- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
Y Dreth Gyngor, Cymru
Gwnaed
28 Mehefin 2022
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru
30 Mehefin 2022
Yn dod i rym
21 Gorffennaf 2022
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau’r Dreth Gyngor (Diwygiadau sy’n Ymwneud â Diystyriadau Disgownt ac Anheddau Esempt) (Cymru) 2022.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 21 Gorffennaf 2022.
2. Yn rheoliad 5 (dosbarthau rhagnodedig) o Reoliadau’r Dreth Gyngor (Darpariaethau Ychwanegol ar gyfer Diystyriadau Disgownt) 1992(4) ar y diwedd mewnosoder—
(8) Class H: a person who holds permission to enter or to stay in the United Kingdom granted under the Homes for Ukraine Sponsorship Scheme route in Appendix Ukraine Scheme to the Immigration Rules(5).”.
3.—(1) Mae’r diwygiadau a wnaed i Orchymyn y Dreth Gyngor (Anheddau Esempt) 1992(6) (“Gorchymyn 1992”) gan erthygl 3 o Reoliadau’r Dreth Gyngor (Diystyriadau Disgownt ac Anheddau Esempt) (Diwygio) (Lloegr) 2022(7) yn gymwys mewn perthynas ag awdurdodau bilio yng Nghymru.
(2) Mae paragraff (1) yn ddarostyngedig i’r diwygiadau a wneir i Orchymyn 1992 gan y Rheoliadau hyn.
(3) Mae Gorchymyn 1992 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(4) Yn erthygl 2(3A)(8) ar ôl “dwelling” mewnosoder “in England”.
(5) Yn erthygl 3, yn Nosbarth X(9), yn lle paragraff (2)(b) rhodder—
“(b)“relevant person” means—
(i)a person falling within paragraphs (i), (ii) or (iii) of paragraph (2)(a) of Class N above; or
(ii)a relevant Ukrainian person; and”.
Rebecca Evans
Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
28 Mehefin 2022
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau’r Dreth Gyngor (Darpariaethau Ychwanegol ar gyfer Diystyriadau Disgownt) 1992 (“y Rheoliadau Diystyriadau Disgownt”) a Gorchymyn y Dreth Gyngor (Anheddau Esempt) 1992 (“y Gorchymyn Anheddau Esempt”) i sicrhau nas effeithir ar ddiystyriadau ac esemptiadau sy’n bodoli eisoes o ganlyniad i unigolion a dderbynnir i’r Deyrnas Unedig o dan Gynllun Cartrefi i Wcráin Llywodraeth y DU (“y Cynllun Cartrefi i Wcráin”) yn preswylio mewn eiddo y mae’r diystyriadau a’r esemptiadau hynny yn gymwys iddo.
Mae adran 11 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 (“Deddf 1992”) yn darparu y bydd swm y dreth gyngor sy’n daladwy mewn cysylltiad ag annedd drethadwy ar unrhyw ddiwrnod yn ddarostyngedig i ddisgownt sy’n hafal i’r ganran briodol o’r swm hwnnw os ar y diwrnod hwnnw:
(a)bod gan annedd un preswylydd yn unig ac nid yw’r preswylydd i’w ddiystyru at ddibenion disgownt neu fod gan annedd ddau neu ragor o breswylwyr a bod pob un ohonynt heblaw un i’w diystyru at ddiben disgownt; neu
(b)nad oes gan yr annedd unrhyw breswylydd neu fod gan yr annedd un neu ragor o breswylwyr a bod pob un ohonynt i’w diystyru at ddibenion disgownt.
Y canrannau priodol yw 25% mewn perthynas ag (a) uchod a 50% mewn perthynas â (b).
Mae Atodlen 1 i Ddeddf 1992 yn rhestru’r personau sydd i’w diystyru at ddiben penderfynu i ganiatáu disgownt. Mae rheoliad 5 o’r Rheoliadau Diystyriadau Disgownt yn rhestru dosbarthau ychwanegol o bersonau sydd i’w diystyru.
O dan adran 4(1) o Ddeddf 1992, mae’r dreth gyngor yn daladwy mewn cysylltiad ag anheddau nad ydynt yn esempt. Mae’r Gorchymyn Anheddau Esempt, a wnaed o dan adran 4(3) o Ddeddf 1992, yn rhagnodi dosbarthau o anheddau sy’n esempt rhag y dreth gyngor.
Mae rheoliad 2 o’r Rheoliadau hyn yn diwygio’r Rheoliadau Diystyriadau Disgownt i ragnodi personau sy’n bresennol yn y Deyrnas Unedig o dan y Cynllun Cartrefi i Wcráin fel dosbarth ychwanegol o bersonau i’w diystyru at ddiben cyfrifo’r disgownt o dan adran 11 o Ddeddf 1992.
Mae rheoliad 3 yn diwygio’r Gorchymyn Anheddau Esempt i ddarparu bod esemptiadau sy’n ymwneud ag anheddau a feddiennir pan fo unigolion a dderbynnir i’r Deyrnas Unedig o dan y Cynllun Cartrefi i Wcráin yn preswylio mewn anheddau o’r fath yn Lloegr hefyd yn gymwys i anheddau yng Nghymru. Mae rheoliad 3 hefyd yn ymestyn yr esemptiadau hynny i anheddau penodol eraill yng Nghymru.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Yr Is-adran Diwygio Cyllid Llywodraeth Leol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ ac mae wedi ei gyhoeddi ar www.llyw.cymru.
Gweler adran 116(1) o Ddeddf 1992 am y diffiniad o “prescribed”.
Trosglwyddwyd swyddogaethau’r Ysgrifennydd Gwladol, i’r graddau yr oeddent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672), ac Atodlen 1 iddo. Trosglwyddwyd y swyddogaethau hynny wedi hynny i Weinidogion Cymru yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32). Caniateir i’r pŵer i wneud gorchymyn o dan adran 4 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 gael ei arfer i wneud rheoliadau yn rhinwedd adran 39 o Ddeddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019 (dccc 4).
O.S. 1992/552, a ddiwygiwyd gan adran 2(3) o Ddeddf Tiriogaethau Prydeinig Tramor 2002 (p. 8), O.S. 1992/2942, 1993/149, 1995/620, 1997/657, 2005/3302 (Cy. 256) a 2019/431 (Cy. 100). Mae offerynnau diwygio eraill nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.
https://www.gov.uk/guidance/immigration-rules/immigration-rules-appendix-ukraine-scheme. Mae’r Rheolau Mewnfudo wedi eu gosod o dan adran 3(2) o Ddeddf Mewnfudo 1971 (p. 77). Mae’r rheolau mewn perthynas â’r Cynllun Noddi Cartrefi i Wcráin wedi eu nodi yn UKR 11.1 i UKR 20.2 o’r atodiad. Mae “Permission to enter” a “permission to stay” wedi eu diffinio yn rheol 6.2 o’r Rheolau Mewnfudo: Cyflwyniad (https://www.gov.uk/guidance/immigration-rules/immigration-rules-introduction#intro6).
Mewnosodwyd erthygl 2(3A) gan O.S. 2022/439.
Mewnosodwyd Dosbarth X gan O.S. 2019/432 (Cy. 101).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: