Search Legislation

Gorchymyn Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (Cynigion Cyllidebol a Chyrff Dynodedig) (Diwygio) 2024

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2024 Rhif 42 (Cy. 14)

Y Gyfraith Gyfansoddiadol

Gorchymyn Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (Cynigion Cyllidebol a Chyrff Dynodedig) (Diwygio) 2024

Gwnaed

15 Ionawr 2024

Gosodwyd gerbron Senedd Cymru

17 Ionawr 2024

Yn dod i rym

16 Chwefror 2024

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 126A(2) a (3) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006(1), yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn.

Yn unol ag adran 126A(4) a (6) o’r Ddeddf honno mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori, pan fônt yn meddwl bod hynny’n briodol, â’r Trysorlys ac mae’r Trysorlys wedi cydsynio i’r Gorchymyn hwn gael ei wneud.

Enwi a chychwyn

1.—(1Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (Cynigion Cyllidebol a Chyrff Dynodedig) (Diwygio) 2024.

(2Daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 16 Chwefror 2024.

Diwygio Gorchymyn Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (Cynigion Cyllidebol a Chyrff Dynodedig) 2018

2.—(1Mae Gorchymyn Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (Cynigion Cyllidebol a Chyrff Dynodedig) 2018(2) (“Gorchymyn 2018”) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2Yn lle’r Atodlen (Cyrff Dynodedig) i Orchymyn 2018, rhodder yr Atodlen a nodir yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn.

Rebecca Evans

Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru

15 Ionawr 2024

Erthygl 2(2)

YR ATODLENYr Atodlen sydd i’w rhoi yn lle’r Atodlen i Orchymyn 2018

Erthygl 3

YR ATODLENCyrff Dynodedig

  • Adnodd Cyfyngedig (rhif y cwmni 14227941)

  • Angels Invest Wales Limited (rhif y cwmni 04601844)

  • Awdurdod Cyllid Cymru(3)

  • Awdurdod Iechyd Arbennig a elwir Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC)(4)

  • Awdurdod Iechyd Arbennig a elwir Iechyd a Gofal Digidol Cymru(5)

  • Byrddau Iechyd Lleol (a sefydlwyd o dan adran 11 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006)(6)

  • Career Choices Dewis Gyrfa Ltd (rhif y cwmni 07442837)

  • Centre for Digital Public Services Limited (rhif y cwmni 09341679)

  • Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru(7)

  • Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru(8)

  • Comisiynydd Plant Cymru(9)

  • Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru(10)

  • Comisiynydd y Gymraeg(11)

  • Corff Llais y Dinesydd ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Cymru(12)

  • Cwmni Egino Limited (rhif y cwmni 13475029)

  • Cyngor y Gweithlu Addysg(13)

  • Cymwysterau Cymru(14)

  • DBW FM Limited (rhif y cwmni 01833687)

  • DBW Holdings Limited (rhif y cwmni 10965662)

  • DBW Investments (2) Limited (rhif y cwmni 04811750)

  • DBW Investments (3) Limited (rhif y cwmni 05210122)

  • DBW Investments (4) Limited (rhif y cwmni 05433301)

  • DBW Investments (5) Limited (rhif y cwmni 06350427)

  • DBW Investments (6) Limited (rhif y cwmni 06763979)

  • DBW Investments (8) Limited (rhif y cwmni 07986338)

  • DBW Investments (9) Limited (rhif y cwmni 07986371)

  • DBW Investments (10) Limited (rhif y cwmni 07986246)

  • DBW Investments (11) Limited (rhif y cwmni 08516240)

  • DBW Investments (12) Limited (rhif y cwmni 10184816)

  • DBW Investments (14) Limited (rhif y cwmni 10184892)

  • DBW Investments (MIMS) Limited (rhif y cwmni 12324765)

  • DBW Managers Limited (rhif y cwmni 10964943)

  • DBW Services Limited (rhif y cwmni 10911833)

  • DCFW Limited (rhif y cwmni 04391072)

  • Development Bank of Wales Public Limited Company (rhif y cwmni 04055414)

  • Economic Intelligence Wales Limited (rhif y cwmni 11001584)

  • FWC CIP Limited (rhif y cwmni 07397297)

  • FWC IFW Debt GP Limited (rhif y cwmni 15034601)

  • FWC Loans (North West) Limited (rhif y cwmni 10627745)

  • FWC Loans (TVC) Limited (rhif y cwmni 10628006)

  • FWC SWIF Debt GP Limited (rhif y cwmni 14880979)

  • FW Development Capital (North West) GP Limited (rhif y cwmni 08355233)

  • GCRE Limited (rhif y cwmni 13583670)

  • Help to Buy (Wales) Limited (rhif y cwmni 08708403)

  • Hybu Cig Cymru-Meat Promotion Wales (rhif y cwmni 04635113)

  • International Business Wales Limited (rhif y cwmni 05519117)

  • Life Sciences Hub Wales Limited (rhif y cwmni 08719645)

  • Management Succession GP Limited (rhif y cwmni 10655798)

  • National Academy for Educational Leadership (rhif y cwmni 11348558)

  • NE Commercial Property (GP) Limited (rhif y cwmni 14183994)

  • North East Property (GP) Limited (rhif y cwmni 04069901)

  • North West Loans NPIF GP Limited (rhif y cwmni 10597240)

  • Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru(15)

  • Sector Development Wales Partnership Limited (rhif y cwmni 08379693)

  • TFW Innovation Services Limited (rhif y cwmni 13081802)

  • Trafnidiaeth Cymru (rhif y cwmni 09476013)

  • Transport for Wales Rail Ltd (rhif y cwmni 12619906)

  • TVC Loans NPIF GP Limited (rhif y cwmni 10597208)

  • TVUPB Limited (rhif y cwmni 08516331)

  • WGC Holdco Limited (rhif y cwmni 08455972)

  • Ymddiriedolaeth y GIG a elwir Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Gwasanaethau Ambiwlans Cymru(16)

  • Ymddiriedolaeth y GIG a elwir Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Iechyd Cyhoeddus Cymru(17)

  • Ymddiriedolaeth y GIG a elwir Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Prifysgol Felindre(18)

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r Gorchymyn hwn yn diwygio Gorchymyn Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (Cynigion Cyllidebol a Chyrff Dynodedig) 2018 (O.S. 2018/1173 (Cy. 237)) (“Gorchymyn 2018”) sy’n dynodi cyrff penodedig at ddiben cynnwys mewn cynnig Cyllideb yr adnoddau y disgwylir eu defnyddio gan y cyrff hynny.

Mae Atodlen newydd wedi ei rhoi yn lle’r Atodlen i Orchymyn 2018. Effaith y diwygiad hwn yw bod 4 corff ychwanegol wedi eu dynodi, bod enwau rhai cyrff wedi eu newid, a bod y rhifau cwmni ar gyfer 10 corff a ddynodwyd yn flaenorol a oedd wedi eu hepgor bellach wedi eu cynnwys.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn.

(1)

2006 p. 32; mewnosodwyd adran 126A gan adran 44(1) a (2) o Ddeddf Diwygio Cyfansoddiadol a Llywodraethu 2010 (p. 25). Diwygiwyd is-adrannau (9) a (10) o adran 126A gan adran 9 o Ddeddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 (dccc 1) a pharagraffau 2(6)(a) a (b) o Atodlen 1 iddi, yn y drefn honno.

(3)

Fe’i sefydlwyd gan adran 2 o Ddeddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016 (dccc 6).

(4)

Fe’i sefydlwyd gan erthygl 2 o O.S. 2017/913 (Cy. 224). O dan adran 22 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 (p. 42) (“Deddf 2006”), caiff Gweinidogion Cymru, drwy orchymyn, sefydlu cyrff arbennig (y cyfeirir atynt fel “Awdurdodau Iechyd Arbennig” yn Neddf 2006) at ddiben arfer unrhyw swyddogaethau a roddir iddynt gan y Ddeddf honno neu odani.

(5)

Fe’i sefydlwyd gan erthygl 2 o O.S. 2020/1451 (Cy. 313). O dan adran 22 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 (p. 42) (“Deddf 2006”), caiff Gweinidogion Cymru, drwy orchymyn, sefydlu cyrff arbennig (y cyfeirir atynt fel “Awdurdodau Iechyd Arbennig” yn Neddf 2006) at ddiben arfer unrhyw swyddogaethau a roddir iddynt gan y Ddeddf honno neu odani.

(7)

Fe’i sefydlwyd drwy Warant Frenhinol ar 12 Gorffennaf 2000.

(8)

Fe’i sefydlwyd gan adran 17(1) o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 (dccc 2).

(9)

Fe’i sefydlwyd gan adran 72(1) o Ddeddf Safonau Gofal 2000 (p. 14).

(10)

Fe’i sefydlwyd gan adran 1(1) o Ddeddf Comisiynydd Pobl Hŷn (Cymru) 2006 (p. 30).

(11)

Fe’i sefydlwyd gan adran 2(1) o Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011 (mccc 1).

(12)

Fe’i sefydlwyd gan adran 12(1) o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru) 2020 (dsc 1).

(13)

Fe’i sefydlwyd gan adran 8(1) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 (p. 30) fel Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru ac fe’i hailenwyd yn Gyngor y Gweithlu Addysg gan adran 2(1) o Ddeddf Addysg (Cymru) 2014 (dccc 5).

(14)

Fe’i sefydlwyd gan adran 2(1) o Ddeddf Cymwysterau Cymru 2015 (dccc 5).

(15)

Fe’i sefydlwyd gan adran 5(1) o Ddeddf Addysg (Ysgolion) 1992 (p. 38) fel Prif Arolygydd Ysgolion Ei Mawrhydi yng Nghymru ac fe’i hailenwyd yn Brif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru gan adran 73(1) o Ddeddf Dysgu a Sgiliau 2000 (p. 21). O dan adrannau 10 a 23 o Ddeddf Dehongli 1978 (p. 30), mae’r cyfeiriad at y corff statudol hwn i’w ddehongli fel “Prif Arolygydd Ei Fawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru”.

(16)

Fe’i sefydlwyd gan erthygl 2 o O.S. 1998/678, a wnaed drwy arfer pwerau a roddir gan adran 5(1) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal Cymunedol 1990 (p. 19) a pharagraffau 1, 3 a 6(2)(d) o Atodlen 2 iddi.

(17)

Fe’i sefydlwyd gan erthygl 2 o O.S. 2009/2058 (Cy. 177). O dan adran 18(1) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 (p. 42), caiff Gweinidogion Cymru drwy orchymyn sefydlu cyrff, a elwir ymddiriedolaethau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (“ymddiriedolaethau’r GIG”), i ddarparu nwyddau a gwasanaethau at ddibenion y gwasanaeth iechyd.

(18)

Fe’i sefydlwyd gan erthygl 2 o O.S. 1993/2838, a wnaed drwy arfer pwerau a roddir gan adran 5(1) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal Cymunedol 1990 (p. 19) a pharagraffau 1, 3 a 6(2)(d) o Atodlen 2 iddi. Amnewidiwyd erthygl 2 gan erthygl 3 o O.S. 2018/887 (Cy. 176). O dan adran 18(1) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 (p. 42), caiff Gweinidogion Cymru drwy orchymyn sefydlu cyrff, a elwir ymddiriedolaethau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (“ymddiriedolaethau’r GIG”), i ddarparu nwyddau a gwasanaethau at ddibenion y gwasanaeth iechyd.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources