- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
Iechyd Y Cyhoedd, Cymru
Gwnaed
24 Chwefror 2022
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru
25 Chwefror 2022
Yn dod i rym
28 Chwefror 2022
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 45C(1) a (3)(c)a 45P(2) o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984(1).
Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud mewn ymateb i’r bygythiad i iechyd y cyhoedd a berir gan fynychder a lledaeniad coronafeirws syndrom anadlol acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2) yng Nghymru.
Mae Gweinidogion Cymru yn ystyried bod y cyfyngiadau a’r gofynion a osodir gan y Rheoliadau hyn yn gymesur â’r hyn y maent yn ceisio ei gyflawni, sef ymateb iechyd y cyhoedd i’r bygythiad hwnnw.
Yn unol ag adran 45Q(3) o’r Ddeddf honno mae Gweinidogion Cymru o’r farn nad yw’r offeryn yn cynnwys unrhyw ddarpariaeth a wneir yn rhinwedd adran 45C(3)(c) o’r Ddeddf sy’n gosod neu’n galluogi gosod cyfyngiad neu ofyniad arbennig, neu unrhyw gyfyngiad neu ofyniad arall sy’n cael neu a fyddai’n cael effaith sylweddol ar hawliau person.
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 6) 2022.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 28 Chwefror 2022.
2.—(1) Mae Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020(2) wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 20—
(a)ym mharagraff (1), yn lle’r geiriau o “mangreoedd y mae gan y cyhoedd” hyd at y diwedd rhodder
“—
(a)mangreoedd busnesau sy’n cynnig nwyddau neu wasanaethau ar gyfer eu gwerthu neu eu llogi (mangreoedd manwerthu), gan gynnwys mangre busnes neu wasanaeth a restrir ym mharagraffau (a) i (m) o baragraff 39 o Atodlen 7;
(b)canolfannau siopa ac arcedau siopa;
(c)mangreoedd milfeddygon a gwasanaethau tocio a golchi anifeiliaid;
(d)cyfleusterau storio a dosbarthu, gan gynnwys mannau gollwng danfoniadau;
(e)mangreoedd asiantau eiddo neu asiantau gosod eiddo, swyddfeydd gwerthiant datblygwyr a chartrefi arddangos;
(f)mangreoedd salonau gwallt a barbwyr, salonau ewinedd a harddwch gan gynnwys gwasanaethau lliw haul ac electrolysis, a gwasanaethau tyllu’r corff a thatŵio;
(g)mangreoedd a ddefnyddir ar gyfer darparu bwyd sydd wedi ei baratoi i archeb benodol defnyddwyr ar gyfer ei ddanfon neu ei gasglu i’w fwyta oddi ar y fangre;
(h)mangreoedd a ddefnyddir ar gyfer darparu gwasanaethau meddygol, iechyd neu ddeintyddol, gwasanaethau awdioleg, trin traed, ceiropractyddion, osteopathiaid, optometreg, ffisiotherapi neu aciwbigo, neu wasanaethau meddygol neu iechyd eraill gan gynnwys gwasanaethau sy’n ymwneud ag iechyd meddwl;
(i)mangreoedd a ddefnyddir ar gyfer darparu gwasanaeth gofal cymdeithasol, gan gynnwys gwasanaethau cartrefi gofal, gwasanaethau llety diogel, gwasanaethau canolfannau preswyl i deuluoedd a gwasanaethau gofal dydd i oedolion;
(j)cerbyd, pan fydd yn cael ei ddefnyddio ar gyfer—
(i)hyfforddiant am dâl mewn gyrru car modur yn unol ag adran 123 o Ddeddf Traffig Ffyrdd 1988(3), neu
(ii)prawf cymhwysedd gyrru fel y disgrifir “test of competence to drive” yn adran 89(1)(a)(i) o’r Ddeddf honno.”;
(b)ym mharagraff (2), hepgorer is-baragraff (aa);
(c)ym mharagraff (3), ar y diwedd mewnosoder—
“(i)mewn perthynas â mangre a ddisgrifir ym mharagraff (1)(i), pan fo P yn preswylio yn y fangre.”;
(d)ar ôl paragraff (3) mewnosoder—
“(3A) Nid yw paragraff (1) yn gymwys—
(a)pan nad oes gan y cyhoedd fynediad i’r fangre;
(b)pan fo P mewn mangre lle y gwerthir bwyd neu ddiod, neu lle y darperir bwyd neu ddiod fel arall, i’w fwyta neu i’w hyfed yn y fangre.”;
(e)ym mharagraff (4), yn y geiriau o flaen is-baragraff (a), yn lle “paragraff (1)” rhodder “paragraff (3A)(b);
(f)hepgorer paragraff (5);
(g)yn lle paragraff (6) rhodder—
“(6) Pan fo cerbyd yn cael ei ddefnyddio at ddiben a ddisgrifir ym mharagraff (1)(j), mae’r cerbyd cyfan i’w drin fel ardal gyhoeddus o dan do at ddibenion paragraff (1).”;
(h)ar ôl paragraff (6) mewnosoder—
“(7) At ddibenion paragraff (1)(i), mae i “gwasanaeth gofal cymdeithasol” yr un ystyr â “gwasanaeth rheoleiddiedig” yn adran 2(1) o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016(4).”
Mark Drakeford
Y Prif Weinidog, un o Weinidogion Cymru
24 Chwefror 2022
(Nid ywʼr nodyn hwn yn rhan oʼr Rheoliadau)
Mae Rhan 2A o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984 yn galluogi Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, i wneud darpariaeth at ddiben atal, diogelu rhag, rheoli neu ddarparu ymateb iechyd y cyhoedd i fynychder neu ledaeniad haint neu halogiad yng Nghymru.
Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud mewn ymateb i’r bygythiad i iechyd y cyhoedd a berir gan fynychder a lledaeniad coronafeirws syndrom anadlol acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2) yng Nghymru.
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020 (O.S. 2020/1609 (Cy. 335)) (“y prif Reoliadau”) er mwyn sicrhau bod rheoliad 20 o’r Rheoliadau hynny yn parhau i fod yn gymesur.
Cyn y diwygiadau, roedd rheoliad 20 yn darparu ei bod yn ofynnol i berson 11 oed a throsodd wisgo gorchudd wyneb yn ardaloedd cyhoeddus o dan do unrhyw fangre y mae gan y cyhoedd fynediad iddi neu y caniateir i’r cyhoedd gael mynediad iddi (oni bai bod gan y person esgus rhesymol dros beidio â gwisgo gorchudd wyneb neu fod esemptiad penodol yn gymwys).
Mae’r diwygiadau yn culhau cwmpas rheoliad 20 drwy ddarparu rhestr hollgynhwysol o’r mangreoedd y mae’r gofyniad yn gymwys iddynt. Mae’r gofyniad bellach yn gymwys i ardaloedd cyhoeddus o dan do y mangreoedd a ganlyn, pan fydd gan y cyhoedd fynediad iddynt—
mangreoedd manwerthu (mangreoedd unrhyw fusnes sy’n cynnig nwyddau neu wasanaethau ar gyfer eu gwerthu neu eu llogi, gan gynnwys darparwyr gwasanaethau ariannol, swyddfeydd post a chanolfannau siopa);
mangreoedd milfeddygon a gwasanaethau tocio a golchi anifeiliaid;
cyfleusterau storio a dosbarthu, gan gynnwys mannau gollwng danfoniadau;
mangreoedd asiantau eiddo neu asiantau gosod eiddo, swyddfeydd gwerthiant datblygwyr a chartrefi arddangos;
mangreoedd gwasanaethau cysylltiad agos (salonau gwallt a barbwyr, salonau ewinedd a harddwch gan gynnwys gwasanaethau lliw haul ac electrolysis, a gwasanaethau tyllu’r corff a thatŵio);
mangreoedd a ddefnyddir ar gyfer darparu cludfwyd;
mangreoedd a ddefnyddir ar gyfer darparu gwasanaethau meddygol neu iechyd;
mangreoedd a ddefnyddir ar gyfer darparu gwasanaethau gofal cymdeithasol.
Mae’r diwygiadau yn golygu nad yw’r gofyniad i wisgo gorchudd wyneb yn gymwys mwyach i fathau penodol o fangreoedd sydd ar agor i’r cyhoedd (er enghraifft, mangreoedd hamdden ac adloniant, ac atyniadau i ymwelwyr).
Mae’r diwygiadau hefyd yn ei gwneud yn glir nad yw’r gofyniad i wisgo gorchudd wyneb yn gymwys i breswylwyr y mangreoedd gofal cymdeithasol a restrir pan fydd y preswylwyr yn y fangre. Mae’r Rheoliadau hefyd yn gwneud diwygiadau canlyniadol.
Er gwaethaf y diwygiadau a wneir gan y Rheoliadau hyn, mae’r prif Reoliadau yn parhau i ddarparu nad oes unrhyw lefel rhybudd yn gymwys i Gymru. Mae hyn yn golygu nad yw’r un o’r cyfyngiadau a’r gofynion yn Atodlenni 1 i 4 i’r prif Reoliadau yn gymwys (a phe bai rheoliadau yn y dyfodol yn symud Cymru i unrhyw un o lefelau rhybudd 1 i 4, gellid diwygio’r cyfyngiadau a’r gofynion yn Atodlenni 1 i 4 i’r prif Reoliadau cyn iddynt gymryd effaith).
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. Yn unol â’r Cod, ni chynhaliwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn, oherwydd bod angen eu rhoi yn eu lle ar frys i sicrhau bod cyfyngiadau a gofynion y prif Reoliadau yn parhau i fod yn gymesur.
1984 p. 22. Mewnosodwyd adrannau 45C a 45P gan adran 129 o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2008 (p. 14). Mae’r swyddogaethau o dan yr adrannau hyn wedi eu rhoi i “the appropriate Minister” (“y Gweinidog priodol”). O dan adran 45T(6) o Ddeddf 1984, y Gweinidog priodol, o ran Cymru, yw Gweinidogion Cymru.
O.S. 2020/1609 (Cy. 335) fel y’i diwygiwyd gan O.S. 2020/1610 (Cy. 336), O.S. 2020/1623 (Cy. 340), O.S. 2020/1645 (Cy. 345), O.S. 2021/20 (Cy. 7), O.S. 2021/46 (Cy. 10), O.S. 2021/57 (Cy. 13), O.S. 2021/66 (Cy. 15), O.S. 2021/95 (Cy. 26), O.S. 2021/103 (Cy. 28), O.S. 2021/172 (Cy. 40), O.S. 2021/210 (Cy. 52), O.S. 2021/307 (Cy. 79), O.S. 2021/413 (Cy. 133), O.S. 2021/502 (Cy. 150), O.S. 2021/542 (Cy. 154), O.S. 2021/583 (Cy. 160), O.S. 2021/668 (Cy. 169), O.S. 2021/686 (Cy. 172), O.S. 2021/722 (Cy. 183), O.S. 2021/862 (Cy. 201), O.S. 2021/925 (Cy. 210), O.S. 2021/970 (Cy. 228), O.S. 2021/1119 (Cy. 271), O.S. 2021/1131 (Cy. 274), O.S. 2021/1212 (Cy. 303), O.S. 2021/1304 (Cy. 334), O.S. 2021/1363 (Cy. 358), O.S. 2021/1407 (Cy. 366), O.S. 2021/1468 (Cy. 376), O.S. 2021/1477 (Cy. 379), O.S. 2021/1485 (Cy. 386), O.S. 2021/1490 (Cy. 390), O.S. 2022/39 (Cy. 16), O.S. 2022/55 (Cy. 21), O.S. 2022/75 (Cy. 27), O.S. 2022/83 (Cy. 29) ac O.S. 2022/142 (Cy. 45).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: