- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae Rhan 2 o’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Adeiladu (Arolygwyr Cymeradwy etc.) 2010 (O.S. 2010/2215) (“Rheoliadau 2010”) i weithredu Rhan 3 o Ddeddf Diogelwch Adeiladau 2022 (“Deddf 2022”). Mae Rhan 3 o Ddeddf 2022 yn diwygio Deddf Adeiladu 1984 (“Deddf 1984”) ac yn diffinio’r cwmpas a’r darpariaethau ar gyfer y gyfundrefn yn ystod cyfnod dylunio ac adeiladu adeiladau risg uwch. Mae hefyd yn darparu ar gyfer cofrestru arolygwyr adeiladu a chymeradwywyr rheolaeth adeiladu i reoleiddio’n well a gwella lefelau cymhwysedd yn y sector rheolaeth adeiladu.
Yn benodol, mae rheoliad 3 o’r Rheoliadau hyn yn ailenwi’r ffurflenni yn Atodlen 1 i Reoliadau 2010 ac yn gwneud diwygiadau canlyniadol.
Mae rheoliad 5 o’r Rheoliadau hyn yn mewnosod rheoliad newydd 16A yn Rheoliadau 2010: mae rheoliad newydd 16A yn darparu hysbysiad gwrthod.
Mae rheoliad 6 o’r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer ffurflenni newydd i ganslo hysbysiad cychwynnol o dan adran 52, adran 52A ac adran 53D o Ddeddf 1984. Mae rheoliad 6 yn diwygio rheoliad 18 o Reoliadau 2010 ac mae rheoliad 10(g) yn diwygio Atodlen 1 i Reoliadau 2010 i gyflawni hyn.
Mae rheoliad 7 o’r Rheoliadau hyn yn mewnosod rheoliad newydd 18A yn Rheoliadau 2010. Mae’n darparu bod rhaid i gymeradwywr rheolaeth adeiladu cofrestredig roi hysbysiad pan fo o’r farn y dylid canslo’r hysbysiad cychwynnol o dan adran 52 o Ddeddf 1984 am dorri rheoliadau adeiladu, ynghyd ag amserlen i unioni’r achos o dorri rheoliadau adeiladu.
Mae rheoliad 8 o’r Rheoliadau hyn yn mewnosod rheoliad newydd 19A yn Rheoliadau 2010. Mae’n darparu cyfnodau pan fo rhaid darparu gwybodaeth am waith y mae hysbysiad cychwynnol yn ymwneud ag ef at ddibenion adran 53(4B) ac adran 53(4C) o Ddeddf 1984.
Mae rheoliad 9 o’r Rheoliadau hyn yn mewnosod Rhan newydd 3A yn Rheoliadau 2010, sy’n cynnwys rheoliadau newydd 19B i 19F. Mae’r rheoliadau newydd hyn yn gwneud darpariaeth ar gyfer sefyllfa pan fo hysbysiad cychwynnol yn peidio â bod mewn grym a phan fo cymeradwywr rheolaeth adeiladu cofrestredig newydd yn cael ei benodi. Yn benodol, mae rheoliad newydd 19C o Reoliadau 2010 yn gwneud darpariaeth ar gyfer yr hyn sydd i’w gynnwys mewn tystysgrif trosglwyddo. Mae rheoliad newydd 19E o Reoliadau 2010 ac Atodlen 2 i’r Rheoliadau hyn (a fewnosodir yn Rheoliadau 2010 fel Atodlen 3A newydd) yn nodi’r seiliau dros wrthod tystysgrif trosglwyddo ac adroddiad trosglwyddo. Mae rheoliad newydd 19D o Reoliadau 2010 yn rhagnodi’r cyfnod i awdurdod lleol ystyried y dystysgrif a’r adroddiad trosglwyddo. Mae rheoliad newydd 19F o Reoliadau 2010 yn nodi achosion pan ganiateir rhoi hysbysiad cychwynnol pellach ar ôl canslo hysbysiad cychwynnol o dan adran 53D o Ddeddf 1984.
Mae Rhan 3 o’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaethau trosiannol.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r offeryn hwn.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: