Search Legislation

Rheoliadau Pensiynau Diffoddwyr Tân (Gwasanaeth Rhwymedïol) (Cymru) 2023

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2023 Rhif 961 (Cy. 156)

Pensiynau Gwasanaethau Cyhoeddus, Cymru

Rheoliadau Pensiynau Diffoddwyr Tân (Gwasanaeth Rhwymedïol) (Cymru) 2023

Gwnaed

4 Medi 2023

Gosodwyd gerbron Senedd Cymru

6 Medi 2023

Yn dod i rym

1 Hydref 2023

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 1(1) a (2)(f), a 2(1) ynghyd â pharagraff 6(b) o Atodlen 2 a adrannau 3(1), (2) a (3) o Ddeddf Pensiynau’r Gwasanaethau Cyhoeddus 2013(1) (“Deddf 2013”) ac adrannau 5(1) a (5), 6(1), 7(3), 8(1) a (3), 10(1) a (3), 11(1) a (5), 12(1) a (3), 18(1) i (3), (5), (6) ac (8), 19(1), (4) a (5), 20(1), (4) a (5), 21, 22(1) a (6), 24(1), 25(1), (3) a (4), 26(1) a (2), 29(1), (7) ac (8) ac 31(2) a (3) o Ddeddf Pensiynau’r Gwasanaethau Cyhoeddus a Swyddi Barnwrol 2022 (“DPGCSB 2022”)(2).

Yn unol ag adran 3(5) o Ddeddf 2013, gwneir y Rheoliadau hyn gyda chydsyniad y Trysorlys.

Yn unol ag adran 21(1) o Ddeddf 2013, mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â’r personau hynny (neu â chynrychiolwyr y personau hynny) y mae’n ymddangos yn debygol i Weinidogion Cymru y bydd y Rheoliadau hyn yn effeithio arnynt.

Gwneir y Rheoliadau hyn yn unol â chyfarwyddydau’r Trysorlys a wnaed o dan adran 27 o DPGCSB 2022.

RHAN 1Darpariaethau rhagarweiniol

Enwi, cymhwyso a dod i rym

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Pensiynau Diffoddwyr Tân (Gwasanaeth Rhwymedïol) (Cymru) 2023.

(2Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys yng Nghymru, neu o ran, Cymru.

(3Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Hydref 2023.

Dehongli

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “aelod” (“member”) yw aelod actif, aelod gohiriedig, aelod ymadawedig, aelod â chredyd pensiwn neu aelod-bensiynwr(3) o gynllun pensiwn diffoddwyr tân;

ystyr “aelod dewis ar unwaith” (“immediate choice member”) yw aelod a chanddo wasanaeth rhwymedïol a oedd, yn union cyn 1 Hydref 2023, yn ymadawedig neu â hawlogaeth i daliad presennol pensiwn, ac eithrio pensiwn dewis gohiriedig, o dan gynllun 1992, cynllun 2007 neu gynllun 2015; ac ystyr “pensiwn dewis gohiriedig” (“deferred choice pension”) yw pensiwn—

(a)

nad yw ei gyfradd wedi ei ganfod (i unrhyw raddau) drwy gyfeirio at wasanaeth rhwymedïol yr aelod, a

(b)

nad effeithir ar ei gyfradd gan ddod i rym adran 2(1) o DPGCSB 2022;

ystyr “aelod dewis gohiriedig” (“deferred choice member”) yw aelod a chanddo wasanaeth rhwymedïol nad yw’n aelod dewis ar unwaith;

ystyr “aelod rhwymedi” (“remedy member”) yw aelod dewis gohiriedig neu aelod dewis ar unwaith;

ystyr “budd marwolaeth” (“death benefit”) yw budd sy’n daladwy o dan gynllun pensiwn diffoddwyr tân mewn perthynas ag aelod o’r cynllun hwnnw sydd wedi marw;

ystyr “Cyfarwyddydau PGC 2022” (“the PSP Directions 2022”) yw Cyfarwyddydau Pensiynau’r Gwasanaethau Cyhoeddus (Arfer Pwerau, Digolledu a Gwybodaeth) 2022(4);

ystyr y “cynllun gwaddol” (“legacy scheme”), mewn perthynas â gwasanaeth rhwymedïol aelod, yw pa un bynnag o Gynllun 1992 neu Gynllun 2007 yw’r cynllun gwaddol Pennod 1 perthnasol(5) ar gyfer yr aelod, ac—

(a)

ystyr “buddion cynllun gwaddol” yw buddion a gyfrifir yn unol â’r cynllun hwnnw;

(b)

ystyr “gwasanaeth cynllun gwaddol” yw gwasanaeth rhwymedïol(6) aelod mewn cyflogaeth sy’n bensiynadwy o dan y cynllun gwaddol (pa un a yw hynny yn rhinwedd adran 2(1) o DPGCSB 2022 ai peidio);

ystyr “cynllun pensiwn diffoddwyr tân” (“firefighters’ pension scheme”) yw Cynllun 1992, Cynllun 2007 neu Gynllun 2015;

mae i “dewisiad adran 6” (“section 6 election”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 10(1)(a);

mae i “dewisiad adran 10” (“section 10 election”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 14(1)(a);

mae i “dewisiad gwasanaeth a optiwyd allan” (“opted-out service election”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 6(1);

ystyr “diwedd y cyfnod dewisiad adran 10” (“end of the section 10 election period”), mewn perthynas ag aelod dewis gohiriedig, yw’r adeg a ganfyddir yn unol ag—

(a)

pan mai’r aelod yw’r penderfynwr dewis gohiriedig, rheoliad 15(3)(b);

(b)

pan mai person heblaw’r aelod yw’r penderfynwr dewis gohiriedig, rheoliad 16(3)(b);

ystyr “DPGCSB 2022” (“PSPJOA 2022”) yw Deddf Pensiynau’r Gwasanaethau Cyhoeddus a Swyddi Barnwrol 2022;

ystyr “Gorchymyn 1992” (“the 1992 Order”) yw Gorchymyn Cynllun Pensiwn y Dynion Tân 1992(7) ac ystyr “cynllun 1992” (“the 1992 scheme”) yw’r cynllun pensiwn a nodir yn Atodlen 2 i’r Gorchymyn hwnnw fel y mae’n cael effaith yng Nghymru;

ystyr “Gorchymyn 2007” (“the 2007 Order”) yw Gorchymyn Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân (Cymru) 2007(8) ac ystyr “cynllun 2007” (“the 2007 scheme”) yw’r cynllun pensiwn a nodir yn Atodlen 1 i’r Rheoliadau hynny;

ystyr “gwasanaeth rhwymedïol” (“remediable service”), mewn perthynas ag aelod, yw gwasanaeth rhwymedïol yr aelod mewn cyflogaeth sy’n wasanaeth pensiynadwy o dan gynllun pensiwn diffoddwyr tân;

mae i “penderfyniad dewis ar unwaith” (“immediate choice decision”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 10(1);

mae i “penderfyniad dewis gohiriedig” (“deferred choice decision”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 14(1);

ystyr “penderfynwr dewis ar unwaith” (“immediate choice decision-maker”) yw’r person a gaiff wneud penderfyniad dewis ar unwaith o dan reoliad 10(2);

ystyr “penderfynwr dewis gohiriedig” (“deferred choice decision-maker”) yw’r person a gaiff wneud penderfyniad dewisiad dewis gohiriedig o dan reoliad 14(2);

ystyr “Rheoliadau 2015” (“the 2015 Regulations”) yw Rheoliadau Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân (Cymru) 2015(9), ystyr “cynllun 2015” (“the 2015 scheme”) yw’r cynllun pensiwn a nodir yn y Rheoliadau hynny, ac—

(a)

ystyr “buddion cynllun 2015” yw buddion o dan Reoliadau 2015;

(b)

ystyr “gwasanaeth cynllun 2015”, mewn perthynas ag aelod, yw gwasanaeth rhwymedïol yr aelod mewn cyflogaeth sy’n wasanaeth pensiynadwy o dan Reoliadau 2015 (boed yn rhinwedd adran 2(1) o DPGCSB 2022 ai peidio).

(2At ddibenion y Rheoliadau hyn, mae cyfeiriad yn DPGCSB 2022 at adran 2(1) o’r Ddeddf honno yn dod i rym yn gyfeiriad at yr adran honno yn dod i rym mewn perthynas ag aelodau o gynllun pensiwn diffoddwyr tân.

(3Mae i derm Cymraeg a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn sy’n cyfateb i derm Saesneg—

(a)sydd wedi ei ddiffinio mewn darpariaeth neu at ddibenion darpariaeth ym Mhennod 1 o Ran 1, adran 109 neu adran 110 o DPGCSB 2022, a

(b)nad yw wedi ei ddiffinio’n wahanol yn y Rheoliadau hyn,

yr ystyr a roddir i’r term hwnnw yn y ddarpariaeth honno neu at ddibenion y ddarpariaeth honno.

(4Mae i derm a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn (gan gynnwys term Cymraeg sy’n cyfateb i derm Saesneg)—

(a)sydd wedi ei ddiffinio yng Ngorchymyn 1992, yng Ngorchymyn 2007 neu yn Rheoliadau 2015 (“y Rheoliadau perthnasol”), a—

(b)nad yw wedi ei ddiffinio’n wahanol—

(i)yn y Rheoliadau hyn, na

(ii)mewn darpariaeth neu at ddibenion darpariaeth ym Mhennod 1 o Ran 1, adran 109 neu adran 110 o DPGCSB 2022,

mewn perthynas â’r cynllun a sefydlwyd gan y Rheoliadau perthnasol, yr ystyr a roddir i’r term hwnnw yn y Rheoliadau hynny.

Dirprwyo

3.  Caiff y rheolwr cynllun ddirprwyo unrhyw swyddogaethau sydd gan y rheolwr cynllun o dan y Rheoliadau hyn, gan gynnwys y pŵer hwn i ddirprwyo.

RHAN 2Datganiadau o Wasanaeth Rhwymedïol

Gofyniad i ddarparu datganiad o wasanaeth rhwymedïol

4.—(1Rhaid i’r rheolwr cynllun ddarparu datganiad o wasanaeth rhwymedïol mewn cysylltiad ag aelod rhwymedi (“A”) yn unol ag—

(a)adran 29 o DPGCSB 2022,

(b)unrhyw gyfarwyddydau gan y Trysorlys a wneir o dan adran 29(6) o’r Ddeddf honno, ac

(c)y rheoliad hwn.

(2Rhaid darparu datganiad o wasanaeth rhwymedïol o ran A—

(a)ar y dyddiad perthnasol(10) neu cyn hynny,

(b)pan fo A, mewn perthynas â’i wasanaeth rhwymedïol, am y tro—

(i)yn aelod actif(11), o leiaf unwaith ym mhob blwyddyn sy’n dod i ben â phen-blwydd y dyddiad perthnasol,

(ii)yn aelod gohiriedig(12), mewn ymateb i gais gan y person a grybwyllir ym mharagraff (3)(13), neu

(iii)yn aelod-bensiynwr, unwaith yn unig, ac

(c)pan fo A yn aelod dewis gohiriedig, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl cael hysbysiad—

(i)o dan reoliad 15(2) fod A yn bwriadu hawlio buddion mewn perthynas â gwasanaeth rhwymedïol A, neu

(ii)bod A wedi marw.

(3Rhaid darparu’r datganiad o wasanaeth rhwymedïol—

(a)i A, neu

(b)pan fo A wedi marw—

(i)i’r person sydd am y tro yn benderfynwr cymwys mewn perthynas â gwasanaeth rhwymedïol A o dan yr Atodlen, a

(ii)o fewn 18 mis i’r rheolwr cynllun gael hysbysiad fod A wedi marw.

(4Rhaid i’r datganiad o wasanaeth rhwymedïol gynnwys—

(a)pan fo A yn aelod dewis ar unwaith, wybodaeth ynghylch—

(i)natur ddi-alw’n-ôl penderfyniad dewis ar unwaith, a

(ii)y buddion a fydd yn daladwy os na wneir penderfyniad dewis ar unwaith cyn diwedd y cyfnod dewisiad adran 6;

(b)pan fo A yn aelod dewis gohiriedig, wybodaeth ynghylch—

(i)natur ddi-alw’n-ôl (neu fel arall) penderfyniad dewis gohiriedig, a

(ii)y buddion a fydd yn daladwy os na wneir penderfyniad dewis gohiriedig cyn diwedd y cyfnod dewisiad adran 10;

(c)pan fo A yn ymadawedig, pwy yw’r person neu’r personau, neu ddisgrifiad o bwy yw’r person neu’r personau, a gaiff wneud penderfyniad dewis ar unwaith neu benderfyniad dewis gohiriedig mewn perthynas â gwasanaeth rhwymedïol A.

(5Am ddarpariaeth bellach ynghylch—

(a)yr hyn y mae rhaid i ddatganiad o wasanaeth rhwymedïol ei gynnwys, gweler—

(i)adran 29(5) o DPGCSB 2022;

(ii)cyfarwyddyd 20(1) o Gyfarwyddydau PGC 2022;

(b)pryd y mae rhaid cyfuno datganiad o wasanaeth rhwymedïol â datganiad o wybodaeth am fuddion a ddarperir o dan adran 14 o Ddeddf Pensiynau’r Gwasanaethau Cyhoeddus 2013, gweler cyfarwyddyd 20(2) o Gyfarwyddydau PGC 2022.

RHAN 3Penderfyniadau mewn perthynas â gwasanaeth rhwymedïol

PENNOD 1Dewisiadau gwasanaeth a optiwyd allan

Cymhwyso a dehongli Pennod 1

5.—(1Mae’r Bennod hon yn gymwys i aelod ac mewn cysylltiad ag aelod (“A”) a chanddo wasanaeth a optiwyd allan mewn cyflogaeth mewn perthynas â chynllun gwaddol(14).

(2Yn y Bennod hon—

ystyr “gwasanaeth a optiwyd allan perthnasol” (“relevant opted-out service”) yw’r gwasanaeth y cyfeirir ato ym mharagraff (1);

ystyr “penderfynwr gwasanaeth a optiwyd allan” (“opted-out service decision-maker”) yw’r person a gaiff wneud dewisiad gwasanaeth a optiwyd allan yn unol â rheoliad 6(2).

Dewisiad mewn perthynas â gwasanaeth a optiwyd allan

6.—(1Caniateir gwneud dewisiad (“dewisiad gwasanaeth a optiwyd allan”) mewn perthynas â gwasanaeth a optiwyd allan perthnasol A yn unol â’r Bennod hon ac adran 5 o DPGCSB 2022.

(2Caniateir i ddewisiad gwasanaeth a optiwyd allan gael ei wneud—

(a)gan A, neu

(b)pan fo A yn ymadawedig, gan y penderfynwr cymwys a benderfynir yn unol â’r Atodlen.

(3Pan y rheolwr cynllun yw’r penderfynwr cymwys, rhaid iddo benderfynu peidio â gwneud dewisiad gwasanaeth a optiwyd allan.

(4Gweler adran 5(2) i (4) o DPGCSB 2022 ynghylch effaith, amseru a natur ddi-alw’n-ôl dewisiad gwasanaeth a optiwyd allan.

Dewisiad gwasanaeth a optiwyd allan: gofynion ychwanegol

7.—(1Ni chaniateir gwneud dewisiad gwasanaeth a optiwyd allan onid oes datganiad o wasanaeth rhwymedïol wedi ei ddarparu yn unol â rheoliad 4.

(2Rhaid gwneud dewisiad gwasanaeth a optiwyd allan—

(a)yn ysgrifenedig i’r rheolwr cynllun,

(b)erbyn diwedd 12 mis sy’n dechrau â’r dyddiad y ceir datganiad o wasanaeth rhwymedïol yn unol â rheoliad 4(2)(a), neu o fewn unrhyw gyfnod hwy y mae’r rheolwr cynllun yn ystyried ei fod yn rhesymol o dan yr holl amgylchiadau.

Dewisiad gwasanaeth a optiwyd allan: darfod

8.  Pan—

(a)bo diwedd y cyfnod dewisiad mewn perthynas ag A wedi mynd heibio, a

(b)na roddwyd gwybod i’r rheolwr cynllun am ddewisiad gwasanaeth a optiwyd allan yn unol â rheoliad 7(2),

mae’r hawlogaeth i wneud dewisiad gwasanaeth a optiwyd allan o dan reoliad 6 yn darfod.

PENNOD 2Penderfyniad dewis ar unwaith ar gyfer buddion cynllun 2015 neu fuddion cynllun gwaddol

Cymhwyso a dehongli Pennod 2

9.—(1Mae’r Bennod hon yn gymwys mewn cysylltiad â gwasanaeth rhwymedïol aelod dewis ar unwaith (“A”).

(2Pan fo gan A wasanaeth rhwymedïol mewn mwy nag un gyflogaeth, mae’r Bennod hon yn gymwys ar wahân mewn perthynas â’r gwasanaeth rhwymedïol ym mhob cyflogaeth.

Penderfyniad dewis ar unwaith ar gyfer buddion cynllun 2015 neu fuddion cynllun gwaddol

10.—(1Caniateir gwneud penderfyniad (“penderfyniad dewis ar unwaith”) yn unol â’r Bennod hon—

(a)i wneud dewisiad (“dewisiad adran 6”) yn rhinwedd adran 6 o DPGCSB 2022 ar gyfer buddion cynllun 2015 mewn perthynas â gwasanaeth rhwymedïol A, neu

(b)nad oes dewisiad adran 6 i’w wneud mewn perthynas â’r gwasanaeth hwnnw.

(2Caniateir i benderfyniad dewis ar unwaith gael ei wneud—

(a)gan A, neu

(b)pan fo A yn ymadawedig, gan y penderfynwr cymwys a benderfynir yn unol â’r Atodlen.

(3Pan y rheolwr cynllun yw’r penderfynwr cymwys, rhaid iddo wneud dewisiad ar gyfer buddion cynllun 2015 mewn perthynas â gwasanaeth rhwymedïol A, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol.

(4Mae penderfyniad dewis ar unwaith wedi ei wneud pan roddir gwybod amdano yn ysgrifenedig i’r rheolwr cynllun a’i fod wedi ei gael.

(5Ni chaniateir gwneud penderfyniad dewis ar unwaith ond cyn diwedd y cyfnod dewisiad adran 6(15).

(6Mae penderfyniad dewis ar unwaith yn ddi-alw’n-ôl.

(7Mae penderfyniad dewis ar unwaith i wneud dewisiad adran 6 yn cael effaith fel dewisiad adran 6 (gweler adrannau 6(5) a (7), 7(1)(b) a 9 o DPGCSB 2022 ynghylch effaith dewisiad adran 6).

(8Pan—

(a)yn union cyn 1 Hydref 2023, fo gan A wasanaeth rhwymedïol yng nghynllun 2015, a

(b)mai’r penderfyniad dewis ar unwaith yw nad oes dewisiad adran 6 i’w wneud mewn perthynas â gwasanaeth rhwymedïol A,

nid yw adran 6(4) o DPGCSB 2022 yn gymwys mewn perthynas â gwasanaeth cynllun 2015 A (ac, yn unol â hynny, mae adran 2(1) o DPGCSB 2022 yn cael effaith mewn perthynas â gwasanaeth cynllun 2015 A at y dibenion a grybwyllir yn adran 2(3)(b) o’r Ddeddf honno o’r adeg y gwneir y penderfyniad dewis ar unwaith).

(9Mae’r darpariaethau a ganlyn o DPGCSB 2022 yn cael effaith mewn perthynas â phenderfyniad nad oes dewisiad adran 6 i’w wneud fel y maent yn cael effaith mewn perthynas â dewisiad adran 6—

(a)adran 6(7) (dewisiad adran 6 yn cael effaith mewn cysylltiad â phob gwasanaeth rhwymedïol yn y gyflogaeth);

(b)adran 7(1)(b) (darpariaeth ynghylch pryd y mae dewisiad adran 6 i’w drin fel pe bai wedi cael effaith);

(c)adran 9 (darpariaeth ynghylch personau a chanddynt wasanaeth rhwymedïol mewn mwy nag un cynllun gwaddol Pennod 1).

Penderfyniad dewis ar unwaith: gofynion ychwanegol

11.—(1Ni chaniateir gwneud penderfyniad dewis ar unwaith onid oes datganiad o wasanaeth rhwymedïol wedi ei ddarparu yn unol â rheoliad 4(2).

(2Rhaid i’r rheolwr cynllun, ynghyd â’r datganiad o wasanaeth rhwymedïol hwnnw, ddarparu i’r penderfynwr dewis ar unwaith wybodaeth ynghylch amseru, effaith a natur ddi-alw’n-ôl penderfyniad dewis ar unwaith.

(3Nid yw penderfyniad dewis ar unwaith i’w drin fel pe bai wedi ei wneud ond os yw’r penderfynwr dewis ar unwaith (“PD”) yn darparu unrhyw wybodaeth a bennir mewn cais ysgrifenedig gan y rheolwr cynllun sydd—

(a)yn wybodaeth sydd ym meddiant PD, neu

(b)yn wybodaeth y gellir disgwyl yn rhesymol i PD gael gafael arni.

Penderfyniad dewis ar unwaith: dewis tybiedig

12.—(1Caiff penderfyniad dewis ar unwaith ei drin fel pe bai wedi ei wneud mewn perthynas â gwasanaeth rhwymedïol A yn union cyn diwedd y cyfnod dewisiad adran 6—

(a)pan fo diwedd y cyfnod dewisiad adran 6 mewn perthynas ag A wedi mynd heibio, a

(b)pan na fo penderfyniad dewis ar unwaith wedi ei gyfleu mewn perthynas â gwasanaeth rhwymedïol A.

(2Pan na fo A yn ymadawedig, y penderfyniad dewis ar unwaith ym mharagraff (1) yw nad oes dewisiad adran 6 wedi ei wneud a buddion cynllun gwaddol yw’r buddion sy’n daladwy mewn perthynas â gwasanaeth rhwymedïol A.

(3Pan fo A yn ymadawedig, y penderfyniad dewis ar unwaith ym mharagraff (1) yw bod dewisiad adran 6 wedi ei wneud a buddion cynllun 2015 yw’r buddion sy’n daladwy mewn perthynas â gwasanaeth rhwymedïol A.

PENNOD 3Penderfyniad dewis gohiriedig ar gyfer buddion cynllun 2015 neu fuddion cynllun gwaddol

Cymhwyso a dehongli Pennod 3

13.—(1Mae’r Bennod hon yn gymwys mewn cysylltiad â gwasanaeth rhwymedïol aelod dewis gohiriedig (“A”).

(2Pan fo gan A wasanaeth rhwymedïol mewn mwy nag un gyflogaeth, mae’r Bennod hon yn gymwys ar wahân mewn perthynas â’r gwasanaeth rhwymedïol ym mhob cyflogaeth.

Penderfyniad dewis gohiriedig ar gyfer buddion cynllun 2015 neu fuddion cynllun gwaddol: cyffredinol

14.—(1Caniateir gwneud penderfyniad (“penderfyniad dewis gohiriedig”) yn unol â’r Bennod hon—

(a)i wneud dewisiad (“dewisiad adran 10”) yn rhinwedd adran 10 o DPGCSB 2022 mewn perthynas â gwasanaeth rhwymedïol A, neu

(b)nad oes dewisiad adran 10 i’w wneud mewn perthynas â’r gwasanaeth hwnnw.

(2Caniateir i benderfyniad dewis gohiriedig gael ei wneud—

(a)gan A, neu

(b)pan fo A yn ymadawedig, gan y penderfynwr cymwys a benderfynir yn unol â’r Atodlen.

(3Pan y rheolwr cynllun yw’r penderfynwr cymwys, rhaid iddo wneud dewisiad ar gyfer buddion cynllun 2015 mewn perthynas â gwasanaeth rhwymedïol A, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol.

(4Mae penderfyniad dewis gohiriedig wedi ei wneud pan roddir gwybod amdano yn ysgrifenedig i’r rheolwr cynllun a’i fod yn ei gael.

(5Ni chaniateir gwneud penderfyniad dewis gohiriedig ond cyn diwedd y cyfnod dewisiad adran 10.

(6Mae penderfyniad dewis gohiriedig i wneud dewisiad adran 10 yn cael effaith fel dewisiad adran 10 (gweler adrannau 10(4) a (5), 11(3)(b) a (4) a (7) a 13 o DPGCSB 2022 ynghylch effaith dewisiad adran 10).

(7Pan mai’r penderfyniad dewis gohiriedig yw nad oes dewisiad adran 10 i’w wneud, buddion cynllun gwaddol yw’r buddion sy’n daladwy i A neu mewn cysylltiad ag A, i’r graddau y’u canfyddir drwy gyfeirio at wasanaeth rhwymedïol A.

(8Mae’r darpariaethau a ganlyn o DPGCSB 2022 yn cael effaith mewn perthynas â phenderfyniad nad oes dewisiad adran 10 i’w wneud fel y maent yn cael effaith mewn perthynas â dewisiad adran 10—

(a)adran 10(5) (dewisiad adran 10 yn cael effaith mewn cysylltiad â phob gwasanaeth rhwymedïol yn y gyflogaeth neu’r swydd);

(b)adran 11(3)(b), (4) a (7) (darpariaeth ynghylch pryd y mae dewisiad adran 10 yn cael effaith, ac effaith dewisiad adran 10 yn darfod neu’n cael ei ddirymu);

(c)adran 13 (darpariaeth ynghylch personau a chanddynt wasanaeth rhwymedïol mewn mwy nag un cynllun gwaddol Pennod 1).

(9Nid oes unrhyw fuddion yn daladwy o dan y cynllun gwaddol mewn cysylltiad â gwasanaeth pensiynadwy A o dan y cynllun hwnnw oni bai—

(a)bod penderfyniad dewis gohiriedig wedi ei wneud mewn perthynas â gwasanaeth rhwymedïol A,

(b)y bernir bod dewisiad adran 10 wedi ei wneud o dan reoliad 18 mewn perthynas â’r gwasanaeth hwnnw, neu

(c)bod paragraff (10) yn gymwys.

(10Pan fo A yn ymadawedig, caiff y rheolwr cynllun, cyn i benderfyniad dewis gohiriedig gael ei wneud, neu cyn y bernir bod dewisiad adran 10 wedi ei wneud, mewn perthynas â gwasanaeth rhwymedïol A, dalu i unrhyw berson (“y buddiolwr”) sydd, neu a fydd, â hawlogaeth i gael buddion marwolaeth mewn perthynas â gwasanaeth pensiynadwy A y lleiaf o—

(a)unrhyw fuddion cyfandaliad neu fuddion pensiwn eraill y byddai gan y buddiolwr hawlogaeth iddynt os gwneir dewisiad adran 10, neu os bernir ei fod wedi ei wneud, mewn perthynas â gwasanaeth rhwymedïol A, neu

(b)unrhyw fuddion cyfandaliad neu fuddion pensiwn eraill y byddai gan y buddiolwr hawlogaeth iddynt os na wneir dewisiad adran 10, neu os bernir nad yw wedi ei wneud, mewn perthynas â gwasanaeth rhwymedïol A.

(11Pan fo, ar yr adeg weithredol—

(a)cyfanswm y buddion cyfandaliad neu’r buddion pensiwn sydd wedi eu talu yn unol â pharagraff (10) i fuddiolwr yn llai na

(b)cyfanswm y buddion cyfandaliad neu’r buddion pensiwn y mae gan y buddiolwr (ar ôl ystyried effaith paragraff (7) o’r rheoliad hwn neu adran 10(4) o DPGCSB 2022, os oes effaith iddo neu iddi) hawlogaeth iddynt o dan gynllun pensiwn diffoddwyr tân mewn cysylltiad â gwasanaeth pensiynadwy A,

rhaid i’r rheolwr cynllun dalu swm sy’n hafal i’r gwahaniaeth i’r buddiolwr.

(12Ym mharagraff (11), ystyr “yr adeg weithredol” yw—

(a)os—

(i)gwneir penderfyniad dewis gohiriedig, neu

(ii)bernir bod dewisiad adran 10 wedi ei wneud,

mewn perthynas â gwasanaeth rhwymedïol A, yr adeg y gwneir y penderfyniad neu’r dewisiad;

(b)fel arall, ddiwedd y cyfnod dewisiad adran 10 mewn perthynas ag A.

Penderfyniad dewis gohiriedig i’w wneud gan A

15.—(1Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan mai A yw’r penderfynwr dewis gohiriedig.

(2Rhaid i A hysbysu’r rheolwr cynllun ei fod yn bwriadu hawlio buddion mewn perthynas â’i wasanaeth rhwymedïol—

(a)yn ystod y cyfnod rhwng 3 a 6 mis cyn y dyddiad y mae A yn bwriadu i fuddion o’r fath ddod yn daladwy, neu

(b)yn ystod unrhyw gyfnod arall y mae’r rheolwr cynllun yn ystyried ei fod yn rhesymol o dan yr holl amgylchiadau.

(3Ni chaniateir gwneud penderfyniad dewis gohiriedig ond yn ystod y cyfnod—

(a)sy’n dechrau â’r dyddiad y dyroddir datganiad o wasanaeth rhwymedïol o dan reoliad 4(2)(c)(i), a

(b)sy’n dod i ben—

(i)â’r diwrnod 12 o wythnosau ar ôl y dyddiad hwnnw,

(ii)yn ddarostyngedig i baragraff (5), ag unrhyw ddiwrnod arall y mae’r rheolwr cynllun yn ystyried ei fod yn rhesymol o dan yr holl amgylchiadau, neu

(iii)os yw’n gynharach na’r amser sy’n gymwys yn rhinwedd paragraff (i) neu (ii), â’r diwrnod cyn i fuddion ddod yn daladwy mewn perthynas â gwasanaeth rhwymedïol A.

(4Ni chaiff diwedd y cyfnod pan ganiateir gwneud penderfyniad dewisiad dewis gohiriedig fod yn fwy na blwyddyn cyn y diwrnod y disgwylir yn rhesymol y byddai buddion cynllun 2015, pe gwneid dewisiad adran 10, yn dod yn daladwy i A neu mewn cysylltiad ag A.

(5O ran penderfyniad dewis gohiriedig a wneir gan A—

(a)caniateir ei ddirymu ar unrhyw adeg cyn y terfyn amser ar gyfer canslo, a

(b)mae’n darfod pan nad oes buddion cynllun wedi dod yn daladwy 12 mis ar ôl gwneud penderfyniad dewis gohiriedig.

(6Rhaid i A roi gwybod i’r rheolwr cynllun yn ysgrifenedig fod penderfyniad dewis gohiriedig wedi ei ddirymu.

(7Pan fo paragraff (5) yn gymwys caiff A wneud penderfyniad dewis gohiriedig newydd yn unol â pharagraff (3).

(8Pan fo’r rheolwr cynllun yn cael hysbysiad bod A wedi marw a bo A wedi gwneud penderfyniad dewis gohiriedig, mae’r penderfyniad hwnnw’n ddi-alw’n-ôl.

(9Ym mharagraff (5), ystyr “y terfyn amser ar gyfer canslo” yw—

(a)dechrau’r diwrnod ddwy wythnos cyn y diwrnod (“y diwrnod talu”) y mae’r taliad cyntaf o dan gynllun pensiwn diffoddwyr tân yn dod yn daladwy mewn perthynas â gwasanaeth rhwymedïol A, neu

(b)unrhyw adeg ddiweddarach cyn y diwrnod talu y mae’r rheolwr cynllun yn ystyried ei bod yn rhesymol o dan yr holl amgylchiadau.

Penderfyniad dewis gohiriedig i’w wneud gan berson heblaw A

16.—(1Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan mai person heblaw A yw’r penderfynwr dewis gohiriedig (“PD”).

(2Pan fo—

(a)y cyfnod ar gyfer gwneud penderfyniad dewis gohiriedig wedi dechrau yn unol â rheoliad 15(3)(a), ac

(b)mae’r rheolwr cynllun yn cael hysbysiad bod A wedi marw cyn gwneud penderfyniad dewis gohiriedig mewn perthynas â gwasanaeth rhwymedïol A,

mae’r cyfnod pan gaiff PD wneud penderfyniad dewis gohiriedig i’w drin fel pe bai’n dod i ben yn unol â pharagraff (3)(b) yn hytrach na rheoliad 15(3)(b).

(3Rhaid gwneud penderfyniad dewis gohiriedig yn ystod y cyfnod—

(a)sy’n dechrau â dyddiad dyroddi’r datganiad o wasanaeth rhwymedïol a ddyroddir o dan reoliad 4(2)(c)(ii), a

(b)sy’n dod i ben—

(i)â’r diwrnod 12 mis ar ôl y dyddiad hwnnw,

(ii)ar unrhyw adeg arall y mae’r rheolwr cynllun yn ystyried ei bod yn rhesymol o dan yr holl amgylchiadau, neu

(iii)os yw PD yn gwneud penderfyniad yn gynt, yn union ar ôl i benderfyniad dewis gohiriedig gael ei wneud.

(4Mae penderfyniad dewis gohiriedig a wneir gan PD yn ddi-alw’n-ôl.

Penderfyniad dewis gohiriedig: gofynion ychwanegol

17.  Nid yw penderfyniad dewis gohiriedig i’w drin fel pe bai wedi ei wneud ond os yw’r penderfynwr dewis gohiriedig yn darparu unrhyw wybodaeth a bennir mewn cais ysgrifenedig gan y rheolwr cynllun sydd—

(a)yn wybodaeth sydd ym meddiant y penderfynwr dewis gohiriedig, neu

(b)yn wybodaeth y gellir disgwyl yn rhesymol iddo gael gafael arni.

Penderfyniad dewis gohiriedig: penderfyniad tybiedig

18.—(1Pan—

(a)bo diwedd y cyfnod dewisiad adran 10 perthnasol mewn perthynas ag A wedi mynd heibio, a

(b)na fo penderfyniad dewis gohiriedig wedi ei gyfleu,

trinnir penderfyniad dewis gohiriedig fel pe bai wedi ei wneud yn union cyn diwedd y cyfnod dewisiad adran 10 perthnasol.

(2Pan na fo A yn ymadawedig, y penderfyniad dewis gohiriedig ym mharagraff (1) yw nad oes dewisiad adran 10 wedi ei wneud a buddion cynllun gwaddol yw’r buddion sy’n daladwy mewn perthynas â gwasanaeth rhwymedïol A.

(3Pan fo A yn ymadawedig, y penderfyniad dewis gohiriedig ym mharagraff (1) yw bod dewisiad adran 10 yn cael ei wneud a buddion cynllun 2015 yw’r buddion sy’n daladwy mewn perthynas â gwasanaeth rhwymedïol A.

Penderfyniad dewis gohiriedig: trefniadau trosiannol

19.—(1Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo, pan ddaw’r Rheoliadau hyn i rym—

(a)A yn aelod actif neu’n aelod gohiriedig,

(b)A wedi hysbysu’r rheolwr cynllun ei fod yn bwriadu hawlio buddion mewn perthynas â’i wasanaeth rhwymedïol, ac

(c)y cyfnod hysbysu yn rheoliad 15(2) wedi darfod mewn perthynas â’r hysbysiad hwnnw.

(2Rhaid i A wneud penderfyniad dewis gohiriedig cyn diwedd y cyfnod o flwyddyn sy’n dechrau â’r diwrnod pan ddarperir datganiad o wasanaeth rhwymedïol gyntaf mewn cysylltiad ag A.

RHAN 4Darpariaeth ynghylch trefniadau ysgaru a diddymu

PENNOD 1Aelodau â chredyd pensiwn ac aelodau â debyd pensiwn

ADRAN 1Cymhwyso a dehongli Pennod 1

Cymhwyso a dehongli Pennod 1

20.—(1Mae’r Bennod hon yn gymwys mewn perthynas ag—

(a)aelod â chredyd pensiwn (“C”),

(b)yr aelod â debyd pensiwn cyfatebol (“D”), ac

(c)y gorchymyn rhannu pensiwn y daeth C yn aelod â chredyd pensiwn yn ei rinwedd mewn perthynas â gwasanaeth rhwymedïol D (y “gorchymyn rhannu pensiwn perthnasol”).

(2Yn y Bennod hon—

ystyr “aelod â chredyd pensiwn” (“pension credit member”) yw aelod o gynllun pensiwn diffoddwyr tân sydd â hawliau o dan y cynllun—

(a)

y gellir eu priodoli (yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol) i gredyd pensiwn(16),

(b)

sy’n codi yn rhinwedd gorchymyn rhannu pensiwn sydd â dyddiad trosglwyddo ar 1 Ebrill 2015 neu ar ôl hynny, ac

(c)

y canfuwyd eu gwerth (i unrhyw raddau) drwy gyfeirio at werth buddion sy’n daladwy mewn cysylltiad â gwasanaeth rhwymedïol aelod arall;

ystyr “aelod â debyd pensiwn cyfatebol” (“corresponding pension debit member”) yw’r aelod y cyfeirir ato yn is-baragraff (c) o’r diffiniad o “aelod â chredyd pensiwn”;

ystyr “buddion perthnasol rhwymedïol” (“remediable relevant benefits”) yw’r buddion neu’r buddion yn y dyfodol a ddisgrifir yn adran 29(4) a (5) o DDLlPh 1999(17) y mae gan D hawlogaeth iddynt yn rhinwedd hawliau rhanadwy rhwymedïol;

ystyr “C” (“C”) yw’r aelod â chredyd pensiwn a grybwyllir ym mharagraff (1)(a);

ystyr “cyfwerth ariannol” (“cash equivalent”) yw swm a gyfrifir yn unol â rheoliadau a wneir o dan adran 30 o DDLlPh 1999(18);

ystyr “D” (“D”) yw’r aelod â debyd pensiwn cyfatebol a grybwyllir ym mharagraff (1)(b);

mae i “diwrnod prisio” yr ystyr a roddir i “valuation day” yn adran 29(7) o DDLlPh 1999;

ystyr “diwrnod trosglwyddo” (“transfer day”) yw’r diwrnod y mae’r gorchymyn rhannu pensiwn perthnasol yn cael effaith;

ystyr “gorchymyn rhannu pensiwn” (“pension sharing order”) yw’r gorchymyn neu’r ddarpariaeth y mae adran 29 o DDLlPh 1999 yn gymwys yn ei rinwedd neu yn ei rhinwedd mewn perthynas ag aelod â chredyd pensiwn a’r aelod â debyd pensiwn cyfatebol;

mae i “gorchymyn rhannu pensiwn perthnasol” (“relevant pension sharing order”) yr ystyr a roddir ym mharagraff (1)(c);

mae i “hawliau rhanadwy” yr ystyr a roddir i “shareable rights” yn adran 27(2) o DDLlPh 1999;

ystyr “hawliau rhanadwy rhwymedïol” (“remediable shareable rights”) yw hawliau rhanadwy D a sicrhawyd yn rhinwedd gwasanaeth rhwymedïol D yn ystod y cyfnod sy’n dechrau ar 1 Ebrill 2015 ac yn dod i ben ar y cynharaf o—

(a)

y diwrnod cyn y dyddiad trosglwyddo, neu

(b)

diwrnod olaf gwasanaeth rhwymedïol D;

ystyr “person priodol” (“appropriate person”) yw—

(a)

D, neu

(b)

pan fo D yn ymadawedig, cynrychiolwyr personol D.

ADRAN 2Gorchmynion rhannu pensiwn: gwybodaeth a ddarparwyd cyn 1 Hydref 2023

Cymhwyso a dehongli Adran 2

21.—(1Mae’r Adran hon yn gymwys pan fo’r rheolwr cynllun, cyn 1 Hydref 2023, wedi darparu gwybodaeth at ddiben canfod symiau o dan adran 29 o DDLlPh 1999 mewn cysylltiad â gwasanaeth rhwymedïol aelod rhwymedi.

(2Yn yr Adran hon—

mae i “addasiad credyd rhwymedïol” (“remediable credit adjustment”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 23(2);

mae i “cyfrif pensiwn C” (“C’s pension account”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 24(4);

ystyr “cynllun amgen” (“alternative scheme”), mewn perthynas â gorchymyn rhannu pensiwn nad yw’n ymwneud â gwasanaeth cymysg, yw—

(a)

cynllun 2015, pan mai cynllun gwaddol D yw’r cynllun cychwynnol;

(b)

cynllun gwaddol D, pan mai cynllun 2015 yw’r cynllun cychwynnol;

ystyr “cynllun cychwynnol” (“initial scheme”), mewn perthynas â gorchymyn rhannu pensiwn perthnasol nad yw’n ymwneud â gwasanaeth cymysg, yw’r cynllun pensiwn diffoddwyr tân y canfuwyd swm cychwynnol neu swm lleihau cychwynnol mewn cysylltiad ag ef;

mae i “swm amgen” (“alternative amount”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 22;

ystyr “swm cychwynnol” (“initial amount”) yw’r cyfanswm a ganfyddir at ddibenion y gorchymyn rhannu pensiwn perthnasol o dan adran 29(2) a (3) o DDLlPh 1999 mewn perthynas â hawliau rhanadwy rhwymedïol D;

mae i “swm lleihau amgen” (“alternative reduction amount”) a “symiau lleihau amgen” (“alternative reduction amounts”) yr ystyron a roddir yn rheoliad 25(3) a (4);

ystyr “swm lleihau cychwynnol” (“initial reduction amount”) yw’r swm y lleihawyd buddion perthnasol rhwymedïol D yn ei ôl yn unol â’r gorchymyn rhannu pensiwn perthnasol.

(3At ddibenion yr adran hon, mae gorchymyn rhannu pensiwn perthnasol yn ymwneud â gwasanaeth cymysg os yw’n cydymffurfio â pharagraff (4).

(4Mae gorchymyn rhannu pensiwn perthnasol yn cydymffurfio â’r paragraff hwn—

(a)os yw’n pennu swm priodol yn unol ag adran 29(2) neu (3) o DDLlPh 1999,

(b)os pennir y swm drwy gyfeirio at werth buddion perthnasol rhwymedïol y mae gan D hawlogaeth iddynt,

(c)os oes gan D hawlogaeth i’r buddion hynny yn rhinwedd hawliau rhanadwy rhwymedïol a sicrhawyd yng nghynllun gwaddol D ac yng nghynllun 2015,

(ac, yn unol â hynny, nid yw gorchymyn rhannu pensiwn perthnasol yn ymwneud â gwasanaeth cymysg os yw’n pennu swm priodol drwy gyfeirio at hawliau rhanadwy rhwymedïol a sicrhawyd yn un o’r cynlluniau hynny yn unig).

Ystyr “swm amgen”

22.—(1Ystyr “swm amgen” (“alternative amount”) yw—

(a)mewn perthynas â gorchymyn rhannu pensiwn perthnasol nad yw’n ymwneud â gwasanaeth cymysg, ac—

(i)pan ganfuwyd y swm cychwynnol o dan adran 29(2) o DDLlPh 1999 mewn perthynas â gwerth canrannol i’w drosglwyddo o’r cynllun cychwynnol, y swm a fyddai wedi ei ganfod drwy gymhwyso’r gwerth canrannol perthnasol o dan adran 29(2) ar y diwrnod prisio pe bai’r buddion perthnasol rhwymedïol wedi eu sicrhau yn y cynllun amgen;

(ii)pan ganfuwyd y swm cychwynnol o dan adran 29(3) o DDLlPh 1999 mewn perthynas â swm i’w drosglwyddo o’r cynllun cychwynnol, y swm sy’n hafal i’r ganran ymhlyg o gyfwerth ariannol y buddion perthnasol rhwymedïol ar y diwrnod prisio a ganfuwyd fel pe bai’r buddion perthnasol rhwymedïol wedi eu sicrhau yn y cynllun amgen;

(b)mewn perthynas â gorchymyn rhannu pensiwn perthnasol sy’n ymwneud â gwasanaeth cymysg, y mwyaf o—

(i)swm y cynllun gwaddol, a

(ii)swm cynllun 2015.

(2Ym mharagraff (1)(b)—

ystyr “swm cynllun 2015” (“2015 scheme amount”) yw pan ganfuwyd y swm cychwynnol mewn perthynas ag—

(a)

gwerth canrannol i’w drosglwyddo o’r cynllun gwaddol ac o gynllun 2015, y swm a fyddai wedi ei ganfod drwy gymhwyso—

(i)

gwerth canrannol y cynllun gwaddol, mewn perthynas â buddion perthnasol rhwymedïol cyn tapro, a

(ii)

gwerth canrannol cynllun 2015, mewn perthynas â buddion perthnasol rhwymedïol ar ôl tapro,

o dan adran 29(2) o DDLlPh 1999 ar y diwrnod prisio pe bai’r holl fuddion perthnasol rhwymedïol wedi eu sicrhau yng nghynllun 2015;

(b)

swm i’w drosglwyddo o’r cynllun gwaddol ac o gynllun 2015, y swm sy’n hafal i’r ganran ymhlyg o gyfwerth ariannol y buddion perthnasol rhwymedïol ar y diwrnod prisio a ganfuwyd fel pe bai’r holl fuddion perthnasol rhwymedïol wedi eu sicrhau yng nghynllun 2015;

ystyr “swm cynllun gwaddol” (“legacy scheme amount”) yw, pan ganfuwyd y swm cychwynnol mewn perthynas ag—

(a)

gwerth canrannol i’w drosglwyddo o’r cynllun gwaddol ac o gynllun 2015, y swm a fyddai wedi ei ganfod drwy gymhwyso—

(i)

gwerth canrannol y cynllun gwaddol, mewn perthynas â buddion perthnasol rhwymedïol cyn tapro, a

(ii)

gwerth canrannol cynllun 2015, mewn perthynas â buddion perthnasol rhwymedïol ar ôl tapro,

o dan adran 29(2) ar y diwrnod prisio pe bai’r holl fuddion perthnasol rhwymedïol wedi eu sicrhau yn y cynllun gwaddol;

swm i’w drosglwyddo o’r cynllun gwaddol ac o gynllun 2015, y swm sy’n hafal i’r ganran ymhlyg o gyfwerth ariannol y buddion perthnasol rhwymedïol ar y diwrnod prisio a ganfuwyd fel pe bai’r holl fuddion perthnasol rhwymedïol wedi eu sicrhau yn y cynllun gwaddol.

(3Yn y rheoliad hwn—

ystyr “buddion perthnasol rhwymedïol ar ôl tapro” (“post-taper remediable relevant benefits”) yw’r buddion perthnasol rhwymedïol y mae gan aelod â debyd pensiwn cyfatebol (“D”) hawlogaeth iddynt yn rhinwedd hawliau rhanadwy rhwymedïol a sicrhawyd yn rhinwedd gwasanaeth rhwymedïol D ar ôl dyddiad cau diogelwch taprog D;

ystyr “buddion perthnasol rhwymedïol cyn tapro” (“pre-taper remediable relevant benefits”) yw’r buddion perthnasol rhwymedïol y mae gan D hawlogaeth iddynt yn rhinwedd hawliau rhanadwy rhwymedïol a sicrhawyd yn rhinwedd gwasanaeth rhwymedïol D ar ddyddiad cau diogelwch taprog D neu cyn hynny;

ystyr “canran ymhlyg” (“implied percentage”), mewn perthynas â gwerth buddion o dan gynllun pensiwn diffoddwyr tân, yw’r ganran yr oedd swm cychwynnol a ganfuwyd o dan adran 29(3) o DDLlPh 1999 yn ei chynrychioli o gyfwerth ariannol y buddion perthnasol rhwymedïol ar y diwrnod prisio;

mae i “dyddiad cau diogelwch taprog” (“tapered protection closing date”), mewn perthynas â D, yr ystyr a roddir ym mharagraff 3 o Atodlen 2 i Reoliadau 2015;

ystyr “gwerth canrannol cynllun 2015” (“2015 scheme percentage value”) yw’r gwerth canrannol a bennir mewn gorchymyn rhannu pensiwn perthnasol mewn perthynas â chynllun 2015 at ddiben canfod swm o dan adran 29(2) o DDLlPh 1999;

ystyr “gwerth canrannol cynllun gwaddol” (“legacy scheme percentage value”) yw’r gwerth canrannol a bennir mewn gorchymyn rhannu pensiwn perthnasol mewn perthynas â chynllun gwaddol D at ddiben canfod swm o dan adran 29(2) o DDLlPh 1999;

ystyr “gwerth canrannol perthnasol” (“relevant percentage value”) yw—

(a)

pan fo’r gorchymyn rhannu pensiwn perthnasol yn pennu gwerth canrannol mewn perthynas â’r cynllun cychwynnol yn unig at ddiben canfod swm o dan adran 29(2) o DDLlPh 1999, y gwerth canrannol hwnnw;

(b)

fel arall, y gwerth canrannol a bennir mewn perthynas â’r cynllun amgen.

Gwybodaeth a ddarperir cyn 1 Hydref 2023: cyfrifo addasiad credyd rhwymedïol

23.—(1Rhaid i’r rheolwr cynllun ganfod y swm amgen mewn perthynas â chredyd pensiwn C—

(a)cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl 30 Medi 2023, a

(b)ar ôl ymgynghori ag actiwari’r cynllun.

(2Pan fo—

(a)y swm amgen yn fwy na’r swm cychwynnol, neu

(b)y gorchymyn rhannu pensiwn perthnasol yn ymwneud â gwasanaeth cymysg a’r swm amgen yn llai na’r swm cychwynnol,

mae cyfrif pensiwn C yn ddarostyngedig i addasiad (“addasiad credyd rhwymedïol”) sy’n hafal i’r gwahaniaeth.

(3Rhaid i’r rheolwr cynllun, erbyn diwedd 30 Medi 2024, ddarparu i C ddatganiad sy’n nodi—

(a)y swm amgen,

(b)unrhyw addasiad credyd rhwymedïol, ac

(c)pan fo rheoliad 24(4)(b) yn gymwys mewn perthynas ag C, eglurhad o’r cais y caniateir ei wneud yn unol â rheoliad 24(5) a chanlyniadau gwneud y cais hwnnw, neu beidio â gwneud y cais hwnnw.

Gwybodaeth a ddarperir cyn 1 Hydref 2023: cymhwyso addasiad credyd rhwymedïol

24.—(1Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo cyfrif credyd pensiwn C yn ddarostyngedig i addasiad credyd rhwymedïol.

(2Rhaid i’r rheolwr cynllun addasu cyfrif pensiwn C yn ôl swm sy’n hafal i’r addasiad credyd rhwymedïol.

(3Mae addasiad a wneir o dan baragraff (2) yn cael effaith fel pe bai wedi ei wneud ar y diwrnod trosglwyddo.

(4Ym mharagraff (2), ystyr “cyfrif pensiwn C”, pan fo gan C, mewn perthynas â’r gorchymyn rhannu pensiwn perthnasol—

(a)credyd pensiwn mewn un cynllun pensiwn diffoddwyr tân yn unig, yw cyfrif aelod â chredyd pensiwn C o dan y cynllun hwnnw;

(b)credyd pensiwn mewn cynllun gwaddol ac yng nghynllun 2015 yw—

(i)y cyfrif pensiwn sydd wedi ei nodi gan C mewn cais a wneir yn unol â pharagraff (5), neu

(ii)os na wneir unrhyw gais yn unol â pharagraff (5), gyfrif pensiwn C o dan y cynllun gwaddol.

(5Gwneir cais yn unol â’r paragraff hwn os—

(a)mae wedi ei wneud yn ysgrifenedig i’r rheolwr cynllun,

(b)mae ar ffurf sydd wedi ei phennu gan y rheolwr cynllun,

(c)mae’n nodi’n glir pa rai o gyfrifon pensiwn C y mae C am iddynt gael eu haddasu, a

(d)daw i law’r rheolwr cynllun erbyn—

(i)diwedd y dydd 6 mis ar ôl y dyddiad y rhoddwyd y datganiad sy’n ofynnol gan reoliad 23(3) i C, neu

(ii)diwedd unrhyw ddiwrnod diweddarach y mae’r rheolwr cynllun yn ystyried ei fod yn rhesymol o dan yr holl amgylchiadau.

(6Mae cais a wneir yn unol â pharagraff (5) yn ddi-alw’n-ôl.

(7Mae adran 14(3) i (6) o DPGCSB 2022 yn gymwys mewn perthynas ag C fel y mae’n gymwys mewn perthynas ag aelod a ddisgrifir yn adran 14(1) fel pe bai—

(a)cyfeiriad at gynllun gwaddol Pennod 1 yn gyfeiriad at y cynllun pensiwn diffoddwyr tân y mae gan C gredyd pensiwn ynddo;

(b)cyfeiriad at wasanaeth rhwymedïol A mewn cyflogaeth yn gyfeiriad at gredyd pensiwn C;

(c)cyfeiriad at effaith adrannau 2(1) a 6(4), os oes effaith iddynt, yn gyfeiriad at effaith y rheoliad hwn, os oes effaith iddo;

(d)y term “adeg weithredol” yn golygu’r adeg pan wneir yr addasiad a grybwyllir ym mharagraff (2) (gan ddiystyru paragraff (3)).

Gwybodaeth a ddarperir cyn 1 Hydref 2023: ailgyfrifo lleihad buddion D

25.—(1Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo buddion perthnasol rhwymedïol D wedi eu lleihau yn ôl swm lleihau cychwynnol.

(2Rhaid i’r rheolwr cynllun ganfod y swm lleihau amgen neu, pan fo’r gorchymyn rhannu pensiwn perthnasol yn ymwneud â gwasanaeth cymysg, y symiau lleihau amgen, mewn perthynas â buddion perthnasol rhwymedïol D—

(a)cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl 30 Medi 2023, a

(b)ar ôl ymgynghori ag actiwari’r cynllun.

(3Pan nad yw’r gorchymyn rhannu pensiwn perthnasol yn ymwneud â gwasanaeth cymysg, y “swm lleihau amgen” yw unrhyw swm y mae’r rheolwr cynllun yn ystyried ei fod yn briodol gan roi sylw i—

(a)cyfwerth ariannol y buddion perthnasol rhwymedïol ar y diwrnod prisio fel pe baent yn fuddion perthnasol rhwymedïol o dan y cynllun amgen,

(b)y gwerth canrannol neu’r swm i’w drosglwyddo a bennir yn y gorchymyn rhannu pensiwn perthnasol, ac

(c)darpariaethau adrannau 29 ac 31 o DDLlPh 1999.

(4Pan fo’r gorchymyn rhannu pensiwn perthnasol yn ymwneud â gwasanaeth cymysg, y “symiau lleihau amgen” yw unrhyw symiau y mae’r rheolwr cynllun yn ystyried eu bod yn briodol gan roi sylw i—

(a)cyfwerth ariannol y buddion perthnasol rhwymedïol ar y diwrnod prisio fel pe baent i gyd wedi eu sicrhau—

(i)yn y cynllun gwaddol, ac ar wahân

(ii)yng nghynllun 2015, a

(b)y materion a grybwyllir ym mharagraff (3)(b) ac (c).

ADRAN 3Gwybodaeth a ddarperir ar 1 Hydref 2023 neu ar ôl hynny

Cymhwyso a dehongli Adran 3

26.—(1Mae’r Adran hon yn gymwys pan fo’r rheolwr cynllun, ar 1 Hydref 2023 neu ar ôl hynny, yn darparu gwybodaeth at ddiben canfod symiau o dan adran 29 o DDLlPh 1999 mewn cysylltiad â gwasanaeth rhwymedïol aelod rhwymedi.

(2Yn yr Adran hon—

ystyr “aelod-bensiynwr dewis ar unwaith” (“immediate choice pensioner member”) yw aelod dewis ar unwaith sydd, yn union cyn i’r Rheoliadau hyn ddod i rym, yn aelod-bensiynwr mewn perthynas â’i wasanaeth rhwymedïol;

mae i “cyfwerth ariannol cynllun 2015” (“2015 scheme cash equivalent”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 27(2)(b);

mae i “cyfwerth ariannol cynllun gwaddol” (“legacy scheme cash equivalent”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 27(2)(a);

mae i “swm lleihau amgen” (“alternative reduction amount”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 28(3);

ystyr “swm priodol” (“appropriate amount”) yw’r swm a gyfrifir at ddiben adran 29(1) o DDLlPh 1999.

Gwybodaeth a ddarperir ar 1 Hydref 2023 neu ar ôl hynny: cyfrifo credydau a debydau pensiwn

27.—(1Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo D—

(a)yn aelod dewis gohiriedig ac nad oes buddion pensiwn wedi dod yn daladwy mewn perthynas â gwasanaeth rhwymedïol D, neu

(b)yn aelod-bensiynwr dewis ar unwaith ac—

(i)nad yw diwedd y cyfnod dewisiad adran 6 mewn perthynas â D wedi mynd heibio, a

(ii)nad oes penderfyniad dewis ar unwaith wedi ei wneud mewn perthynas â gwasanaeth rhwymedïol D.

(2At ddiben cyfrifo’r swm priodol, rhaid i’r rheolwr cynllun ganfod—

(a)cyfwerth ariannol buddion perthnasol rhwymedïol D ar y diwrnod prisio fel pe bai’r buddion perthnasol rhwymedïol hynny yng nghynllun gwaddol D (“cyfwerth ariannol y cynllun gwaddol”), a

(b)cyfwerth ariannol y buddion hynny ar y diwrnod prisio fel pe baent yng nghynllun 2015 (“cyfwerth ariannol cynllun 2015”).

(3At ddiben cyfrifo’r credyd pensiwn a’r debyd pensiwn, rhaid i’r rheolwr cynllun ddefnyddio’r mwyaf o—

(a)cyfwerth ariannol y cynllun gwaddol, neu

(b)cyfwerth ariannol cynllun 2015.

Gwybodaeth a ddarperir ar 1 Hydref 2023 neu ar ôl hynny: ailgyfrifo lleihad buddion D

28.—(1Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo buddion perthnasol rhwymedïol D i’w lleihau mewn perthynas â debyd pensiwn a gyfrifwyd o dan reoliad 27(3).

(2Rhaid i’r rheolwr cynllun ganfod y swm lleihau amgen mewn perthynas â buddion perthnasol rhwymedïol D—

(a)cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl y dyddiad trosglwyddo, a

(b)ar ôl ymgynghori ag actiwari’r cynllun.

(3Y “swm lleihau amgen” yw unrhyw swm y mae’r rheolwr cynllun yn ei ystyried yn briodol gan roi sylw i—

(a)cyfwerth ariannol y buddion perthnasol rhwymedïol ar y diwrnod prisio fel pe baent yn fuddion perthnasol rhwymedïol a sicrhawyd—

(i)pan gyfrifwyd y debyd pensiwn a grybwyllir ym mharagraff (1) ar sail cyfwerth ariannol y cynllun gwaddol, yng nghynllun 2015;

(ii)pan gyfrifwyd y debyd pensiwn ar sail cyfwerth ariannol cynllun 2015, yn y cynllun gwaddol,

(b)y gwerth canrannol neu’r swm i’w drosglwyddo a bennir yn y gorchymyn rhannu pensiwn perthnasol, a

(c)darpariaethau adrannau 29 ac 31 o DDLlPh 1999.

PENNOD 2Trefniant wrth ysgaru, dirymu neu ddiddymu heblaw gorchymyn rhannu pensiwn

Trefniadau heblaw gorchymyn rhannu pensiwn: cyfrifo gwerth buddion pensiwn

29.—(1Mae’r rheoliad hwn yn gymwys—

(a)pan fo rhaid canfod gwerth hawliau rhwymedïol aelod (“A”) at ddiben achos sy’n gysylltiedig ag ysgariad neu ddirymiad A, neu ddiddymu partneriaeth sifil A,

(b)pan fo’r ysgariad, y dirymiad neu’r diddymiad i gael effaith—

(i)ar 1 Hydref 2023 neu ar ôl hynny, a

(ii)cyn y cynharaf o—

(aa)penderfyniad yn cael effaith mewn perthynas â gwasanaeth rhwymedïol A, neu

(bb)diwedd y cyfnod dewisiad perthnasol, a

(c)pan nad yw gwerth hawliau rhwymedïol A i fod yn ddarostyngedig i orchymyn rhannu pensiwn.

(2Gwerth hawliau rhwymedïol A at ddiben yr achos yw’r mwyaf o’r hawliau hynny a brisiwyd gan y rheolwr cynllun, ar ôl ymgynghori ag actiwari’r cynllun, fel pe baent—

(a)wedi eu sicrhau yng nghynllun gwaddol A, neu

(b)wedi eu sicrhau yng nghynllun 2015.

(3Yn y rheoliad hwn—

ystyr “cyfnod dewisiad perthnasol” (“relevant election period”) yw, pan fo A yn—

(a)

aelod dewis gohiriedig, y cyfnod gwneud dewisiad adran 10 mewn perthynas ag A;

(b)

aelod dewis ar unwaith, y cyfnod dewisiad adran 6 mewn perthynas ag A;

ystyr “gorchymyn rhannu pensiwn” (“pension sharing order”) yw gorchymyn neu ddarpariaeth sy’n atynnu adran 29 o DDLlPh 1999 mewn perthynas â hawliau rhwymedïol A;

ystyr “hawliau rhwymedïol” (“remediable rights”) yw’r hawliau a sicrhawyd yn rhinwedd gwasanaeth rhwymedïol A;

ystyr “penderfyniad” (“decision”) yw penderfyniad dewis ar unwaith neu benderfyniad dewis gohiriedig.

RHAN 5Cyfraniadau gwirfoddol

Trin taliadau pensiwn ychwanegol cynllun 2015

30.—(1Mae’r rheoliad hwn yn gymwys mewn perthynas â thaliad pensiwn ychwanegol rhwymedïol a wnaed gan aelod rhwymedi (“A”).

(2Rhaid i’r rheolwr cynllun, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl 30 Medi 2023 ac ar ôl ymgynghori ag actiwari’r cynllun, ganfod y “swm y gellir digolledu amdano”, sef swm fel digollediad sy’n hafal i—

(a)cyfanswm holl daliadau pensiwn ychwanegol rhwymedïol A, namyn

(b)swm mewn cysylltiad â gwerth rhyddhad treth yn unol â chyfarwyddydau 5(5) i (9) o Gyfarwyddydau PGC 2022.

(3Yn achos aelod dewis ar unwaith, rhaid i’r rheolwr cynllun nodi’r ffigur swm y gellir digolledu amdano gyda’r datganiad gwasanaeth rhwymedïol perthnasol a anfonwyd yn unol â rheoliad 4.

(4Pan wneir canfyddiad yn unol â chyfarwyddyd 5(8) o Gyfarwyddydau PGC 2022, mae’r canlynol yn gymwys—

(a)cyfarwyddyd 5(10) (darparu eglurhad);

(b)cyfarwyddyd 5(11) a (12) (apelau).

(5Mae’r swm y gellir digolledu amdano yn ddyledus gan y rheolwr cynllun i A neu, pan fo A yn ymadawedig, i gynrychiolwyr personol A.

(6Mae’r hawliau i fuddion a fyddai fel arall wedi eu sicrhau gan y taliad pensiwn ychwanegol rhwymedïol wedi eu diddymu.

(7Pan fo person wedi cael unrhyw fuddion pensiwn o dan gynllun 2015 yn rhinwedd hawliau a sicrhawyd gan daliad pensiwn ychwanegol rhwymedïol, mae swm sy’n hafal i gyfanswm yr holl fuddion pensiwn hynny yn ddyledus gan y person i’r rheolwr cynllun.

(8Nid yw paragraffau (5) i (7) ond yn gymwys mewn perthynas ag aelod dewis ar unwaith—

(a)ar ôl i’r cyfnod dewisiad adran 6 ddod i ben yn unol ag adran 7(2) o DPGCSB 2022, neu os yw’n gynharach, yn union ar ôl i benderfyniad dewis ar unwaith gael ei wneud yn unol â Phennod 2 o’r Rheoliadau hyn, a

(b)pan y penderfyniad dewis ar unwaith yw ar gyfer buddion cynllun gwaddol mewn perthynas â gwasanaeth rhwymedïol A.

(9Mae paragraff (10) yn gymwys pan fo A yn aelod dewis ar unwaith ac nad yw paragraffau (5) i (7) yn gymwys iddo, o ganlyniad i baragraff (8).

(10Pan fo’r paragraff hwn yn gymwys—

(a)mae’r hawliau i fuddion sydd wedi eu sicrhau yn rhinwedd y taliad pensiwn ychwanegol rhwymedïol a grybwyllir ym mharagraff (1) i’w trin at ddibenion y Rheoliadau hyn a DPGCSB 2022 fel pe bai’r hawliau hynny wedi eu sicrhau yn rhinwedd gwasanaeth rhwymedïol A, a

(b)nid yw adran 2(5)(a) o DPGCSB 2022 yn gymwys mewn perthynas â’r trefniant y gwnaeth A sicrhau’r hawliau hynny oddi tano (ac, yn unol â hynny, mae adran 2(1) o DPGCSB 2022 yn effeithio ar y trefniant hwnnw).

(11Yn y rheoliad hwn, ystyr “taliad pensiwn ychwanegol rhwymedïol” yw—

(a)taliad cyfnodol ar gyfer pensiwn ychwanegol a wnaed o dan drefniant yn unol â Phennod 2 o Ran 2 o Atodlen 1 i Reoliadau 2015 a gychwynnodd yn ystod cyfnod gwasanaeth rhwymedïol A;

(b)cyfandaliad ar gyfer pensiwn ychwanegol a wnaed yn unol â Phennod 3 o Ran 2 o Atodlen 1 i Reoliadau 2015 yn ystod cyfnod gwasanaeth rhwymedïol A.

Trin taliadau blynyddoedd ychwanegol cynllun gwaddol

31.—(1Mae’r rheoliad hwn yn gymwys mewn perthynas â thaliad blynyddoedd ychwanegol rhwymedïol a wnaed gan aelod rhwymedi (“A”).

(2Rhaid i’r rheolwr cynllun, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl 30 Medi 2023 ac ar ôl ymgynghori ag actiwari’r cynllun, ganfod y “swm y gellir digolledu amdano”, sef swm fel digollediad sy’n hafal i—

(a)gyfanred holl daliadau blynyddoedd ychwanegol rhwymedïol A, namyn

(b)swm mewn cysylltiad â gwerth rhyddhad treth yn unol â chyfarwyddydau 5(5) i (9) o Gyfarwyddydau PGC 2022.

(3Pan wneir canfyddiad yn unol â chyfarwyddyd 5(8) o Gyfarwyddydau PGC 2022, mae’r canlynol yn gymwys—

(a)cyfarwyddyd 5(10) (darparu eglurhad);

(b)cyfarwyddyd 5(11) a (12) (apelau).

(4Pan fo, yn rhinwedd dewisiad adran 6 (gan gynnwys dewisiad adran 6 tybiedig) neu ddewisiad adran 10, y buddion sy’n daladwy mewn perthynas â gwasanaeth rhwymedïol A yn fuddion cynllun 2015—

(a)mae’r swm y gellir digolledu amdano yn ddyledus gan y rheolwr cynllun i A neu, pan fo A yn ymadawedig, i gynrychiolwyr personol A, a

(b)mae’r hawliau i fuddion a fyddai fel arall wedi eu sicrhau gan y taliadau blynyddoedd ychwanegol rhwymedïol wedi eu diddymu.

(5Yn y rheoliad hwn, ystyr “taliad blynyddoedd ychwanegol rhwymedïol” yw taliad i sicrhau rhagor o fuddion o dan Orchymyn 1992 neu Orchymyn 2007 sydd—

(a)yn gyfandaliad a wnaed yn ystod cyfnod gwasanaeth rhwymedïol A,

(b)yn gyfraniad cyfnodol a wnaed yn unol â threfniant a ddechreuodd yn ystod cyfnod gwasanaeth rhwymedïol A, neu

(c)yn gyfandaliad neu’n gyfraniad cyfnodol a wnaed yn unol â threfniant rhwymedïol o dan reoliad 32.

Trefniadau rhwymedïol i dalu cyfraniadau gwirfoddol i sicrhau blynyddoedd ychwanegol cynllun gwaddol

32.—(1Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i aelod rhwymedi (“A”)—

(a)nad yw’n aelod ymadawedig, a

(b)nad oedd, yn union cyn 1 Ebrill 2022, yn aelod diogelwch llawn o gynllun 1992 na chynllun 2007 o fewn ystyr paragraff 9 o Atodlen 2 i Reoliadau 2015 fel yr oedd y paragraff hwnnw yn union cyn i’r Rheoliadau hyn ddod i rym.

(2Caiff A wneud dewisiad i ymrwymo i drefniant (“trefniant rhwymedïol”) i dalu cyfraniadau gwirfoddol i gynllun gwaddol A ar gyfer buddion ychwanegol yn unol â’r canlynol—

(a)pan mai cynllun gwaddol A yw—

(i)cynllun 1992, Gorchymyn 1992;

(ii)cynllun 2007, Gorchymyn 2007, a

(b)y rheoliad hwn.

(3Ni chaiff A ond ymrwymo i drefniant rhwymedïol—

(a)mewn cysylltiad â chyfnod gwasanaeth rhwymedïol A,

(b)os yw’r rheolwr cynllun wedi ei fodloni ei bod yn fwy tebygol na pheidio y byddai A, yn ystod cyfnod gwasanaeth rhwymedïol A, oni bai am achos perthnasol o dorri rheol peidio â gwahaniaethu, wedi ymrwymo i’r un trefniant neu i drefniant tebyg,

(c)cyn—

(i)diwedd y cyfnod o flwyddyn sy’n dechrau ar y diwrnod y darperir datganiad o wasanaeth rhwymedïol mewn cysylltiad ag A gyntaf, neu

(ii)unrhyw adeg ddiweddarach y mae’r rheolwr cynllun yn ystyried ei bod yn rhesymol o dan yr holl amgylchiadau, a

(d)ar ôl i gais a wneir yn unol â pharagraff (4) gael ei gymeradwyo gan y rheolwr cynllun.

(4Mae cais wedi ei wneud yn unol â’r paragraff hwn pan fo—

(a)yn ysgrifenedig,

(b)unrhyw wybodaeth yn dod gydag ef y mae’r rheolwr cynllun yn rhesymol yn ei gwneud yn ofynnol ei darparu at ddibenion—

(i)penderfynu ar y materion a grybwyllir ym mharagraff (3)(b);

(ii)cydymffurfio â’r gofyniad a osodir gan Orchymyn 1992 neu (yn ôl y digwydd) Orchymyn 2007 mewn cysylltiad â gwneud dewisiad i dalu cyfraniadau gwirfoddol ar gyfer buddion ychwanegol, ac

(c)y rheolwr cynllun yn ei gael—

(i)cyn diwedd y cyfnod o 6 mis sy’n dechrau â’r diwrnod y darperir datganiad o wasanaeth rhwymedïol gyntaf mewn cysylltiad ag A, neu

(ii)ar unrhyw adeg ddiweddarach y mae’r rheolwr cynllun yn ystyried ei bod yn rhesymol o dan yr holl amgylchiadau.

(5Pan fo A yn ymrwymo i drefniant rhwymedïol, mae swm yn ddyledus gan A i’r rheolwr cynllun sy’n hafal i—

(a)gyfanred y cyfraniadau gwirfoddol a fyddai wedi bod yn ddyledus gan A pe bai A wedi ymrwymo i’r trefniant rhwymedïol ar yr adeg y byddai A wedi ymrwymo i’r un trefniant neu drefniant tebyg oni bai am achos perthnasol o dorri rheol peidio â gwahaniaethu, namyn

(b)symiau rhyddhad treth a gyfrifir yn unol â chyfarwyddyd 12(2) i (7) o Gyfarwyddydau PGC 2022.

(6Pan wneir canfyddiad yn unol â chyfarwyddyd 12(6) o Gyfarwyddydau PGC 2022, mae’r canlynol yn gymwys—

(a)cyfarwyddyd 12(8) (darparu eglurhad);

(b)cyfarwyddyd 12(9) a (10) (apelau).

Datgymhwyso’r cyfyngiad ar gyfandaliadau ar gyfer pensiwn ychwanegol cynllun 2015

33.  Nid yw paragraff 5(5) o Atodlen 1 i Reoliadau 2015 yn gymwys mewn perthynas ag opsiwn i wneud cyfandaliad ar gyfer pensiwn ychwanegol a arferwyd gan aelod rhwymedi yn ystod y cyfnod sy’n dechrau â 1 Ebrill 2022 ac sy’n dod i ben â 31 Mawrth 2023.

RHAN 6Trosglwyddiadau

PENNOD 1Cyffredinol

Dehongli Rhan 6

34.—(1Yn y Rhan hon—

ystyr “cynllun pensiwn gwasanaeth cyhoeddus” (“public service pension scheme”) yw—

(a)

cynllun Pennod 1(19);

(b)

cynllun barnwrol o fewn ystyr “judicial scheme” yn adran 70(1) o DPGCSB 2022;

(c)

cynllun llywodraeth leol o fewn ystyr “local government scheme” yn adran 86(1) o DPGCSB 2022;

ystyr “cynllun sy’n anfon” (“sending scheme”), mewn perthynas â gwerth rhwymedïol, yw’r cynllun a dalodd y gwerth rhwymedïol neu sydd i’w dalu;

ystyr “cynllun sy’n derbyn” (“receiving scheme”), mewn perthynas â gwerth rhwymedïol, yw’r cynllun y talwyd y gwerth rhwymedïol iddo, neu y mae i’w dalu iddo;

ystyr “gwerth rhwymedïol” (“remediable value”), ac eithrio ym Mhennod 4, yw gwerth trosglwyddiad clwb rhwymedïol neu werth trosglwyddo rhwymedïol;

ystyr “gwerth trosglwyddiad clwb rhwymedïol” (“remediable club transfer value”), mewn perthynas ag aelod, yw talu neu dderbyn gan y rheolwr cynllun—

(a)

taliad gwerth trosglwyddo o dan drefniadau yn unol â Rhan F o Atodlen 2 i Orchymyn 1992;

(b)

taliad gwerth trosglwyddo o dan drefniadau trosglwyddo’r sector cyhoeddus yn unol â Rhan 12 o baragraff 1 o Atodlen 1 i Orchymyn 2007;

(c)

taliad gwerth trosglwyddiad clwb o dan Ran 10 o Reoliadau 2015,

i’r graddau y bo’r gwerth trosglwyddo’n ymwneud â hawliau rhwymedïol yr aelod;

ystyr “gwerth trosglwyddo rhwymedïol” (“remediable transfer value”), mewn perthynas ag aelod, yw talu neu dderbyn gan y rheolwr cynllun werth trosglwyddo heblaw gwerth trosglwyddiad clwb rhwymedïol o dan—

(a)

Rhan F o Atodlen 2 i Orchymyn 1992;

(b)

Rhan 12 o baragraff 1 o Atodlen 1 i Orchymyn 2007;

(c)

Rhan 10 o Reoliadau 2015,

i’r graddau y bo’r gwerth trosglwyddo’n ymwneud â hawliau rhwymedïol yr aelod;

ystyr “hawliau rhwymedïol” (“remediable rights”), mewn perthynas ag aelod, yw hawliau’r aelod i fuddion o dan gynllun pensiwn gwasanaeth cyhoeddus a sicrhawyd yn rhinwedd gwasanaeth rhwymedïol yr aelod.

(2Yn y Rhan hon, yr hawliau cyffredinol mewn perthynas â gwerth rhwymedïol yn y cynllun gwaddol yw—

(a)pan fyddai cynllun gwaddol yr aelod wedi caniatáu trosglwyddo i mewn y gwerth rhwymedïol cyfan, gan gynnwys, pan fo hynny’n berthnasol, unrhyw daliad a dderbyniwyd o dan reoliad 37(3) neu unrhyw addasiad a dderbyniwyd o dan reoliad 42(2) pe bai’r trosglwyddiad wedi digwydd yn union cyn 1 Ebrill 2022, yr hawliau i fuddion cynllun gwaddol a fyddai wedi eu sicrhau pe bai’r gwerth rhwymedïol wedi ei drosglwyddo i mewn i’r cynllun hwnnw;

(b)fel arall, yr hawliau i fuddion cynllun gwaddol a fyddai wedi eu sicrhau pe bai’r gyfran honno o’r gwerth rhwymedïol y byddai’r cynllun gwaddol wedi caniatáu iddi gael ei throsglwyddo i mewn wedi ei throsglwyddo i mewn i’r cynllun hwnnw, ynghyd ag—

(i)pan fo gan aelod wasanaeth mewn cyflogaeth neu swydd ar 1 Ebrill 2022 neu ar ôl hynny sy’n wasanaeth pensiynadwy o dan gynllun 2015 (“gwasanaeth cynllun 2015 perthnasol”), yr hawliau i fuddion cynllun 2015 pe bai’r gyfran sy’n weddill o’r gwerth rhwymedïol wedi ei throsglwyddo i mewn i’r cynllun hwnnw;

(ii)pan nad oes gan yr aelod wasanaeth cynllun 2015 perthnasol, yr hawl i daliad o unrhyw swm fel digollediad sy’n hafal i werth hawliau i fuddion cynllun 2015 pe bai’r gyfran sy’n weddill o’r gwerth rhwymedïol wedi ei throsglwyddo i mewn i’r cynllun hwnnw.

(3Pan fo darpariaeth yn y Rhan hon yn ei gwneud yn ofynnol i’r rheolwr cynllun gyfrifo gwerth trosglwyddiad clwb neu werth trosglwyddo (gan gynnwys gwerth trosglwyddiad clwb rhwymedïol neu werth trosglwyddo rhwymedïol) mewn perthynas â hawliau a sicrhawyd mewn cynllun pensiwn diffoddwyr tân, mae’r gwerth hwnnw i’w gyfrifo yn unol ag—

(a)y darpariaethau yn y cynllun pensiwn diffoddwyr tân sy’n gymwys i gyfrifo gwerthoedd o’r math hwnnw, a’r

(b)canllawiau a’r tablau a ddarperir gan Actiwari’r Llywodraeth at ddiben cyfrifo’r gwerthoedd hynny a oedd, neu sydd, yn cael eu defnyddio ar y dyddiad a ddefnyddir i gyfrifo’r gwerth a sicrhaodd yn wreiddiol hawliau o dan gynllun pensiwn diffoddwyr tân.

Datganiadau o wasanaeth rhwymedïol a drosglwyddwyd allan

35.  Pan fo aelod rhwymedi wedi trosglwyddo unrhyw hawliau mewn cysylltiad â gwasanaeth rhwymedïol allan o gynllun pensiwn diffoddwyr tân, rhaid i’r rheolwr cynllun ddarparu datganiad o wasanaeth rhwymedïol a drosglwyddwyd allan yn unol â chyfarwyddyd 6(2) i (4) o Gyfarwyddydau PGC 2022 (ac yn unol â hynny mae cyfarwyddyd 6(4) yn gymwys fel pe bai’r cyfeiriad at “any provision made by virtue of section 29(1) of PSPJOA 2022” yn gyfeiriad at reoliad 4).

PENNOD 2Trosglwyddiadau ar sail cyfwerth ariannol

ADRAN 1Trosglwyddiadau cyn 1 Hydref 2023

Trosglwyddiadau allan cyn 1 Hydref 2023

36.—(1Mae’r rheoliad hwn yn gymwys mewn perthynas ag aelod (“A”) y talodd y rheolwr cynllun werth trosglwyddo rhwymedïol mewn cysylltiad ag ef cyn 1 Hydref 2023.

(2Rhaid i’r rheolwr cynllun, ar ôl ymgynghori ag actiwari’r cynllun, gyfrifo gwerth trosglwyddo hawliau rhwymedïol A fel pe baent wedi eu sicrhau—

(a)yng nghynllun gwaddol A;

(b)yng nghynllun 2015.

(3Rhaid i’r rheolwr cynllun hysbysu’r cynllun sy’n derbyn am ganlyniadau’r cyfrifiad a grybwyllir ym mharagraff (2).

(4Pan fo—

(a)y mwyaf o’r symiau a gyfrifir o dan baragraff (2) (“x”) yn fwy na

(b)swm y gwerth trosglwyddo rhwymedïol (“y”),

rhaid i’r rheolwr cynllun gymryd camau rhesymol i dalu swm (“y swm rhwymedïol”) sy’n hafal i x - y i’r cynllun sy’n derbyn.

(5Mae taliad o dan baragraff (4) yn ddarostyngedig i’r un amodau â’r gwerth trosglwyddo rhwymedïol.

(6Pan fo—

(a)paragraff (4) yn gymwys, a’r

(b)y rheolwr cynllun, wedi iddo gymryd camau rhesymol, yn methu â gwneud y taliad sy’n ofynnol gan y paragraff hwnnw,

mae ar y rheolwr cynllun i A neu, pan fo A yn ymadawedig, gynrychiolwyr personol A swm fel digollediad sy’n hafal i x – y (“y swm y gellir digolledu amdano”) sydd wedi ei leihau yn unol â pharagraff (7).

(7Os talwyd y swm y gellir digolledu amdano yn union ar ôl i’r gofyniad i’w dalu godi, ac yn achos y taliad—

(a)y byddai’n daliad a ddisgrifir yn rheoliad 6 o Reoliadau Cynlluniau Pensiwn Cofrestredig (Taliadau Awdurdodedig) 2009(20) (“Rheoliadau 2009”) fel pe bai rheoliad 6(1)(a) o’r Rheoliadau hynny wedi ei hepgor, mae’r swm y gellir digolledu amdano i’w leihau yn ôl y swm sy’n hafal i’r dreth incwm y byddai modd ei chodi arno fel pe bai rheoliad 3(b) o Reoliadau 2009 yn gymwys iddo;

(b)na fyddai’n daliad a ddisgrifir felly, mae’r swm y gellir digolledu amdano i’w leihau yn ôl swm sy’n hafal i’r dreth incwm a fyddai’n cael ei chodi ar y swm ar gyfradd ymylol A o dan y Deddfau Treth Incwm.

(8Yn y rheoliad hwn—

(a)ystyr “y Deddfau Treth Incwm” yw’r holl ddeddfiadau sy’n ymwneud â threth incwm, gan gynnwys unrhyw un neu ragor o ddarpariaethau’r Deddfau Treth Gorfforaeth sy’n ymwneud â threth incwm, ac

(b)ystyr “y Deddfau Treth Gorfforaeth” yw’r deddfiadau sy’n ymwneud â threthiant incwm ac enillion trethadwy cwmnïau a dosbarthiadau cwmnïau (gan gynnwys darpariaethau sy’n ymwneud â threth incwm).

Trosglwyddiadau i mewn cyn 1 Hydref 2023

37.—(1Mae’r rheoliad hwn yn gymwys mewn perthynas â phob taliad o werth trosglwyddo rhwymedïol mewn cysylltiad ag aelod (“A”) a dderbyniwyd gan y rheolwr cynllun cyn 1 Hydref 2023.

(2Rhaid i’r rheolwr cynllun, ar ôl ymgynghori ag actiwari’r cynllun, ganfod—

(a)hawliau cyffredinol A mewn perthynas â’r gwerth trosglwyddo rhwymedïol yn y cynllun gwaddol;

(b)buddion A pe cymhwysid y gwerth trosglwyddo rhwymedïol, ynghyd ag unrhyw daliad a dderbyniwyd o dan baragraff (3), mewn cysylltiad â hawliau yng nghynllun 2015.

(3Pan mai cynllun pensiwn gwasanaeth cyhoeddus oedd y cynllun sy’n anfon, caiff y rheolwr cynllun dderbyn taliad—

(a)mewn cysylltiad â’r hawliau rhwymedïol y mae’r gwerth trosglwyddo rhwymedïol yn ymwneud â hwy, a

(b)a wneir gan y cynllun sy’n anfon yn unol â DPGCSB 2022 neu yn unol â darpariaeth a wneir odani.

(4Mae taliad a dderbynnir o dan baragraff (3) i’w ddefnyddio at ddiben canfod buddion A o dan gynllun pensiwn diffoddwyr tân ar yr un telerau â’r gwerth trosglwyddo rhwymedïol.

ADRAN 2Trosglwyddiadau ar 1 Hydref 2023 neu ar ôl hynny

Cymhwyso Adran 2

38.—(1Mae’r Adran hon yn gymwys mewn cysylltiad ag aelod (“A”) sydd—

(a)yn aelod dewis gohiriedig, ac nad oes buddion pensiwn wedi dod yn daladwy mewn perthynas â gwasanaeth rhwymedïol A, neu

(b)yn aelod dewis ar unwaith, ac—

(i)nad yw diwedd y cyfnod dewisiad adran 6 wedi mynd heibio mewn perthynas ag A, a

(ii)nad oes penderfyniad dewis ar unwaith wedi ei wneud mewn perthynas â gwasanaeth rhwymedïol A.

Trosglwyddiadau allan ar 1 Hydref 2023 neu ar ôl hynny

39.—(1Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i daliad gwerth trosglwyddo rhwymedïol sydd i’w dalu mewn perthynas ag A gan y rheolwr cynllun ar 1 Hydref 2023 neu ar ôl hynny.

(2Rhaid i’r rheolwr cynllun, ar ôl ymgynghori ag actiwari’r cynllun, gyfrifo gwerth trosglwyddo hawliau rhwymedïol A fel pe bai’r hawliau hynny—

(a)yng nghynllun gwaddol A;

(b)yng nghynllun 2015.

(3Swm y gwerth trosglwyddo rhwymedïol yw’r mwyaf o’r symiau a gyfrifir o dan baragraff (2).

Trosglwyddiadau i mewn o gynllun pensiwn gwasanaeth cyhoeddus ar 1 Hydref 2023 neu ar ôl hynny

40.—(1Mae’r rheoliad hwn yn gymwys mewn perthynas â gwerth trosglwyddo rhwymedïol—

(a)a dderbynnir gan y rheolwr cynllun ar 1 Hydref 2023 neu ar ôl hynny, a

(b)pan fo’r cynllun sy’n anfon yn gynllun pensiwn gwasanaeth cyhoeddus.

(2Rhaid i’r rheolwr cynllun, ar ôl ymgynghori ag actiwari’r cynllun, ganfod—

(a)hawliau cyffredinol A mewn perthynas â’r gwerth trosglwyddo rhwymedïol yn y cynllun gwaddol;

(b)buddion A pe cymhwysid y gwerth trosglwyddo rhwymedïol mewn cysylltiad â hawliau yng nghynllun 2015.

PENNOD 3Trosglwyddiadau ar sail clwb

ADRAN 1Trosglwyddiadau clwb cyn 1 Hydref 2023

Trosglwyddiadau clwb allan cyn 1 Hydref 2023

41.—(1Mae’r rheoliad hwn yn gymwys mewn perthynas â phob aelod (“A”) y talwyd gwerth trosglwyddiad clwb rhwymedïol mewn cysylltiad ag ef gan y rheolwr cynllun cyn 1 Hydref 2023.

(2Rhaid i’r rheolwr cynllun, ar ôl ymgynghori ag actiwari’r cynllun, gyfrifo’r symiau a ganlyn—

(a)gwerth trosglwyddiad clwb hawliau A o dan gynllun pensiwn diffoddwyr tân fel pe bai hawliau rhwymedïol A wedi eu sicrhau yng nghynllun gwaddol A;

(b)gwerth trosglwyddiad clwb hawliau A o dan gynllun pensiwn diffoddwyr tân fel pe bai hawliau rhwymedïol A wedi eu sicrhau yng nghynllun 2015.

(3Rhaid i’r rheolwr cynllun ddarparu i’r cynllun sy’n derbyn ganlyniad y cyfrifiadau a grybwyllir ym mharagraff (2).

(4Pan fo’r cynllun sy’n derbyn yn gynllun llywodraeth leol o fewn ystyr “local government scheme” yn adran 89(1) o DPGCSB 2022, ac

(a)bod y mwyaf o’r symiau a gyfrifwyd o dan baragraff (2) (“x”) yn fwy na

(b)swm y gwerth trosglwyddo rhwymedïol (“y”),

rhaid i’r rheolwr cynllun dalu i’r cynllun sy’n derbyn swm sy’n hafal i x - y.

(5Mae taliad a wneir o dan baragraff (4) yn ddarostyngedig i’r un amodau â’r gwerth trosglwyddiad clwb rhwymedïol.

Trosglwyddiadau clwb i mewn cyn 1 Hydref 2023

42.—(1Mae’r rheoliad hwn yn gymwys mewn perthynas â phob gwerth trosglwyddiad clwb rhwymedïol mewn cysylltiad ag aelod (“A”) a dderbyniwyd gan y rheolwr cynllun cyn 1 Hydref 2023.

(2Caiff y rheolwr cynllun dderbyn addasiad yng ngwerth gwerth trosglwyddiad clwb rhwymedïol—

(a)mewn cysylltiad â’r hawliau rhwymedïol y mae’r gwerth trosglwyddiad clwb rhwymedïol yn ymwneud â hwy, a

(b)a wneir gan y cynllun sy’n anfon yn unol â DPGCSB 2022 neu yn unol â darpariaeth a wneir odani.

(3Mae addasiad a dderbynnir o dan baragraff (2) i’w ddefnyddio at ddiben canfod buddion A o dan gynllun pensiwn diffoddwyr tân ar yr un telerau â’r gwerth trosglwyddiad clwb rhwymedïol.

(4Rhaid i’r rheolwr cynllun, ar ôl ymgynghori ag actiwari’r cynllun, ganfod—

(a)hawliau cyffredinol A mewn perthynas â’r gwerth trosglwyddo rhwymedïol yn y cynllun gwaddol;

(b)buddion A pe cymhwysid y gwerth trosglwyddo clwb rhwymedïol, ynghyd ag unrhyw addasiad a dderbynnir o dan baragraff (2), mewn cysylltiad â hawliau yng nghynllun 2015.

ADRAN 2Trosglwyddiadau clwb ar 1 Hydref 2023 neu ar ôl hynny

Cymhwyso Adran 2

43.  Mae’r Adran hon yn gymwys mewn cysylltiad ag aelod (“A”) sy’n aelod dewis gohiriedig, ac nad oes buddion pensiwn wedi dod yn daladwy mewn perthynas â’i wasanaeth rhwymedïol.

Trosglwyddiadau clwb allan ar 1 Hydref 2023 neu ar ôl hynny

44.—(1Mae’r rheoliad hwn yn gymwys mewn perthynas â gwerth trosglwyddiad clwb rhwymedïol sydd i’w dalu mewn cysylltiad ag aelod gan y rheolwr cynllun ar 1 Hydref 2023 neu ar ôl hynny.

(2Rhaid i’r rheolwr cynllun, ar ôl ymgynghori ag actiwari’r cynllun, gyfrifo’r symiau a ganlyn—

(a)gwerth trosglwyddiad clwb hawliau A o dan gynllun pensiwn diffoddwyr tân fel pe bai hawliau rhwymedïol A wedi eu sicrhau yng nghynllun gwaddol A;

(b)gwerth trosglwyddiad clwb hawliau A o dan gynllun pensiwn diffoddwyr tân fel pe bai hawliau rhwymedïol A wedi eu sicrhau yng nghynllun 2015.

(3Swm y gwerth trosglwyddiad clwb rhwymedïol yw’r mwyaf o’r symiau a gyfrifwyd o dan baragraff (2).

(4Rhaid i’r rheolwr cynllun ddarparu i’r cynllun sy’n derbyn ganlyniad y cyfrifiadau a grybwyllir ym mharagraff (2).

Trosglwyddiadau clwb i mewn ar 1 Hydref 2023 neu ar ôl hynny

45.—(1Mae’r rheoliad hwn yn gymwys mewn perthynas â thaliad gwerth trosglwyddiad clwb rhwymedïol a dderbynnir gan y rheolwr cynllun ar 1 Hydref 2023 neu ar ôl hynny.

(2Rhaid i’r rheolwr cynllun, ar ôl ymgynghori ag actiwari’r cynllun, ganfod—

(a)hawliau cyffredinol A mewn perthynas â’r gwerth trosglwyddiad clwb rhwymedïol yn y cynllun gwaddol;

(b)buddion A pe cymhwysid y gwerth trosglwyddiad clwb rhwymedïol mewn cysylltiad â hawliau yng nghynllun 2015.

ADRAN 3Amrywio cyfnod gwneud cais am drosglwyddiad clwb

Amrywio cyfnod gwneud cais am drosglwyddiad clwb

46.  Mae rheoliad 150 o Reoliadau 2015 yn gymwys mewn perthynas ag—

(a)aelod rhwymedi nad yw’n aelod diogelwch llawn o fewn ystyr paragraff 1 o Atodlen 4 i’r Rheoliadau hynny, a

(b)chais am daliad trosglwyddo ar gyfer taliad gwerth trosglwyddiad clwb mewn cysylltiad ag aelod o’r fath,

fel pe bai’r canlynol wedi ei roi yn lle paragraff (2)(b)—

(b)yn ddarostyngedig i baragraff (3), rhaid iddo gael ei wneud—

(i)erbyn 1 Hydref 2024, neu,

(ii)cyn dechrau’r cyfnod o un flwyddyn sy’n gorffen â’r dyddiad y mae’r aelod yn cyrraedd oedran ymddeol arferol ar yr amod nad yw’r dyddiad hwnnw yn hwyrach na 1 Hydref 2024..

PENNOD 4Trin hawliau a sicrhawyd yn rhinwedd gwerth rhwymedïol

Cymhwyso a dehongli Pennod 4

47.—(1Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i werth rhwymedïol.

(2Yn y Bennod hon, ystyr “gwerth rhwymedïol” yw’r canlynol a dderbynnir gan y rheolwr cynllun mewn cysylltiad ag aelod (“A”)—

(a)gwerth trosglwyddo rhwymedïol, ynghyd ag unrhyw daliad a dderbyniwyd o dan reoliad 37(3);

(b)gwerth trosglwyddiad clwb rhwymedïol, ynghyd ag unrhyw daliad a dderbyniwyd o dan reoliad 42(2).

Trin gwerth rhwymedïol fel pe bai yn y cynllun gwaddol

48.—(1Mae’r rheoliad hwn yn gymwys—

(a)pan dderbyniwyd gwerth rhwymedïol i mewn i gynllun 2015 gan y rheolwr cynllun mewn cysylltiad ag A yn ystod cyfnod gwasanaeth rhwymedïol A, a

(b)pan fo’r buddion sy’n daladwy mewn perthynas â gwasanaeth rhwymedïol A, yn rhinwedd gweithredu’r Rheoliadau hyn neu DPGCSB 2022, yn fuddion cynllun gwaddol.

(2O ran y gwerth rhwymedïol—

(a)nis derbynnir, ac fe’i trinnir fel pe na bai erioed wedi ei dderbyn, i mewn i gynllun 2015, a

(b)fe’i trinnir fel pe bai wedi ei dderbyn, ac fel pe bai bob amser wedi ei dderbyn, yng nghynllun gwaddol A.

(3Mae paragraff (1) yn cael effaith—

(a)at ddibenion penderfynu pa gynllun pensiwn diffoddwyr tân y mae (neu yr oedd ar unrhyw adeg) yn ofynnol iddo dalu buddion i hawliau rhwymedïol trosglwyddedig A neu mewn cysylltiad â hwy, a

(b)yn ddarostyngedig i reoliad 49, at bob diben arall.

Trin hawliau i fuddion a sicrhawyd yn rhinwedd gwerth rhwymedïol

49.—(1Mae paragraffau (2) a (4) yn gymwys pan drinnir gwerth rhwymedïol fel pe bai wedi ei dderbyn i mewn i gynllun gwaddol A yn rhinwedd rheoliad 48.

(2Rhaid i’r rheolwr cynllun roi hawliau i fuddion o dan y cynllun gwaddol mewn perthynas â’r gwerth rhwymedïol sy’n cyfateb i—

(a)pan fyddai cynllun gwaddol A wedi caniatáu trosglwyddo i mewn y gwerth rhwymedïol cyfan pe bai’r trosglwyddiad wedi digwydd yn union cyn 1 Ebrill 2022, yr hawliau i fuddion cynllun gwaddol a fyddai wedi eu sicrhau pe bai’r gwerth rhwymedïol wedi ei drosglwyddo i mewn i’r cynllun hwnnw yn yr un flwyddyn bensiwn berthnasol ag y derbyniwyd y gwerth rhwymedïol;

(b)fel arall—

(i)pan fo gan A wasanaeth cynllun 2015 perthnasol (o fewn ystyr rheoliad 34(2)(b)(i)), yr hawliau i fuddion cynllun gwaddol a fyddai wedi eu sicrhau pe bai’r gyfran honno o’r gwerth rhwymedïol y byddai’r cynllun gwaddol wedi caniatáu iddi gael ei throsglwyddo i mewn wedi ei throsglwyddo i mewn i’r cynllun hwnnw yn yr un flwyddyn bensiwn berthnasol ag y derbyniwyd y gwerth rhwymedïol, ynghyd â’r hawliau i fuddion cynllun 2015 pe bai’r gyfran sy’n weddill o’r gwerth rhwymedïol wedi ei throsglwyddo i mewn i gynllun 2015 yn yr un flwyddyn bensiwn berthnasol ag y derbyniwyd y gwerth rhwymedïol;

(ii)pan nad oes gan A wasanaeth cynllun 2015 perthnasol, yr hawliau i fuddion cynllun gwaddol a fyddai wedi eu sicrhau pe bai’r gyfran honno o’r gwerth rhwymedïol y byddai’r cynllun gwaddol wedi caniatáu iddi gael ei throsglwyddo i mewn wedi ei throsglwyddo i mewn i’r cynllun hwnnw yn yr un flwyddyn bensiwn berthnasol y derbyniwyd y gwerth rhwymedïol ynddi.

(3Pan fo paragraff (2)(b)(ii) yn gymwys, mae swm fel digollediad yn ddyledus gan y rheolwr cynllun i A neu, pan fo A yn ymadawedig, i gynrychiolwyr personol A, sy’n hafal i werth yr hawliau i fuddion cynllun 2015 a fyddai wedi eu sicrhau pe bai’r gyfran o’r gwerth rhwymedïol na fyddai cynllun gwaddol A wedi caniatáu iddi gael ei throsglwyddo i mewn wedi ei throsglwyddo i mewn i gynllun 2015.

(4Mae’r hawliau i fuddion a fyddai fel arall wedi eu sicrhau gan y gwerth rhwymedïol wedi eu diddymu.

(5Mae paragraff (6) yn gymwys pan—

(a)bo’r buddion sy’n daladwy i wasanaeth rhwymedïol A neu mewn cysylltiad â’r gwasanaeth hwnnw yn fuddion cynllun 2015 yn rhinwedd dewisiad adran 6 neu ddewisiad adran 10 (gan gynnwys, yn y naill achos a’r llall, ddewisiad tybiedig), a

(b)byddai’r hawliau i fuddion sy’n daladwy mewn perthynas â gwerth rhwymedïol A fel arall yn fuddion cynllun gwaddol.

(6Pan fo’r paragraff hwn yn gymwys, rhaid i’r rheolwr cynllun, ar ôl ymgynghori ag actiwari’r cynllun pan fo’r gwerth rhwymedïol yn werth trosglwyddiad rhwymedïol, amrywio gwerth yr hawliau hynny fel eu bod yn gyfwerth â hawliau y byddai A wedi eu sicrhau o dan gynllun 2015 pe bai’r gwerth rhwymedïol wedi ei drosglwyddo i mewn i’r cynllun hwnnw yn yr un flwyddyn bensiwn berthnasol ag y derbyniwyd y gwerth rhwymedïol.

(7Yn y rheoliad hwn, mae i “blwyddyn bensiwn berthnasol” yr ystyr a roddir i “relevant pension year” gan gyfarwyddyd 5(16)(c)(i) o Gyfarwyddydau PGC 2022.

Buddion a dalwyd eisoes mewn perthynas â hawliau rhwymedïol a drosglwyddwyd i mewn

50.—(1Mae paragraff (2) yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw fuddion (“y buddion a dalwyd”) y mae cynllun 2015 wedi eu talu ar unrhyw adeg i berson (“P”) i’r graddau—

(a)y’u cyfrifir drwy gyfeirio at werth rhwymedïol, a

(b)y bônt yn fuddion nad oedd gan P, o ganlyniad i reoliad 48(2)(a), hawlogaeth i’w cael gan y cynllun.

(2Mae’r buddion a dalwyd i’w trin at bob diben—

(a)fel pe na baent wedi eu talu i P gan gynllun 2015, ond

(b)fel pe baent wedi eu talu i P yn hytrach gan y cynllun gwaddol.

Buddion pensiwn a buddion cyfandaliad mewn perthynas â gwerth rhwymedïol

51.—(1Mae’r rheoliad hwn yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw fuddion sydd wedi eu talu mewn perthynas â gwerth rhwymedïol a dderbyniwyd mewn perthynas ag aelod dewis ar unwaith.

(2Pan fo, ar yr adeg weithredol—

(a)cyfanred y buddion sydd (ar ôl ystyried effaith rheoliad 50, os oes effaith iddo) wedi eu talu o dan y cynllun gwaddol i unrhyw berson (“y buddiolwr”) mewn cysylltiad â hawliau rhwymedïol A a drosglwyddwyd i mewn, yn fwy na

(b)chyfanred y buddion y mae gan y buddiolwr (ar ôl ystyried effaith rheoliad 48, os oes effaith iddo, mewn perthynas â’r hawliau) hawlogaeth iddynt o dan y cynllun mewn cysylltiad â’r hawliau,

rhaid i’r buddiolwr dalu i’r cynllun swm sy’n hafal i’r gwahaniaeth.

(3Pan fo, ar yr adeg weithredol—

(a)y swm a grybwyllir ym mharagraff (2)(a) yn llai na

(b)y swm a grybwyllir ym mharagraff (2)(b),

rhaid i’r rheolwr cynllun dalu swm sy’n hafal i’r gwahaniaeth i’r buddiolwr.

(4Yn y rheoliad hwn, ystyr “yr adeg weithredol” yw—

(a)os gwneir penderfyniad dewis ar unwaith mewn perthynas â gwasanaeth rhwymedïol A, yr adeg y gwneir y penderfyniad;

(b)fel arall, diwedd y cyfnod dewisiad adran 6 mewn perthynas ag A.

RHAN 7Darpariaeth ynghylch achosion arbennig

PENNOD 1Ymddeol ar sail afiechyd

Cymhwyso a dehongli Rhan 7

52.  Yn y Bennod hon—

ystyr “aelod YSA 1992” (“1992 IHR member”) yw aelod a chanddo hawlogaeth i ddyfarniad afiechyd o dan reol B3 o Atodlen 2 i Orchymyn 1992;

ystyr “aelod YSA 2007” (“2007 IHR member”) yw aelod a chanddo hawlogaeth i bensiwn afiechyd o dan reol 2 o Ran 3 o baragraff 1 o Atodlen 1 i Orchymyn 2007;

ystyr “aelod YSA 2015” (“2015 IHR member”) yw aelod a chanddo hawlogaeth i bensiwn afiechyd o dan reoliad 74 o Reoliadau 2015;

ystyr “buddion afiechyd” (“ill-health benefits”) yw buddion sy’n daladwy yn rhinwedd hawlogaeth aelod YSA 1992, aelod YSA 2007 neu aelod YSA 2015 a grybwyllir yn y rheoliad hwn;

ystyr “buddion afiechyd rhwymedïol” (“remediable ill-health benefits”) yw buddion afiechyd sy’n daladwy mewn perthynas â gwasanaeth rhwymedïol A yn ddiffoddwr tân;

ystyr “cynllun amgen” (“alternative scheme”), mewn perthynas ag—

(a)

aelod YSA 1992 neu aelod YSA 2007, yw cynllun 2015;

(b)

aelod YSA 2015, yw cynllun gwaddol yr aelod;

ystyr “dyfarniad haen isaf” (“lower tier award”), mewn perthynas ag—

(a)

cynllun 1992, yw dyfarniad a bennir yn unol â pharagraff B3(5)(a) o Orchymyn 1992;

(b)

cynllun 2007, yw dyfarniad a bennir yn unol â rheol 2(2) o Ran 3 o baragraff 1 o Atodlen 1 i Orchymyn 2007;

(c)

cynllun 2015, yw pensiwn afiechyd sy’n daladwy o dan reoliad 74(1) ac (1A) o Reoliadau 2015.

ystyr “dyfarniad haen uchaf” (“higher tier award”), mewn perthynas ag—

(a)

cynllun 1992, yw dyfarniad a bennir yn unol â pharagraff B3(5)(b) o Orchymyn 1992;

(b)

cynllun 2007, yw dyfarniad a bennir yn unol â rheol 2(3) o Ran 3 o baragraff 1 o Atodlen 1 i Orchymyn 2007;

(c)

cynllun 2015, yw pensiwn afiechyd sy’n daladwy o dan reoliad 74(2) o Reoliadau 2015;

mae i “YMCA” (“IQMP”) yr un ystyr ag a roddir yn rheoliad 3 o Reoliadau 2015.

Hawlogaeth A i fuddion afiechyd i’w thrin yn gyfartal yng nghynllun amgen A

53.—(1Mae’r rheoliad hwn yn gymwys mewn perthynas ag aelod dewis ar unwaith (“A”) a oedd, yn ystod y cyfnod yn dechrau ar 1 Ebrill 2015 ac yn gorffen ar 31 Mawrth 2022 yn—

(a)aelod YSA 2007, neu

(b)aelod YSA 2015.

(2At ddibenion DPGCSB 2022 a’r Rheoliadau hyn, mae A i’w drin fel pe bai’n bodloni’r gofynion ar gyfer dyfarndal afiechyd cyfatebol yng nghynllun amgen A.

(3Ym mharagraff 2, ystyr “dyfarndal afiechyd cyfatebol yng nghynllun amgen A”, pan fo gan A hawlogaeth i—

(a)dyfarniad haen isaf o dan gynllun 2007, yw dyfarniad haen isaf o dan gynllun 2015;

(b)dyfarniad haen uchaf o dan gynllun 2007, yw dyfarniad haen uchaf o dan gynllun 2015;

(c)dyfarniad haen isaf o dan gynllun 2015, ac—

(i)cynllun gwaddol A yw cynllun 1992, yw dyfarniad haen isaf o dan y cynllun hwnnw;

(ii)cynllun gwaddol A yw cynllun 2007, yw dyfarniad haen isaf o dan y cynllun hwnnw;

(d)dyfarniad haen uchaf o dan gynllun 2015, ac—

(i)cynllun gwaddol A yw cynllun 1992, dyfarniad haen uchaf o dan y cynllun hwnnw;

(ii)cynllun gwaddol A yw cynllun 2007, dyfarniad haen uchaf o dan y cynllun hwnnw.

(4Nid yw unrhyw gwestiwn yn ymwneud â hawlogaeth A i fuddion afiechyd a benderfynwyd yn dilyn atgyfeiriad at YMCA i’w ailystyried yn rhinwedd unrhyw ddarpariaeth yn DPGCSB 2022 nac yn y Rheoliadau hyn.

Hawlogaeth i fuddion afiechyd pan cynllun 1992 yw cynllun gwaddol aelod rhwymedi

54.—(1Mae paragraff (2) yn gymwys—

(a)pan fo aelod rhwymedi (“A”) yn aelod YSA 1992, a

(b)pan nad aseswyd hawlogaeth A i ddyfarniad afiechyd o dan reoliad 74(1)(a) neu (2)(a) o Reoliadau 2015.

(2Rhaid i’r rheolwr cynllun gael barn YMCA am y cwestiynau a ganlyn—

(a)a fyddai A, ar adeg y penderfyniad gwreiddiol, wedi bodloni’r meini prawf o ran hawlogaeth i ddyfarniad haen isaf o dan gynllun 2015, a

(b)a fyddai A, ar adeg y penderfyniad gwreiddiol, wedi bodloni’r meini prawf o ran hawlogaeth i ddyfarniad haen uchaf o dan gynllun 2015.

(3Mae paragraff (4) yn gymwys pan—

(a)cynllun 1992 yw cynllun gwaddol aelod rhwymedi (“A”),

(b)aseswyd hawlogaeth A i ddyfarniad afiechyd o dan reoliad 74(1)(a) neu (2)(a) o Reoliadau 2015,

(c)yn unol â’r rheoliad hwnnw, penderfynwyd—

(i)nad oedd gan A hawlogaeth i ddyfarniad haen isaf na dyfarniad haen uchaf, neu

(ii)bod gan A hawlogaeth i ddyfarniad haen isaf ond nad oedd ganddo hawlogaeth i ddyfarniad haen uchaf,

(d)ymddiswyddodd A neu y’i diswyddwyd o’i gyflogaeth o fewn 3 mis i’r penderfyniad, ac

(e)bo A yn aelod gohiriedig neu’n aelod-bensiynwr o gynllun 2015.

(4Rhaid i’r rheolwr cynllun gael barn YMCA am y cwestiynau a ganlyn—

(a)pan ddyfarnwyd nad oedd gan A hawlogaeth i ddyfarniad haen isaf na dyfarniad haen uchaf—

(i)a fyddai A, ar adeg y penderfyniad gwreiddiol, wedi bodloni’r meini prawf o ran hawlogaeth i ddyfarniad haen isaf o dan gynllun 1992, a

(ii)a fyddai A, ar adeg y penderfyniad gwreiddiol, wedi bodloni’r meini prawf o ran hawlogaeth i ddyfarniad haen uchaf o dan gynllun 1992;

(b)pan ddyfarnwyd bod gan A hawlogaeth i ddyfarniad haen isaf ond nid i ddyfarniad haen uchaf, a fyddai A, ar adeg y penderfyniad gwreiddiol, wedi bodloni’r meini prawf o ran hawlogaeth i ddyfarniad haen uchaf o dan gynllun 1992.

(5Rhaid i YMCA sydd i ddarparu barn am gwestiwn yn unol â’r rheoliad hwn—

(a)archwilio A neu gyf-weld ag ef fel y gwêl yr YMCA hi’n angenrheidiol i ddarparu barn am y cwestiwn, a

(b)rhoi barn ysgrifenedig i’r rheolwr cynllun ac i A sy’n cynnwys penderfyniad ar y cwestiwn.

(6At ddiben darparu barn yn unol â’r rheoliad hwn ac yn ddarostyngedig i baragraff (5)(a), ni chaiff yr YMCA ond rhoi sylw i wybodaeth a oedd ar gael neu a allai fod wedi ei dangos ar adeg y penderfyniad gwreiddiol.

(7Rhaid i’r rheolwr cynllun benderfynu a oes gan A hawlogaeth i ddyfarniad afiechyd, ac mae darpariaethau Rhan 12 o Reoliadau 2015 yn gymwys i—

(a)penderfyniad o dan y paragraff hwn fel pe bai’n benderfyniad o dan reoliad 161 o’r Rheoliadau hynny, a

(b)barn gan yr YMCA a gafwyd o dan y rheoliad hwn fel pe bai’n farn gan yr YMCA a gafwyd yn unol â’r Rhan honno.

(8Pan benderfynir bod gan A hawlogaeth i ddyfarniad afiechyd mae A i’w drin at ddibenion DPGCSB 2022 a’r Rheoliadau hyn fel pe bai ganddo hawlogaeth i’r dyfarniad afiechyd hwnnw o adeg y penderfyniad gwreiddiol.

(9Yn y rheoliad hwn, ystyr “penderfyniad gwreiddiol” yw—

(a)at ddibenion paragraffau (1) a (2), y penderfyniad o dan Ran H o Atodlen 2 i Orchymyn 1992 y cafodd A yn ei rinwedd hawlogaeth i ddyfarniad afiechyd o dan gynllun 1992;

(b)at ddibenion paragraffau (3) a (4), y penderfyniad o dan Bennod 4 o Ran 5 o Reoliadau 2015 y penderfynwyd yn ei rinwedd nad oedd gan A hawlogaeth i ddyfarniad haen isaf nac, yn ôl y digwydd, ddyfarniad haen uchaf o dan gynllun 2015.

Asesu ac ailasesu achosion afiechyd trosiannol penodol

55.—(1Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan—

(a)nad oedd aelod rhwymedi (“A”), yn union cyn 1 Ebrill 2022, yn aelod diogelwch llawn o gynllun 1992 nac yn aelod diogelwch llawn o gynllun 2007,

(b)dechreuodd asesiad (“yr asesiad trosiannol”) o hawlogaeth A i ddyfarniad afiechyd o dan gynllun 2015 cyn 1 Ebrill 2022, ac

(c)na wnaeth y rheolwr cynllun benderfyniad mewn perthynas â’r asesiad trosiannol erbyn diwedd 31 Mawrth 2022.

(2Pan nad yw’r asesiad trosiannol wedi ei benderfynu cyn 1 Hydref 2023, rhaid i’r rheolwr cynllun sicrhau—

(a)bod yr asesiad trosiannol yn cael ei gynnal ar y sail mai 55 yw oedran pensiwn arferol A, a

(b)bod unrhyw gamau a gymerwyd mewn perthynas â’r asesiad trosiannol, y gallai ei ganlyniad fod wedi bod yn wahanol pe baent wedi eu cymryd ar y sail mai 55 yw oedran pensiwn arferol A, yn cael eu hailgymryd.

(3Mae paragraff (4) yn gymwys pan—

(a)bo’r asesiad trosiannol wedi ei benderfynu cyn 1 Hydref 2023, a

(b)penderfynwyd—

(i)nad oedd gan A hawlogaeth i ddyfarniad haen isaf na dyfarniad haen uchaf yng nghynllun 2015, neu

(ii)bod gan A hawlogaeth i ddyfarniad haen isaf yng nghynllun 2015, ond nid i ddyfarniad haen uchaf yn y cynllun hwnnw.

(4Pan fo’r paragraff hwn yn gymwys, rhaid i’r rheolwr cynllun sicrhau—

(a)bod A yn cael ei asesu o ran ei hawlogaeth i ddyfarniad perthnasol o dan gynllun 2015 ar y sail mai 55 yw oedran pensiwn arferol A, a

(b)bod A yn cael ei drin fel pe bai’r asesiad trosiannol heb gael ei gynnal i’r graddau y mae’n ymwneud â’r dyfarniad perthnasol.

(5Yn y rheoliad hwn—

ystyr “aelod diogelwch llawn o gynllun 1992” (“full protection member of the 1992 scheme”) yw aelod diogelwch llawn o gynllun 1992 o fewn ystyr paragraff 9 o Atodlen 2 i Reoliadau 2015;

ystyr “aelod diogelwch llawn o gynllun 2007 (“full protection member of the 2007 scheme”) yw aelod diogelwch llawn o CPNDT o fewn ystyr paragraff 9 o Atodlen 2 i Reoliadau 2015;

ystyr “dyfarniad perthnasol” (“relevant award”) yw—

(a)

pan fo paragraff (3)(b)(i) yn gymwys, ddyfarniad haen isaf a dyfarniad haen uchaf;

(b)

pan fo paragraff 3(b)(ii) yn gymwys, ddyfarniad haen uchaf.

PENNOD 2Achosion arbennig amrywiol

Talu taliadau treth lwfans blynyddol a darparu gwybodaeth

56.  Pan na all aelod rhwymedi roi hysbysiad effeithiol i’r gweinyddwr cynllun o dan adran 237B(3) o Ddeddf Cyllid 2004(21) mewn perthynas â blwyddyn dreth sydd o fewn y cwmpas (o fewn ystyr “in-scope” yng nghyfarwyddyd 7(7) o Gyfarwyddydau PGC 2022) am fod y terfyn amser yn adran 237BA(22) wedi darfod, mae cyfarwyddyd 7(2) i (6) o Gyfarwyddydau PGC 2022 yn gymwys mewn perthynas â’r aelod rhwymedi.

RHAN 8Achosion niwed ar unwaith

Trin achosion niwed ar unwaith

57.—(1Mae’r rheoliad hwn yn gymwys mewn perthynas â gwasanaeth rhwymedïol person (“B”) pan gafwyd rhwymedi niwed ar unwaith mewn perthynas â’r gwasanaeth hwnnw yn rhinwedd bodloni’r naill neu’r llall o’r amodau yn adran 32(2) a (3) (yr “amod rhwymedi niwed ar unwaith”) o DPGCSB 2022.

(2Mae’r Rheoliadau hyn ac adrannau 2 i 30 o DPGCSB 2022 yn gymwys mewn perthynas â gwasanaeth rhwymedïol B fel y maent yn gymwys mewn perthynas ag aelod dewis ar unwaith y gwnaed penderfyniad dewis ar unwaith, mewn cysylltiad â’i wasanaeth rhwymedïol, nad oes dewisiad adran 6 i’w wneud.

(3Mae unrhyw swm a dalwyd fel buddion neu ddigollediad yn unol â’r cytundeb neu (yn ôl y digwydd) y penderfyniad y bodlonwyd yr amod berthnasol yn ei rinwedd i’w drin at ddibenion adran 14 o DPGCSB 2022 fel—

(a)budd cyfandaliad, os talwyd y swm fel cyfandaliad;

(b)budd pensiwn, os talwyd y swm heblaw fel cyfandaliad.

RHAN 9Atebolrwyddau a thalu

PENNOD 1Cymhwyso Rhan 9

Cymhwyso Rhan 9

58.  Mae’r Rhan hon yn gymwys mewn perthynas â swm perthnasol(23) sy’n ddyledus mewn cysylltiad â gwasanaeth rhwymedïol aelod rhwymedi.

PENNOD 2Llog, digollediad a netio

Llog

59.—(1Rhaid i’r rheolwr cynllun gyfrifo llog ar swm perthnasol a ddisgrifir yng nghyfarwyddyd 15 o Gyfarwyddydau PGC 2022 yn unol â darpariaethau cyfarwyddydau 14 a 15 sy’n gymwys i’r disgrifiad hwnnw o swm perthnasol.

(2Mewn perthynas â swm perthnasol nas disgrifir yng nghyfarwyddyd 15 o Gyfarwyddydau PGC 2022, rhaid i’r rheolwr cynllun benderfynu a delir llog ac, os felly, pa gyfradd llog sy’n gymwys a sut y’i cyfrifir.

(3Mae’r darpariaethau a ganlyn o Gyfarwyddydau PGC 2022 yn gymwys i benderfyniad o dan baragraff (2) fel pe bai’n benderfyniad o dan gyfarwyddyd 16(1) o’r Cyfarwyddydau hynny—

(a)cyfarwyddyd 16(2) (darparu eglurhad);

(b)cyfarwyddyd 16(3) a (4) (apelau).

Digollediad anuniongyrchol

60.—(1Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo’r rheolwr cynllun, yn unol â chais o dan reoliad 61, yn penderfynu bod aelod dewis ar unwaith (“A”) wedi mynd i golled y gellir digolledu amdani(24) sy’n golled treth Rhan 4(25) (“colled berthnasol”).

(2Ni chaniateir talu swm o dan adran 23 o DPGCSB 2022 i A fel digollediad mewn cysylltiad â’r golled berthnasol.

(3Yn hytrach, mae swm y budd sy’n daladwy o dan gynllun pensiwn diffoddwyr tân i’w gynyddu i adlewyrchu swm y golled berthnasol yn y modd a benderfynir gan y rheolwr cynllun yn unol â chyfarwyddyd 10(2) i (4) o Gyfarwyddydau PGC 2022.

Ceisiadau am ddigollediad neu ddigollediad anuniongyrchol

61.—(1Mae’r rheoliad hwn yn gymwys mewn perthynas ag—

(a)talu swm perthnasol fel digollediad o dan adran 23(1) o DPGCSB 2022;

(b)cynyddu buddion fel digollediad anuniongyrchol o dan reoliad 60.

(2Nid yw’r swm perthnasol yn daladwy, neu (yn ôl y digwydd) nid yw’r buddion i’w cynyddu, ac eithrio—

(a)pan wneir cais yn unol â chyfarwyddyd 18(1) a (2) o Gyfarwyddydau PGC 2022;

(b)pan fo, yn dod gyda’r cais, unrhyw wybodaeth y mae’r rheolwr cynllun drwy hysbysiad ysgrifenedig yn ei gwneud yn ofynnol i’r person sy’n gwneud y cais (“P”) ei darparu mewn perthynas â’r digollediad arfaethedig sydd—

(i)yn wybodaeth sydd ym meddiant P, neu

(ii)yn wybodaeth y gellir disgwyl yn rhesymol i P gael gafael arni, ac

(c)pan fo’r rheolwr cynllun yn gwneud canfyddiad yn unol â chyfarwyddyd 18(3) o’r Cyfarwyddydau hynny.

(3Mae’r canlynol yn gymwys mewn perthynas â chanfyddiad o dan gyfarwyddyd 18(3) o Gyfarwyddydau PGC 2022—

(a)cyfarwyddyd 18(4) (darparu eglurhad);

(b)cyfarwyddyd 18(5) a (6) (apelau).

Netio

62.—(1Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo—

(a)symiau perthnasol sy’n ddyledus gan berson neu i berson (“P”) i’w talu ar yr un pryd neu ar adegau tebyg, a

(b)y rheolwr cynllun—

(i)wedi canfod y llog (os oes llog) sydd i’w dalu ar y symiau perthnasol yn unol â rheoliad 59, a

(ii)wedi lleihau’r symiau perthnasol yn ôl symiau rhyddhad treth yn unol â rheoliad 63.

(2Caiff y rheolwr cynllun benderfynu, yn unol â chyfarwyddyd 19(2) i (5) o Gyfarwyddydau PGC 2022, fod rhaid cyfuno’r symiau perthnasol (ac unrhyw log arnynt) a bod rhaid i P dalu’r gwahaniaeth i’r cynllun neu (yn ôl y digwydd) fod rhaid i’r cynllun dalu’r gwahaniaeth i P.

(3Mae’r darpariaethau a ganlyn o Gyfarwyddydau PGC 2022 yn gymwys mewn perthynas â phenderfyniad o dan baragraff (2) fel pe bai’n benderfyniad o dan gyfarwyddyd 19(1) o’r Cyfarwyddydau hynny—

(a)cyfarwyddyd 19(6) (darparu eglurhad);

(b)cyfarwyddyd 19(7) ac (8) (apelau).

PENNOD 3Lleihau a hepgor atebolrwyddau

Gofyniad i leihau atebolrwyddau yn ôl symiau rhyddhad treth

63.—(1Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo—

(a)atebolrwydd yn ddyledus gan berson i dalu cyfraniadau pensiwn mewn perthynas â gwasanaeth rhwymedïol aelod rhwymedi, neu

(b)atebolrwydd yn ddyledus gan y rheolwr cynllun i dalu digollediad mewn perthynas â gwasanaeth o’r fath,

o dan adran 15, 16 neu 17 o DPGCSB 2022.

(2Rhaid i’r rheolwr cynllun leihau’r atebolrwydd yn ôl symiau rhyddhad treth(26)

(a)a ganfyddir yn unol â chyfarwyddyd 4(5) i (9) o Gyfarwyddydau PGC 2022, a

(b)cyn i’r atebolrwydd gael ei netio yn unol â rheoliad 62.

(3Pan fo’r rheolwr cynllun yn gwneud canfyddiad o dan gyfarwyddyd 4(8) o Gyfarwyddydau PGC 2022 yn unol â pharagraff (2)(a) o’r rheoliad hwn, mae’r canlynol yn gymwys mewn perthynas â’r canfyddiad hwnnw—

(a)cyfarwyddyd 4(10) (darparu eglurhad);

(b)cyfarwyddyd 4(11) a (12) (apelau).

Hepgor symiau sy’n ddyledus gan oroeswr perthnasol i’r rheolwr cynllun

64.—(1Rhaid i’r rheolwr cynllun hepgor swm sy’n ddyledus gan oroeswr perthnasol i’r cynllun o dan—

(a)adran 14 o DPGCSB 2022, neu

(b)y Rheoliadau hyn.

(2At ddibenion paragraff (1) “goroeswr perthnasol” yw unrhyw berson heblaw am berson (“PD”) a bennir yn rheoliad 10(2)(b) a 14(2)(b) (penderfynwyr cymwys o ran gwasanaeth rhwymedïol aelod ymadawedig), sy’n dod yn gymwys i dalu swm i’r cynllun o ganlyniad i—

(a)penderfyniad a wneir gan PD yn unol ag—

(i)rheoliad 10(2)(b) (penderfyniad dewis ar unwaith ar gyfer buddion cynllun 2015 neu fuddion cynllun gwaddol),

(ii)rheoliad 14(2)(b) (penderfyniad dewis gohiriedig ar gyfer buddion cynllun 2015 neu fuddion cynllun gwaddol: cyffredinol),

(b)dewisiad tybiedig yn unol ag—

(i)rheoliad 12(3) (penderfyniad dewis ar unwaith: dewisiad tybiedig), neu

(ii)rheoliad 18(2) (penderfyniad dewis gohiriedig: dewisiad tybiedig).

Hepgor symiau sy’n ddyledus gan berson perthnasol sydd wedi gwahanu i’r rheolwr cynllun

65.—(1Rhaid i’r rheolwr cynllun hepgor swm sy’n ddyledus gan berson perthnasol sydd wedi gwahanu i’r cynllun o dan—

(a)adran 14 o DPGCSB 2022, neu

(b)y Rheoliadau hyn,

pan fo’r swm yn gysylltiedig â threfniant ar ysgariad, dirymiad neu ddiddymiad heblaw am orchymyn rhannu pensiwn.

(2Person yw “person perthnasol sydd wedi gwahanu”—

(a)sy’n ddarostyngedig i drefniant ar ysgariad, dirymiad neu ddiddymiad heblaw am orchymyn rhannu pensiwn, ac

(b)y mae ei atebolrwydd am swm a grybwyllir o dan baragraff (1) yn ymwneud â gwasanaeth rhwymedïol person arall.

(3Mae i “gorchymyn rhannu pensiwn” yr un ystyr ag a roddir yn Rhan 4 o’r Rheoliadau hyn.

(4Nid yw “gwasanaeth adferadwy”, at ddibenion paragraff (2)(b), yn cynnwys gwasanaeth adferadwy sy’n wasanaeth cymysg o fewn ystyr adran 19 o DPGCSB 2022.

Pŵer i leihau neu hepgor symiau sy’n ddyledus gan gynrychiolydd personol i’r rheolwr cynllun

66.—(1Caiff y rheolwr cynllun leihau neu hepgor swm sy’n ddyledus gan gynrychiolydd personol aelod rhwymedi ymadawedig i’r cynllun o dan—

(a)adran 15 o DPGCSB 2022, neu

(b)y Rheoliadau hyn.

(2Wrth leihau neu hepgor swm o dan baragraff (1), rhaid i’r rheolwr cynllun gydymffurfio â’r gofynion a nodir yng nghyfarwyddyd 4(1)(a) i (c) o Gyfarwyddydau PGC 2022 (ac mae’r cyfeiriad yng nghyfarwyddyd 4(1)(c) at “any scheme regulations made by virtue of section 26(1)(b) of the PSPJOA 2022” i’w ddarllen fel cyfeiriad at reoliad 71).

Cytuno i hepgor atebolrwydd sy’n ddyledus gan y rheolwr cynllun mewn cysylltiad â chywiriad ar unwaith

67.—(1Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo atebolrwydd yn ddyledus gan y rheolwr cynllun i dalu digollediad i berson (“P”) o dan adran 16(3) o DPGCSB 2022.

(2Rhaid i’r rheolwr cynllun hysbysu P, drwy hysbysiad yn ysgrifenedig—

(a)am hawlogaeth P o dan adran 16(3) o DPGCSB 2022,

(b)y bydd P, os yw, maes o law, yn gwneud dewisiad adran 10 ar gyfer buddion cynllun 2015, yn agored i ad-dalu swm cyfwerth i’r hyn a gafwyd yn ddigollediad yn unol ag adran 16(3) o DPGCSB 2022, gyda llog a gyfrifir yn unol â’r Rhan hon, ac

(c)y gall P gytuno â’r rheolwr cynllun i hepgor atebolrwydd y rheolwr cynllun.

(3Rhaid i’r rheolwr cynllun gytuno i hepgor yr atebolrwydd—

(a)os gwna P gais ysgrifenedig i’r rheolwr cynllun i hepgor yr atebolrwydd, a

(b)os gwneir cais o’r fath o fewn 12 mis i ddyroddi hysbysiad o dan baragraff (2).

(4O ran cytundeb o’r fath—

(a)rhaid ei wneud yn ysgrifenedig, a

(b)caniateir ei ddad-wneud â chytundeb y rheolwr cynllun a P.

(5Os na wneir cytundeb o dan baragraff (4), mae hawlogaeth P i hepgor yr atebolrwydd yn darfod.

(6Mae cytundeb o dan baragraff (4) yn cael ei ddad-wneud neu fel arall yn peidio â bod yn gymwys—

(a)pan fo diwedd y cyfnod dewisiad adran 10 mewn perthynas â P wedi mynd heibio, a

(b)pan nad oes dewisiad dewis gohiriedig wedi ei wneud, neu pan fernir nad yw wedi ei wneud, mewn perthynas â gwasanaeth rhwymedïol P.

(7Pan na wneir cytundeb yn unol â pharagraff (4) neu pan fo cytundeb yn cael ei ddad-wneud neu fel arall yn peidio â bod yn gymwys, mae’r atebolrwydd a grybwyllir ym mharagraff (1) yn ddyledus gan y rheolwr cynllun i P.

PENNOD 4Talu atebolrwyddau net

Cymhwyso a dehongli Pennod 4

68.  Mae’r Bennod hon yn gymwys mewn cysylltiad â swm perthnasol (ynghyd ag unrhyw log ar y swm perthnasol hwnnw) sy’n ddyledus ar ôl ystyried effaith rheoliadau 59 i 67, os oes effaith iddynt (“atebolrwydd net”).

Talu symiau sy’n ddyledus i’r rheolwr cynllun

69.—(1Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo atebolrwydd net yn ddyledus gan berson (“P”) i’r rheolwr cynllun.

(2Rhaid i’r rheolwr cynllun anfon hysbysiad yn ysgrifenedig at P yn nodi—

(a)sut y mae’r atebolrwydd net wedi ei gyfrifo,

(b)eglurhad o’r amgylchiadau pan ganiateir lleihau neu hepgor yr atebolrwydd net o dan reoliadau 64 i 66,

(c)pan gyfrifir yr atebolrwydd net drwy gyfeirio at swm fel digollediad o dan adran 16(3) o DPGCSB 2022, eglurhad o’r cytundeb y caniateir ei wneud o dan reoliad 67,

(d)pryd a sut y mae rhaid talu’r atebolrwydd net, ac

(e)canlyniadau peidio â thalu’r atebolrwydd net.

(3Pan fo—

(a)y rheolwr cynllun wedi anfon hysbysiad o dan baragraff (2), a

(b)swm yr atebolrwydd net wedi ei addasu wedi hynny,

rhaid i’r rheolwr cynllun anfon hysbysiad arall yn ysgrifenedig at P o dan baragraff (2).

(4Rhaid i P dalu swm yr atebolrwydd net i’r rheolwr cynllun—

(a)pan fo’r atebolrwydd net yn ymwneud â gwasanaeth rhwymedïol—

(i)aelod dewis ar unwaith, cyn diwedd y cyfnod o 6 mis sy’n dechrau â thrannoeth y diwrnod y caiff P yr hysbysiad diweddaraf o dan baragraff (2);

(ii)aelod dewis gohiriedig, cyn y diwrnod y daw buddion yn daladwy mewn perthynas â gwasanaeth rhwymedïol aelod, neu

(b)yn unol â chytundeb o dan baragraff (5), ac o fewn cyfnod o 10 o flynyddoedd sy’n dechrau ar ddyddiad cytundeb o’r fath.

(5Caiff P a’r rheolwr cynllun gytuno bod yr atebolrwydd net i’w dalu’n rhannol neu’n llawn fel—

(a)cyfandaliad, neu

(b)rhandaliadau, pan fo’r atebolrwydd net yn £100 neu ragor.

(6Os yw P, yn ystod cyfnod cytundeb o dan baragraff (4)—

(a)yn ymddeol ar unrhyw sail, neu

(b)yn marw,

caniateir talu’r balans sy’n ddyledus o dan y cytundeb fel didyniadau o unrhyw fuddion (gan gynnwys budd cyfandaliad) y mae gan P hawlogaeth iddynt o dan gynllun pensiwn diffoddwyr tân.

(7Pan na fo P yn talu unrhyw swm sy’n dod yn ddyledus yn rhinwedd paragraff (4) neu gytundeb o dan baragraff (5), caiff y rheolwr cynllun ddidynnu o fuddion sy’n daladwy i P o dan gynllun pensiwn diffoddwyr tân unrhyw symiau sy’n ymddangos yn rhesymol i’r rheolwr cynllun at ddiben rhyddhau atebolrwydd P.

Talu symiau sy’n ddyledus i berson

70.—(1Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo atebolrwydd net yn ddyledus gan y rheolwr cynllun i berson (“P”).

(2Rhaid i’r rheolwr cynllun dalu swm yr atebolrwydd net i P—

(a)cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl i’r rheolwr cynllun ganfod swm yr atebolrwydd net, neu

(b)pan fo’r rheolwr cynllun yn ei gwneud yn ofynnol i P ddarparu gwybodaeth yn unol â pharagraff (3), cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl cael yr wybodaeth honno.

(3Cyn talu swm atebolrwydd net sy’n ddyledus i P, caiff y rheolwr cynllun, drwy hysbysiad ysgrifenedig a roddir cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl i’r rheolwr cynllun ganfod swm yr atebolrwydd net, ei gwneud yn ofynnol i P ddarparu gwybodaeth mewn perthynas â thalu’r atebolrwydd net sydd—

(a)yn wybodaeth sydd ym meddiant P, neu

(b)yn wybodaeth y gellir disgwyl yn rhesymol i P gael gafael arni.

Hannah Blythyn

Y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol, o dan awdurdod y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

4 September 2023

Cydsyniwn

Scott Mann

Stuart Anderson

Dau o Arglwydd Gomisiynwyr Trysorlys Ei Fawrhydi

31 Awst 2023

Rheoliadau 4(3), 6(2), 10(2) a 14(2)

YR ATODLENPenderfynwyr cymwys ar gyfer aelodau ymadawedig

Dehongli

1.—(1Yn yr Atodlen hon—

ystyr “buddiolwr” (“beneficiary”) yw person sydd wedi cael hawlogaeth i gael unrhyw fudd marwolaeth;

ystyr “dewisiad” (“election”) yw dewisiad gwasanaeth a optiwyd allan, penderfyniad dewisiad dewis ar unwaith neu benderfyniad dewisiad dewis gohiriedig;

ystyr “goroeswr sy’n blentyn cymwys” (“eligible child survivor”) yw “plentyn cymwys” (“eligible child”) o fewn yr ystyr a roddir yn rheoliad 94(2) o Reoliadau 2015 ac sydd o dan 18 oed;

ystyr “goroeswr sy’n oedolyn cymwys” (“eligible adult survivor”) yw—

(a)

“partner sy’n goroesi” o fewn yr ystyr a roddir yn rheoliad 85(1) a (2) o Reoliadau 2015, neu

(b)

“plentyn” o fewn yr ystyr a roddir yn rheoliad 94(1) o Reoliadau 2015 ac sy’n 18 oed neu’n hŷn;

ystyr “penderfynwr cymwys” (“eligible decision-maker”) yw’r person a gaiff wneud—

(a)

dewisiad gwasanaeth a optiwyd allan fel y crybwyllir yn rheoliad 6;

(b)

dewisiad dewis ar unwaith fel y crybwyllir yn rheoliad 10;

(c)

penderfyniad dewisiad dewis gohiriedig fel y crybwyllir yn rheoliad 14.

Unig fuddiolwr: goroeswr sy’n oedolyn cymwys

2.  Pan fo person—

(a)yn unig fuddiolwr, a

(b)yn oroeswr sy’n oedolyn cymwys,

y person hwnnw yw’r penderfynwr cymwys.

Unig fuddiolwr: goroeswr sy’n blentyn cymwys

3.  Pan fo person (“G”)—

(a)yn unig fuddiolwr, a

(b)yn oroeswr sy’n blentyn cymwys,

rhiant neu warcheidwad G yw’r penderfynwr cymwys.

Mwy nag un buddiolwr: goroeswyr sy’n oedolion cymwys

4.—(1Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan mai dau neu ragor o oroeswyr sy’n oedolion cymwys yw’r buddiolwyr.

(2Pan fo un o’r goroeswyr sy’n oedolion cymwys—

(a)yn briod,

(b)yn bartner sifil, neu

(c)yn bartner sy’n cyd-fyw

i’r ymadawedig, y person hwnnw yw’r penderfynwr cymwys.

(3Pan na fo’r un o’r goroeswyr sy’n oedolion cymwys yn berson a grybwyllir yn is-baragraff (2), y penderfynwr cymwys yw—

(a)y person y cytunir arno rhyngddynt, yn unol â pharagraff 6 isod, y mae rhaid iddo fod yn un ohonynt hwy, neu

(b)os nad oes cytundeb, y rheolwr cynllun.

Mwy nag un buddiolwr: goroeswyr sy’n blant cymwys

5.  Pan mai plant yw’r unig rai sy’n fuddiolwyr, y mae dau neu ragor ohonynt yn oroeswyr sy’n blant cymwys, y canlynol yw’r penderfynwr cymwys—

(a)pan fo pob un o’r goroeswyr sy’n blant cymwys yn byw ar yr un aelwyd, rhiant neu warcheidwad y plant cymwys;

(b)pan fo’r goroeswyr sy’n blant cymwys yn byw ar aelwydydd gwahanol, y person y cytunir arno gan rieni neu warcheidwaid y goroeswyr sy’n blant cymwys, yn unol â pharagraff 6 isod, y mae rhaid iddo fod yn un ohonynt hwy, neu

(c)os nad oes cytundeb, y rheolwr cynllun.

Mwy nag un buddiolwr: gofynion ychwanegol

6.—(1Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan fo, o dan baragraffau 4(3)(a) a 5(b), y penderfynwr cymwys i’w gytuno naill ai gan fwy nag un goroeswr sy’n oedolyn cymwys, neu, yn ôl y digwydd, fwy nag un rhiant neu warcheidwad goroeswyr sy’n blant cymwys (“y penderfynwyr a all fod yn gymwys”).

(2Rhaid i’r rheolwr cynllun—

(a)ceisio cael gwybod pwy yw’r holl benderfynwyr a all fod yn gymwys hynny a’u hysbysu bod angen iddynt gytuno pwy yw’r penderfynwr cymwys mewn cysylltiad â’r ymadawedig yn unol â’r paragraff hwn, a

(b)darparu hysbysiad mewn cysylltiad â’r ymadawedig i bob penderfynwr a all fod yn gymwys, sy’n nodi—

(i)yr wybodaeth y byddai’n ofynnol ei darparu o dan reoliad 4, pe bai’r hysbysiad yn ddatganiad gwasanaeth rhwymedïol, a

(ii)eglurhad o’r broses a nodir yn is-baragraff (3).

(3Rhaid i’r penderfynwyr a all fod yn gymwys—

(a)cytuno’n unfrydol ar y penderfynwr cymwys (“y penderfynwr cymwys y cytunwyd arno”), a

(b)rhoi gwybod gyda’i gilydd i’r rheolwr cynllun pwy yw’r penderfynwr cymwys y cytunwyd arno, yn ysgrifenedig, o fewn 6 mis i gael yr hysbysiad a grybwyllir yn is-baragraff (2)(b).

(4Os nad yw’r rheolwr cynllun yn cael hysbysiad yn unol ag is-baragraff (3)(b) uchod, y penderfynwr cymwys fydd y rheolwr cynllun yn union ar ôl i’r dyddiad ar gyfer hysbysiad yn yr is-baragraff hwnnw ddod i ben.

Achosion eraill

7.  Mewn unrhyw achos nas cwmpesir gan baragraffau 2 i 6, y rheolwr cynllun yw’r penderfynwr cymwys.

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae Deddf Pensiynau’r Gwasanaethau Cyhoeddus 2013 (“DPGC 2013”) yn gwneud darpariaeth ac yn rhoi pwerau i wneud darpariaeth bellach (ar ffurf “rheoliadau cynllun” fel y diffinnir “scheme regulations” yn adran 1 o DPGC 2013) ynghylch sefydlu cynlluniau pensiwn y gwasanaethau cyhoeddus. Rheoliadau Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân (Cymru) 2015 (“cynllun 2015”) yw’r rheoliadau cynllun sy’n sefydlu cynllun pensiwn olynol y diffoddwyr tân (“y cynllun diwygiedig”) i’r cynlluniau a sefydlwyd gan Orchymyn Cynllun Pensiwn y Dynion Tân 1992 a Gorchymyn Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân (Cymru) 2007 (“y cynlluniau gwaddol”). Roedd cynllun 2015 yn darparu ar gyfer diogelwch trosiannol i garfanau penodol o aelodau o gynlluniau gwaddol, y cafwyd eu bod yn gwahaniaethu’n anghyfreithlon rhwng aelodau ar sail oedran.

Mae Deddf Pensiynau’r Gwasanaethau Cyhoeddus a Swyddi Barnwrol 2022 (“DPGCSB 2022”), ym Mhennod 1, yn gwneud darpariaeth, ac yn rhoi pwerau i reoliadau cynllun o dan DPGC 2013 wneud darpariaeth bellach, mewn perthynas â gwasanaeth penodedig (“gwasanaeth rhwymedïol” fel y diffinnir “remediable service” yn adran 1 o DPGCSB 2022) o aelodau a oedd yn cael budd diogelwch trosiannol, ac aelodau nad oeddent yn cael budd diogelwch trosiannol dim ond oherwydd eu hoedran. Mae adran 27 o DPGCSB 2022 yn ei gwneud yn ofynnol i bwerau penodol i wneud rheoliadau cynllun gael eu harfer yn unol â chyfarwyddydau’r Trysorlys.

Mae’r Rheoliadau hyn yn rheoliadau cynllun o dan DPGC 2013 ac yn unol â DPGCSB 2022 mewn perthynas â gwasanaeth rhwymedïol aelod mewn cynllun pensiwn diffoddwyr tân. Fe’u gwneir, i’r graddau y bo’n ofynnol gan adran 27 o DPGCSB 2022, yn unol â chyfarwyddydau’r Trysorlys o dan yr adran honno (ar ffurf Cyfarwyddydau Pensiynau’r Gwasanaethau Cyhoeddus (Arfer Pwerau, Digolledu a Gwybodaeth) 2022). Mae effaith ôl-weithredol i’r Rheoliadau hyn, am y rhain gweler adran 3(3)(b) o DPGC 2013.

Mae Rhan 2 o’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ynghylch pryd ac i bwy y mae datganiad o wasanaeth rhwymedïol i’w ddarparu gan y rheolwr cynllun, yn ogystal â chynnwys y datganiad o wasanaeth rhwymedïol.

Mae Rhan 3 yn gwneud darpariaeth ynghylch y prif benderfyniadau y caniateir eu gwneud mewn perthynas â gwasanaeth rhwymedïol aelod—

(a)mae Pennod 1 yn gwneud darpariaeth ynghylch pryd a sut y caniateir gwneud dewisiad i adfer gwasanaeth yr optiodd aelod allan o gynllun pensiwn diffoddwyr tân mewn cysylltiad ag ef a’i drin fel gwasanaeth rhwymedïol;

(b)mae Pennod 2 yn gwneud darpariaeth ynghylch pryd a sut y caniateir gwneud penderfyniad, neu farnu bod penderfyniad wedi ei wneud, ynghylch a yw gwasanaeth rhwymedïol aelod-bensiynwr neu aelod ymadawedig (“aelod dewis ar unwaith”) i’w drin fel gwasanaeth yng nghynllun gwaddol yr aelod neu yng nghynllun 2015;

(c)mae Pennod 3 yn gwneud darpariaeth debyg i Bennod 2, ond mewn perthynas â gwasanaeth rhwymedïol aelod actif neu aelod gohiriedig .

Mae Rhan 4 yn gwneud darpariaeth ynghylch achosion pan fo’r hawliau pensiwn a sicrhawyd yn rhinwedd gwasanaeth rhwymedïol aelod o dan ystyriaeth mewn achos sy’n ymwneud â’r aelod yn gwahanu oddi wrth briod neu bartner sifil—

(a)mae Pennod 1 yn gwneud darpariaeth ynghylch rhannu gwerth yr hawliau hynny o dan orchymyn rhannu pensiwn pan fônt yn ddarostyngedig i ddebyd pensiwn o dan adran 29 o Ddeddf Diwygio Lles a Phensiynau 1999. Mae’n darparu, yn benodol, ar gyfer cyfrifo gwerth neu, pan fo hynny’n briodol, ailgyfrifo gwerth debyd pensiwn a chredyd pensiwn mewn perthynas â’r hawliau;

(b)mae Pennod 2 yn gwneud darpariaeth ynghylch cyfrifo gwerth hawliau at ddibenion rhannu’r hawliau hynny o dan drefniant heblaw gorchymyn rhannu pensiwn.

Mae Rhan 5 yn gwneud darpariaeth ynghylch cyfraniadau gwirfoddol ar ffurf cyfandaliad a dalwyd gan aelod yn ystod cyfnod ei wasanaeth rhwymedïol, a chyfraniadau cyfnodol a dalwyd gan aelod o dan drefniant a ddechreuodd yn ystod cyfnod ei wasanaeth rhwymedïol, er mwyn sicrhau hawliau pensiwn pellach, a threfniadau ôl-weithredol er mwyn sicrhau’r hawliau pellach hynny mewn cysylltiad â gwasanaeth rhwymedïol aelod—

(a)mae rheoliad 30 yn gwneud darpariaeth y mae digollediad i’w dalu odani mewn perthynas â chyfraniadau gwirfoddol a ddefnyddiwyd i sicrhau hawliau i bensiwn ychwanegol cynllun 2015 yn ystod cyfnod ei wasanaeth rhwymedïol;

(b)mae rheoliad 31 yn gwneud darpariaeth y mae digollediad i’w dalu odani mewn perthynas â chyfraniadau gwirfoddol a ddefnyddiwyd i sicrhau hawliau i flynyddoedd ychwanegol cynllun gwaddol yn ystod cyfnod ei wasanaeth rhwymedïol pan fo’r buddion sydd i’w talu mewn perthynas â gwasanaeth rhwymedïol aelod yn fuddion cynllun 2015;

(c)mae rheoliad 32 yn gwneud darpariaeth y caiff aelod a chanddo wasanaeth rhwymedïol yng nghynllun 2015 wneud dewisiad odani i ymrwymo i drefniant ôl-weithredol i sicrhau blynyddoedd ychwanegol yng nghynllun gwaddol yr aelod mewn cysylltiad â’r gwasanaeth rhwymedïol hwnnw.

Mae Rhan 6 yn gwneud darpariaeth ynghylch trosglwyddo hawliau pensiwn i mewn i gynllun pensiwn diffoddwyr tân ac allan o gynllun o’r fath yn ystod cyfnod gwasanaeth rhwymedïol aelod—

(a)mae Pennod 1 yn gwneud darpariaeth ynghylch, ymhlith pethau eraill, ddarparu datganiad o wasanaeth rhwymedïol i berson a chanddo hawliau a drosglwyddwyd allan mewn cysylltiad â gwasanaeth rhwymedïol ac nad yw’n ofynnol fel arall i ddatganiad o wasanaeth rhwymedïol gael ei ddarparu mewn cysylltiad ag ef;

(b)mae Pennod 2 yn gwneud darpariaeth ynghylch trosglwyddiadau i mewn ac allan o gynllun pensiwn diffoddwyr tân ac allan o gynllun o’r fath ar sail cyfwerth ariannol, gan gynnwys darpariaeth ynghylch cyfrifo gwerth (a, phan fo hynny’n briodol, ailgyfrifo gwerth) gwerth trosglwyddo cyfwerth ariannol, a gwneud a derbyn taliadau mewn perthynas â gwerth trosglwyddo hawliau a sicrhawyd yn rhinwedd gwasanaeth rhwymedïol;

(c)mae Pennod 3 yn gwneud darpariaeth debyg i Bennod 2, ond mewn perthynas â throsglwyddiadau i mewn i gynllun pensiwn diffoddwyr tân ac allan o gynllun o’r fath ar sail clwb;

(d)mae Pennod 4 yn gwneud darpariaeth ar gyfer—

(i)trin trosglwyddiadau i mewn i gynllun 2015 mewn cysylltiad â hawliau a sicrhawyd yn rhinwedd gwasanaeth rhwymedïol fel pe baent wedi eu trosglwyddo i mewn i gynllun gwaddol yr aelod pan fo’r buddion a ddaw’n daladwy mewn cysylltiad â gwasanaeth rhwymedïol yr aelod yn fuddion cynllun gwaddol;

(ii)rhoi neu amrywio hawliau yng nghynllun gwaddol aelod i adlewyrchu newid yng ngwerth yr hawliau hynny yn rhinwedd DPGCSB 2022 a’r Rheoliadau hyn;

(iii)cywiriadau ariannol i unrhyw fuddion pensiwn a dalwyd mewn cysylltiad â hawliau a drosglwyddwyd i mewn aelod dewis ar unwaith.

Mae Rhan 7 yn gwneud darpariaeth ynghylch ymddeol ar sail afiechyd—

(a)mae rheoliad 53 yn gwneud darpariaeth ynghylch yr achosion pan fernir bod aelod a oedd yn bodloni’r gofynion ar gyfer dyfarniad ymddeol ar sail afiechyd mewn un cynllun pensiwn diffoddwyr tân yn bodloni’r gofynion yn ei gynllun pensiwn diffoddwyr tân amgen;

(b)mae rheoliad 54 yn gwneud darpariaeth y mae aelod sydd wedi cael dyfarniad ymddeol ar sail afiechyd o dan Orchymyn Cynllun Pensiwn y Dynion Tân 1992 i’w asesu odani o ran ei gymhwystra i gael dyfarniad haen uchaf yng nghynllun 2015.

Mae Rhan 8 yn gwneud darpariaeth mewn perthynas ag achosion pan fo person eisoes wedi cael rhwymedi mewn perthynas â’i wasanaeth rhwymedïol. Trinnir personau o’r fath at ddibenion DPGCSB 2022 a’r Rheoliadau hyn fel pe baent yn aelod dewis ar unwaith sydd wedi gwneud dewisiad i gael buddion cynllun gwaddol mewn perthynas â’i wasanaeth rhwymedïol.

Mae Rhan 9 yn gwneud darpariaeth ynghylch unrhyw symiau (“symiau perthnasol”) sy’n ddyledus i berson neu gan berson o ganlyniad i DPGCSB 2022 neu’r Rheoliadau hyn—

(a)mae Pennod 2 yn gwneud darpariaeth ar gyfer cyfrifo’r llog ar symiau perthnasol, ar gyfer cynyddu buddion yn lle talu swm perthnasol, ar gyfer gwneud cais pan fo person yn dymuno hawlio digollediad, ac ar gyfer netio symiau perthnasol sy’n ddyledus i berson a chan berson;

(b)mae Pennod 3 yn gwneud darpariaeth ynghylch lleihau a hepgor symiau perthnasol, ac yn benodol ofyniad i’r rheolwr cynllun leihau rhai symiau perthnasol yn ôl symiau rhyddhad treth, y gofyniad i’r rheolwr cynllun hepgor symiau sy’n ddyledus gan oroeswyr perthnasol a phersonau perthnasol sydd wedi gwahanu, disgresiwn y rheolwr cynllun i leihau neu hepgor symiau perthnasol sy’n ddyledus gan berson i gynllun o dan amgylchiadau penodol, a’r opsiwn i ohirio talu symiau perthnasol penodol sy’n ddyledus i aelod hyd nes y gwneir dewisiad mewn perthynas â gwasanaeth rhwymedïol yr aelod;

(c)mae Pennod 4 yn gwneud darpariaeth ynghylch pryd a sut y mae rhaid talu symiau perthnasol.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth Cangen y Gwasanaethau Tân, Llywodraeth Cymru, Rhyd-y-car, Merthyr Tudful, CF48 1UZ.

(1)

2013 p. 25. Diwygiwyd adran 3(1) gan adran 94(2) o DPGCSB 2022, a mewnosodwyd adran 3(2)(c) gan adran 94(3) o’r Ddeddf honno.

(3)

Gweler adran 109(3) o DPGCSB 2022 am ystyr “pensioner member”.

(4)

Gwneud ar 14 Rhagfyr 2022. Cyhoeddwyd ar 15 Rhagfyr 2022 ac ar gael ar-lein ar www.gov.uk. Mae copi caled ar gael drwy wneud cais ysgrifenedig i Drysorlys Ei Fawrhydi i His Majesty’s Treasury, 1 Horse Guards Road, London, SW1A 2HQ.

(5)

Gweler adran 4 o DPGCSB 2022 am ystyr “the relevant Chapter 1 legacy scheme”.

(6)

Gweler adran 1 o DPGCSB 2022 am ystyr “remediable service”.

(7)

O.S. 1992/129. Newidiwyd enw’r cynllun i Gynllun Pensiwn y Dynion Tân (Cymru) gan O.S. 2004/2918 (Cy. 257). Ddiwygiwyd ymhellach gan O.S. 2014/3242 (Cy. 329) a 2015/1016 (Cy. 71). Nid yw’r diwygiadau eraill a wnaed yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(8)

O.S. 2007/1072 (Cy. 110), y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(9)

O.S. 2015/622 (Cy. 50); yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S. 2015/1016 (Cy. 71) ac O.S. 2018/576 (Cy. 103).

(10)

Gweler adran 29(10) o DPGCSB 2022 am ystyr “the relevant date”.

(11)

Gweler adran 109(2) o DPGCSB 2022 am ystyr “active member”.

(12)

Gweler adran 109(4) o DPGCSB 2022 am ystyr “deferred member”.

(13)

Yn unol ag adran 29(9) o DPGCSB 2022, ni chaniateir ond gwneud un cais o dan reoliad 4(2)(b)(ii) yn ystod unrhyw gyfnod o 12 mis.

(14)

Gweler adrannau 5(7) (i’w darllen gydag adran 4) a 36 o DPGCSB 2022 am ystyr gwasanaeth a optiwyd allan perthnasol mewn perthynas â chynllun gwaddol Pennod 1 (megis cynlluniau 1992 a 2007).

(15)

Gweler adran 7(2) o DPGCSB 2022 am ystyr “the end of the section 6 election period”.

(16)

Gweler adran 19(7) o DPGCSB 2022 am ystyron “pension debit” a “pension credit”.

(17)

Ystyr “DDLlPh 1999”, yn unol â’r diffiniad o “WRPA 1999” yn adran 110(1) o DPGCSB 2022, yw Deddf Diwygio Lles a Phensiynau 1999 (p. 30).

(18)

Yn unol ag adran 110(1) o DPGCSB 2022, ystyr “WRPA 1999” yw Deddf Diwygio Lles a Phensiynau 1999 (p. 30).

(19)

Gweler adran 33 o DPGCSB 2022 am ystyr “Chapter 1 scheme”.

(20)

O.S. 2009/1171. Diwygiwyd rheoliad 6 gan adran 42(6)(a) o Ddeddf Cyllid 2014 (p. 26).

(21)

2004 p. 12. Mewnosodwyd adran 237B gan baragraff 15 o Atodlen 17 i Ddeddf Cyllid 2011 (p. 11).

(22)

Mewnosodwyd adran 237BA gan adran 9(3) o Ddeddf Cyllid 2022 (p. 3).

(23)

Gweler adran 26(3) o DPGCSB 2022 am ystyr “relevant amounts”.

(24)

Gweler adran 23 o DPGCSB 2022 a chyfarwyddyd 11 o Gyfarwyddydau PGC 2022 am ystyr “compensatable loss”.

(25)

Gweler adran 23(9) o DPGCSB 2022 am ystyr “Part 4 tax loss”.

(26)

Gweler adran 18(4) o DPGCSB 2022 am ystyr “tax relief amounts” at ddibenion atebolrwydd a grybwyllir yn rheoliad 53(1)(a), ac adran 18(7) o’r Ddeddf honno am ystyr y term hwnnw at ddibenion atebolrwydd a grybwyllir yn rheoliad 53(1)(b).

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources