Search Legislation

Rheoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Tenantiaethau Cymdeithas Dai: Darpariaethau Sylfaenol) 2022

Newidiadau dros amser i: Rheoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Tenantiaethau Cymdeithas Dai: Darpariaethau Sylfaenol) 2022

 Help about opening options

Alternative versions:

Statws

Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 01/12/2022.

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Rheoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Tenantiaethau Cymdeithas Dai: Darpariaethau Sylfaenol) 2022. Help about Changes to Legislation

Close

Changes to Legislation

Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Ar hyn o bryd mae unrhyw newidiadau neu effeithiau hysbys a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol wedi'u gwneud i destun y ddeddfwriaeth yr ydych yn edrych arni gan y tîm golygyddol. Gweler 'Cwestiynau Cyffredin' am fanylion ynglŷn â'r amserlenni ar gyfer nodi a chofnodi effeithiau newydd ar y safle hwn.

Offerynnau Statudol Cymru

2022 Rhif 799 (Cy. 176)

Tai, Cymru

Rheoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Tenantiaethau Cymdeithas Dai: Darpariaethau Sylfaenol) 2022

Gwnaed

13 Gorffennaf 2022

Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 22(1)(b)(1) a 256(1) a (2)(2) o Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016(3).

Yn unol ag adrannau 256(3) a 256(4)(b)(4) o’r Ddeddf honno, gosodwyd drafft o’r Rheoliadau hyn gerbron Senedd Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddi drwy benderfyniad.

Enwi a chychwynLL+C

1.  Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Tenantiaethau Cymdeithas Dai: Darpariaethau Sylfaenol) 2022 a deuant i rym ar [F11 Rhagfyr 2022 (y diwrnod y daw adran 239 o’r Ddeddf i rym)] .

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 1 mewn grym ar 1.12.2022 , see reg. 1 (as amended by The Renting Homes (Wales) Act 2016 (Commencement No. 2 and Consequential Amendments) Order 2022 (S.I. 2022/906), art. 14)

DehongliLL+C

2.—(1Mae i eiriau ac ymadroddion a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn yr un ystyr ag sydd iddynt yn y Ddeddf.

(2Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016;

mae i “tenantiaeth cymdeithas dai” yr un ystyr â “housing association tenancy” yn Rhan 6 o Ddeddf Rhenti 1977(5) (gweler adran 86(6) o’r Ddeddf honno).

Gwybodaeth Cychwyn

I2Rhl. 2 mewn grym ar 1.12.2022 , see reg. 1 (as amended by The Renting Homes (Wales) Act 2016 (Commencement No. 2 and Consequential Amendments) Order 2022 (S.I. 2022/906), art. 14)

Nid yw adrannau 104 a 123 o’r Ddeddf yn ddarpariaethau sylfaenol o gontractau meddiannaeth sy’n denantiaethau cymdeithas daiLL+C

3.  Nid yw adran 104 o’r Ddeddf (contractau diogel: amrywio’r rhent) yn ddarpariaeth sylfaenol sy’n gymwys i gontract diogel sy’n denantiaeth cymdeithas dai.

Gwybodaeth Cychwyn

I3Rhl. 3 mewn grym ar 1.12.2022 , see reg. 1 (as amended by The Renting Homes (Wales) Act 2016 (Commencement No. 2 and Consequential Amendments) Order 2022 (S.I. 2022/906), art. 14)

4.  Nid yw adran 123 o’r Ddeddf (contractau safonol cyfnodol: amrywio’r rhent) yn ddarpariaeth sylfaenol sy’n gymwys i gontract safonol cyfnodol sy’n denantiaeth cymdeithas dai.

Gwybodaeth Cychwyn

I4Rhl. 4 mewn grym ar 1.12.2022 , see reg. 1 (as amended by The Renting Homes (Wales) Act 2016 (Commencement No. 2 and Consequential Amendments) Order 2022 (S.I. 2022/906), art. 14)

Diwygiadau canlyniadol i’r DdeddfLL+C

5.—(1Mae’r Ddeddf wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2Yn adran 104, ar ddiwedd is-adran (4) mewnosoder “, ac eithrio contract diogel sy’n denantiaeth cymdeithas dai”.

(3Yn adran 123, ar ddiwedd is-adran (4) mewnosoder “, ac eithrio contract safonol cyfnodol sy’n denantiaeth cymdeithas dai”.

(4Yn adran 252 (mân ddiffiniadau), yn y lle priodol mewnosoder—

mae i “tenantiaeth cymdeithas dai” yr un ystyr â “housing association tenancy” yn Rhan 6 o Ddeddf Rhenti 1977 (p. 42) (gweler adran 86 o’r Ddeddf honno);.

(5Yn adran 253 (mynegai), yn nhabl 2, ar ôl y cofnod ar gyfer “tenantiaeth”, yn y golofn chwith mewnosoder “tenantiaeth cymdeithas dai” ac yn y golofn dde mewnosoder “adran 252”.

(6Yn Atodlen 1 (trosolwg o ddarpariaethau sylfaenol a ymgorfforir fel telerau contractau meddiannaeth)—

(a)yn Rhan 1 (contractau diogel), yn y cofnod yn nhabl 3 ar gyfer adrannau 103 i 109, yn y drydedd golofn (nodiadau), ar ôl “oddi tanynt”, yn y lle cyntaf y mae’n ymddangos, mewnosoder “ac nad ydynt yn denantiaethau cymdeithas dai (o ran hynny, gweler adran 93 o Ddeddf Rhenti 1977 (p. 42))”;

(b)yn Rhan 2 (contractau safonol cyfnodol), yn y cofnod yn nhabl 4 ar gyfer adrannau 122 i 128, yn y drydedd golofn (nodiadau), ar ôl “oddi tanynt”, yn y lle cyntaf y mae’n ymddangos, mewnosoder “ac nad ydynt yn denantiaethau cymdeithas dai (o ran hynny, gweler adran 93 o Ddeddf Rhenti 1977 (p. 42))”.

(7Yn Atodlen 12 (trosi tenantiaethau a thrwyddedau presennol sy’n bodoli cyn i Bennod 3 o Ran 10 ddod i rym), ym mharagraff 14(2)—

(a)ar ôl “yn gymwys i” mewnosoder

(a)”;

(b)ar ôl “rhent)” mewnosoder

, na

(b)cynnydd mewn rhent o dan adran 93 o Ddeddf Rhenti 1977 (p. 42)..

Gwybodaeth Cychwyn

I5Rhl. 5 mewn grym ar 1.12.2022 , see reg. 1 (as amended by The Renting Homes (Wales) Act 2016 (Commencement No. 2 and Consequential Amendments) Order 2022 (S.I. 2022/906), art. 14)

Diwygiadau canlyniadol i adran 93 o Ddeddf Rhenti 1977LL+C

6.—(1Mae adran 93(7) o Ddeddf Rhenti 1977 (cynnyddu’r rhent heb rybudd i ymadael) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2Yn is-adran (1)—

(a)ar ôl “weekly or other periodical tenancy” mewnosoder “but not an occupation contract”;

(b)yn lle “in this section” rhodder “in this subsection and subsection (2)”.

(3Ar ôl is-adran (2) mewnosoder—

(2A) Where a housing association tenancy is a secure contract or a periodic standard contract, the rent payable to the housing association or, as the case may be, the housing trust or the Welsh Ministers (in this subsection called “the landlord”), may be increased with effect from the beginning of any rental period by a written notice of increase specifying the date on which the increase is to take effect, and given by the landlord to the contract-holder not later than four weeks before that date.

(2B) A notice of increase given under subsection (2A) does not take effect if, before the date specified in that notice, the contract-holder gives a notice to end the contract.

(2C) But the notice of increase does take effect if, before the date specified in that notice, the notice to end the contract ceases to have effect (see section 167(3) or 172(3) of the Renting Homes (Wales) Act 2016 (anaw 1))..

(4Ar ôl is-adran (5) mewnosoder—

(6) In this section, the following terms have the same meaning as in the Renting Homes (Wales) 2016 (anaw 1) (see sections 7 and 8 of that Act)—

(a)contract-holder;

(b)occupation contract;

(c)periodic standard contract;

(d)secure contract,

and “notice to end the contract” means a notice under section 163 or 168 of that Act..

Gwybodaeth Cychwyn

I6Rhl. 6 mewn grym ar 1.12.2022 , see reg. 1 (as amended by The Renting Homes (Wales) Act 2016 (Commencement No. 2 and Consequential Amendments) Order 2022 (S.I. 2022/906), art. 14)

Julie James

Y Gweinidog Newid Hinsawdd, un o Weinidogion Cymru

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae Pennod 3 o Ran 2 o Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (dccc 1) (“Deddf 2016”) yn cyflwyno’r cysyniad o ddarpariaethau sylfaenol sef:

(a)darpariaethau Deddf 2016; a

(b)darpariaethau eraill sy’n ddarpariaethau sylfaenol yn rhinwedd adran 22(1)(a) o Ddeddf 2016,

a ymgorfforir fel telerau contractau meddiannaeth neu fel telerau mathau neu ddisgrifiadau penodol o gontractau meddiannaeth (yn ddarostyngedig i adrannau 20(1) a (2) ac 21 o Ddeddf 2016) ac sydd felly’n ffurfio rhan o’r contract rhwng deiliad contract a landlord.

Unwaith y mae darpariaeth sylfaenol wedi ei chynnwys mewn contract meddiannaeth, cyfeirir ati fel “teler sylfaenol” o’r contract.

Mae adran 20 o Ddeddf 2016 yn caniatáu i landlordiaid a deiliaid contract gytuno i beidio ag ymgorffori darpariaethau sylfaenol mewn contract meddiannaeth (yn ddarostyngedig i eithriadau penodol). Fodd bynnag, mae hyn yn ddarostyngedig i’r prawf y byddai peidio ag ymgorffori’r teler yn gwella sefyllfa deiliad y contract. Mae landlordiaid a deiliaid contract hefyd yn gallu addasu darpariaethau sylfaenol, drwy gytundeb, ar yr amod y byddai’r addasiad yn gwella sefyllfa deiliad y contract (eto, yn ddarostyngedig i eithriadau penodol).

Mae adran 22(1) o Ddeddf 2016 yn galluogi Gweinidogion Cymru i wneud rheoliadau sy’n pennu bod unrhyw ddarpariaeth o unrhyw ddeddfiad yn ddarpariaeth sylfaenol, neu nad yw’n ddarpariaeth sylfaenol, sy’n gymwys i gontract meddiannaeth.

Mae rheoliadau 3 a 4 o’r Rheoliadau hyn yn darparu nad yw adrannau 104 (contractau diogel: amrywio’r rhent) a 123 (contractau safonol cyfnodol: amrywio’r rhent) o Ddeddf 2016 yn ddarpariaethau sylfaenol o gontractau meddiannaeth sy’n denantiaethau cymdeithas dai (o fewn yr ystyr a roddir i “housing association tenancy” gan Ran 6 o Ddeddf Rhenti 1977 (“Deddf 1977”)).

Mae rheoliad 5 yn gwneud diwygiadau canlyniadol i adrannau 104, 123, 252 (mân ddiffiniadau) a 253 (mynegai) o Ddeddf 2016 ac Atodlen 1 (trosolwg o ddarpariaethau sylfaenol a ymgorfforir fel telerau contractau meddiannaeth) ac Atodlen 12 (trosi tenantiaethau a thrwyddedau presennol sy’n bodoli cyn i Bennod 3 o Ran 10 ddod i rym) i Ddeddf 2016.

Mae rheoliad 6 yn gwneud diwygiadau canlyniadol i adran 93 o Ddeddf 1977 (cynyddu’r rhent heb rybudd i ymadael) ac yn mewnosod is-adrannau newydd (2A), (2B) a (2C). Mae is-adran (2A) yn darparu, pan fo tenantiaeth cymdeithas dai yn gontract diogel neu’n gontract safonol cyfnodol, y caniateir cynyddu’r rhent sy’n daladwy i’r landlord (sef cymdeithas dai, ymddiriedolaeth dai neu Weinidogion Cymru) o ddechrau unrhyw gyfnod rhent drwy hysbysiad ysgrifenedig sy’n pennu’r dyddiad y bydd y cynnydd yn cael effaith ac a roddir gan y landlord i ddeiliad y contract ddim llai na phedair wythnos cyn y dyddiad hwnnw. Mae is-adran newydd (2B) yn darparu nad yw hysbysiad o gynnydd yn cael effaith os yw deiliad y contract yn rhoi hysbysiad i derfynu’r contract cyn y dyddiad a bennir yn yr hysbysiad. Mae is-adran newydd (2C) yn darparu ymhellach y bydd yr hysbysiad o’r cynnydd yn cael effaith os yw’r hysbysiad i derfynu’r contract yn peidio â chael effaith o dan adran 167(3) neu 172(3) o Ddeddf 2016 cyn y dyddiad a bennir yn yr hysbysiad hwnnw.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.

(1)

Diwygiwyd adran 22 gan adran 18 o Ddeddf Rhentu Cartrefi (Diwygio) Cymru 2021 (dsc 3) a pharagraffau 1 a 3 o Atodlen 6 iddi.

(2)

Diwygiwyd is-adran 256(2) gan adrannau 14 a 18 o Ddeddf Rhentu Cartrefi (Diwygio) Cymru 2021 (dsc 3) a pharagraffau 1 ac 21 o Atodlen 6 iddi.

(4)

Mae diwygiadau eraill i adran 256(4) nad yw’r un ohonynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn

(6)

Diwygiwyd adran 86 gan adrannau 77 a 152 o Ddeddf Tai 1980 (p. 51) ac Atodlenni 10 a 26 iddi, adran 4 o Ddeddf Tai (Darpariaethau Canlyniadol) 1985 (p. 71) a pharagraff 35 o Atodlen 2 iddi, erthygl 2 o Orchymyn Deddf Llywodraeth Cymru 1998 (Tai) (Diwygiadau) 1999 (O.S. 1999/61) a pharagraff 1 o’r Atodlen iddo ac erthygl 5 o Orchymyn Deddf Tai ac Adfywio 2008 (Diwygiadau Canlyniadol) 2010 (O.S. 2010/866) a pharagraffau 9 ac 11 o Atodlen 2 iddo.

(7)

Diwygiwyd adran 93 gan adrannau 77 a 140 o Ddeddf Tai 1988 (p. 50) a pharagraff 5 o Atodlen 10 a Rhan 2 o Atodlen 17 iddi, adrannau 77 a 152 o Ddeddf Tai 1980 (p. 51) ac Atodlen 10 ac Atodlen 26 iddi, adran 152 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1988 (p. 38) a Rhan 6 o Atodlen 18 iddi, erthygl 5 o Orchymyn Deddf Tai ac Adfywio 2008 (Darpariaethau Canlyniadol) 2010 (O.S. 2010 866) a pharagraffau 9 a 12 o Atodlen 2 iddo ac erthygl 2 o Orchymyn Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 (Tai) (Diwygiadau) 1999 (O.S. 1999/61) a pharagraff 1 o’r Atodlen iddo.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Point in Time: This becomes available after navigating to view revised legislation as it stood at a certain point in time via Advanced Features > Show Timeline of Changes or via a point in time advanced search. A point in time version is only available in English.

Close

See additional information alongside the content

Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.

Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

Timeline of Changes

This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.

Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources