- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
Y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, Cymru
Gwnaed
6 Mawrth 2024
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru
8 Mawrth 2024
Yn dod i rym
1 Ebrill 2024
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 125 a 203(9) a (10) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006(1).
1. Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd Deintyddol) (Cymru) (Diwygio) 2024 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2024.
2. Yn rheoliad 4 o Reoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd Deintyddol) (Cymru) 2006(2) (cyfrifo ffioedd)—
(a)ym mharagraff (1), yn lle “£14.70” rhodder “£20.00”;
(b)ym mharagraff (2), yn lle “£47.00” rhodder “£60.00”;
(c)ym mharagraff (3), yn lle “£203.00” rhodder “£260.00”;
(d)ym mharagraff (4), yn lle “£203.00” rhodder “£260.00”;
(e)ym mharagraff (5), yn lle “A Band 1 charge, that is to say a charge of £14.70” rhodder “A charge of £30.00”.
3. Mae Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd Deintyddol) (Cymru) (Diwygio) 2020(3) wedi eu dirymu.
Eluned Morgan
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
6 Mawrth 2024
(Nid ywʼr nodyn hwn yn rhan oʼr Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd Deintyddol) (Cymru) 2006 (O.S. 2006/491 (Cy. 60)) (“Rheoliadau 2006”).
Mae rheoliad 2 yn diwygio rheoliad 4 o Reoliadau 2006 (cyfrifo ffioedd) drwy gynyddu’r ffi gymwysadwy sydd i’w thalu am gwrs o driniaeth Band 1, Band 2 a Band 3, ac am gwrs o driniaeth brys.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Y Grŵp Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.
O.S. 2006/491 (Cy. 60), a ddiwygiwyd gan O.S. 2020/247 (Cy. 56); mae offerynnau diwygio eraill ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: