Search Legislation

Rheoliadau Cydnabod Cymwysterau Proffesiynol a Gweithredu Cytundebau Cydnabod Rhyngwladol (Cymru) (Diwygio etc.) 2023

Statws

This is the original version (as it was originally made).

Offerynnau Statudol Cymru

2023 Rhif 1294 (Cy. 230)

Cymwysterau Proffesiynol, Cymru

Rheoliadau Cydnabod Cymwysterau Proffesiynol a Gweithredu Cytundebau Cydnabod Rhyngwladol (Cymru) (Diwygio etc.) 2023

Gwnaed

am 2.10 p.m. ar 30 Tachwedd 2023

Gosodwyd gerbron Senedd Cymru

am 4.50 p.m. ar 30 Tachwedd 2023

Yn dod i rym

1 Rhagfyr 2023

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 3(1), 5(2) a 13(1) o Ddeddf Cymwysterau Proffesiynol 2022(1) (“Deddf 2022), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.

Yn unol ag adran 14 o Ddeddf 2022, mae Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni nad yw’r Rheoliadau yn dileu gallu unrhyw reoleiddiwr Cymreig ar broffesiwn rheoleiddiedig Cymreig i atal unigolion sy’n anaddas i ymarfer y proffesiwn rhag gwneud hynny, ac na fydd y Rheoliadau yn cael effaith andwyol sylweddol ar unrhyw broffesiwn rheoleiddiedig Cymreig o ran gwybodaeth, sgiliau neu brofiad yr unigolion sy’n ei ymarfer.

Yn unol ag adran 15 o Ddeddf 2022, mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â’r rheoleiddwyr Cymreig hynny ar broffesiynau rheoleiddiedig Cymreig y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei bod yn debygol y bydd y Rheoliadau hyn yn effeithio arnynt neu ei bod fel arall yn briodol ymgynghori â hwy.

Cynhaliwyd ymgynghoriad hefyd fel sy’n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002(2) Senedd Ewrop a’r Cyngor dyddiedig 28 Ionawr 2002 sy’n gosod egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd.

Enwi a dod i rym

1.  Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cydnabod Cymwysterau Proffesiynol a Gweithredu Cytundebau Cydnabod Rhyngwladol (Cymru) (Diwygio etc.) 2023 a deuant i rym ar 1 Rhagfyr 2023.

Dehongli

2.  Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “cais” (“application”) yw cais gan geisydd i reoleiddiwr Cymreig am gydnabyddiaeth o’i gymwysterau proffesiynol yng Nghymru;

ystyr “ceisydd” (“applicant”) yw proffesiynolyn gwladwriaeth benodedig—

(a)

sy’n dymuno cael mynediad i broffesiwn rheoleiddiedig Cymreig y mae’n ofynnol meddu ar gymwysterau proffesiynol ar ei gyfer, ac sy’n dymuno dilyn proffesiwn o’r fath,

(b)

sy’n meddu ar gymwysterau proffesiynol ar gyfer yr un proffesiwn mewn gwladwriaeth benodedig, ac

(c)

sy’n gwneud cais;

ystyr “cyfnod ymaddasu” (“adaptation period”) yw cyfnod o ymarfer o dan oruchwyliaeth, yn ddarostyngedig i asesiad ac y gall hyfforddiant pellach ddod gydag ef, mewn proffesiwn rheoleiddiedig Cymreig o dan gyfrifoldeb aelod cymwysedig o’r proffesiwn hwnnw;

mae i “cymhwyster” yr ystyr a roddir i “qualification” yn adran 19 o Ddeddf 2022;

mae “cymwysterau proffesiynol” (“professional qualifications”) yn cynnwys cymwysterau neu brofiad proffesiynol;

ystyr “cytundeb masnach rydd yr AEE EFTA” (“EEA EFTA free trade agreement”) yw’r cytundeb masnach rydd rhwng Gwlad yr Iâ, Tywysogaeth Liechtenstein a Theyrnas Norwy a Theyrnas Unedig Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon a wnaed yn Llundain ar 8 Gorffennaf 2021(3);

ystyr “Deddf 2022” (“the 2022 Act”) yw Deddf Cymwysterau Proffesiynol 2022;

ystyr “gweithgaredd proffesiynol” (“professional activity”) yw gweithgaredd sy’n ffurfio rhan o broffesiwn rheoleiddiedig Cymreig;

ystyr “gwladwriaeth benodedig” (“specified state”) yw gwladwriaeth a bennir yn Atodlen 2;

ystyr “penodedig” (“specified”) yw wedi ei bennu mewn rheoliadau;

ystyr “prawf gallu” (“aptitude test”) yw prawf sydd wedi ei gyfyngu i’r wybodaeth broffesiynol sydd gan broffesiynolyn gwladwriaeth benodedig, a wneir gan y rheoleiddiwr Cymreig gyda’r nod o asesu gallu’r proffesiynolyn i ddilyn proffesiwn rheoleiddiedig Cymreig;

ystyr “profiad proffesiynol” (“professional experience”) yw ymarfer cyfreithlon ac effeithiol o’r proffesiwn rheoleiddiedig Cymreig perthnasol;

mae i “proffesiwn” yr ystyr a roddir i “profession” yn adran 19 o Ddeddf 2022;

ystyr “proffesiwn rheoleiddiedig Cymreig” (“Welsh regulated profession”) yw unrhyw un neu ragor o’r proffesiynau a restrir yn Atodlen 1;

ystyr “proffesiynolyn gwladwriaeth benodedig” (“specified state professional”) yw person naturiol sydd wedi cael cymwysterau proffesiynol mewn gwladwriaeth benodedig;

ystyr “rheoleiddiwr Cymreig” (“Welsh regulator”), mewn perthynas â phroffesiwn rheoleiddiedig Cymreig, yw person a chanddo swyddogaethau, o dan ddeddfwriaeth, sy’n ymwneud â rheoleiddio’r proffesiwn yng Nghymru;

ystyr “Rheoliadau 2023 y DU” (“the 2023 UK Regulations”) yw Rheoliadau Cydnabod Cymwysterau Proffesiynol a Gweithredu Cytundebau Cydnabod Rhyngwladol (Diwygio) 2023(4);

ystyr “unrhyw ran arall o’r Deyrnas Unedig” (“any other part of the United Kingdom”) yw Lloegr, Gogledd Iwerddon neu’r Alban.

Diwygiadau i ddeddfwriaeth at ddiben cytundeb masnach rydd yr AEE EFTA, ac mewn cysylltiad â’r cytundeb hwnnw

3.  Mae Atodlen 3 yn cynnwys diwygiadau i ddeddfwriaeth at ddiben gweithredu Pennod 12 o gytundeb masnach rydd yr AEE EFTA (cydnabod cymwysterau proffesiynol), ac mewn cysylltiad â gweithredu’r Bennod honno.

Diwygiadau i ddeddfwriaeth sy’n ganlyniadol ar adran 5(1) o Ddeddf Cymwysterau Proffesiynol 2022 yn dod i rym

4.  Mae Atodlen 4 yn cynnwys diwygiadau i ddeddfwriaeth sy’n ganlyniadol ar adran 5(1) o Ddeddf Cymwysterau Proffesiynol 2022 (dirymu system gyffredinol yr UE o gydnabod cymwysterau tramor) yn dod i rym.

Cydnabod cymwysterau proffesiynol

5.—(1Yn ddarostyngedig i reoliad 6, pan fo rheoleiddiwr Cymreig yn cael cais, rhaid i’r rheoleiddiwr Cymreig gydnabod cymwysterau proffesiynol y ceisydd yng Nghymru pan fo’r cymwysterau proffesiynol hynny yn gymaradwy â’r cymwysterau proffesiynol sy’n ofynnol i gael mynediad i’r un proffesiwn, ac i’w ddilyn, yng Nghymru.

(2Rhaid i reoleiddiwr Cymreig sy’n cydnabod cymwysterau proffesiynol ceisydd o dan y rheoliad hwn—

(a)galluogi’r person hwnnw i gael mynediad i’r proffesiwn rheoleiddiedig Cymreig ac i ddilyn y proffesiwn hwnnw;

(b)at ddiben mynediad i’r proffesiwn rheoleiddiedig Cymreig a’i ddilyn, trin y ceisydd fel pe bai wedi cael ei gymwysterau proffesiynol yng Nghymru neu mewn unrhyw ran arall o’r Deyrnas Unedig y rheoleiddir y proffesiwn ynddi.

Gwrthod cydnabod cymwysterau proffesiynol

6.—(1Caiff rheoleiddiwr Cymreig wrthod cydnabod cymwysterau proffesiynol ceisydd os bodlonir un neu ragor o Amodau 1, 2, 3 neu 4.

(2Mae Amod 1 wedi ei fodloni—

(a)pan fo gwahaniaeth sylweddol rhwng cymwysterau proffesiynol y ceisydd a’r wybodaeth neu’r sgiliau hanfodol sy’n ofynnol er mwyn ymarfer y proffesiwn rheoleiddiedig Cymreig, a

(b)pan fo’r ceisydd yn methu â phasio prawf gallu neu’n gwrthod ei sefyll, neu’n methu â chwblhau neu’n gwrthod cwblhau cyfnod ymaddasu a osodwyd yn unol â rheoliad 7 (profion gallu a chyfnodau ymaddasu).

(3Mae Amod 2 wedi ei fodloni—

(a)pan fo’r proffesiwn rheoleiddiedig Cymreig yn cynnwys un neu ragor o weithgareddau proffesiynol sy’n cwmpasu materion sy’n sylweddol wahanol i’r rhai a gwmpesir gan gymwysterau proffesiynol y ceisydd, a

(b)pan fo’r ceisydd yn methu â phasio prawf gallu neu’n gwrthod ei sefyll, neu’n methu â chwblhau neu’n gwrthod cwblhau cyfnod ymaddasu a osodwyd yn unol â rheoliad 7 (profion gallu a chyfnodau ymaddasu).

(4Mae Amod 3 wedi ei fodloni pan fyddai ei gwneud yn ofynnol i’r ceisydd sefyll prawf gallu neu gwblhau cyfnod ymaddasu yn unol â rheoliad 7 (profion gallu a chyfnodau ymaddasu) yn gyfystyr â’i gwneud yn ofynnol i’r ceisydd gaffael y cymwysterau proffesiynol sy’n ofynnol er mwyn ymarfer y proffesiwn rheoleiddiedig Cymreig.

(5Mae Amod 4 wedi ei fodloni pan fo person a gafodd ei gymwysterau proffesiynol yng Nghymru neu mewn unrhyw ran arall o’r Deyrnas Unedig yn cael mynediad i broffesiwn rheoleiddiedig Cymreig, ac yn cael dilyn proffesiwn o’r fath, yn ddarostyngedig i amodau heblaw meddu ar gymwysterau proffesiynol penodol, a bo’r ceisydd yn methu â bodloni’r amodau hynny.

Profion gallu a chyfnodau ymaddasu

7.—(1Caiff rheoleiddiwr Cymreig ei gwneud yn ofynnol i geisydd sefyll prawf gallu, wedi ei safoni neu fel arall, neu gwblhau cyfnod ymaddasu—

(a)pan fo gwahaniaeth sylweddol rhwng cymwysterau proffesiynol y ceisydd a’r wybodaeth neu’r sgiliau hanfodol sy’n ofynnol er mwyn ymarfer y proffesiwn rheoleiddiedig Cymreig, neu

(b)pan fo’r proffesiwn rheoleiddiedig Cymreig yn cynnwys un neu ragor o weithgareddau proffesiynol sy’n cwmpasu materion sy’n sylweddol wahanol i’r rhai a gwmpesir gan gymwysterau proffesiynol y ceisydd.

(2Rhaid i reoleiddiwr Cymreig ystyried a yw unrhyw ofyniad i sefyll prawf gallu neu i gwblhau cyfnod ymaddasu yn gymesur â’r gwahaniaeth y ceisir ei ddatrys.

(3Os yw ceisydd yn gofyn iddo wneud hynny, rhaid i reoleiddiwr Cymreig, i’r graddau y bo’n bosibl, ddarparu ei resymau yn ysgrifenedig dros ei gwneud yn ofynnol i’r ceisydd sefyll prawf gallu neu i gwblhau cyfnod ymaddasu.

(4Pan fo rheoleiddiwr Cymreig yn ei gwneud yn ofynnol i geiswyr ymgymryd â phrawf gallu, rhaid i’r rheoleiddiwr Cymreig amserlennu profion ag amlder rhesymol ac o leiaf unwaith y flwyddyn, pan fo’n gymwys.

Y weithdrefn sydd i’w dilyn wrth wneud cais am gydnabyddiaeth

8.—(1Rhaid i reoleiddiwr Cymreig—

(a)cydnabod ei fod wedi cael y cais o fewn un mis i’w gael a rhoi gwybod i’r ceisydd os oes unrhyw ddogfen ar goll o’r cais;

(b)rhoi digon o amser i’r ceisydd i gwblhau gofynion a gweithdrefnau’r broses o wneud cais;

(c)ymdrin â’r cais yn brydlon a hysbysu’r ceisydd am ei benderfyniad yn ysgrifenedig cyn diwedd y cyfnod o bedwar mis sy’n dechrau â thrannoeth y diwrnod y cyflwynwyd y cais cyflawn.

(2Caiff rheoleiddiwr Cymreig ei gwneud yn ofynnol i geisydd ddarparu tystiolaeth o’i gymwysterau proffesiynol.

(3Ni chaiff y dystiolaeth y caiff rheoleiddiwr Cymreig ei gwneud yn ofynnol ei darparu o dan baragraff (2) fod yn ddim mwy nag sy’n angenrheidiol i ddangos bod y ceisydd yn dal cymwysterau proffesiynol sy’n gymaradwy â’r cymwysterau proffesiynol sy’n ofynnol i gael mynediad i’r proffesiwn rheoleiddiedig Cymreig a’i ddilyn.

(4Pan fo person a gafodd ei gymwysterau proffesiynol yng Nghymru neu mewn unrhyw ran arall o’r Deyrnas Unedig yn cael mynediad i broffesiwn rheoleiddiedig Cymreig, ac yn cael dilyn proffesiwn o’r fath, yn ddarostyngedig i amodau heblaw meddu ar gymwysterau proffesiynol penodol, caiff rheoleiddiwr Cymreig ei gwneud yn ofynnol i’r ceisydd ddarparu tystiolaeth i ddangos ei fod yn bodloni’r amodau hynny.

(5Ni chaiff y dystiolaeth y caiff rheoleiddiwr Cymreig ei gwneud yn ofynnol ei darparu o dan baragraff (4) fod yn ddim mwy nag sy’n angenrheidiol i ddangos bod y ceisydd yn bodloni’r amodau hynny.

(6Rhaid i reoleiddiwr Cymreig dderbyn copïau o ddogfennau a ddilyswyd yn unol â chyfraith y Deyrnas Unedig yn lle’r rhai gwreiddiol oni bai bod dogfennau gwreiddiol yn ofynnol ganddo i ddiogelu uniondeb y broses gydnabod.

Gwybodaeth am iaith

9.—(1Caiff rheoleiddiwr Cymreig ei gwneud yn ofynnol i geisydd ddangos ei fod yn meddu ar y sgiliau iaith sy’n angenrheidiol ar gyfer ymarfer proffesiwn rheoleiddiedig Cymreig.

(2Os yw rheoleiddiwr Cymreig yn ei gwneud yn ofynnol i geisydd ymgymryd â phrawf iaith, rhaid i’r prawf fod yn gymesur â’r gweithgaredd sydd i’w ddilyn.

Apelau

10.  Rhaid i reoleiddiwr Cymreig ddarparu hawl i geisydd apelio yn erbyn—

(a)ei benderfyniad i wrthod cydnabod cymwysterau proffesiynol ceisydd, a

(b)ei fethiant i hysbysu’r ceisydd am ei benderfyniad mewn cysylltiad â chais o fewn y cyfnod amser y cyfeirir ato yn rheoliad 8(1)(c).

Ffioedd

11.—(1Caiff rheoleiddiwr Cymreig godi’r ffioedd hynny y mae’n ystyried eu bod yn briodol mewn cysylltiad â chais.

(2Rhaid i unrhyw ffioedd a godir gan reoleiddiwr Cymreig mewn cysylltiad â chais—

(a)bod yn rhesymol ac yn gymesur â chost y cais,

(b)bod yn dryloyw, ac wedi eu cyhoeddi ymlaen llaw, ac

(c)bod yn daladwy drwy ddulliau electronig drwy wefan y rheoleiddiwr Cymreig.

Darparu gwybodaeth

12.  Rhaid i reoleiddiwr Cymreig roi ar gael i broffesiynolion gwladwriaeth benodedig wybodaeth ynghylch—

(a)y cymwysterau proffesiynol sy’n ofynnol ac unrhyw amodau eraill sy’n gymwys er mwyn ymarfer proffesiwn rheoleiddiedig Cymreig,

(b)y deddfau perthnasol sydd i’w cymhwyso ynghylch camau disgyblu, cyfrifoldeb neu atebolrwydd ariannol ac unrhyw faterion perthnasol eraill,

(c)egwyddorion disgyblaeth a gorfodi safonau proffesiynol, gan gynnwys awdurdodaeth ddisgyblu ac effeithiau canlyniadol ar ymarfer proffesiwn rheoleiddiedig Cymreig,

(d)y prosesau a’r gweithdrefnau ar gyfer gwirhau cymhwysedd yn barhaus,

(e)y meini prawf ar gyfer dirymu cofrestriad a’r gweithdrefnau sy’n ymwneud â’i ddirymu,

(f)y ddogfennaeth sy’n ofynnol oddi wrth broffesiynolion ac ar ba ffurf y dylid ei chyflwyno, ac

(g)derbyn dogfennau a thystysgrifau a ddyroddwyd mewn perthynas â chymwysterau proffesiynol ac amodau eraill sy’n gymwys i ymarfer proffesiwn rheoleiddiedig Cymreig.

Ymholiadau sy’n ymwneud â chymwysterau proffesiynol ac amodau ymarfer eraill

13.  Rhaid i reoleiddiwr Cymreig ymdrin yn brydlon ag ymholiadau gan broffesiynolion gwladwriaeth benodedig ynghylch—

(a)y cymwysterau proffesiynol sy’n ofynnol er mwyn ymarfer y proffesiwn rheoleiddiedig Cymreig, a

(b)yr amodau sy’n gymwys i ymarfer y proffesiwn rheoleiddiedig Cymreig.

Diwygiadau i Reoliadau 2023 y DU

14.—(1Mae Rheoliadau 2023 y DU wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 2 (rhychwant a chymhwyso)—

(a)ym mharagraff (1), ar ôl “paragraph (2)”, mewnosoder “and (3)”;

(b)ar ôl paragraff (2) mewnosoder—

(3) Paragraphs 1, 2, 6 and 7 of Schedule 3 do not apply in relation to Wales.

(3Yn rheoliad 3(2) (dehongli), ar ôl “Schedule 2” mewnosoder—

or a “Welsh regulator” as defined by the Recognition of Professional Qualifications and Implementation of International Recognition Agreements (Wales) (Amendment etc.) Regulations 2023.

Jeremy Miles

Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, un o Weinidogion Cymru

Am 2.10 p.m. ar 30 Tachwedd 2023

Rheoliad 2

ATODLEN 1Y proffesiynau rheoleiddiedig Cymreig y cyfeirir atynt yn rheoliad 2 (dehongli)

1.  Dadansoddwr amaethyddol

2.  Dadansoddwr bwyd

3.  Archwilydd bwyd

4.  Gyrrwr a chynorthwyydd proffesiynol sy’n ymgymryd â chludo da byw, ceffylau a dofednod

5.  Dadansoddwr cyhoeddus

6.  Athro neu athrawes ysgol

7.  Cigyddwr

8.  Rheolwr gofal cymdeithasol

9.  Gweithiwr cymdeithasol

10.  Gweithiwr gofal cymdeithasol mewn—

(a)gwasanaeth cartref gofal

(b)gwasanaeth cymorth cartref

(c)gwasanaeth canolfan breswyl i deuluoedd

(d)gwasanaeth llety diogel

11.  Gweithiwr cymorth ieuenctid

12.  Gweithiwr ieuenctid

Rheoliad 2

ATODLEN 2Y gwladwriaethau penodedig

1.  Gwlad yr Iâ

2.  Teyrnas Norwy

3.  Tywysogaeth Liechtenstein

Rheoliad 3

ATODLEN 3Diwygiadau at ddiben gweithredu cytundeb masnach rydd yr AEE EFTA ac mewn cysylltiad â gweithredu’r cytundeb hwnnw

RHAN 1Diwygiadau mewn perthynas â phroffesiynau addysg

Diwygiadau i Reoliadau Cymwysterau Athrawon Ysgol (Cymru) 2012

1.—(1Mae Rheoliadau Cymwysterau Athrawon Ysgol (Cymru) 2012(5) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn Atodlen 2 (gofynion statws athro cymwysedig), ar ôl paragraff 4A mewnosoder—

4B.  Personau sydd â’r hawlogaeth, mewn perthynas â phroffesiwn athro neu athrawes ysgol, i ymarfer yn unol â Rheoliadau Cydnabod Cymwysterau Proffesiynol a Gweithredu Cytundebau Cydnabod Rhyngwladol (Cymru) (Diwygio etc.) 2023.

Diwygiadau i Reoliadau Addysg (Trefniadau Sefydlu ar gyfer Athrawon Ysgol) (Cymru) 2015

2.—(1Mae Rheoliadau Addysg (Trefniadau Sefydlu ar gyfer Athrawon Ysgol) (Cymru) 2015(6) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Ym mharagraff 8 o Atodlen 2 (achosion pan geir cyflogi person fel athro neu athrawes mewn ysgol berthnasol pan nad yw wedi cwblhau cyfnod sefydlu yn foddhaol), yn lle “baragraff 4 neu 4A” rhodder “baragraff 4, 4A neu 4B”.

Diwygiadau i Orchymyn Cyngor y Gweithlu Addysg (Cofrestru Gweithwyr Ieuenctid, Gweithwyr Cymorth Ieuenctid ac Ymarferwyr Dysgu Seiliedig ar Waith) 2016

3.—(1Mae Gorchymyn Cyngor y Gweithlu Addysg (Cofrestru Gweithwyr Ieuenctid, Gweithwyr Cymorth Ieuenctid ac Ymarferwyr Dysgu Seiliedig ar Waith) 2016(7) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2Yn erthygl 2 (dehongli), yn y lle priodol, mewnosoder—

ystyr “Rheoliadau 2023” (“the 2023 Regulations”) yw Rheoliadau Cydnabod Cymwysterau Proffesiynol a Gweithredu Cytundebau Cydnabod Rhyngwladol (Cymru) (Diwygio etc.) 2023;.

(3Ym mharagraff 2 (gofynion eraill) o Atodlen 1 (gweithwyr ieuenctid)—

(a)ar ddiwedd is-baragraff (a), dileer “neu”;

(b)ar ddiwedd is-baragraff (b), yn lle “.” rhodder “,”;

(c)ar ôl is-baragraff (b) mewnosoder—

(c)os yw’r person hwnnw, mewn cysylltiad â phroffesiwn gweithiwr ieuenctid, â hawlogaeth i ymarfer yn unol â Rheoliadau 2023, neu.

(4Ym mharagraff 7 (gofynion eraill) o Atodlen 2 (gweithwyr cymorth ieuenctid)—

(a)ar ddiwedd is-baragraff (a), dileer “neu”;

(b)ar ddiwedd is-baragraff (b), yn lle “.” rhodder “,”;

(c)ar ôl is-baragraff (b) mewnosoder—

(c)os yw’r person hwnnw, mewn cysylltiad â phroffesiwn gweithiwr cymorth ieuenctid, â hawlogaeth i ymarfer yn unol â Rheoliadau 2023, neu.

RHAN 2Diwygiadau mewn perthynas â phroffesiynau trin nwyon wedi eu fflworineiddio

Diwygiadau i Reoliad (EU) Rhif 517/2014 Senedd Ewrop a’r Cyngor dyddiedig 16 Ebrill 2014 ar nwyon tŷ gwydr wedi eu fflworineiddio, ac sy’n diddymu Rheoliad (EC) Rhif 842/2006

4.—(1Mae Rheoliad (EU) Rhif 517/2014 Senedd Ewrop a’r Cyngor dyddiedig 16 Ebrill 2014 ar nwyon tŷ gwydr wedi eu fflworineiddio, ac sy’n diddymu Rheoliad (EC) Rhif 842/2006(8), wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2Yn Erthygl 10 (hyfforddiant ac ardystio)—

(a)ym mharagraff 10, ar ôl “as amended from time to time,” mewnosoder “or certificates and training attestations issued by an EEA EFTA state that are equivalent to those issued in any part of the United Kingdom,”;

(b)ar ôl paragraff 15, mewnosoder—

16.  For the purposes of this Article, an ‘EEA EFTA state’ means—

(a)Norway,

(b)Iceland, or

(c)Liechtenstein.

Diwygiadau i Reoliadau Sylweddau sy’n Teneuo’r Osôn 2015

5.—(1Mae Rheoliadau Sylweddau sy’n Teneuo’r Osôn 2015(9) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 4 (ystyr “competent”)—

(a)ym mharagraff (a), ar ôl “column 3 of that Table”, mewnosoder “, or has obtained the equivalent of those qualifications in an EEA EFTA state”;

(b)yn lle paragraff (c), rhodder—

(c)a person is competent to carry out work with methyl bromide if that person has—

(i)obtained the British Pest Control Association Certificate of Proficiency for Fumigation Operators(10) and successfully completed the British Pest Control Association module referred to in the list in Schedule 3 which relates to the work in question; or

(ii)obtained an equivalent certificate, and successfully completed an equivalent module, in an EEA EFTA state.

(c)ar ôl paragraff (c), mewnosoder—

(d)For the purposes of this regulation, an “EEA EFTA state” means—

(i)Norway,

(ii)Iceland, or

(iii)Liechtenstein.

RHAN 3Diwygiadau mewn perthynas ag archwilwyr bwyd

Diwygiadau i Reoliadau Diogelwch Bwyd (Samplu a Chymwysterau) (Cymru) 2013

6.—(1Mae Rheoliadau Diogelwch Bwyd (Samplu a Chymwysterau) (Cymru) 2013(11) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 2 (dehongli), yn y lle priodol mewnosoder—

ystyr “gwladwriaeth benodedig” (“specified state”) yw gwladwriaeth a bennir yn Atodlen 2 i Reoliadau Cydnabod Cymwysterau Proffesiynol a Gweithredu Cytundebau Cydnabod Rhyngwladol (Cymru) (Diwygio etc.) 2023;.

(3Yn Atodlen 2 (cymwysterau archwilwyr bwyd)—

(a)yn Rhan 1, ym mharagraff 6, ar ôl “Aelod-wladwriaeth o’r Undeb Ewropeaidd” mewnosoder “neu mewn gwladwriaeth benodedig”;

(b)yn Rhan 2—

(i)ym mharagraff 2, ar ôl “Aelod-wladwriaeth o’r Undeb Ewropeaidd” mewnosoder “neu lywodraeth gwladwriaeth benodedig”;

(ii)ym mharagraff 4, ar ôl “Aelod-wladwriaeth o’r Undeb Ewropeaidd” mewnosoder “neu mewn gwladwriaeth benodedig”.

RHAN 4Diwygiadau mewn perthynas â phroffesiynau ym maes lles anifeiliaid

Diwygiadau i Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 1/2005 dyddiedig 22 Rhagfyr 2004 ar ddiogelu anifeiliaid wrth iddynt gael eu cludo ac yn ystod gweithrediadau cysylltiedig

7.—(1Mae Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1/2005 dyddiedig 22 Rhagfyr 2004 ar ddiogelu anifeiliaid wrth iddynt gael eu cludo ac yn ystod gweithrediadau cysylltiedig(12) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2Yn Atodiad 4 (hyfforddiant), ar ôl paragraff 3, mewnosoder—

4.  Where a road driver or attendant holds a qualification which, by virtue of the Recognition of Professional Qualifications and Implementation of International Recognition Agreements (Wales) (Amendment etc.) Regulations 2023, is recognised by the competent authority, the road driver or attendant (as the case may be) is to be treated as having met the requirements of paragraph 1.

Diwygiadau i Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 1099/2009 dyddiedig 24 Medi 2009 ar ddiogelu anifeiliaid adeg eu lladd

8.—(1Mae Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1099/2009 dyddiedig 24 Medi 2009 ar ddiogelu anifeiliaid adeg eu lladd(13) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2Yn Erthygl 21, ym mharagraff 1, ar ôl pwynt (c), mewnosoder—

(d)delivering certificates of competence to persons whose qualifications have been recognised for those purposes under the Recognition of Professional Qualifications and Implementation of International Recognition Agreements (Wales) (Amendment etc.) Regulations 2023.

Diwygiadau i Reoliadau Lles Anifeiliaid Adeg eu Lladd (Cymru) 2014

9.—(1Mae Rheoliadau Lles Anifeiliaid Adeg eu Lladd (Cymru) 2014(14) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 3(1) (dehongli)—

(a)yn y diffiniad o “tystiolaeth o hyfforddi ac arholi”, ar ôl is-baragraff (ab), mewnosoder—

(ac)cymhwyster sydd wedi ei gydnabod o dan Reoliadau Cymwysterau Proffesiynol 2023 mewn perthynas â gweithrediad a bennir yn rheoliad 6,;

(b)ar ôl y diffiniad o “Rheoliadau 1995”, mewnosoder—

ystyr “Rheoliadau Cymwysterau Proffesiynol 2023” (“the Professional Qualifications Regulations 2023”) yw Rheoliadau Cydnabod Cymwysterau Proffesiynol a Gweithredu Cytundebau Cydnabod Rhyngwladol (Cymru) (Diwygio etc.) 2023;.

(3Yn rheoliad 22 (apelau)—

(a)ar ôl paragraff (1), mewnosoder—

(1A) Caiff person sydd wedi gwneud cais am gydnabyddiaeth i gymhwyster o dan Reoliadau Cymwysterau Proffesiynol 2023 mewn perthynas â gweithrediad a bennir yn rheoliad 6 apelio yn erbyn penderfyniad yr awdurdod cymwys i beidio â chydnabod cymhwyster y person at y dibenion hynny.;

(b)ar ôl paragraff (4), mewnosoder—

(5) Ym mharagraff (1A), mae’r cyfeiriad at benderfyniad gan yr awdurdod cymwys i beidio â chydnabod cymhwyster person o dan Reoliadau Cymwysterau Proffesiynol 2023 i’w drin fel pe bai’n cynnwys unrhyw fethiant gan yr awdurdod cymwys i hysbysu’r ceisydd am ei benderfyniad ynghylch cais y person o fewn y cyfnod o bedwar mis sy’n dechrau â thrannoeth y diwrnod y cyflwynodd y person gais cyflawn i’r awdurdod cymwys o dan Reoliadau Cymwysterau Proffesiynol 2023.

Rheoliad 4

ATODLEN 4Diwygiadau sy’n ganlyniadol ar adran 5(1) o Ddeddf Cymwysterau Proffesiynol 2022 yn dod i rym

RHAN 1Diwygiadau mewn perthynas â phroffesiynau addysg

Diwygiadau i Reoliadau Cymwysterau Athrawon Ysgol (Cymru) 2012

1.—(1Mae Rheoliadau Cymwysterau Athrawon Ysgol (Cymru) 2012(15) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Ym mharagraff 4 o Atodlen 2 (gofynion statws athro cymwysedig)—

(a)ar ddiwedd is-baragraff (b), hepgorer “neu”;

(b)ar ddiwedd is-baragraff (c), yn lle “.” rhodder “; neu”;

(c)ar ôl is-baragraff (c), mewnosoder—

(d)penderfyniad neu ddyfarniad a wneir o dan Reoliadau’r Undeb Ewropeaidd 2015 yn unol â pharagraffau 1, 2(2) a (3) o Atodlen 1 i Reoliadau Deddf Cymwysterau Proffesiynol 2022 (Cychwyn Rhif 3) 2023(16).

Diwygiadau i Orchymyn Cyngor y Gweithlu Addysg (Cofrestru Gweithwyr Ieuenctid, Gweithwyr Cymorth Ieuenctid ac Ymarferwyr Dysgu Seiliedig ar Waith) 2016

2.—(1Mae Gorchymyn Cyngor y Gweithlu Addysg (Cofrestru Gweithwyr Ieuenctid, Gweithwyr Cymorth Ieuenctid ac Ymarferwyr Dysgu Seiliedig ar Waith) 2016(17) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2Yn erthygl 2 (dehongli), yn y lle priodol mewnosoder—

ystyr “Rheoliadau Cychwyn 2023” (“the 2023 Commencement Regulations”) yw Rheoliadau Deddf Cymwysterau Proffesiynol 2022 (Cychwyn Rhif 3) 2023(18).

(3Ym mharagraff 2 (gofynion eraill) o Atodlen 1 (gweithwyr ieuenctid), ar ôl is-baragraff (c) mewnosoder—

(d)os yw’r person hwnnw wedi ei awdurdodi i ymarfer fel gweithiwr ieuenctid yn rhinwedd penderfyniad neu ddyfarniad a wneir o dan Reoliadau 2015 yn unol â pharagraffau 1, 2(2) a (3) o Atodlen 1 i Reoliadau Cychwyn 2023.

(4Ym mharagraff 7 (gofynion eraill) o Atodlen 2 (gweithwyr cymorth ieuenctid), ar ôl is-baragraff (c) mewnosoder—

(d)os yw’r person hwnnw wedi ei awdurdodi i ymarfer fel gweithiwr cymorth ieuenctid yn rhinwedd penderfyniad neu ddyfarniad a wneir o dan Reoliadau 2015 yn unol â pharagraffau 1, 2(2) a (3) o Atodlen 1 i Reoliadau Cychwyn 2023.

RHAN 2Diwygiadau mewn perthynas â phroffesiynau gofal cymdeithasol

Diwygiad i Reoliadau Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymwysterau) (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2019

3.—(1Mae Rheoliadau Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymwysterau) (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2019(19) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Hepgorer rheoliad 15C.

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth o dan adran 3(1) o Ddeddf Cymwysterau Proffesiynol 2022 (p. 20) (“Deddf 2022”) er mwyn gweithredu o ran Cymru ddarpariaethau sy’n ymwneud â chydnabod cymwysterau proffesiynol sydd wedi eu cynnwys yn y cytundeb masnach rydd rhwng Gwlad yr Iâ, Tywysogaeth Liechtenstein a Theyrnas Norwy a Theyrnas Unedig Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon a wnaed yn Llundain ar 8 Gorffennaf 2021 (“cytundeb masnach rydd yr AEE EFTA”).

Mae adran 3(1) o Ddeddf 2022 yn rhoi’r pŵer i’r awdurdod cenedlaethol priodol drwy reoliadau i wneud unrhyw ddarpariaeth y mae’r awdurdod yn ystyried ei bod yn briodol at ddiben gweithredu unrhyw gytundeb cydnabod rhyngwladol y mae’r Deyrnas Unedig yn barti iddo, neu mewn cysylltiad â gweithredu unrhyw gytundeb o’r fath. Defnyddiodd yr Ysgrifennydd Gwladol y pŵer hwn, ymhlith eraill, i wneud Rheoliadau Cydnabod Cymwysterau Proffesiynol a Gweithredu Cytundebau Cydnabod Rhyngwladol (Diwygio) 2023 (O.S. 2023/1286) (“Rheoliadau 2023 y DU”) i weithredu cytundeb masnach rydd yr AEE EFTA ledled y DU.

Mae paragraff 10 (materion tramor etc.) o Atodlen 7A (materion a gedwir yn ôl) i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) yn darparu nad yw cadw at rwymedigaethau rhyngwladol a’u gweithredu yn fater a gedwir yn ôl.

Mae Rheoliadau 2023 y DU yn cynnwys darpariaeth i weithredu cytundeb masnach rydd yr AEE EFTA mewn perthynas â meysydd pwnc sydd wedi eu datganoli i Gymru ac maent yn gosod dyletswyddau statudol ar reoleiddwyr y mae gan y Senedd y cymhwysedd deddfwriaethol i’w gwneud.

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau 2023 y DU i ddarparu nad ydynt yn gymwys i reoleiddwyr y proffesiynau rheoleiddiedig a restrir yn Atodlen 1 y mae gan y Senedd gymhwysedd deddfwriaethol mewn cysylltiad â hwy, a ddiffinnir fel “proffesiynau rheoleiddiedig Cymreig”. Mae’r Rheoliadau hyn hefyd yn gwneud darpariaeth i weithredu cytundeb masnach rydd yr AEE EFTA mewn perthynas â’r proffesiynau rheoleiddiedig Cymreig.

Mae Atodlen 3 yn cynnwys diwygiadau i ddeddfwriaeth sectorol at ddiben gweithredu darpariaethau sy’n ymwneud â chydnabod cymwysterau proffesiynol yng nghytundeb masnach rydd yr AEE EFTA, ac mewn cysylltiad â gweithredu’r darpariaethau hynny.

Mae Atodlen 4 yn cynnwys diwygiadau i ddeddfwriaeth sectorol sy’n ganlyniadol ar adran 5(1) o Ddeddf 2022 yn dod i rym ac ar ddirymu Rheoliadau’r Undeb Ewropeaidd (Cydnabod Cymwysterau Proffesiynol) 2015 (O.S. 2015/2059) a oedd yn darparu system gydnabod gyffredinol ar gyfer cymwysterau o’r Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir. Yn dilyn diwedd y cyfnod pontio ar gyfer ymadael â’r UE, cadwyd y system hon yn y cyfamser, gan alluogi’r rhai sy’n dal cymwysterau’r AEE a’r Swistir i gael eu cymwysterau wedi eu cydnabod yn y DU. Mae Deddf 2022 yn dirymu’r system hon ac yn sefydlu dull gweithredu newydd sy’n seiliedig ar ymreolaeth y rheoleiddiwr ac ar weithredu cytundebau rhyngwladol.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.

(2)

EUR 2002/178, a ddiwygiwyd gan O.S. 2019/641; mae offerynnau diwygio eraill ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol. Diwygiwyd O.S. 2019/641 gan O.S. 2020/1504.

(3)

Cyfres Amrywiol Rhif 3 (2021); CP 496, a wnaed yn Llundain ar 8 Gorffennaf 2021.

(5)

O.S. 2012/724 (Cy. 96); mewnosodwyd paragraff 4A o Atodlen 2 gan O.S. 2019/444 (Cy. 107). Mae offerynnau diwygio eraill ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol.

(6)

O.S. 2015/484 (Cy. 41); amnewidiwyd paragraff 8 o Atodlen 2 gan O.S. 2019/444 (Cy. 107). Mae offerynnau diwygio eraill ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol.

(7)

O.S. 2016/1183 (Cy. 288), y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(8)

EUR 2014/517, fel y’i diwygiwyd gan O.S. 2019/5. Mae offerynnau diwygio eraill ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol.

(9)

O.S. 2015/168, y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(10)

Details can be obtained from the British Pest Control Association, 4A Mallard Way, Pride Park, Derby DE24 8GX, telephone number 01332 294288/225113; email: enquiry@bpca.org.uk.

(11)

O.S. 2013/479 (Cy. 55), a ddiwygiwyd gan O.S. 2020/1581 (Cy. 331); mae offerynnau diwygio eraill ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol.

(12)

EUR 2005/1, fel y’i diwygiwyd gan O.S. 2019/802. Mae offerynnau diwygio eraill ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol.

(13)

EUR 2009/1099, fel y’i diwygiwyd gan O.S. 2019/802. Mae offerynnau diwygio eraill ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol.

(14)

O.S. 2014/951 (Cy. 92), fel y’i diwygiwyd gan O.S. 2019/684 (Cy. 131). Mae offerynnau diwygio eraill ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol.

(15)

O.S. 2012/724 (Cy. 96); amnewidiwyd paragraff 4 o Atodlen 2 gan O.S. 2019/444 (Cy. 107). Mae offerynnau diwygio eraill ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol.

(17)

O.S. 2016/1183 (Cy. 288), y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(19)

O.S. 2019/761 (Cy. 144), fel y’i diwygiwyd gan O.S. 2020/1626 (Cy. 341).

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources