Search Legislation

Gorchymyn y Cod Ymarfer Diwygiedig ar arfer swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol mewn perthynas â Rhan 4 (taliadau uniongyrchol a dewis o lety) a Rhan 5 (codi ffioedd ac asesiadau ariannol) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (Diwrnod Penodedig) 2022

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2022 Rhif 427 (Cy. 106)

Gofal Cymdeithasol, Cymru

Gorchymyn y Cod Ymarfer Diwygiedig ar arfer swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol mewn perthynas â Rhan 4 (taliadau uniongyrchol a dewis o lety) a Rhan 5 (codi ffioedd ac asesiadau ariannol) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (Diwrnod Penodedig) 2022

Gwnaed

am 12.00 p.m. ar 4 Ebrill 2022

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 146(4)(b) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014(1), yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn.

Enwi a dehongli

1.—(1Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn y Cod Ymarfer Diwygiedig ar arfer swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol mewn perthynas â Rhan 4 (taliadau uniongyrchol a dewis o lety) a Rhan 5 (codi ffioedd ac asesiadau ariannol) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (Diwrnod Penodedig) 2022.

(2Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “y Cod Diwygiedig” yw’r Cod Ymarfer ar arfer swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol mewn perthynas â Rhan 4 (taliadau uniongyrchol a dewis o lety) a Rhan 5 (codi ffioedd ac asesiadau ariannol) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, y gosodwyd drafft ohono, yn unol ag adran 146(2) o’r Ddeddf honno, gerbron Senedd Cymru ar 4 Chwefror 2022 ac a ddyroddwyd gan Weinidogion Cymru ar 4 Ebrill 2022.

Y diwrnod penodedig

2.  Y diwrnod penodedig i’r Cod Diwygiedig ddod i rym yw 11 Ebrill 2022.

Julie Morgan

Y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, o dan awdurdod y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

Am 12.00 p.m. ar 4 Ebrill 2022

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r Gorchymyn hwn yn pennu 11 Ebrill 2022 fel y diwrnod y daw’r Cod Ymarfer diwygiedig ar arfer swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol mewn perthynas â Rhan 4 (taliadau uniongyrchol a dewis o lety) a Rhan 5 (codi ffioedd ac asesiadau ariannol) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 i rym. Dyroddwyd y Cod diwygiedig hwn gan Weinidogion Cymru o dan adran 145(1) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (“Deddf 2014”) ar 4 Ebrill 2022.

Mae adran 145(3) o Ddeddf 2014 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol weithredu yn unol ag unrhyw ofynion perthnasol sydd wedi eu cynnwys mewn cod a ddyroddir o dan adran 145(1) a rhoi sylw i unrhyw ganllawiau perthnasol sydd wedi eu cynnwys ynddo.

Mae’r Cod diwygiedig yn cynnwys newidiadau a achoswyd gan Reoliadau Gofal a Chymorth (Gosod Ffioedd) ac (Asesiad Ariannol) (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) 2022 (O.S. 2022/99 (Cy. 35)).

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources