- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
38.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraffau (3) i (5), rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau bod pob unigolyn yn cael ei letya mewn ystafelloedd sengl ond nid yw’r gofyniad hwn yn gymwys os yw’r amodau ym mharagraff (2) wedi eu bodloni.
(2) Yr amodau yw—
(a)bod unigolyn yn rhannu ystafell â dim mwy nag un unigolyn arall;
(b)nad yw’r unigolyn arall o’r rhyw arall nac o oedran sylweddol wahanol;
(c)y bydd rhannu ystafell yn hybu llesiant yr unigolion, y darperir ar ei gyfer yng nghynlluniau personol yr unigolion ac y cytunir arno â’r unigolion a’u rhieni neu eu gofalwyr. Ond nid yw’n ofynnol i’r darparwr gwasanaeth gynnwys rhiant neu ofalwr unigolyn—
(i)os yw’r unigolyn yn oedolyn neu’n blentyn 16 oed neu drosodd ac nad yw’r unigolyn yn dymuno i’r rhiant neu’r gofalwr gael ei gynnwys, neu
(ii)pe byddai cynnwys y rhiant neu’r gofalwr yn anghyson â llesiant yr unigolyn.
(3) Mae paragraff (4) yn gymwys i ddarparwr gwasanaeth a oedd yn cael ei ddarparu yn union cyn y dyddiad y daeth Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Gwasanaethau Preswyl Ysgolion Arbennig) (Cymru) 2023 i rym ac sydd wedi ei ddarparu’n ddi-dor ers y dyddiad hwnnw.
(4) Rhaid i ddarparwr gwasanaeth y mae paragraff (3) yn gymwys iddo sicrhau bod pob unigolyn yn cael ei letya mewn ystafelloedd sengl ond nid yw’r gofyniad hwn yn gymwys os yw’r amodau ym mharagraff (5) wedi eu bodloni.
(5) Yr amodau yw—
(a)bod unigolyn yn rhannu ystafell â dim mwy na thri unigolyn arall;
(b)bod yr unigolion o’r un rhyw ac nad ydynt o oedrannau sylweddol wahanol;
(c)y bydd rhannu ystafell yn hybu llesiant yr unigolion, y darperir ar ei gyfer yng nghynlluniau personol yr unigolion, ac y cytunir arno â’r unigolion a’u rhieni neu eu gofalwyr. Ond nid yw’n ofynnol i’r darparwr gwasanaeth gynnwys rhiant neu ofalwr unigolyn—
(i)os yw’r unigolyn yn oedolyn neu’n blentyn 16 oed neu drosodd ac nad yw’r unigolyn yn dymuno i’r rhiant neu’r gofalwr gael ei gynnwys, neu
(ii)pe byddai cynnwys y rhiant neu’r gofalwr yn anghyson â llesiant yr unigolyn.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: