- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
Llywodraeth Leol, Cymru
Gwnaed
7 Mawrth 2022
Yn dod i rym
11 Mawrth 2022
Mae Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni bod camgymeriadau wedi digwydd wrth lunio Gorchymyn Bwrdeistref Sirol Bro Morgannwg (Trefniadau Etholiadol) 2021(1)a wnaed o dan adran 37(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013(2)(“Deddf 2013”).
Mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei bod yn angenrheidiol cywiro’r camgymeriadau hynny ac yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer eu pŵer a roddir gan adran 43(10) o Ddeddf 2013.
1.—(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Bwrdeistref Sirol Bro Morgannwg (Trefniadau Etholiadol) (Diwygio) 2022.
(2) Daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 11 Mawrth 2022.
2.—(1) Mae’r Tabl yn yr Atodlen (enwau ac ardaloedd wardiau etholiadol a nifer aelodau’r cyngor) i Orchymyn Bwrdeistref Sirol Bro Morgannwg (Trefniadau Etholiadol) 2021 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Yng ngholofn (3)—
(a)yn lle “a chymuned Pen-llin” rhodder “a chymunedau Llan-fair, a Phen-llin”;
(b)yn lle “Cymunedau Dinas Powys, a Llanfihangel-y-pwll” rhodder “Cymunedau Dinas Powys, a Llanfihangel-y-pwll a Lecwydd”;
(c)yn lle “Cymuned Sili” rhodder “Cymuned Sili a Larnog”.
Rebecca Evans
Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
7 Mawrth 2022
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Mae’r Gorchymyn hwn yn diwygio Gorchymyn Bwrdeistref Sirol Bro Morgannwg (Trefniadau Etholiadol) 2021 (“Gorchymyn 2021”), sy’n gweithredu’r argymhellion ar gyfer newidiadau i’r trefniadau etholiadol ar gyfer Bwrdeistref Sirol Bro Morgannwg, sydd wedi eu cynnwys yn adroddiad Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru, dyddiedig Chwefror 2021 (“yr Adroddiad”).
Mae’r Tabl yn yr Atodlen i Orchymyn 2021 (“y Tabl”) yn nodi’r trefniadau etholiadol ar gyfer Bwrdeistref Sirol Bro Morgannwg. Mae pob ward etholiadol yn cynnwys yr ardaloedd a bennir yng ngholofn (3) o’r Tabl. Drwy gamgymeriad, hepgorodd yr Adroddiad wybodaeth benodol mewn perthynas â wardiau etholiadol y Bont-faen, Dinas Powys, a Sili ac o’r herwydd nid oedd yr wybodaeth honno’n ymddangos yng ngholofn (3) o’r Tabl. Mae erthygl 2 o’r Gorchymyn hwn yn cywiro’r camgymeriad hwnnw.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: