i’r safle.

(2)Dyma’r amodau y cyfeirir atynt yn is-adran (1)—

(a)bod yr awdurdod lleol o’r farn bod deiliad y drwydded safle yn methu neu wedi methu, naill ai mewn modd difrifol neu fwy nag unwaith, â chydymffurfio ag unrhyw un neu ragor o amodau’r drwydded safle,

(b)bod yr awdurdod lleol o’r farn nad yw’r safle’n cael ei reoli gan berson sy’n berson addas a phriodol i reoli’r safle, ac

(c)bod yr awdurdod lleol o’r farn nad oes neb yn rheoli’r safle.

(3)Rhaid i awdurdod lleol, os gofynnir iddo gan gymdeithas sy’n gymdeithas trigolion gymwys ar gyfer safle, ystyried a ddylai arfer ei bŵer o dan yr adran hon.

(4)Nid yw is-adran (3) yn effeithio ar ddisgresiwn awdurdod lleol i arfer ei bŵer o dan yr adran hon ar ei symbyliad ei hun.

(5)Caiff person a dramgwyddir gan benderfyniad i benodi rheolwr interim, o fewn y cyfnod o 28 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y gwneir y penderfyniad, apelio at dribiwnlys eiddo preswyl yn erbyn y penderfyniad.

(6)Daw penodiad rheolwr interim i ben ar y cynharaf o’r canlynol—

(a)pan ddaw’r drwydded safle i ben,

(b)pan ddirymir y drwydded safle, ac

(c)dyddiad a bennir yn y penodiad.

(7)Os bydd person yn peidio â bod yn rheolwr interim cyn i’r penodiad ddod i ben, caiff yr awdurdod benodi rheolwr interim newydd yn lle’r person hwnnw.

Gwybodaeth Cychwyn

I59A. 30 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 64(2)

I60A. 30 mewn grym ar 1.10.2014 gan O.S. 2014/11, ergl. 3(1)(b) (ynghyd ag ergl. 4)

31Telerau penodi a phwerau rheolwr interimLL+C

(1)Rhaid i benodiad rheolwr interim gael ei wneud ar delerau ac amodau (gan gynnwys o ran tâl a threuliau) a bennir yn y penodiad, neu y penderfynir arnynt yn unol â’r penodiad.

(2)Mae gan y rheolwr interim—

(a)unrhyw bŵer a bennir yn y penodiad, a

(b)unrhyw bŵer arall o ran rheoli’r safle y mae ar y rheolwr interim ei angen at y dibenion a bennir yn y penodiad (gan gynnwys y pŵer i wneud cytundebau ac i gymryd camau ar ran deiliad y drwydded safle).

(3)Caiff yr awdurdod lleol roi cyfarwyddiadau cyffredinol neu benodol i’r rheolwr interim.

(4)Caiff yr awdurdod lleol dynnu unrhyw gyfarwyddiadau a roddir yn ôl neu eu diwygio.

(5)Caniateir i dâl a threuliau rheolwr interim gael eu tynnu gan y rheolwr interim o unrhyw incwm y mae gan ddeiliad y drwydded hawl i’w gael o ran y safle, ond os nad yw’r incwm hwnnw’n ddigonol rhaid i unrhyw falans gael ei dalu gan yr awdurdod lleol.

(6)Caniateir i unrhyw symiau a delir gan yr awdurdod lleol o dan is-adran (5) gael eu hadennill gan yr awdurdod oddi ar ddeiliad y drwydded safle.

Gwybodaeth Cychwyn

I61A. 31 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 64(2)

I62A. 31 mewn grym ar 1.10.2014 gan O.S. 2014/11, ergl. 3(1)(b) (ynghyd ag ergl. 4)

Darpariaethau gorfodi eraillLL+C

32Pŵer mynediad swyddogion awdurdodau lleolLL+C

(1)Mae gan swyddog awdurdodedig i awdurdod lleol, wedi iddo ddangos (os gofynnir iddo wneud hynny), dogfen awdurdod a ddilyswyd yn briodol, hawl ar bob adeg resymol i fynd i unrhyw dir sy’n safle rheoleiddiedig neu y mae cais am drwydded safle wedi ei wneud ar ei gyfer er mwyn—

(a)galluogi’r awdurdod lleol i benderfynu pa amodau y dylid eu gosod ar y drwydded safle neu a ddylid amrywio amodau’r trwydded safle,

(b)canfod a oes unrhyw un neu ragor o ddarpariaethau’r Rhan hon yn cael, neu wedi cael, eu torri ar y tir neu mewn cysylltiad ag ef,

(c)darganfod a oes amgylchiadau’n bodoli a fyddai’n awdurdodi’r awdurdod lleol i gymryd unrhyw gamau, neu i wneud unrhyw waith, o dan y Rhan hon, neu

(d)cymryd unrhyw gamau, neu wneud unrhyw waith, yr awdurdodir eu cymryd neu ei wneud gan yr awdurdod lleol gan y Rhan hon.

(2)Ond rhaid peidio â mynnu mynediad i unrhyw dir fel mater o hawl oni bai bod 24 awr o hysbysiad o’r bwriad i fynd iddo wedi ei roi i’r perchennog.

(3)Os dangosir er boddhad ynad heddwch—

(a)bod unrhyw un o’r is-baragraffau canlynol yn gymwys—

(i)mae mynediad i unrhyw dir wedi ei wrthod,

(ii)deellir y bydd mynediad yn cael ei wrthod,

(iii)mae perchennog y tir yn absennol dros dro ac mae’r achos yn achos brys,

(iv)byddai cais am fynediad yn mynd yn groes i amcan mynd i’r tir, a

(b)bod sail resymol dros fynd i’r tir at unrhyw ddiben a grybwyllir yn is-adran (1),

caiff yr ynad hedwch drwy warant awdurdodi’r awdurdod lleol drwy gyfrwng unrhyw swyddog awdurdodedig i fynd i’r tir, gan ddefnyddio grym os bydd ei angen.

(4)Ond rhaid peidio â rhoi gwarant oni bai bod yr ynad heddwch wedi ei fodloni—

(a)bod hysbysiad o’r bwriad i wneud cais am y warant wedi ei roi i’r perchennog,

(b)bod y perchennog yn absennol dros dro a bod yr achos yn achos brys, neu

(c)y byddai rhoi hysbysiad yn mynd yn groes i amcan mynd i’r tir.

(5)Caiff swyddog awdurdodedig sy’n mynd i unrhyw dir yn rhinwedd yr adran hon, neu yn rhinwedd gwarant a roddwyd odani, fynd ag unrhyw bersonau y mae eu hangen gydag ef.

(6)Mae pob gwarant a roddir o dan yr adran hon yn parhau mewn grym hyd nes bod y diben y mae angen y mynediad ar ei gyfer wedi ei fodloni.

(7)Mae person sydd yn fwriadol yn rhwystro unrhyw berson sy’n gweithredu’r adran hon, neu sy’n gweithredu gwarant o dan yr adran hon, yn cyflawni trosedd.

(8)Mae person sy’n euog o drosedd o dan is-adran (7) yn agored o’i gollfarnu’n ddiannod i ddirwy heb fod yn uwch na lefel 4 ar y raddfa safonol.

Gwybodaeth Cychwyn

I63A. 32 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 64(2)

I64A. 32 mewn grym ar 1.10.2014 gan O.S. 2014/11, ergl. 3(1)(b) (ynghyd ag ergl. 4)

33Gorchmynion ad-daluLL+C

(1)At ddibenion yr adran hon mae tir yn “safle heb ei drwyddedu” os yw’n safle rheoleiddiedig nad oes trwydded safle mewn grym ar ei gyfer.

(2)Nid yw’r un rheol gyfreithiol sy’n ymwneud â dilysrwydd neu orfodadwyedd contractau o dan amgylchiadau sy’n cynnwys anghyfreithlondeb i effeithio ar ddilysrwydd neu orfodadwyedd y canlynol—

(a)unrhyw ddarpariaeth sy’n ei gwneud yn ofynnol i ffi am lain neu unrhyw daliad cyfnodol arall gael eu talu mewn cysylltiad ag unrhyw gytundeb y mae Rhan 4 yn gymwys iddo sy’n ymwneud â safle heb ei drwyddedu, neu

(b)unrhyw ddarpariaeth arall mewn cytundeb o’r fath.

(3)Ond caniateir i symiau a delir o ran taliadau penodol o dan gytundeb o’r fath ac mewn cysylltiad ag ef gael eu hadennill yn unol ag is-adran (4).

(4)Os bydd—

(a)cais ynglŷn â safle heb ei drwyddedu yn cael ei wneud i dribiwnlys eiddo preswyl gan feddiannydd cartref symudol a osodir ar y safle, a

(b)bod y tribiwnlys wedi ei fodloni o ran y materion a grybwyllir yn is-adran (6),

caiff y tribiwnlys wneud gorchymyn (“gorchymyn ad-dalu”).

(5)Mae gorchymyn ad-dalu yn orchymyn sy’n ei gwneud yn ofynnol i berchennog neu reolwr y safle dalu i feddiannydd y cartref symudol unrhyw symiau a bennir yn y gorchymyn o ran—

(a)unrhyw daliad a wnaed gan feddiannydd y cartref symudol (neu unrhyw berson y mae meddiannydd y cartref symudol wedi sicrhau perchnogaeth ar y cartref symudol drwyddo) i berchennog neu reolwr y safle ynglŷn â phrynu cartref symudol a osodwyd ar y safle,

(b)unrhyw gomisiwn a dalwyd i berchennog neu reolwr y safle gan unrhyw berson ynglŷn â gwerthu cartref symudol a osodwyd ar y safle,

(c)y ffi am y llain a dalwyd ynglŷn â chartref symudol o’r fath, a

(d)unrhyw daliadau cyfnodol a dalwyd ynglŷn â chartref symudol o’r fath.

(6)Rhaid i’r tribiwnlys fod wedi ei fodloni ynglŷn â’r materion a ganlyn—

(a)bod perchennog y safle wedi ei gollfarnu am drosedd o dan adran 5 o ran y safle,

(b)bod meddiannydd y cartref symudol (neu, yn achos taliadau y cyfeirir atynt yn is-adran (5)(a) neu (b), y person y mae’r meddiannydd wedi sicrhau perchnogaeth ar y cartref symudol drwyddo) wedi talu i berchennog neu reolwr y safle yn ystod unrhyw gyfnod y mae’n ymddangos bod trosedd o’r fath yn cael ei gyflawni ynddo o ran y safle, ac

(c)bod y cais wedi ei wneud o fewn y cyfnod o 12 mis yn dechrau â dyddiad y gollfarn.

F2(7). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

(8)Y swm y mae’n ofynnol ei dalu yn rhinwedd gorchymyn ad-dalu o dan is-adran (5) yw unrhyw swm sydd (yn ddarostyngedig i is-adrannau (9) i [F3(10)] ) ym marn y tribiwnlys yn rhesymol o dan yr amgylchiadau.

(9)Mae’r materion y mae’n rhaid i’r tribiwnlys eu cymryd i ystyriaeth wrth benderfynu ar y swm y mae’n ofynnol ei dalu yn cynnwys y canlynol (ond heb fod yn gyfyngedig i’r canlynol)—

(a)cyfanswm y taliadau perthnasol a dalwyd mewn cysylltiad â bod yn berchen ar y safle yn ystod unrhyw gyfnod y mae’n ymddangos i’r tribiwnlys fod trosedd yn cael ei gyflawni ynddo gan y perchennog ynglŷn â’r safle o dan adran 5,

(b)i ba raddau y cafodd perchennog neu reolwr y safle y cyfanswm hwnnw mewn gwirionedd,

(c)a yw perchennog y safle [F4wedi ei gollfarnu yn flaenorol] am drosedd o dan adran 5 ynglŷn â’r safle,

(d)ymddygiad ac amgylchiadau ariannol perchennog neu reolwr y safle, ac

(e)ymddygiad meddiannydd y cartref symudol;

ac yn yr is-adran hon ystyr “taliadau perthnasol” yw’r taliadau hynny y cyfeirir atynt yn is-adran (5).

(10)Ni chaiff gorchymyn ad-dalu ei gwneud yn ofynnol i unrhyw swm gael ei dalu sy’n ymwneud ag unrhyw amser y tu allan i’r cyfnod o 12 mis sy’n diweddu ar ddyddiad cais y meddiannydd, ac mae’r cyfnod sydd i’w gymryd i ystyriaeth o dan is-adran (9)(a) i’w gyfyngu yn unol â hyn.

(11)Mae unrhyw swm sy’n daladwy i feddiannydd cartref symudol yn rhinwedd gorchymyn ad-dalu yn adenilladwy gan y meddiannydd fel dyled sy’n ddyledus i’r meddiannydd gan berchennog neu reolwr y safle.

(12)Yn yr adran hon ystyr “meddiannydd”, o ran cartref symudol a safle rheoleiddiedig, yw person sydd â hawl—

(a)i osod cartref symudol ar y safle, a

(b)i feddiannu’r cartref symudol fel unig breswylfa neu brif breswylfa’r person.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I65A. 33 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 64(2)

I66A. 33 mewn grym ar 1.10.2014 gan O.S. 2014/11, ergl. 3(1)(b) (ynghyd ag ergl. 4)

Amrywiol ac atodolLL+C

34Datganiadau neu wybodaeth anwir neu gamarweiniolLL+C

(1)Mae person—

(a)sy’n gwneud datganiad neu osodiad arall o dan y Rhan hon sy’n anwir neu’n gamarweiniol gan wybod neu gredu ei fod yn anwir neu’n gamarweiniol, neu

(b)sy’n rhoi gwybodaeth anwir neu gamarweiniol o dan y Rhan hon gan wybod neu gredu ei bod yn anwir neu’n gamarweiniol,

yn cyflawni trosedd.

(2)Mae person sy’n euog o drosedd o dan is-adran (1) yn agored o’i gollfarnu’n ddiannod i ddirwy.

Gwybodaeth Cychwyn

I67A. 34 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 64(2)

I68A. 34 mewn grym ar 1.10.2014 gan O.S. 2014/11, ergl. 3(1)(b) (ynghyd ag ergl. 4)

35Canllawiau gan Weinidogion CymruLL+C

(1)Caiff Gweinidogion Cymru ddyroddi canllawiau i awdurdodau lleol o ran cyflawni eu swyddogaethau o dan y Rhan hon.

(2)Rhaid i awdurdodau lleol roi sylw i unrhyw ganllawiau a ddyroddir o dan is-adran (1).

Gwybodaeth Cychwyn

I69A. 35 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 64(2)

I70A. 35 mewn grym ar 1.10.2014 gan O.S. 2014/11, ergl. 3(1)(b) (ynghyd ag ergl. 4)

36Pwerau i godi taliadau: atodolLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo awdurdod lleol yn bwriadu codi tâl o dan adran 6 neu 13.

(2)Cyn codi’r ffi, rhaid i’r awdurdod lleol lunio a chyhoeddi polisi ar ffioedd.

(3)Wrth bennu ffi at ddibenion adran 6 neu 13 mae’r awdurdod lleol—

(a)yn gorfod gweithredu yn unol â’i bolisi ar ffioedd,

(b)yn cael pennu ffioedd gwahanol ar gyfer achosion gwahanol neu ddisgrifiadau gwahanol o achos, ac

(c)yn cael penderfynu nad oes angen talu ffi mewn achosion penodol neu ddisgrifiadau penodol o achos.

(4)Wrth bennu ffi at unrhyw un neu ragor o’r dibenion hyn, ni chaiff yr awdurdod lleol gymryd i ystyriaeth unrhyw gostau y mae’n mynd iddynt wrth arfer—

(a)ei swyddogaethau o dan unrhyw un neu ragor o adrannau 15 i 25, neu

(b)unrhyw swyddogaethau o dan unrhyw ddarpariaeth o’r Ddeddf hon o ran safle nad yw’n safle rheoleiddiedig.

(5)Caiff yr awdurdod lleol ddiwygio’i bolisi ar ffioedd ac, os yw’n gwneud hynny, rhaid iddo gyhoeddi’r polisi fel y’i diwygiwyd.

Gwybodaeth Cychwyn

I71A. 36 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 64(2)

I72A. 36 mewn grym ar 1.10.2014 gan O.S. 2014/11, ergl. 3(1)(b) (ynghyd ag ergl. 4)

37Cofrestrau trwyddedau safleLL+C

(1)Rhaid i bob awdurdod lleol gadw cofrestr o drwyddedau safle a ddyroddwyd ar gyfer tir a leolir yn ardal yr awdurdod lleol.

(2)Mae’r gofrestr i fod yn agored i’r cyhoedd gael edrych arni ar bob adeg resymol.

(3)Os yw awdurdod lleol o dan adran 27 yn cofnodi amrywiad ar unrhyw un o amodau y drwydded safle, rhaid i’r awdurdod lleol gofnodi’r ffaith honno yn y gofrestr trwyddedau safle.

Gwybodaeth Cychwyn

I73A. 37 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 64(2)

I74A. 37 mewn grym ar 1.10.2014 gan O.S. 2014/11, ergl. 3(1)(b) (ynghyd ag ergl. 4)

38Tir y GoronLL+C

Mae’r Rhan hon yn gymwys i dir nad y Goron yw ei berchennog hyd yn oed os oes buddiant yn y tir yn perthyn i’w Mawrhydi yn hawl y Goron neu yn hawl Dugaeth Caerhirfryn, neu i Ddugaeth Cernyw, neu yn perthyn i adran o’r llywodraeth neu’n cael ei ddal mewn ymddiriedolaeth ar ran Ei Mawrhydi at ddibenion adran o’r llywodraeth.

Gwybodaeth Cychwyn

I75A. 38 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 64(2)

I76A. 38 mewn grym ar 1.10.2014 gan O.S. 2014/11, ergl. 3(1)(b) (ynghyd ag ergl. 4)

39DehongliLL+C

(1)Yn y Rhan hon—

  • F5...

  • ystyr “gorchymyn datblygu” (“development order”) yw gorchymyn a wneir o dan adran 59 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990.

(2)Pan fo tir nad yw’n fwy na chyfanswm o 400 o fetrau sgwâr o ran ei arwynebedd yn cael ei osod o dan denantiaeth a wnaed gyda golwg ar ddefnyddio’r tir fel safle rheoleiddiedig, at ddibenion y Rhan hon ystyr “perchennog”, o ran y tir, yw’r person y byddai ganddo hawl i feddiant ar y tir heblaw am hawliau unrhyw berson o dan y denantiaeth honno.

(3)Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rhan hon at wneud gwaith yn cynnwys cyfeiriad at blannu coed a llwyni a gwneud gwaith arall i gadw neu i wella amwynder tir.

(4)Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rhan hon at ganiatâd cynllunio i’w gymryd fel cyfeiriad at ganiatâd cynllunio p’un a yw wedi ei gyfyngu mewn unrhyw ffordd ai peidio neu’n ddarostyngedig i unrhyw amod neu gyfyngiad, ac mae unrhyw gyfeiriad yn y Rhan hon o’r Ddeddf hon at ganiatâd cynllunio yn cynnwys cyfeiriad at ganiatâd cynllunio y bernir ei fod wedi ei roi neu a roddwyd ar ddynodi parth menter o dan Atodlen 32 i Ddeddf Llywodraeth Leol, Cynllunio a Thir 1980.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I77A. 39 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 64(2)

I78A. 39 mewn grym ar 1.10.2014 gan O.S. 2014/11, ergl. 3(1)(b) (ynghyd ag ergl. 4)

RHAN 3LL+CAMDDIFFYN RHAG TROI ALLAN

40Cymhwyso’r RhanLL+C

Mae’r Rhan hon yn gymwys o ran unrhyw drwydded neu gontract (pryd bynnag y’u gwneir) y mae gan berson hawl odano—

(a)i osod cartref symudol ar safle gwarchodedig a’i feddiannu fel preswylfa’r person, neu

(b)os yw’r cartref symudol wedi ei osod ar y safle gwarchodedig gan rywun arall, i’w feddiannu fel preswylfa’r person.

Gwybodaeth Cychwyn

I79A. 40 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 64(2)

I80A. 40 mewn grym ar 1.10.2014 gan O.S. 2014/11, ergl. 3(1)(c) (ynghyd ag ergl. 4)

41Parhad lleiaf hysbysiadLL+C

Mewn unrhyw achos pan fo contract preswyl yn gallu cael ei derfynu drwy hysbysiad a roddir gan y naill barti i’r llall, nid yw’r hysbysiad yn effeithiol oni bai ei fod yn cael ei roi nid llai na 4 wythnos cyn y dyddiad pryd y mae i ddod yn effeithiol.

Gwybodaeth Cychwyn

I81A. 41 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 64(2)

I82A. 41 mewn grym ar 1.10.2014 gan O.S. 2014/11, ergl. 3(1)(c) (ynghyd ag ergl. 4)

42Amddiffyn meddianwyr yn erbyn eu troi allan ac aflonyddu arnynt, gwybodaeth anwir etc.LL+C

(1)Mae person y mae unrhyw un neu ragor o is-adrannau (2) i (6) yn gymwys iddo yn cyflawni trosedd.

(2)Mae’r is-adran hon yn gymwys i berson os yw’r person, yn ystod cyfnod contract preswyl, yn anghyfreithlon yn amddifadu meddiannydd y cartref symudol o feddiannaeth ar y safle gwarchodedig unrhyw gartref symudol y mae gan y meddiannydd hawl o dan y contract i’w osod a’i feddiannu, neu i’w feddiannu, fel preswylfa’r meddiannydd ar y safle gwarchodedig.

(3)Mae’r is-adran hon yn gymwys i berson os yw’r person, ar ôl i gontract preswyl ddod i ben neu gael ei derfynu, yn gorfodi unrhyw hawl i gau meddiannydd y cartref symudol allan o’r safle gwarchodedig neu o unrhyw gartref symudol o’r fath, neu i symud ymaith neu gadw unrhyw gartref symudol o’r fath allan o’r safle gwarchodedig heblaw drwy achos yn y llys.

(4)Mae’r is-adran hon yn gymwys i berson os yw’r person (boed yn ystod cyfnod contract preswyl ynteu ar ôl i gontract preswyl ddod i ben neu gael ei derfynu) yn cyflawni gweithredoedd sy’n debyg o ymyrryd â llonyddwch neu gysur y meddiannydd neu bersonau sy’n preswylio gyda’r meddiannydd, neu’n tynnu’n ôl neu’n cadw’n ôl wasanaethau neu gyfleusterau sy’n rhesymol angenrheidiol er mwyn meddiannu’r cartref symudol fel preswylfa ar y safle, gan fwriadu peri bod meddiannydd y cartref symudol—

(a)yn rhoi’r gorau i feddiannu’r cartref symudol neu ei symud ymaith o’r safle, neu

(b)yn ymatal rhag arfer unrhyw hawl neu rhag mynd ar drywydd unrhyw rwymedi mewn perthynas â hynny.

(5)Mae’r is-adran hon yn gymwys i berson os yw’r person yn berchennog y safle gwarchodedig, neu’n asiant iddo, a bod y person hwnnw (boed yn ystod cyfnod contract preswyl ynteu ar ôl i gontract preswyl ddod i ben neu gael ei derfynu)—

(a)yn cyflawni gweithredoedd sy’n debyg o ymyrryd â llonyddwch neu gysur meddiannydd y cartref symudol neu bersonau sy’n preswylio gyda’r meddiannydd, neu

(b)yn tynnu’n ôl neu’n cadw’n ôl wasanaethau neu gyfleusterau sy’n rhesymol angenrheidiol er mwyn meddiannu’r cartref symudol fel preswylfa ar y safle,

a bod y person (yn y naill achos neu’r llall) yn gwybod, neu fod ganddo achos rhesymol dros gredu, bod yr ymddygiad yn debyg o beri i’r meddiannydd wneud unrhyw un neu ragor o’r pethau a grybwyllir yn is-adran (4)(a) neu (b).

(6)Mae’r is-adran hon yn gymwys i berson os yw’r person yn berchennog y safle gwarchodedig, neu’n asiant iddo a bod y person hwnnw, yn ystod cyfnod contract preswyl—

(a)yn fwriadol neu’n ddi-hid yn rhoi gwybodaeth neu’n cyflwyno sylwadau sy’n anwir neu’n gamarweiniol mewn ystyr berthnasol i unrhyw berson, a

(b)yn gwybod, neu fod ganddo achos rhesymol dros gredu, bod gwneud hynny yn debyg o beri—

(i)i’r meddiannydd wneud unrhyw un neu ragor o’r pethau a grybwyllir yn is-adran (4)(a) neu (b), neu

(ii)i berson sy’n ystyried a ddylai brynu neu feddiannu’r cartref symudol y mae’r contract preswyl yn ymwneud ag ef benderfynu peidio â gwneud.

(7)Yn is-adrannau (5) a (6) mae cyfeiriadau at berchennog safle gwarchodedig yn cynnwys cyfeiriadau at berson sydd ag ystâd neu fuddiant yn y safle sy’n drech nag ystâd neu fuddiant y perchennog.

(8)Yn yr adran hon mae cyfeiriadau at feddiannydd y cartref symudol yn cynnwys cyfeiriadau at y person a oedd yn feddiannydd y cartref symudol o dan gontract preswyl sydd wedi dod i ben neu sydd wedi ei derfynu ac, yn achos marwolaeth y meddiannydd (boed yn ystod cyfnod contract preswyl ynteu ar ôl i gontract preswyl ddod i ben neu gael ei derfynu), at unrhyw berson a oedd y pryd hwnnw yn preswylio gyda’r meddiannydd.

(9)Nid oes dim yn adran hon yn gymwys i arfer hawl gan berchennog cartref symudol i gymryd meddiant ar y cartref symudol, heblaw hawl a roddir wrth i gontract preswyl ddod i ben neu gael ei derfynu neu yn sgil hynny, nac i ddim byd a wneir yn unol â gorchymyn gan unrhyw lys.

Gwybodaeth Cychwyn

I83A. 42 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 64(2)

I84A. 42 mewn grym ar 1.10.2014 gan O.S. 2014/11, ergl. 3(1)(c) (ynghyd ag ergl. 4)

43Troseddau o dan adran 42: atodolLL+C

(1)Mewn achos ynglŷn â throsedd o dorri adran 42(2) neu (3) mae’n amddiffyniad profi bod y cyhuddedig yn credu, a bod ganddo achos rhesymol dros gredu, bod meddiannydd y cartref symudol wedi rhoi’r gorau i fyw ar y safle.

(2)Mewn achos ynglŷn â throsedd o dorri adran 42(5) mae’n amddiffyniad profi bod gan y cyhuddedig sail resymol dros wneud y gweithredoedd neu dynnu’n ôl neu gadw’n ôl y gwasanaethau neu’r cyfleusterau o dan sylw.

(3)Mae person sy’n euog o drosedd o dan adran 42 yn agored—

(a)o’i gollfarnu’n ddiannod, i ddirwy neu i garchar am gyfnod heb fod yn [F6fwy na’r terfyn cyffredinol yn y llys ynadon (yng Nghymru a Lloegr)] , neu i’r ddau, neu

(b)o’i gollfarnu ar dditiad, i ddirwy neu i garchar am gyfnod heb fod yn fwy na 2 flynedd, neu i’r ddau.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I85A. 43 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 64(2)

I86A. 43 mewn grym ar 1.10.2014 gan O.S. 2014/11, ergl. 3(1)(c) (ynghyd ag ergl. 4)

44Darpariaeth ar gyfer atal gorchmynion troi allan dros droLL+C

(1)Os bydd y llys mewn achos gan berchennog safle gwarchodedig yn gwneud gorchymyn i orfodi unrhyw hawl ynglŷn â’r safle a grybwyllir yn adran 42(3), caiff y llys (heb ragfarnu unrhyw bŵer heblaw’r adran hon i ohirio rhoi’r gorchymyn ar waith neu i’w atal dros dro rhag cael ei weithredu) atal gorfodi’r gorchymyn dros dro am unrhyw gyfnod heb fod yn fwy na 12 mis ar ôl dyddiad y gorchymyn sy’n rhesymol ym marn y llys.

(2)Os bydd y llys yn rhinwedd yr adran hon yn atal gorfodi gorchymyn dros dro, caiff osod unrhyw delerau ac amodau, gan gynnwys amodau ynghylch talu rhent neu unrhyw daliadau cyfnodol eraill neu ôl-ddyledion y rhent neu’r taliadau hynny, sy’n rhesymol ym marn y llys.

(3)Caiff y llys o dro i dro, ar gais y naill barti neu’r llall, estyn, lleihau neu derfynu’r cyfnod atal dros dro a orchmynnwyd, neu amrywio unrhyw delerau neu amodau a osodwyd, ond ni chaiff estyn y cyfnod dros dro am fwy na 12 mis ar y tro.

(4)Wrth ystyried a ddylai neu sut y dylai arfer ei bwerau o dan yr adran hon, rhaid i’r llys roi sylw i’r holl amgylchiadau sy’n cynnwys y cwestiynau (ond nad ydynt yn gyfyngedig i’r cwestiynau)—

(a)a yw meddiannydd y cartref symudol wedi methu, boed cyn neu ar ôl i’r contract preswyl perthnasol ddod i ben neu gael ei derfynu, â chadw unrhyw delerau neu amodau yn y contract hwnnw, unrhyw amodau yn y drwydded safle, neu unrhyw reolau rhesymol a wnaed gan berchennog y safle gwarchodedig ynghylch rheoli a chynnal y safle neu gynnal a chadw’r cartrefi symudol arno,

(b)a yw meddiannydd y cartref symudol wedi gwrthod mewn modd afresymol gynnig gan y perchennog i adnewyddu’r contract preswyl neu i wneud contract preswyl arall am gyfnod rhesymol ac ar delerau rhesymol, ac

(c)a yw meddiannydd y cartref symudol wedi methu gwneud ymdrech resymol i sicrhau lle addas arall mewn man arall i’r cartref symudol neu gartref symudol addas arall a lle iddo.

(5)Os bydd y llys yn gwneud gorchymyn fel y’i crybwyllir yn is-adran (1) ond ei fod yn atal gorfodi’r gorchymyn dros dro, ni chaiff y llys wneud unrhyw orchymyn ynghylch costau oni bai ei bod yn ymddangos i’r llys, o roi sylw i ymddygiad perchennog y safle gwarchodedig neu ymddygiad meddiannydd y cartref symudol, fod amgylchiadau’r achos yn eithriadol.

(6)Ni chaiff y llys atal gorfodi gorchymyn dros dro yn rhinwedd yr adran hon—

(a)os nad oes trwydded safle mewn grym ar gyfer y safle, a

(b)os nad yw awdurdod lleol yn berchen ar y safle;

ac os yw trwydded safle ar gyfer y safle yn mynegi ei fod yn dod i ben ar ddiwedd cyfnod penodedig, nid yw’r cyfnod pryd y caniateir atal y gorfodi dros dro yn rhinwedd yr adran hon yn ymestyn y tu hwnt i ddiwedd y drwydded safle.

Gwybodaeth Cychwyn

I87A. 44 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 64(2)

I88A. 44 mewn grym ar 1.10.2014 gan O.S. 2014/11, ergl. 3(1)(c) (ynghyd ag ergl. 4)

45AtodolLL+C

(1)Mae pŵer y llys o dan adran 44 i atal gorfodi gorchymyn dros dro yn ymestyn i unrhyw orchymyn a wneir ond sydd heb ei weithredu cyn i’r Rhan hon gychwyn.

(2)Nid oes dim yn y Rhan hon yn effeithio ar sut y mae adran 13 o Ddeddf Prynu Gorfodol 1965 yn gweithredu.

(3)Nid yw Deddf Amddiffyn rhag Troi Allan 1977 yn gymwys i unrhyw fangre sy’n gartref symudol a osodwyd ar safle gwarchodedig.

Gwybodaeth Cychwyn

I89A. 45 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 64(2)

I90A. 45 mewn grym ar 1.10.2014 gan O.S. 2014/11, ergl. 3(1)(c) (ynghyd ag ergl. 4)

46TroseddauLL+C

Caniateir i achos ynglŷn â throsedd o dan y Rhan hon gael ei ddwyn gan unrhyw awdurdod lleol.

Gwybodaeth Cychwyn

I91A. 46 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 64(2)

I92A. 46 mewn grym ar 1.10.2014 gan O.S. 2014/11, ergl. 3(1)(c) (ynghyd ag ergl. 4)

47DehongliLL+C

(1)Yn y Rhan hon—

  • ystyr “contract preswyl” (“residential contract”) yw trwydded neu gontract o fewn yr adran honno;

  • ystyr “meddiannydd” (“occupier”) o ran cartref symudol a safle gwarchodedig, yw’r person sydd â hawl fel y’i crybwyllir yn adran 40 o ran cartref symudol a’r safle gwarchodedig.

(2)Yn y Rhan hon ystyr “y llys” (“the court”) yw’r llys sirol.

Gwybodaeth Cychwyn

I93A. 47 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 64(2)

I94A. 47 mewn grym ar 1.10.2014 gan O.S. 2014/11, ergl. 3(1)(c) (ynghyd ag ergl. 4)

RHAN 4LL+CCYTUNDEBAU CARTREFI SYMUDOL

48Cytundebau y mae’r Rhan yn gymwys iddyntLL+C

(1)Mae’r Rhan hon yn gymwys i unrhyw gytundeb y mae gan berson hawl odano—

(a)i osod cartref symudol ar safle gwarchodedig, a

(b)i feddiannu’r cartref symudol fel unig breswylfa neu brif breswylfa’r person.

(2)Yn y Rhan hon ystyr “meddiannydd”, o ran cartref symudol a safle gwarchodedig, yw’r person sydd â hawl fel y’i crybwyllir yn is-adran (1) o ran cartref symudol a’r safle gwarchodedig (ond gweler hefyd adran 55(2)(b)).

Gwybodaeth Cychwyn

I95A. 48 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 64(2)

I96A. 48 mewn grym ar 1.10.2014 gan O.S. 2014/11, ergl. 3(1)(d) (ynghyd ag ergl. 4)

49Manylion cytundebauLL+C

(1)Cyn gwneud cytundeb y mae’r Rhan hon yn gymwys iddo, rhaid i berchennog y safle gwarchodedig roi datganiad ysgrifenedig i’r meddiannydd arfaethedig o dan y cytundeb sydd—

(a)yn pennu enwau a chyfeiriadau’r partïon,

(b)yn cynnwys manylion y tir y bydd gan y meddiannydd arfaethedig hawl i osod y cartref symudol arno a’r rheini’n ddigon i adnabod y tir hwnnw,

(c)yn nodi’r telerau datganedig sydd i’w cynnwys yn y cytundeb (gan gynnwys unrhyw reolau i’r safle),

(d)yn nodi’r telerau sydd i’w hymhlygu gan adran 50(1), ac

(e)yn cydymffurfio ag unrhyw ofynion eraill a bennir drwy reoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru.

(2)Rhaid i’r datganiad ysgrifenedig sy’n ofynnol o dan is-adran (1) gael ei roi—

(a)heb fod yn hwyrach nag 28 o ddiwrnodau cyn dyddiad gwneud unrhyw gytundeb ynglŷn â gwerthu’r cartref symudol i’r meddiannydd arfaethedig, neu

(b)(os na wneir cytundeb o’r fath cyn gwneud y cytundeb y mae’r Rhan hon yn gymwys iddo) heb fod yn hwyrach nag 28 o ddiwrnodau cyn dyddiad gwneud y cytundeb y mae’r Rhan hon yn gymwys iddo.

(3)Ond os bydd y meddiannydd arfaethedig yn cydsynio mewn ysgrifen i’r datganiad hwnnw gael ei roi erbyn dyddiad (“y dyddiad a ddewiswyd”) sy’n llai nag 28 o ddiwrnodau cyn y dyddiad a grybwyllir yn is-adran (2)(a) neu (b), rhaid i’r datganiad gael ei roi i’r meddiannydd arfaethedig heb fod yn hwyrach na’r dyddiad a ddewiswyd.

(4)O ran unrhyw deler datganedig heblaw rheol safle—

(a)os yw wedi ei gynnwys mewn cytundeb y mae’r [F7Rhan] hon yn gymwys iddo, ond

(b)na chafodd ei nodi mewn datganiad ysgrifenedig a roddwyd i’r meddiannydd arfaethedig yn unol ag is-adrannau (1) i (3),

mae’r teler yn anorfodadwy gan y perchennog neu gan unrhyw berson o fewn adran 53(1); ond mae hyn yn darostyngedig i unrhyw orchymyn a wneir gan y corff barnwrol priodol o dan adran 50(3).

(5)Os yw’r perchennog wedi methu rhoi datganiad ysgrifenedig i’r meddiannydd yn unol ag is-adrannau (1) i (3), caiff y meddiannydd, ar unrhyw adeg ar ôl i’r cytundeb gael ei wneud, wneud cais i’r corff barnwrol priodol am orchymyn sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r perchennog—

(a)rhoi datganiad ysgrifenedig i’r meddiannydd sy’n cydymffurfio â pharagraffau (a) i (e) o is-adran (1) (a ddarllenir ag unrhyw addasiadau y mae eu hangen i adlewyrchu’r ffaith bod y cytundeb wedi ei wneud), a

(b)gwneud hynny erbyn unrhyw ddyddiad a bennir yn y gorchymyn.

(6)Caniateir i ddatganiad y mae’n ofynnol ei roi i berson o dan yr adran hon gael ei roi i’r person yn bersonol neu ei anfon at y person drwy’r post.

(7)Mae unrhyw gyfeiriad yn yr adran hon at wneud cytundeb y mae’r Rhan hon yn gymwys iddo yn cynnwys cyfeiriad at unrhyw amrywiad ar gytundeb y mae’r cytundeb yn dod yn gytundeb y mae’r Rhan hon yn gymwys iddo yn ei rinwedd.

(8)Nid yw is-adrannau (2), (3) a (5) yn gymwys mewn perthynas â pherson sy’n meddiannau neu’n bwriadu meddiannu llain dramwy ar safle Sipsiwn a Theithwyr awdurdod lleol; ac yn yr achos hwnnw mae’r cyfeiriad yn is-adran (4) at is-adrannau (1) i (3) i’w drin yn gyfeiriad at is-adran (1).

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I97A. 49 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 64(2)

I98A. 49 mewn grym ar 1.10.2014 gan O.S. 2014/11, ergl. 3(1)(d) (ynghyd ag ergl. 4)

50Telerau cytundebauLL+C

(1)Mae’r telerau cymwys a nodir yn Rhan 1 o Atodlen 2 yn ymhlyg mewn unrhyw gytundeb y mae’r Rhan hon yn gymwys iddo; ac mae’r is-adran hon yn effeithiol er gwaethaf unrhyw deler datganedig yn y cytundeb.

(2)Caiff y corff barnwrol priodol, ar gais gan y naill barti neu’r llall, a’r cais hwnnw wedi ei wneud o fewn y cyfnod perthnasol, orchymyn bod telerau ynglŷn â’r materion a grybwyllir yn Rhan 2 o Atodlen 2 i’w hymhlygu yn y cytundeb.

(3)Caiff y corff barnwrol priodol, ar gais gan y naill barti neu’r llall, a’r cais hwnnw wedi ei wneud o fewn y cyfnod perthnasol, wneud gorchymyn—

(a)yn amrywio neu’n dileu unrhyw deler datganedig yn y cytundeb heblaw am reol safle,

(b)yn achos unrhyw deler datganedig y mae adran 49(4) yn gymwys iddo heblaw am reol safle, yn darparu i’r teler gael effaith lawn neu gael unrhyw effaith yn ddarostyngedig i unrhyw amrywiad a bennir yn y gorchymyn.

(4)Yn is-adrannau (2) a (3) ystyr “y cyfnod perthnasol” yw’r cyfnod sy’n dechrau â’r dyddiad y gwneir y cytundeb ac sy’n dod i ben—

(a)6 mis ar ôl y dyddiad hwnnw, neu

(b)os rhoddir datganiad ysgrifenedig sy’n ymwneud â’r cytundeb i’r meddiannydd ar ôl y dyddiad hwnnw (boed i gydymffurfio â gorchymyn o dan adran 49(5) neu beidio), 6 mis ar ôl dyddiad rhoi’r datganiad;

ac mae is-adran (7) o adran 49 yn gymwys at ddibenion yr is-adran hon fel y mae’n gymwys at ddibenion yr adran honno.

(5)Ar gais o dan yr adran hon, rhaid i’r corff barnwrol priodol wneud unrhyw ddarpariaeth y mae o’r farn ei bod yn gyfiawn ac yn deg o dan yr amgylchiadau.

(6)Nid yw is-adrannau (2) i (4) yn gymwys mewn perthynas â pherson sy’n meddiannu neu’n bwriadu meddiannu llain dramwy ar safle Sipsiwn a Theithwyr awdurdod lleol.

Gwybodaeth Cychwyn

I99A. 50 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 64(2)

I100A. 50 mewn grym ar 1.10.2014 gan O.S. 2014/11, ergl. 3(1)(d) (ynghyd ag ergl. 4)

51Pŵer i ddiwygio telerau ymhlygLL+C

(1)Caiff Gweinidogion Cymru drwy orchymyn wneud unrhyw ddiwygiadau i Atodlen 2, heblaw paragraff 11, sydd yn eu barn hwy yn briodol.

(2)Heb ragfarnu cyffredinolrwydd is-adran (1), caiff gorchymyn o dan yr adran hon—

(a)gwneud darpariaeth ynglŷn â phenderfynu ar unrhyw gwestiynau gan y llys neu gan dribiwnlys, neu mewn cysylltiad â hynny, neu ynglŷn â gwneud unrhyw orchmynion gan y llys neu gan dribiwnlys, a bennir yn y gorchymyn, neu

(b)gwneud unrhyw ddiwygiadau i unrhyw ddarpariaeth yn y Rhan hon sydd ym marn Gweinidogion Cymru yn briodol o ganlyniad i unrhyw ddiwygiad a wneir yn Atodlen 2 drwy’r gorchymyn.

Gwybodaeth Cychwyn

I101A. 51 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 64(2)

I102A. 51 mewn grym ar 1.10.2014 gan O.S. 2014/11, ergl. 3(1)(d) (ynghyd ag ergl. 4)

52Rheolau safleLL+C

(1)Yn achos safle gwarchodedig, ac eithrio safle Sipsiwn a Theithwyr awdurdod lleol, y ceir rheolau safle iddo, mae pob un o’r rheolau i fod yn deler datganedig ym mhob cytundeb y mae’r Rhan hon yn gymwys iddo sy’n ymwneud â llain ar y safle (gan gynnwys cytundeb a wneir cyn cychwyn neu un a wnaed cyn i’r rheolau gael eu gwneud).

(2)Mae “rheolau safle” yn achos safle gwarchodedig yn rheolau a wneir gan y perchennog, un unol ag unrhyw weithdrefn a ragnodir drwy reoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru, sy’n ymwneud—

(a)â rheoli a chynnal y safle, neu

(b)ag unrhyw faterion eraill a ragnodir drwy reoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru.

(3)Mae unrhyw reolau a wneir gan y perchennog cyn i’r adran hon ddod i rym ac sy’n ymwneud â mater a grybwyllir yn is-adran (2) yn peidio â bod yn effeithiol ar ddiwedd unrhyw gyfnod sy’n dechrau â’r diwrnod y daw’r adran hon i rym a ragnodir drwy reoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru.

(4)Daw rheolau safle i rym ar ddiwedd unrhyw gyfnod sy’n dechrau â’r diwrnod ymgynghori cyntaf a ragnodir drwy reoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru, os oes copi o’r rheolau wedi ei adneuo cyn diwedd y cyfnod hwnnw gyda’r awdurdod lleol y mae’r safle gwarchodedig wedi ei leoli yn ei ardal.

(5)Pan fo rheol safle’n cael ei amrywio, daw’r rheol fel y’i hamrywiwyd i rym ar ddiwedd unrhyw gyfnod sy’n dechrau â’r diwrnod ymgynghori cyntaf a ragnodir drwy reoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru—

(a)os yw’r rheol yn cael ei hamrywio yn unol â’r weithdrefn a ragnodir drwy reoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru, a

(b)os oes copi o’r rheol sy’n cael ei hamrywio wedi ei adneuo cyn diwedd y cyfnod hwnnw gyda’r awdurdod lleol y mae’r safle gwarchodedig wedi ei leoli yn ei ardal.

(6)Pan fo rheol safle’n cael ei dileu, daw’r dilead i rym ar ddiwedd unrhyw gyfnod sy’n dechrau â’r diwrnod ymgynghori cyntaf a ragnodir gan reoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru—

(a)os yw’r rheol yn cael ei dileu yn unol ag unrhyw weithdrefn a ragnodir drwy reoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru, a

(b)os oes hysbysiad o’r dilead wedi ei adneuo cyn diwedd y cyfnod hwnnw gyda’r awdurdod lleol y mae’r safle gwarchodedig wedi ei leoli yn ei ardal.

(7)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ddarparu na chaniateir i reol safle gael ei gwneud, ei hamrywio na’i dileu oni bai bod cynnig i wneud y rheol, ei hamrywio neu ei dileu yn cael ei hysbysu i feddianwyr cartrefi symudol ar y safle o dan sylw yn unol â’r rheoliadau.

(8)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ddarparu nad yw rheolau safle, neu unrhyw reolau a grybwyllir yn is-adran (3), yn effeithiol i’r graddau y maent yn gwneud darpariaeth o ran materion a ragnodir gan y rheoliadau.

(9)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau wneud darpariaeth o ran datrys anghydfodau—

(a)ynghylch cynnig i wneud rheol safle, ei hamrywio neu ei dileu,

(b)ynghylch a gafodd rheol safle ei gwneud, ei hamrywio neu ei dileu yn unol â’r weithdrefn gymwys a ragnodwyd gan y rheoliadau,

(c)ynghylch a gafodd unrhyw beth y mae’n ofynnol ei adneuo yn rhinwedd is-adran (4), (5) neu (6) ei adneuo cyn diwedd y cyfnod perthnasol.

(10)Caiff darpariaeth o dan is-adran (9) roi swyddogaethau i dribiwnlys.

(11)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau—

(a)ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol sefydlu cofrestr o reolau safle mewn perthynas â safleoedd gwarchodedig yn ei ardal a chadw’r gofrestr yn gyfoes,

(b)ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol gyhoeddi’r gofrestr gyfoes,

(c)darparu bod rhaid i unrhyw beth y mae’n rhaid ei adneuo yn rhinwedd is-adran (4), (5) neu (6) gael ei adneuo ynghyd â ffi o unrhyw swm a bennir gan yr awdurdod lleol.

(12)Yn yr adran hon ystyr “diwrnod ymgynghori cyntaf” yw’r diwrnod yr hysbysir cynnig a wneir o dan reoliadau o dan is-adran (7) i feddianwyr cartrefi symudol ar y safle yn unol â’r rheoliadau.

Gwybodaeth Cychwyn

I103A. 52 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 64(2)

I104A. 52 mewn grym ar 7.1.2014 at ddibenion penodedig gan O.S. 2014/11, ergl. 2(a)

I105A. 52 mewn grym ar 1.10.2014 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2014/11, ergl. 3(1)(d) (ynghyd ag ergl. 4)

53Olynwyr mewn teitlLL+C

(1)Mae cytundeb y mae’r Rhan hon yn gymwys iddo yn rhwymo unrhyw olynydd mewn teitl i’r perchennog ac unrhyw berson sy’n hawlio drwy’r perchennog neu unrhyw olynydd o’r fath neu odanynt, ac yn effeithiol er eu lles.

(2)Pan fo cytundeb y mae’r Rhan hon yn gymwys iddo’n cael ei aseinio’n gyfreithlon i unrhyw berson, mae’r cytundeb yn effeithiol er lles y person hwnnw ac yn ei rwymo.

(3)Pan fo person sydd â hawl i fanteisio ar gytundeb y mae’r Rhan hon yn gymwys iddo ac sydd wedi ei rwymo ganddo yn marw, mae’r cytundeb yn effeithiol er lles y canlynol ac yn eu rhwymo—

(a)unrhyw berson sy’n byw yn y cartref symudol fel unig neu brif breswylfa’r person hwnnw ar y pryd, ac sydd—

(i)yn wraig weddw, yn ŵr gweddw, neu’n bartner sifil sy’n goroesi’r ymadawedig neu’n bartner sy’n goroesi a oedd mewn perthynas deuluol barhaus â’r ymadawedig, neu

(ii)os nad oes person o fewn is-baragraff (i) yn preswylio yn y cartref symudol fel unig neu brif breswylfa’r person hwnnw y pryd hwnnw, unrhyw aelod o deulu’r ymadawedig, neu

(b)os nad oes person o’r fath yn byw yn y cartref symudol fel unig neu brif breswylfa’r person hwnnw y pryd hwnnw, y person sydd â hawl i’r cartref symudol yn rhinwedd ewyllys yr ymadawedig neu o dan y gyfraith sy’n ymwneud â diffyg ewyllys, ond yn ddarostyngedig i is-adran (4).

(4)Nid yw cytundeb y mae’r [F8Rhan] hon yn gymwys iddo’n effeithiol er lles person nac yn ei rwymo, yn rhinwedd is-adran (3)(b) i’r graddau—

(a)y byddai, heblaw am yr is-adran hon, yn galluogi’r person hwnnw i feddiannu’r cartref symudol neu’n ei gwneud yn ofynnol iddo ei feddiannu, neu

(b)y mae’n cynnwys telerau a ymhlygir yn rhinwedd paragraff 6, 12, 13, 39 neu 41 o Atodlen 2.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I106A. 53 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 64(2)

I107A. 53 mewn grym ar 1.10.2014 gan O.S. 2014/11, ergl. 3(1)(d) (ynghyd ag ergl. 4)

54Awdurdodaeth tribiwnlys neu’r llysLL+C

(1)Mae gan dribiwnlys awdurdodaeth—

(a)i benderfynu ar unrhyw gwestiwn sy’n codi o dan y Rhan hon neu unrhyw gytundeb y mae’n gymwys iddo, a

(b)i ystyried unrhyw achos a ddygir o dan y Rhan hon neu unrhyw gytundeb o’r fath,

yn ddarostyngedig i is-adrannau (2) i (6).

(2)Mae is-adran (1) yn gymwys o ran cwestiwn ni waeth am unrhyw beth a gynhwyswyd mewn cytundeb cymrodeddu a wnaed cyn i’r cwestiwn hwnnw godi.

(3)Mae gan y llys awdurdodaeth—

(a)i benderfynu ar unrhyw gwestiwn sy’n codi yn rhinwedd paragraff 5, 6, 7(1)(b), 38, 39 neu 40(1)(b) o Atodlen 2 o dan y Rhan hon neu unrhyw gytundeb y mae’n gymwys iddo, a

(b)i ystyried unrhyw achos sy’n codi yn rhinwedd unrhyw un neu ragor o’r darpariaethau a ddygir o dan y Rhan hon neu unrhyw gytundeb o’r fath,

yn ddarostyngedig i is-adrannau (4) i (6).

(4)Mae is-adran (5) yn gymwys os yw’r perchennog a’r meddiannydd wedi gwneud cytundeb cymrodeddu cyn i’r cwestiwn a grybwyllir yn is-adran (3)(a) godi a bod y cytundeb yn gymwys i’r cwestiwn hwnnw.

(5)Mae gan dribiwnlys awdurdodaeth i benderfynu ar y cwestiwn ac i ystyried unrhyw achos sy’n codi yn lle’r llys.

(6)Mae is-adran (5) yn gymwys ni waeth am unrhyw beth a gynhwyswyd yn y cytundeb cymrodeddu a grybwyllir yn is-adran (4).

Gwybodaeth Cychwyn

I108A. 54 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 64(2)

I109A. 54 mewn grym ar 1.10.2014 gan O.S. 2014/11, ergl. 3(1)(d) (ynghyd ag ergl. 4)

55DehongliLL+C

(1)Yn y Rhan hon—

  • ystyr “y corff barnwrol priodol” (“the appropriate judicial body”) yw p’un bynnag ai’r llys ynteu tribiwnlys sydd ag awdurdodaeth o dan adran 54;

  • ystyr “cytundeb cymrodeddu” (“arbitration agreement”) yw cytundeb mewn ysgrifen i gyflwyno at gymrodeddu unrhyw gwestiwn sy’n codi o dan y Rhan hon neu unrhyw gytundeb y mae’n gymwys iddo;

  • ystyr “llain” (“pitch”) yw’r tir, sy’n ffurfio rhan o safle gwarchodedig ac sy’n cynnwys unrhyw ardal ardd, y mae gan feddiannydd hawl i osod cartref symudol arno o dan delerau’r cytundeb;

  • ystyr “llain barhaol” (“permanent pitch”) yw llain nad yw’n llain dramwy;

  • ystyr “llain dramwy” (“transit pitch”) yw llain y mae gan berson hawl i osod cartref symudol arni o dan delerau cytundeb am gyfnod gosodedig o hyd at 3 mis;

  • ystyr “y llys” (“the court”) yw llys sirol yr ardal y mae’r safle gwarchodedig wedi ei leoli ynddi neu, os yw’r partïon wedi gwneud cytundeb cymrodeddu sy’n gymwys i’r cwestiwn sydd i’w benderfynu, y cymrodeddwr;

  • mae i “meddiannydd” (“occupier”) yr ystyr a roddir gan adran 48(2) (ond gweler is-adran (2)(b) hefyd);

  • mae i “rheolau safle” (“site rules”) yr ystyr a roddir gan adran 52(2);

  • ystyr “tribiwnlys” (“tribunal”) yw tribiwnlys eiddo preswyl neu, os yw’r partïon wedi gwneud cytundeb cymrodeddu sy’n gymwys i’r cwestiwn sydd i’w benderfynu a bod y cwestiwn hwnnw wedi codi cyn i’r cytundeb gael ei wneud, y cymrodeddwr.

(2)O ran cytundeb y mae’r Rhan hon yn gymwys iddo—

(a)mae unrhyw gyfeiriad yn y Rhan hon at y perchennog yn cynnwys cyfeiriad at unrhyw berson sydd wedi ei rwymo gan y cytundeb ac sydd â hawl i fanteisio arno yn rhinwedd is-adran (1) o adran 53, a

(b)yn ddarostyngedig i is-adran (4) o’r adran honno, mae unrhyw gyfeiriad yn y Rhan hon at y meddiannydd yn cynnwys cyfeiriad at unrhyw berson sydd â hawl i fanteisio ar y cytundeb ac sydd wedi ei rwymo ganddo yn rhinwedd is-adran (2) neu (3) o’r adran honno.

(3)At ddibenion y Rhan hon mae’r canlynol yn aelodau o deulu person—

(a)priod neu bartner sifil y person neu unrhyw berson sy’n byw gyda’r person fel partner mewn perthynas deuluol barhaus,

(b)rhieni, tad-cuoedd/teidiau a mam-guoedd/neiniau, plant ac wyrion ac wyresau (gan gynnwys unrhyw berson sydd yn y berthynas honno yn rhinwedd priodas neu bartneriaeth sifil neu berthynas deuluol barhaus) ac unrhyw berson arall sy’n cael ei drin fel plentyn i deulu’r person, ac

(c)brodyr, chwiorydd, ewythrod, modrybedd, neiaint a nithoedd y person (gan gynnwys unrhyw berson sydd yn y berthynas honno yn rhinwedd priodas neu bartneriaeth sifil neu berthynas deuluol barhaus).

Gwybodaeth Cychwyn

I110A. 55 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 64(2)

I111A. 55 mewn grym ar 1.10.2014 gan O.S. 2014/11, ergl. 3(1)(d) (ynghyd ag ergl. 4)

RHAN 5LL+CPWERAU’R AWDURDODAU LLEOL

56Pŵer i ddarparu safleoedd i gartrefi symudolLL+C

(1)Caiff awdurdod lleol o fewn ei ardal ddarparu safleoedd lle y gellir dod â chartrefi symudol, boed at wyliau neu at ddibenion dros dro eraill neu i’w defnyddio’n breswylfeydd parhaol, a chânt reoli’r safleoedd neu eu lesio i berson arall.

(2)Mae gan awdurdod lleol bŵer i wneud unrhyw beth y mae’n ymddangos iddo ei fod yn ddymunol mewn cysylltiad â darparu safleoedd o’r fath ac mae’r pethau y mae ganddo bŵer i’w gwneud yn cynnwys y canlynol (ond heb fod yn gyfyngedig iddynt)—

(a)caffael tir sy’n cael ei ddefnyddio fel safle i gartrefi symudol neu sydd wedi ei osod allan fel safle i gartrefi symudol,

(b)darparu unrhyw wasanaethau er eu hiechyd neu er eu cyfleuster i’w defnyddio gan y rhai sy’n meddiannu safleoedd cartrefi symudol, ac

(c)darparu lle gweithio a chyfleusterau i gynnal gweithgareddau y maent yn arfer eu cynnal, mewn safleoedd ar gyfer llety Sipsiwn a Theithwyr neu mewn cysylltiad â’r safleoedd hynny.

(3)Wrth arfer ei bwerau o dan yr adran hon rhaid i awdurdod lleol roi sylw i unrhyw safonau a bennir gan Weinidogion Cymru o dan adran 10.

(4)Cyn arfer y pŵer o dan is-adran (1) i ddarparu safle rhaid i’r awdurdod lleol ymgynghori â’r awdurdod tân ac achub—

(a)o ran mesurau sydd i’w cymryd i atal a chanfod tân ar y safle, a

(b)o ran darparu a chynnal a chadw dulliau ymladd tân arno.

(5)Rhaid i awdurdod lleol godi unrhyw daliadau rhesymol y bydd yn penderfynu arnynt mewn perthynas â safleoedd a reolir ganddo, ac ag unrhyw wasanaethau neu gyfleusterau a ddarperir neu y trefnir eu bod ar gael o dan yr adran hon.

(6)Caiff awdurdod lleol drefnu bod gwasanaethau a chyfleusterau a ddarperir o dan yr adran hon ar gael i bersonau p’un a ydynt yn byw fel arfer yn ei ardal neu beidio.

(7)Caiff awdurdod lleol, os yw’n ymddangos iddo—

(a)bod angen safle i gartrefi symudol neu safle ychwanegol i gartrefi symudol yn ei ardal, neu

(b)y dylai’r awdurdod lleol gymryd drosodd tir sy’n cael ei ddefnyddio fel safle i gartrefi symudol er lles defnyddwyr cartrefi symudol lleol,

gaffael tir, neu unrhyw fuddiant mewn tir, yn orfodol.

(8)Nid yw’r pŵer a roddir gan is-adran (7) yn arferadwy mewn unrhyw achos penodol ond os yw’r awdurdod lleol wedi ei awdurdodi gan Weinidogion Cymru i’w arfer.

(9)Mae Deddf Caffael Tir 1981 yn effeithiol o ran caffael tir, neu fuddiant mewn tir, o dan is-adran (7).

(10)Nid oes gan awdurdod lleol bŵer o dan yr adran hon i ddarparu cartrefi symudol.

Addasiadau (ddim yn newid testun)

C1A. 56 addaswyd (5.11.2013) gan 1995 c. 25, Atod. 9 para. 4A(a) (fel y mewnosodwyd gan Deddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013 (anaw 6), a. 64(1), Atod. 4 para. 8(3) (ynghyd ag Atod. 5 para. 7) (Mae'r diwygiad hwn yn cael ei drin fel nad yw'n cael effaith tan 1.10.2014 yn rhinwedd O.S. 2014/11, ergl. 3(2)))

Gwybodaeth Cychwyn

I112A. 56 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 64(2)

I113A. 56 mewn grym ar 1.10.2014 gan O.S. 2014/11, ergl. 3(1)(e) (ynghyd ag ergl. 4)

57Pŵer i wahardd cartrefi symudol ar dir cominLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys i unrhyw dir yng Nghymru sy’n dir comin neu sy’n ffurfio rhan o dir comin ac nad yw—

(a)yn dir y mae adran 193 o Ddeddf Cyfraith Eiddo 1925 (hawliau’r cyhoedd dros diroedd comin penodol a thiroedd diffaith) yn gymwys iddo,

(b)yn dir sy’n ddarostyngedig i gynllun o dan Ran 1 o Ddeddf Tiroedd Comin 1899 (cynlluniau i reoleiddio a rheoli tiroedd comin penodol), neu

(c)yn dir y mae trwydded safle mewn grym ar ei gyfer am y tro.

(2)Caiff awdurdod lleol wneud gorchymyn o ran tir y mae’r adran hon yn gymwys iddo ac sydd yn ei ardal sy’n gwahardd gosod cartrefi symudol ar y tir er mwyn i bobl fyw ynddynt, naill ai’n llwyr neu ac eithrio amgylchiadau a bennir yn y gorchymyn.

(3)Mae person sy’n gosod cartref symudol ar unrhyw dir yn groes i orchymyn o dan is-adran (2) sydd am y tro mewn grym o ran y tir yn cyflawni trosedd.

(4)Mae person sy’n euog o drosedd o dan is-adran (3) yn agored o’i gollfarnu’n ddiannod i ddirwy heb fod yn uwch na lefel 1 ar y raddfa safonol.

(5)Rhaid i awdurdod lleol gymryd pob cam rhesymol i sicrhau bod copïau o unrhyw orchymyn o dan is-adran (2) sydd am y tro mewn grym o ran unrhyw dir yn ei ardal yn cael eu dangos ar y tir er mwyn rhoi rhybudd i bersonau sy’n mynd i’r tir fod y gorchymyn yn bodoli.

(6)Mae gan awdurdod lleol hawl i osod ar y tir yr hysbysiadau y mae o’r farn eu bod yn angenrheidiol i gyflawni ei ddyletswydd o dan is-adran (5).

(7)Caniateir i orchymyn a wneir gan awdurdod lleol o dan is-adran (2) gael ei ddirymu ar unrhyw adeg gan orchymyn dilynol a wneir o dan yr is-adran honno gan yr awdurdod lleol neu ei amrywio er mwyn hepgor unrhyw dir o’r modd y mae’r gorchymyn yn gweithredu neu er mwyn cyflwyno unrhyw eithriad, neu eithriad ychwanegol, o’r gwaharddiad a osodir gan y gorchymyn.

(8)Os bydd y cyfan neu ran o unrhyw dir y mae gorchymyn o dan is-adran (2) mewn grym ar ei gyfer yn peidio â bod yn dir y mae’r adran hon yn gymwys iddo, mae’r gorchymyn yn peidio â bod yn effeithiol o ran y tir neu’r rhan honno ohono.

(9)Os bydd gorchymyn yn peidio â bod yn effeithiol o ran rhan yn unig o unrhyw dir, rhaid i’r awdurdod lleol beri bod unrhyw gopi o’r gorchymyn sydd wedi ei ddangos ar y rhan honno o’r tir y mae’r gorchymyn yn parhau mewn grym ar ei gyfer yn cael ei ddiwygio yn unol â hynny.

(10)Mae Atodlen 3 yn gwneud darpariaethau pellach o ran gorchmynion o dan is-adran (2).

(11)Yn yr adran hon mae “tir comin” yn cynnwys unrhyw dir sydd i’w amgáu o dan Ddeddfau Amgáu Tir 1845 i 1882 ac unrhyw lawnt tref neu lawnt pentref.

Gwybodaeth Cychwyn

I114A. 57 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 64(2)

I115A. 57 mewn grym ar 1.10.2014 gan O.S. 2014/11, ergl. 3(1)(e) (ynghyd ag ergl. 4)

RHAN 6LL+CATODOL A CHYFFREDINOL

58Diwygiadau canlyniadol ac atodol etc.LL+C

(1)Mae Atodlen 4 yn cynnwys diwygiadau canlyniadol.

(2)Mae Atodlen 5 yn cynnwys darpariaethau trosiannol, darpariaethau darfodol ac arbedion.

(3)Caiff Gweinidogion Cymru drwy orchymyn—

(a)gwneud unrhyw ddiwygiadau eraill (gan gynnwys diddymu neu ddirymu) i unrhyw ddeddfiad neu offeryn sy’n ganlyniadol i unrhyw ddarpariaeth a wneir gan y Ddeddf hon, a

(b)gwneud unrhyw ddarpariaeth drosiannol neu ddarfodol arall, neu arbedion eraill, sy’n ymddangos yn briodol mewn cysylltiad â dod ag unrhyw un neu ragor o ddarpariaethau’r Ddeddf hon i rym.

Gwybodaeth Cychwyn

I116A. 58 mewn grym ar 5.11.2013, gweler a. 64(1)

59Rhwymedigaeth swyddogion cyrff corfforaetholLL+C

(1)Os bydd corff corfforaethol yn cyflawni trosedd o dan y Ddeddf hon ac y profir—

(a)bod y trosedd wedi ei gyflawni â chydsyniad neu drwy gydgynllwyn swyddog i’r corff corfforaethol, neu

(b)bod y trosedd i’w briodoli i esgeulustod ar ran swyddog i’r corff corfforaethol,

mae’r swyddog, yn ogystal â’r corff corfforaethol, yn euog o’r drosedd ac yn agored i achos yn ei erbyn ac i gael ei gosbi yn unol â hynny.

(2)Yn is-adran (1) ystyr “swyddog” yw—

(a)cyfarwyddwr, rheolwr, ysgrifennydd neu swyddog tebyg i’r corff corfforaethol,

(b)yn achos corff corfforaethol y mae ei faterion yn cael eu rheoli gan ei aelodau, aelod o’r corff corfforaethol, neu

(c)person sy’n honni ei fod yn gweithredu yn rhinwedd swydd a grybwyllir ym mharagraff (a) neu (b).

Gwybodaeth Cychwyn

I117A. 59 mewn grym ar 5.11.2013, gweler a. 64(1)

60Ystyr “cartref symudol”LL+C

(1)Yn y Ddeddf hon ystyr “cartref symudol” yw unrhyw strwythur a ddyluniwyd neu a addaswyd i bobl fyw ynddo ac sy’n gallu cael ei symud o’r naill le i’r llall (boed drwy ei dynnu neu drwy ei gludo ar gefn cerbyd modur neu ôl-gerbyd) ac unrhyw gerbyd modur a ddyluniwyd neu a addaswyd i bobl fyw ynddo, ond nid yw’n cynnwys—

(a)unrhyw gerbydau rheilffyrdd sydd am y tro ar gledrau sy’n ffurfio rhan o system reilffyrdd, neu

(b)unrhyw babell.

(2)Nid yw strwythur a ddyluniwyd neu a addaswyd i bobl fyw ynddo ac sydd—

(a)wedi ei gyfansoddi o heb fod yn fwy na 2 adran sydd wedi eu hadeiladu ar wahân ac sydd wedi eu dylunio i gael eu cydosod ar safle drwy gyfrwng bolltau, clampiau neu ddyfeisiau eraill, a

(b)sydd, o’i gydosod, yn ffisegol yn gallu cael ei symud ar y ffordd o’r naill le i’r llall (boed drwy ei dynnu neu drwy ei gludo ar gefn cerbyd modur neu ôl-gerbyd),

i’w drin fel pe na bai’n gartref symudol (neu fel pe na bai wedi bod yn gartref symudol) at ddibenion y Ddeddf hon dim ond am y rheswm nad oes modd cyfreithlon ei symud ar briffordd ar ôl ei gydosod.

(3)At ddibenion y Ddeddf hon nid yw “cartref symudol” yn cynnwys strwythur a ddyluniwyd neu a addaswyd i bobl fyw ynddo sy’n syrthio o fewn is-adran (2)(a) a (b) os yw ei ddimensiynau ar ôl ei gydosod yn fwy nag unrhyw un neu ragor o’r terfynau a ganlyn, sef—

(a)hyd (heb gynnwys unrhyw far tynnu): 20 o fetrau,

(b)lled: 6.8 metr, ac

(c)taldra cyffredinol y lle byw (o’i fesur ar y tu mewn o’r llawr ar ei lefel isaf hyd at y nenfwd yn ei lefel uchaf): 3.05 metr.

(4)Caiff Gweinidogion Cymru drwy orchymyn osod yn lle unrhyw ffigur a grybwyllir yn is-adran (3) unrhyw ffigur arall a bennir yn y gorchymyn.

Gwybodaeth Cychwyn

I118A. 60 mewn grym ar 5.11.2013, gweler a. 64(1)

61Ystyr “cymdeithas trigolion gymwys”LL+C

(1)At ddibenion y Ddeddf hon mae cymdeithas yn “gymdeithas trigolion gymwys”, o ran safle—

(a)os yw’n gymdeithas sy’n cynrychioli meddianwyr cartrefi symudol ar y safle,

(b)os yw meddianwyr o leiaf 50 y cant o’r cartrefi symudol hynny’n aelodau o’r gymdeithas,

(c)os yw’n annibynnol ar berchennog y safle, sydd ynghyd ag unrhyw asiant neu gyflogai i’r perchennog, wedi ei wahardd rhag bod yn aelod,

(d)os yw aelodaeth, yn ddarostyngedig i baragraff (c), yn agored i feddianwyr pob cartref symudol ar y safle,

(e)os yw ei rheolau a’i chyfansoddiad yn agored i’r cyhoedd gael edrych arnynt ac os yw’n cynnal rhestr o aelodau,

(f)os oes ganddi gadeirydd, ysgrifennydd a thrysorydd sy’n cael eu hethol gan ac o blith yr aelodau, ac

(g)ac eithrio penderfyniadau gweinyddol a gymerir gan y cadeirydd, yr ysgrifennydd a’r trysorydd gan weithredu yn eu swyddogaethau swyddogol, os yw’r penderfyniadau’n cael eu cymryd drwy bleidleisio a bod 1 bleidlais yn unig i bob cartref symudol.

(2)Dim ond 1 meddiannydd o bob cartref symudol a gaiff fod yn aelod o’r gymdeithas; ac, os oes mwy nag 1 meddiannydd mewn cartref symudol, yr un sydd am fod yn aelod o’r gymdeithas yw p’un bynnag ohonynt y mae’r meddianwyr yn cytuno arno neu, yn niffyg cytundeb, yr un sydd a’i enw yn gyntaf ar y cytundeb i osod y cartref symudol ar y safle.

(3)Nid yw cymdeithas yn gymdeithas trigolion gymwys o ran safle oni bai bod rhestr gyfoes o’r aelodau wedi ei chyflwyno i’r awdurdod lleol y mae’r safle wedi ei leoli yn ei ardal.

(4)Pan fo copi o’r rhestr o aelodau cymdeithas wedi ei gyflwyno i awdurdod lleol, rhaid i’r awdurdod lleol—

(a)cymryd camau rhesymol i ganfod a yw meddianwyr o leiaf 50 y cant o’r cartrefi symudol ar y safle yn aelodau o’r gymdeithas, a

(b)rhoi hysbysiad ysgrifenedig i’r gymdeithas ac i’r perchennog yn datgan a yw wedi ei fodloni neu beidio fod meddianwyr o leiaf 50 y cant o’r cartrefi symudol ar y safle yn aelodau o’r gymdeithas.

(5)Pan roddir hysbysiad i gymdeithas fod yr awdurdod lleol wedi ei fodloni bod meddianwyr o leiaf 50 y cant o’r cartrefi symudol ar y safle yn aelodau o’r gymdeithas, mae’r ddyletswydd i gyflwyno rhestr gyfoes o’i haelodau yn ei gwneud yn ofynnol iddi wneud hynny cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl unrhyw newidiadau yn ei haelodaeth.

(6)Os yw’n ymddangos i’r awdurdod lleol ar unrhyw adeg nad yw aelodau cymdeithas trigolion gymwys mwyach yn cynnwys meddianwyr o leiaf 50 y cant o’r cartrefi symudol ar y safle, rhaid i’r awdurdod lleol roi hysbysiad ysgrifenedig ar unwaith i’r gymdeithas ac i berchennog y safle nad yw y gymdeithas yn gymdeithas trigolion gymwys mwyach.

(7)Yn yr adran hon—

  • F9...

  • ystyr “meddiannydd” (“occupier”), o ran cartref symudol a safle yw person sydd â hawl—

    (a)

    i osod y cartref symudol ar y safle, a

    (b)

    i feddiannu’r cartref symudol fel unig neu brif breswylfa’r person; ac

  • F9...

(8)Mae datgelu rhestr o aelodau cymdeithas trigolion gymwys i’r cyhoedd gan awdurdod lleol, sef rhestr a gyflwynwyd i’r awdurdod hwnnw i’w drin at ddibenion adran 41(1) o Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 fel pe bai’n torri cyfrinach y caiff aelodau’r gymdeithas ddwyn achos yn ei erbyn; ond nid oes dim yn yr is-adran hon yn gymwys i ddatgelu manylion y cadeirydd, yr ysgrifennydd neu’r trysorydd.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I119A. 61 mewn grym ar 5.11.2013, gweler a. 64(1)

62Dehongli arallLL+C

Yn y Ddeddf hon, oni bai bod y cyd-destun yn mynnu fel arall—

  • ystyr “awdurdod lleol” (“local authority”) yw cyngor sir neu fwrdeistref sirol yng Nghymru;

  • [F10ystyr “awdurdod tân ac achub” (“fire and rescue authority”), o ran unrhyw dir, yw’r awdurdod tân ac achub o dan Ddeddf Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 i’r ardal y lleolir y tir ynddi;]

  • ystyr “caniatâd cynllunio” (“planning permission”) yw caniatâd o dan Ran 3 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990;

  • ystyr “ffi am y llain” (“pitch fee”) yw’r swm y mae’n ofynnol i feddiannydd cartref symudol ei dalu o dan gytundeb i dalu am yr hawl i osod y cartref symudol ar y llain ac i ddefnyddio mannau cyffredin y safle gwarchodedig a’u cynnal a’u cadw, ond nid yw’n cynnwys symiau sy’n ddyledus mewn perthynas â gwasanaethau nwy, trydan, dŵr a charthffosiaeth neu wasanaethau eraill, oni bai bod y cytundeb yn darparu’n ddatganedig bod y ffi am y llain yn cynnwys symiau o’r fath;

  • mae “perchennog” (“owner”) i’w ddehongli yn unol ag adran 3 (ond gweler hefyd adrannau 39(2), 42 a 55(2)) ac mae ymadroddion cysylltiedig i’w dehongli yn unol â hynny;

  • mae i “safle gwarchodedig” (“protected site”) yr ystyr a roddir gan adran 2(2);

  • mae i “safle rheoleiddiedig” (“regulated site”) yr ystyr a rodir gan adran 2(1);

  • mae i “safle Sipsiwn a Theithwyr awdurdod lleol” (“local authority Gypsy and Traveller site”) yr ystyr a roddir iddo gan adran 2(5);

  • ystyr “Sipsiwn a Theithwyr” (“Gypsies and Travellers”) yw [F11

    (a)

    personau sy’n arfer ffordd nomadig o fyw, beth bynnag fo’u hil neu eu tarddiad, gan gynnwys—

    (i)

    personau sydd, ar sail eu hanghenion addysg neu eu henaint eu hunain, neu anghenion addysg neu henaint eu teulu neu ddibynnydd, ac ar y sail honno yn unig, wedi rhoi’r gorau i deithio dros dro neu yn barhaol , a

    (ii)

    aelodau o grŵp trefnedig o siwemyn teithiol neu bersonau sy’n rhan o syrcasau teithiol (pa un a ydynt yn cyd-deithio mewn grŵp o’r fath ai peidio); a

    (b)

    unrhyw bersonau eraill sydd â thraddodiad diwylliannol o nomadiaeth neu o fyw mewn cartref symudol;]

  • mae i “trwydded safle” (“site licence”) yr ystyr a roddir gan adran 5(1).

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I120A. 62 mewn grym ar 5.11.2013, gweler a. 64(1)

63Gorchmynion a rheoliadau etc.LL+C

(1)Mae unrhyw bŵer sydd gan Weinidogion Cymru i wneud gorchymyn neu reoliadau o dan y Ddeddf hon yn arferadwy drwy offeryn statudol.

(2)Nid yw is-adran (1) yn gymwys i’r pŵer ym mharagraff 14 o Atodlen 1.

(3)Ni chaniateir i orchymyn gael ei wneud o dan adran 51 oni bai bod Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â’r canlynol—

(a)unrhyw sefydliadau y mae’n ymddangos iddynt eu bod yn cynrychioli buddiannau y mae’r gorchymyn hwn yn effeithio’n sylweddol arnynt, a

(b)unrhyw bersonau eraill sy’n briodol yn eu barn hwy.

(4)Ni chaniateir gwneud gorchymyn o dan adran 60(4) oni bai bod Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â phersonau neu gyrff y mae’n ymddangos iddynt eu bod yn ymwneud â hyn.

(5)Ni chaniateir gwneud yr un o’r canlynol oni bai bod drafft o’r offeryn statudol sy’n ei gynnwys wedi ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ac wedi ei gymeradwyo drwy benderfyniad ganddo—

(a)rheoliadau o dan adran 29(5),

(b)gorchymyn o dan adran 51, neu

(c)unrhyw orchymyn neu reoliadau o dan y Ddeddf hon, ac eithrio gorchymyn o dan adran 60(4), sy’n cynnwys diwygiad i ddeddfiad.

(6)Mae offeryn statudol sy’n cynnwys—

(a)rheoliadau o dan adran 49 neu 52 neu baragraff 9, 10, 12 neu 13 o Atodlen 2,

(b)y rheoliadau cyntaf i gael eu gwneud o dan baragraff 11 neu 23 o’r Atodlen honno,

(c)gorchymyn o dan adran 58(3)(a), neu

(d)gorchymyn o dan adran 60(4),

yn ddarostyngedig i ddiddymiad yn unol â phenderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru oni bai bod drafft o’r offeryn statudol wedi cael ei gymeradwyo yn unol ag is-adran (5).

(7)Caiff offeryn statudol sy’n cynnwys rheoliadau o dan unrhyw ddarpariaeth o’r Ddeddf hon heblaw paragraff 11 neu 23 o Atodlen 2 sy’n ddarostyngedig i ddiddymiad yn unol â phenderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru hefyd gynnwys rheoliadau a wneir o dan baragraff 11 neu 23 o Atodlen 2.

(8)Caiff unrhyw orchymyn neu reoliadau o dan y Ddeddf hon wneud darpariaeth wahanol o ran achosion gwahanol neu ddisgrifiadau gwahanol o achos, gan gynnwys darpariaeth wahanol ar gyfer ardaloedd gwahanol neu (yn achos rheoliadau o dan baragraff 9 neu 10 o Atodlen 2) gwerthiannau am brisiau gwahanol.

(9)Caiff unrhyw orchymyn neu reoliad o dan y Ddeddf hon gynnwys unrhyw ddarpariaethau cysylltiedig, atodol, canlyniadol, trosiannol neu ddarpariaethau arbed a wêl Gweinidogion Cymru yn dda.

(10)Caiff Weinidogion Cymru amrywio neu dynnu’n ôl unrhyw ganllawiau a ddyroddir ganddynt o dan y Ddeddf hon.

Gwybodaeth Cychwyn

I121A. 63 mewn grym ar 5.11.2013, gweler a. 64(1)

64CychwynLL+C

(1)Daw’r Rhan hon i rym drannoeth y diwrnod y caiff y Ddeddf hon y Cydsyniad Brenhinol.

(2)Daw darpariaethau eraill y Ddeddf hon i rym ar ddiwrnod a bennir drwy orchymyn a wneir gan Weinidogion Cymru.

(3)Caiff gorchymyn o dan is-adran (2) benodi diwrnodau gwahanol at ddibenion gwahanol.

Gwybodaeth Cychwyn

I122A. 64 mewn grym ar 5.11.2013, gweler a. 64(1)

65Enw byrLL+C

Enw byr y Ddeddf hon yw Deddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013.

Gwybodaeth Cychwyn

I123A. 65 mewn grym ar 5.11.2013, gweler a. 64(1)

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

See additional information alongside the content

Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.

Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

Explanatory Notes

Text created by the Welsh Government department responsible for the subject matter of the Act to explain what the Act sets out to achieve and to make the Act accessible to readers who are not legally qualified. Explanatory Notes accompany all Acts of the Welsh Parliament.

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

Timeline of Changes

This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.

Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources