- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
Addysg, Cymru
Gwnaed
5 Hydref 2023
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru
6 Hydref 2023
Yn dod i rym
28 Hydref 2023
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 122(1), 123 a 124 o Ddeddf Addysg 2002(1), ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy(2), yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn.
Mae Gweinidogion Cymru yn unol ag adran 126(3) o’r Ddeddf honno wedi ymgynghori â’r personau hynny a’r cyrff hynny y cyfeirir atynt yn yr adran honno yr oedd yn ymddangos i Weinidogion Cymru eu bod yn briodol.
1.—(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol (Rhif 2) (Cymru) 2023 a daw i rym ar 28 Hydref 2023.
(2) Mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys i athrawon ysgol yng Nghymru.
(3) Yn y Gorchymyn hwn—
mae i “athro neu athrawes ysgol” yr ystyr a roddir i “school teacher” gan adran 122(3) i (6) o Ddeddf Addysg 2002;
ystyr “Dogfen 2022” (“the 2022 Document”) yw’r ddogfen o’r enw “Dogfen Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol (Cymru) 2022 a chanllawiau ar gyflog ac amodau athrawon ysgol (diwygiedig) – Medi 2023” ac a gyhoeddir ar wefan llyw.cymru(4);
ystyr “Dogfen 2023” (“the 2023 Document”) yw’r ddogfen o’r enw “Dogfen Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol (Cymru) 2023 a chanllawiau ar gyflog ac amodau athrawon ysgol” ac a gyhoeddir ar wefan llyw.cymru.
2.—(1) At y dibenion a bennir ym mharagraff (2)—
(a)mae’r darpariaethau a nodir yn adran 2 o Ddogfen 2022 yn cael effaith ar gyfer y cyfnod sy’n dechrau â 1 Medi 2022 ac yn dod i ben â 31 Awst 2023, a
(b)mae’r darpariaethau a nodir yn adran 2 o Ddogfen 2023 yn cael effaith ar ac ar ôl 1 Medi 2023.
(2) Y dibenion y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) yw dibenion penderfynu—
(a)y tâl ar gyfer athrawon ysgol, a
(b)amodau cyflogaeth eraill ar gyfer athrawon ysgol sy’n ymwneud â’u dyletswyddau proffesiynol a’u hamser gweithio.
3. Mae Gorchymyn Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol (Cymru) 2023(5) wedi ei ddirymu.
Jeremy Miles
Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, un o Weinidogion Cymru
5 Hydref 2023
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Mae’r Gorchymyn hwn yn gwneud darpariaeth ar gyfer penderfynu’r tâl ar gyfer athrawon ysgol (o fewn ystyr “school teacher” yn adran 122 o Ddeddf Addysg 2002 (p. 32)) yng Nghymru ac amodau cyflogaeth eraill ar gyfer athrawon ysgol yng Nghymru sy’n ymwneud â’u dyletswyddau proffesiynol a’u hamser gweithio.
Mae’r Gorchymyn yn gwneud y ddarpariaeth hon drwy gyfeirio at—
(a)adran 2 o ddogfen o’r enw “Dogfen Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol (Cymru) 2022 a chanllawiau ar gyflog ac amodau athrawon ysgol (diwygiedig) – Medi 2023” (“Dogfen 2022”) ar gyfer y cyfnod sy’n dechrau â 1 Medi 2022 ac yn dod i ben â 31 Awst 2023, a
(b)adran 2 o ddogfen o’r enw “Dogfen Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol (Cymru) 2023 a chanllawiau ar gyflog ac amodau athrawon ysgol” (“Dogfen 2023”) ar ac ar ôl 1 Medi 2023.
Gellir canfod Dogfen 2022 a Dogfen 2023 ar wefan Llywodraeth Cymru: https://llyw.cymru/addysgu-ac-arweinyddiaeth.
Mae’r Gorchymyn yn gwneud darpariaeth ôl-weithredol, o dan adran 123(3) o Ddeddf Addysg 2002, er mwyn darparu—
(a)bod y darpariaethau a nodir yn adran 2 o Ddogfen 2022 yn cael effaith ar gyfer y cyfnod sy’n dechrau â 1 Medi 2022 ac yn dod i ben â 31 Awst 2023, a
(b)bod y darpariaethau a nodir yn adran 2 o Ddogfen 2023 yn cael effaith ar ac ar ôl 1 Medi 2023,
er bod y Gorchymyn yn dod i rym ar ôl y dyddiadau hynny (erthygl 2).
Mae’r Gorchymyn yn dirymu Gorchymyn Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol (Cymru) 2023 (erthygl 3) ac mae’n disodli’r tâl a’r amodau cyflogaeth eraill ar gyfer athrawon ysgol yng Nghymru y rhoddwyd effaith iddynt gan y Gorchymyn hwnnw.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn. Gellir cael copi oddi wrth: Uned Strategaeth y Gweithlu, Yr Is-adran Addysgeg, Arweinyddiaeth a Dysgu Proffesiynol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.
2002 p. 32. Diwygiwyd adrannau 122 a 123 gan erthygl 5(1) o O.S. 2010/1158 a chan baragraff 11(2) a (3) o Ran 1 o Atodlen 2 iddo.
Trosglwyddwyd swyddogaethau’r Ysgrifennydd Gwladol i Weinidogion Cymru gan erthygl 39(3) o Orchymyn Gweinidogion Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 2018 (O.S. 2018/644).
Trosglwyddwyd y swyddogaeth hon o’r Ysgrifennydd Gwladol i Weinidogion Cymru gan erthygl 39(3) o Orchymyn Gweinidogion Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 2018.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: