- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
7.—(1) Yn ogystal â’r swyddogaethau a nodir yn Rheoliadau adran 20(1), mae gan archwilydd meddygol y swyddogaethau a ganlyn—
(a)darparu cyngor i ymarferwyr meddygol cofrestredig mewn perthynas â swyddogaethau ymarferwyr a fu’n gweini o dan Reoliadau adran 20(1);
(b)darparu cyngor i uwch-grwneriaid at ddiben cynorthwyo uwch-grwner wrth benderfynu a oes dyletswydd i gynnal ymchwiliad i farwolaeth benodol o dan adran 1 o’r Ddeddf (dyletswydd i ymchwilio i farwolaethau penodol);
(c)bod yn rhan o’r gwaith o sefydlu, adolygu a diweddaru unrhyw brotocolau lleol o ran y corff penodi;
(d)cynnal cofnodion mewn perthynas â marwolaethau y mae’r archwilydd meddygol wedi arfer swyddogaethau mewn cysylltiad â hwy o dan Reoliadau adran 20(1);
(e)cael unrhyw wybodaeth sydd ar gael yn rhesymol iddynt mewn cysylltiad â thueddiadau a phatrymau anarferol o ran achosion ardystiedig marwolaethau, gwyliadwriaeth iechyd y cyhoedd, diogelwch cleifion a llywodraethu clinigol at ddiben llywio eu barn broffesiynol ynghylch achos y farwolaeth mewn achos penodol, ac ystyried yr wybodaeth honno;
(f)darparu gwybodaeth a llunio adroddiadau i fodloni unrhyw gais rhesymol a wneir gan neu ar ran—
(i)y corff penodi, at ddiben monitro perfformiad archwilwyr meddygol,
(ii)Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Iechyd Cyhoeddus Cymru, at ddibenion swyddogaethau’r Ymddiriedolaeth o dan erthygl 3 o Orchymyn Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Iechyd Cyhoeddus Cymru (Sefydlu) 2009(1) (natur a swyddogaethau’r ymddiriedolaeth),
(iii)Bwrdd Diogelu, at ddibenion swyddogaethau’r Bwrdd Diogelu hwnnw o dan reoliad 4 o Reoliadau Byrddau Diogelu (Swyddogaethau a Gweithdrefnau) (Cymru) 2015(2) (adolygiadau ymarfer) pan fo uwch-grwner wedi penderfynu nad yw marwolaeth y person ymadawedig yn farwolaeth y mae dyletswydd i ymchwilio iddi yn codi o dan adran 1 o’r Ddeddf (dyletswydd i ymchwilio i farwolaethau penodol),
(iv)y Bwrdd Ystadegau, neu
(v)yr Archwilydd Meddygol Cenedlaethol;
(g)nodi anghenion hyfforddi ymarferwyr meddygol cofrestredig mewn perthynas ag ardystio marwolaethau, a hyrwyddo a hwyluso hyfforddiant o’r fath;
(h)adolygu eu perfformiad a’u gwasanaeth eu hunain yn rheolaidd gan gynnwys drwy gymryd rhan mewn archwiliadau gan gymheiriaid ac adolygiadau gwasanaeth.
(2) Wrth fynd ati i arfer swyddogaeth berthnasol, rhaid i archwilwyr meddygol adrodd am unrhyw bryderon difrifol a nodir mewn cysylltiad â llywodraethu clinigol, diogelwch cleifion neu wyliadwriaeth iechyd y cyhoedd yn unol â threfniadau adrodd lleol.
(3) At ddibenion y rheoliad hwn—
ystyr “Bwrdd Diogelu” (“Safeguarding Board”) yw Bwrdd Diogelu Plant neu Fwrdd Diogelu Oedolion(3);
ystyr “y Bwrdd Ystadegau” (“theStatistics Board”) yw’r corff corfforedig a sefydlwyd gan adran 1 o Ddeddf Ystadegau a’r Gwasanaeth Cofrestru 2007(4) (sefydlu);
mae “gwybodaeth” (“information”) yn cynnwys gwybodaeth sy’n datgelu pwy yw unigolyn penodol;
ystyr “protocol lleol” (“local protocol”) yw memorandwm cyd-ddealltwriaeth a wneir rhwng corff penodi’r archwilydd meddygol a phersonau a chyrff eraill y mae eu swyddogaethau yn cynnwys ardystio marwolaethau neu’n gysylltiedig â hynny, sy’n nodi’r trefniadau gweinyddol sydd i fod yn gymwys i hwyluso’r gwaith o ardystio marwolaethau yn effeithlon ac yn amserol.
O.S. 2009/2058 (Cy. 177), y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.
Sefydlir Byrddau Diogelu Plant gan bartner arweiniol y Bwrdd Diogelu ar gyfer yr ardal mewn perthynas â phlant yn unol ag adran 134(4) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (dccc 4) (“Deddf 2014”). Sefydlir Byrddau Diogelu Oedolion gan bartner arweiniol y Bwrdd Diogelu ar gyfer yr ardal mewn perthynas ag oedolion yn unol ag adran 134(5) o Ddeddf 2014. Pennir partneriaid arweiniol Byrddau Diogelu gan Weinidogion Cymru yn rheoliad 4 o Reoliadau Byrddau Diogelu (Cyffredinol) (Cymru) 2015, ac Atodlen 2 iddynt (O.S. 2015/1357 (Cy. 131), a ddiwygiwyd gan O.S. 2018/494 (Cy. 85) ac O.S. 2019/349 (Cy. 83)) (“Rheoliadau 2015”), o blith y rhestr o bartneriaid Byrddau Diogelu a nodir yn adran 134(2) o Ddeddf 2014. Pennir ardaloedd Byrddau Diogelu yn rheoliad 3 o Reoliadau 2015, ac Atodlen 1 iddynt, yn unol ag adran 134(1) o Ddeddf 2014.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: