Search Legislation

Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Diwygiadau sy’n Ymwneud â Chyhoeddi Gwybodaeth) (Cymru) 2022

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made).

Offerynnau Statudol Cymru

2022 Rhif 412 (Cy. 101)

Llywodraeth Leol, Cymru

Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Diwygiadau sy’n Ymwneud â Chyhoeddi Gwybodaeth) (Cymru) 2022

Gwnaed

30 Mawrth 2022

Yn dod i rym

5 Mai 2022

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 50(3)(a) a (4) o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021(1) ac adran 22(6) a (7) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000(2).

Gosodwyd drafft o’r offeryn hwn gerbron Senedd Cymru ac fe’i cymeradwywyd drwy benderfyniad ganddi yn unol ag adran 174(4) a (5)(f) o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021(3).

Enwi a chychwyn

1.  Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Diwygiadau sy’n Ymwneud â Chyhoeddi Gwybodaeth) (Cymru) 2022 a deuant i rym ar 5 Mai 2022.

Diwygio Deddf Llywodraeth Leol 1972

2.  Yn adran 100G o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972(4) (gwybodaeth ychwanegol a gyhoeddir gan brif gynghorau), ar ôl is-adran (4) mewnosoder—

(5) But, in relation to a principal council in Wales, the information open to inspection under subsection (4) must not include a member’s address included in the register maintained under subsection (1).

Diwygio Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Gweithrediaeth) (Penderfyniadau, Dogfennau a Chyfarfodydd) (Cymru) 2001

3.  Yn rheoliad 12 o Reoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Gweithrediaeth) (Penderfyniadau, Dogfennau a Chyfarfodydd) (Cymru) 2001(5) (gwybodaeth ychwanegol a gyhoeddir gan awdurdodau lleol), ar ôl paragraff (3) mewnosoder—

(4) Ond, ni chaiff yr wybodaeth sy’n agored i’w harchwilio o dan baragraff (3) gynnwys cyfeiriad aelod sydd wedi ei gynnwys yn y gofrestr a gedwir o dan baragraff (1).

Rebecca Evans

Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru

30 Mawrth 2022

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn, sy’n gymwys o ran Cymru, yn diwygio Deddf Llywodraeth Leol 1972 (“Deddf 1972”) a Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Gweithrediaeth) (Penderfyniadau, Dogfennau a Chyfarfodydd) (Cymru) 2001 (“Rheoliadau 2001”).

Mae adran 100G(1) o Ddeddf 1972 yn ei gwneud yn ofynnol i brif gyngor (yng Nghymru, mae’r rhain yn cynnwys cynghorau sir a chynghorau bwrdeistref sirol, awdurdodau tân ac achub, awdurdodau Parciau Cenedlaethol a chyd-fyrddau neu gyd-bwyllgorau sy’n dod o fewn adran 100J(2) o Ddeddf 1972 ac sy’n cyflawni swyddogaethau dau neu ragor o brif gynghorau yng Nghymru) i gadw cofrestr sy’n nodi, ymhlith pethau eraill, enw a chyfeiriad pob aelod o’r cyngor, gan gynnwys aelodau pwyllgorau ac is-bwyllgorau. Mae adran 100G(4) o Ddeddf 1972 yn ei gwneud yn ofynnol bod y gofrestr honno yn agored i’r cyhoedd edrych arni yn swyddfeydd y cyngor.

Mae rheoliad 12(1) o Reoliadau 2001 hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol yng Nghymru (cynghorau sir a chynghorau bwrdeistref sirol sy’n gweithredu trefniadau gweithrediaeth) i gadw cofrestr sy’n nodi, ymhlith pethau eraill, enw a chyfeiriad pob aelod o’r weithrediaeth, a phob aelod o bob pwyllgor i weithrediaeth yr awdurdod hwnnw. Mae rheoliad 12(3) yn ei gwneud yn ofynnol bod y gofrestr honno yn agored i’r cyhoedd edrych arni ym mhrif swyddfa’r awdurdod.

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Deddf 1972 a Rheoliadau 2001 i ddarparu na chaiff cyfeiriadau aelodau a gynhwysir yn y cofrestrau fod yn agored i’r cyhoedd edrych arnynt yn swyddfeydd prif gynghorau neu ym mhrif swyddfeydd awdurdodau lleol.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal asesiadau effaith rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ ac fe’i cyhoeddwyd ar www.llyw.cymru .

(2)

2000 p. 22; diwygiwyd adran 22(6) gan baragraff 28(2) o Atodlen 3 i Ddeddf Lleoliaeth 2011 (p. 20).

(3)

Gweler hefyd adran 40 o Ddeddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019 (dccc 4) am ddarpariaeth ynghylch y weithdrefn sy’n gymwys i’r offeryn hwn.

(4)

1972 p. 70. Mewnosodwyd adran 100G gan adran 1(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) 1985 (p. 43).

(5)

O.S. 2001/2290 (Cy. 178), y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources