Search Legislation

Rheoliadau Pwyllgorau Safonau (Cymru) (Diwygio) 2023

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2023 Rhif 988 (Cy. 159)

Llywodraeth Leol, Cymru

Rheoliadau Pwyllgorau Safonau (Cymru) (Diwygio) 2023

Gwnaed

11 Medi 2023

Gosodwyd gerbron Senedd Cymru

13 Medi 2023

Yn dod i rym

9 Hydref 2023

Mae Gweinidogion Cymru(1) yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pŵer a roddir iddynt gan adran 53(11) ac adran 105(2)(a) a (2)(b) a (3) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000(2).

Enwi a dod i rym

1.  Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Pwyllgorau Safonau (Cymru) (Diwygio) 2023 a deuant i rym ar 9 Hydref 2023.

Diwygiadau i Reoliadau Pwyllgorau Safonau (Cymru) 2001

2.  Mae Rheoliadau Pwyllgorau Safonau (Cymru) 2001(3) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

3.  Yn rheoliad 2—

(a)yn y lle priodol mewnosoder “ystyr “cyd-bwyllgor corfforedig” (“corporate joint committee”) yw cyd-bwyllgor corfforedig a sefydlir gan reoliadau a wneir o dan Ran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021;”;

(b)yn y diffiniad o “aelod annibynnol”—

(i)yn is-baragraff (b), ar ôl “swyddog” hepgorer “neu”;

(ii)yn is-baragraff (c), ar ôl “cymuned” mewnosoder “, neu”;

(iii)ar ôl is-baragraff (c) mewnosoder “(ch) pan fo awdurdod perthnasol yn gyd-bwyllgor corfforedig, yn berson sy’n aelod, yn aelod cyfetholedig nac yn swyddog o’r cyd-bwyllgor corfforedig hwnnw nac o’i awdurdodau cyfansoddol, gan gynnwys Awdurdod Parc Cenedlaethol cyfansoddol, nac yn briod nac yn bartner sifil i’r aelod, yr aelod cyfetholedig neu’r swyddog hwnnw;”;

(c)yn y diffiniad o “aelod panel lleyg”—

(i)yn is-baragraff (a), ar ôl “cymuned,” hepgorer “neu”;

(ii)yn is-baragraff (b), ar ôl “cymuned” hepgorer “;” a mewnosoder “, neu”;

(iii)ar ôl is-baragraff (b) mewnosoder—

(c)pan fo’r awdurdod perthnasol yn gyd-bwyllgor corfforedig,

(i)sy’n aelod o awdurdod cyfansoddol nad yw’n aelod o weithrediaeth yr awdurdod hwnnw, neu

(ii)sy’n aelod o Awdurdod Parc Cenedlaethol cyfansoddol nad yw’n aelod cymwys o’r cyd-bwyllgor corfforedig hwnnw;;

(d)yn y diffiniad o “awdurdod perthnasol”—

(i)yn is-baragraff (c) hepgorer “ac”;

(ii)yn is-baragraff (ch), ar ôl “achub” hepgorer “;” a mewnosoder “, a”;

(iii)ar ôl is-baragraff (ch) mewnosoder “(d) cyd-bwyllgor corfforedig;”.

4.  Yn rheoliad 4—

(a)ar ôl paragraff (a) mewnosoder—

(aa)pan fo’r awdurdod perthnasol yn gyd-bwyllgor corfforedig, aelodau o awdurdodau cyfansoddol neu Awdurdod Parc Cenedlaethol cyfansoddol y cyd-bwyllgor corfforedig hwnnw ond nid aelodau cyfetholedig o’r cyd-bwyllgor corfforedig hwnnw heblaw’r rhai a gyfetholwyd ar gyfer aelodaeth o bwyllgor safonau’r cyd-bwyllgor corfforedig hwnnw,;

(b)ym mharagraff (c), ar ôl “cymunedol” mewnosoder “ac eithrio pan fo’r awdurdod perthnasol yn gyd-bwyllgor corfforedig”.

5.  Yn rheoliad 6—

(a)ym mharagraff (1), hepgorer “Rhaid” a mewnosoder “Yn ddarostyngedig i (1A), rhaid”;

(b)ar ôl paragraff (1) mewnosoder—

(1A) Pan fo’r awdurdod perthnasol y cyfeirir ato yn rheoliad 6(1) yn gyd-bwyllgor corfforedig, rhaid i berson sydd wedi bod yn aelod o gyd-bwyllgor corfforedig neu’n aelod o awdurdod cyfansoddol neu Awdurdod Parc Cenedlaethol cyfansoddol o’r cyd-bwyllgor corfforedig hwnnw, ond nad yw’n aelod mwyach, beidio â bod yn aelod annibynnol o bwyllgor safonau’r cyd-bwyllgor corfforedig hwnnw.;

(c)ym mharagraff (2), ar ôl “nad yw’r person hwnnw wedi bod yn aelod ohono” mewnosoder “, ond, pan fo’r awdurdod perthnasol yn gyd-bwyllgor corfforedig, ni chaiff y person fod yn aelod annibynnol o bwyllgor safonau unrhyw awdurdod cyfansoddol nac Awdurdod Parc Cenedlaethol cyfansoddol o’r cyd-bwyllgor corfforedig hwnnw”.

6.  Yn rheoliad 7—

(a)ym mharagraff (1)—

(i)hepgorer “Rhaid” a mewnosoder “Yn ddarostyngedig i (1A), rhaid”;

(ii)yn y testun Cymraeg, ar ôl “nad yw’n” yn lle “aelod” rhodder “swyddog”;

(b)ar ôl paragraff (1) mewnosoder—

(1A) Pan fo’r awdurdod perthnasol y cyfeirir ato yn rheoliad 7(1) yn gyd-bwyllgor corfforedig, rhaid i berson sydd wedi bod yn swyddog o gyd-bwyllgor corfforedig neu’n swyddog o awdurdod cyfansoddol neu Awdurdod Parc Cenedlaethol cyfansoddol o’r cyd-bwyllgor corfforedig hwnnw, ond nad yw’n swyddog ohono mwyach, beidio â bod yn aelod annibynnol o bwyllgor safonau’r cyd-bwyllgor corfforedig hwnnw.;

(c)ym mharagraff (2), yn lle “, ond nad yw’n aelod mwyach” rhodder “neu, os yw’r awdurdod perthnasol yn gyd-bwyllgor corfforedig, yn swyddog o’i awdurdodau cyfansoddol neu Awdurdod Parc Cenedlaethol cyfansoddol, ond nad yw’n swyddog mwyach”.

7.  Yn rheoliad 8, ar ôl paragraff (3) mewnosoder—

(4) Pan fo awdurdod perthnasol yn gyd-bwyllgor corfforedig, rhaid i gadeirydd awdurdod o’r fath beidio â bod yn aelod o bwyllgor safonau’r cyd-bwyllgor corfforedig hwnnw..

8.  Yn rheoliad 18—

(a)ym mharagraff (1)—

(i)ar ôl “aelod o’r awdurdod hwnnw” mewnosoder

, neu aelod o bwyllgor safonau cyd-bwyllgor corfforedig sy’n aelod o awdurdod cyfansoddol o’r cyd-bwyllgor corfforedig hwnnw,;

(ii)ar ôl “ar gyfer yr awdurdod” mewnosoder “neu’r awdurdod cyfansoddol”;

(b)ym mharagraff (2), ar ôl “awdurdod lleol o dan sylw” mewnosoder “, neu, yn achos cyd-bwyllgor corfforedig, o awdurdod cyfansoddol o’r cyd-bwyllgor corfforedig hwnnw,”.

9.  Yn rheoliad 19, ar ôl paragraff (2) mewnosoder—

(3) Pan fo awdurdod perthnasol yn gyd-bwyllgor corfforedig, rhaid i gyfnod swydd aelod o bwyllgor safonau’r awdurdod hwnnw sy’n aelod o Awdurdod Parc Cenedlaethol cyfansoddol yr awdurdod hwnnw beidio â bod yn hwy na’r cyfnod tan y bydd aelodaeth yr aelod hwnnw o’r Awdurdod Parc Cenedlaethol cyfansoddol yn dod i ben, a bydd aelodaeth aelod o’r fath o’r pwyllgor safonau hwnnw yn dod i ben os yw aelodaeth yr aelod hwnnw o’r Awdurdod Parc Cenedlaethol hwnnw yn dod i ben..

10.  Yn rheoliad 21(1), ar ôl “aelod o’r awdurdod hwnnw,”, mewnosoder “neu, pan fo’r awdurdod perthnasol yn gyd-bwyllgor corfforedig, sy’n aelod o awdurdod cyfansoddol neu Awdurdod Parc Cenedlaethol cyfansoddol o’r cyd-bwyllgor corfforedig hwnnw,”.

11.  Yn rheoliad 23(1), yn lle “neu’r awdurdodau perthnasol o dan sylw” rhodder “na’r awdurdodau perthnasol o dan sylw neu, pan fo’r awdurdod perthnasol yn gyd-bwyllgor corfforedig, nad yw’n aelod o’i awdurdodau lleol cyfansoddol nac o’i Awdurdod Parc Cenedlaethol cyfansoddol”.

12.  Yn rheoliad 25—

(a)ym mharagraff (1), ar ôl “pwyllgor safonau” mewnosoder “, ac eithrio pwyllgor safonau cyd-bwyllgor corfforedig,”;

(b)ym mharagraff (2), ar ôl “pwyllgor safonau” mewnosoder “, ac eithrio pwyllgor safonau cyd-bwyllgor corfforedig,”;

(c)ar ôl paragraff (2) mewnosoder—

(2A) Rhaid i bwyllgor safonau cyd-bwyllgor corfforedig gynnal o leiaf un cyfarfod yn ystod pob cyfnod o 12 mis ar ôl i’r pwyllgor safonau cyd-bwyllgor corfforedig hwnnw gael ei sefydlu..

13.  Yn rheoliad 26, mewnosoder—

(10) Nid yw’r rheoliad hwn yn gymwys i gyd-bwyllgorau corfforedig..

14.  Yn rheoliad 27, mewnosoder—

(5) Nid yw’r rheoliad hwn yn gymwys i gyd-bwyllgorau corfforedig..

15.  Yn rheoliad 28, mewnosoder—

(3) Nid yw’r rheoliad hwn yn gymwys i gyd-bwyllgorau corfforedig..

Rebecca Evans

Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru

11 Medi 2023

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn ychwanegu cyd-bwyllgorau corfforedig a sefydlir gan reoliadau a wneir o dan Ran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 at y diffiniad o “awdurdod perthnasol” yn Rheoliadau Pwyllgorau Safonau (Cymru) 2001 (“Rheoliadau 2001”).

Mae’r Rheoliadau hyn hefyd yn diwygio Rheoliadau 2001 i ddarparu ar gyfer maint, cyfansoddiad, a thrafodion pwyllgorau safonau cyd-bwyllgorau corfforedig a chywiro gwallau yn y testun Cymraeg.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r rheoliadau sy’n sefydlu cyd-bwyllgorau corfforedig a rheoliadau a gorchmynion cysylltiedig. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol ar adeg gwneud y rheoliadau sefydlu hynny a dibynnir arno at ddiben y Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Yr Is-adran Cyllid Strategol Llywodraeth Leol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.

(1)

Mae swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru bellach wedi eu breinio yng Ngweinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi.

(2)

2000 p. 22. Fe’i diwygiwyd gan O.S. 2022/372 (Cy. 92); mewnosododd rheoliad 3 gyd-bwyllgorau corfforedig yn y diffiniad o “relevant authority” yn adran 49 o Ddeddf 2000 a diwygiodd adran 53 o’r Ddeddf honno. Mae adran 49 wedi ei chynnwys yn Rhan 3 o Ddeddf 2000 ac mae’n ymwneud ag ymddygiad aelodau a chyflogeion llywodraeth leol.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources