Search Legislation

Gorchymyn Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 (Cychwyn Rhif 4) 2023

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2023 Rhif 1096 (Cy. 189) (C. 69)

Diogelu’r Amgylchedd, Cymru

Gorchymyn Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 (Cychwyn Rhif 4) 2023

Gwnaed

16 Hydref 2023

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 88(3)(b) o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016(1).

Enwi a dehongli

1.—(1Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 (Cychwyn Rhif 4) 2023.

(2Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016.

Y darpariaethau sy’n dod i rym ar 18 Hydref 2023

2.  Y diwrnod penodedig i’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf ddod i rym yw 18 Hydref 2023—

(a)adran 65 (gofynion sy’n ymwneud â chasglu ar wahân etc. wastraff),

(b)adran 67 (pŵer i wahardd neu reoleiddio gwaredu gwastraff drwy losgi),

(c)adran 68 (sancsiynau sifil),

(d)adran 69(5) (rheoliadau), ac

(e)adran 70 (mân ddiwygiadau, diwygiadau canlyniadol a diddymiadau).

Y ddarpariaeth sy’n dod i rym ar 6 Ebrill 2024

3.  Y diwrnod penodedig i adran 66 (gwahardd gwaredu gwastraff bwyd i garthffos) o’r Ddeddf ddod i rym yw 6 Ebrill 2024.

Julie James

Y Gweinidog Newid Hinsawdd, un o Weinidogion Cymru

16 Hydref 2023

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Y Gorchymyn hwn yw’r pedwerydd gorchymyn cychwyn a wneir gan Weinidogion Cymru o dan Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 (“y Ddeddf”).

Mae’r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym y darpariaethau a ganlyn o Ran 4 (casglu a gwaredu gwastraff) y Ddeddf ar 18 Hydref 2023—

(a)adran 65 (gofynion sy’n ymwneud â chasglu ar wahân etc. wastraff),

(b)adran 67 (pŵer i wahardd neu reoleiddio gwaredu gwastraff drwy losgi),

(c)adran 68 (sancsiynau sifil),

(d)adran 69(5) (rheoliadau), ac

(e)adran 70 (mân ddiwygiadau, diwygiadau canlyniadol a diddymiadau).

Mae’r Gorchymyn hwn yn dwyn adran 66 (gwahardd gwaredu gwastraff bwyd i garthffos) o’r Ddeddf i rym ar 6 Ebrill 2024.

NODYN AM Y GORCHMYNION CYCHWYN CYNHARACH

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf wedi eu dwyn i rym drwy orchmynion cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn.

Y Ddarpariaeth Y Dyddiad Cychwyn Rhif O.S.
Adran 761 Ebrill 2017O.S. 2017/504 (Cy. 104)
Adrannau 77 i 79 i’r graddau sy’n angenrheidiol at ddiben gwneud rheoliadau24 Chwefror 2017O.S. 2017/152 (Cy. 44)
Adrannau 77 i 79 ac eithrio at ddiben gwneud rheoliadau1 Ebrill 2017O.S. 2017/504 (Cy. 104)
Adran 801 Ebrill 2017O.S. 2017/504 (Cy. 104)
Adran 8114 Gorffennaf 2017O.S. 2017/714 (Cy. 171)

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources