- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Mae’r Offeryn Statudol hwn yn cywiro gwallau yn O.S. 2022/22 (Cy. 10) a 2022/28 (Cy. 13) ac fe’i dyroddir yn rhad ac am ddim i bawb y gwyddys iddynt gael yr Offerynnau Statudol hynny.
Offerynnau Statudol Cymru
Tai, Cymru
Gwnaed
8 Tachwedd 2023
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru
10 Tachwedd 2023
Yn dod i rym
6 Rhagfyr 2023
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 29(1), 32(4), 236(3) a 256(1) o Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016(1).
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Rhentu Cartrefi (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2023.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 6 Rhagfyr 2023.
2.—(1) Mae Rheoliadau Rhentu Cartrefi (Gwybodaeth Esboniadol ar gyfer Datganiadau Ysgrifenedig o Gontractau Meddiannaeth) (Cymru) 2022(2) wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 3 (materion rhagnodedig y mae rhaid cynnwys gwybodaeth esboniadol ar eu cyfer yn y datganiad ysgrifenedig o gontract meddiannaeth)—
(a)ym mharagraff (f)—
(i)yn lle “bod rhaid i’r datganiad ysgrifenedig o’r contract meddiannaeth gael ei roi i ddeiliad y contract” rhodder “o ran y datganiad ysgrifenedig o’r contract meddiannaeth”;
(ii)ar ddechrau is-baragraff (i) mewnosoder “caniateir ei roi i ddeiliad y contract cyn y dyddiad meddiannu ac, os nad ydyw, rhaid ei roi i ddeiliad y contract”;
(iii)yn is-baragraff (ii), ar ôl “gontract wedi ei drosi,” mewnosoder “rhaid ei roi i ddeiliad y contract”;
(b)yn lle paragraff (g) rhodder—
“(g)os yw’r landlord yn methu â rhoi’r datganiad ysgrifenedig o’r contract meddiannaeth i ddeiliad y contract o fewn 14 o ddiwrnodau i’r dyddiad meddiannu, caiff y landlord fod yn atebol i dalu digollediad i ddeiliad y contract sy’n cyfateb i ddiwrnod o rent am bob diwrnod na ddarperir y datganiad ysgrifenedig, gan ddechrau â’r dyddiad meddiannu, hyd at uchafswm o ddau fis o rent (oni bai bod methiant y landlord i ddarparu’r datganiad ysgrifenedig yn fwriadol, ac os felly, caiff y llys benderfynu bod swm cynyddol yn daladwy fesul diwrnod)”.
(3) Yn rheoliad 8 (contract safonol cyfnod penodol)—
(a)ym mharagraff (b)(v)(bb)—
(i)yn y testun Saesneg, ar ôl “must give up possession” mewnosoder “,”;
(ii)yn y testun Saesneg, ar ôl “occupation contract is” mewnosoder “a”;
(b)ym mharagraff (b)(v)(cc), yn y testun Saesneg, ar ôl “to the Act,” mewnosoder “the”.
3.—(1) Mae Rheoliadau Rhentu Cartrefi (Datganiadau Ysgrifenedig Enghreifftiol o Gontract) (Cymru) 2022(3) wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn Atodlen 1 (datganiad ysgrifenedig enghreifftiol o gontract meddiannaeth diogel), yn Rhan 1 (contract meddiannaeth diogel – gwybodaeth esboniadol), yn yr ail baragraff, yn lle “y mae’n hwyr” rhodder “(gan ddechrau â’r dyddiad meddiannu) nad yw’r datganiad ysgrifenedig wedi ei ddarparu”.
(3) Yn Atodlen 2 (datganiad ysgrifenedig enghreifftiol o gontract meddiannaeth safonol cyfnodol)—
(a)yn Rhan 1 (contract meddiannaeth safonol cyfnodol – gwybodaeth esboniadol), yn yr ail baragraff, yn lle “y mae’n hwyr” rhodder “(gan ddechrau â’r dyddiad meddiannu) nad yw’r datganiad ysgrifenedig wedi ei ddarparu”;
(b)yn Rhan 3 (contract meddiannaeth safonol cyfnodol – telerau sylfaenol ac atodol)—
(i)yn nheler 47 (tor contract (F+)), ym mharagraff (1), yn y testun Saesneg, yn yr ail le y mae’n digwydd hepgorer “on that ground”;
(ii)yn nheler 60 (terfynu contract yn dilyn hysbysiad a roddir o dan deler 55 (F+))—
(aa)ar ddechrau paragraff (3)(a) mewnosoder “cyn i’r contract hwn ddod i ben, ac yn ystod y cyfnod o 28 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y rhoddwyd yr hysbysiad,”;
(bb)ym mharagraff (3)(b), yn y testun Saesneg, ar ôl “starting with” mewnosoder “the”.
(4) Yn Atodlen 3 (datganiad ysgrifenedig enghreifftiol o gontract meddiannaeth safonol cyfnod penodol ar gyfer cyfnod o lai na saith mlynedd)—
(a)yn Rhan 1 (contract meddiannaeth safonol cyfnod penodol – gwybodaeth esboniadol)—
(i)yn yr ail baragraff, yn lle “y mae’n hwyr” rhodder “(gan ddechrau â’r dyddiad meddiannu) nad yw’r datganiad ysgrifenedig wedi ei ddarparu”;
(ii)ar ôl paragraff (c) mewnosoder yn baragraff newydd—
“Os ydych yn dal i feddiannu’r annedd ar ôl diwedd y cyfnod penodol, rydych chi a’r landlord i’ch trin fel pe baech wedi gwneud contract safonol cyfnodol newydd mewn perthynas â’r annedd.”;
(b)yn Rhan 2 (contract meddiannaeth safonol cyfnod penodol – materion allweddol), yn y paragraff cyntaf, yn lle “a nodir isod” rhodder “o ____________________ (mewnosoder cyfnod y contract meddiannaeth mewn dyddiau/wythnosau/misoedd/blynyddoedd)”;
(c)yn Rhan 3 (contract safonol cyfnod penodol – telerau sylfaenol ac atodol), ar ddiwedd is-bennawd teler 39 (hysbysiadau adennill meddiant) mewnosoder “(F+)”.
4. Yn Rheoliadau Rhentu Cartrefi (Ffurfiau Rhagnodedig) (Cymru) 2022(4), yn yr Atodlen (ffurfiau rhagnodedig), yn ffurflen RHW17 (hysbysiad y landlord o derfynu: contract safonol cyfnodol gyda chyfnod hysbysu byrraf a ganiateir o ddau fis (heblaw contract safonol rhagarweiniol neu gontract safonol ymddygiad gwaharddedig)), yn y nodiadau cyfarwyddyd ar gyfer deiliaid contract—
(a)o dan y pennawd “Cyfnod hysbysu byrraf a ganiateir o ddau fis”—
(i)ar ddiwedd “Gall contract meddiannaeth fod â chyfnod hysbysu byrraf a ganiateir o ddau fis oherwydd” hepgorer “:”;
(ii)hepgorer paragraff a) a’r “neu” ar ei ôl;
(iii)hepgorer “b)”;
(b)o dan y pennawd “Cyfyngiadau ar roi’r hysbysiad hwn”, o dan yr is-bennawd “Pedwar/chwe mis cyntaf meddiannaeth”—
(i)hepgorer y geiriau o “Os oedd y contract meddiannaeth yn denantiaeth fyrddaliol sicr” hyd at “ddyddiad meddiannu’r contract.”;
(ii)yn lle “Yn y naill achos neu’r llall, nid” rhodder “Nid”.
Julie James
Y Gweinidog Newid Hinsawdd, un o Weinidogion Cymru
8 Tachwedd 2023
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Rhentu Cartrefi (Gwybodaeth Esboniadol ar gyfer Datganiadau Ysgrifenedig o Gontractau Meddiannaeth) (Cymru) 2022 (O.S. 2022/22 (Cy. 10)), Rheoliadau Rhentu Cartrefi (Datganiadau Ysgrifenedig Enghreifftiol o Gontract) (Cymru) 2022 (O.S. 2022/28 (Cy. 13)) a Rheoliadau Rhentu Cartrefi (Ffurfiau Rhagnodedig) (Cymru) 2022 (O.S. 2022/244 (Cy. 72)).
Mae rheoliad 2 yn diwygio rheoliadau 3 ac 8 o Reoliadau Rhentu Cartrefi (Gwybodaeth Esboniadol ar gyfer Datganiadau Ysgrifenedig o Gontractau Meddiannaeth) (Cymru) 2022. Gwneir diwygiadau i reoliad 3 i egluro’r materion rhagnodedig y mae rhaid cynnwys gwybodaeth esboniadol ar eu cyfer yn y datganiad ysgrifenedig o gontract meddiannaeth. Gwneir diwygiadau i reoliad 8 i gywiro mân wallau testunol ac atalnodi yn y testun Saesneg.
Mae rheoliad 3 yn diwygio Atodlenni 1, 2 a 3 i Reoliadau Rhentu Cartrefi (Datganiadau Ysgrifenedig Enghreifftiol o Gontract) (Cymru) 2022. Gwneir diwygiadau i Atodlenni 1, 2 a 3 i’r Rheoliadau hynny i egluro’r cyfnod y gall digollediad fod yn daladwy mewn perthynas ag ef gan landlord sydd wedi methu â darparu datganiad ysgrifenedig o fewn yr amserlen ofynnol. Gwneir diwygiadau i Ran 3 o Atodlen 2 i gywiro gwallau yn nhestun Saesneg telerau 47 a 60 ac i adlewyrchu adran 180(3)(a) o Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 yn nheler 60. Gwneir diwygiad i Ran 1 o Atodlen 3 i adlewyrchu adran 184(2) o Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016, gwneir diwygiad i Ran 2 o’r Atodlen honno i ddarparu ar gyfer nodi hyd cyfnod y contract meddiannaeth a gwneir diwygiad i Ran 3 o’r Atodlen honno i egluro bod teler 39 yn deler sylfaenol y gellir ei newid neu ei adael allan o ddatganiad ysgrifenedig.
Mae Rheoliad 4 yn diwygio’r nodiadau cyfarwyddyd ar gyfer deiliaid contractau yn ffurflen RHW17 (hysbysiad y landlord o derfynu: contract safonol cyfnodol gyda chyfnod hysbysu byrraf a ganiateir o ddau fis (heblaw contract safonol rhagarweiniol neu gontract safonol ymddygiad gwaharddedig)) yn yr Atodlen i Reoliadau Rhentu Cartrefi (Ffurfiau Rhagnodedig) (Cymru) 2022. Mae’r diwygiad yn dileu canllawiau mewn perthynas â chontractau wedi eu trosi nad ydynt yn berthnasol mwyach.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r offeryn hwn.
2016 dccc 1. Gweler adran 252 am y diffiniad o “rhagnodedig”.
O.S. 2022/244 (Cy. 72). Rhoddir effaith i Ffurflen RHW17 gan reoliad 20.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: