Search Legislation

Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) (Diwygio) 2022

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2022 Rhif 1305 (Cy. 262)

Amaethyddiaeth, Cymru

Dŵr, Cymru

Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) (Diwygio) 2022

Gwnaed

8 Rhagfyr 2022

Gosodwyd gerbron Senedd Cymru

9 Rhagfyr 2022

Yn dod i rym

31 Rhagfyr 2022

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 92 a 219(2)(d) i (f) o Ddeddf Adnoddau Dŵr 1991(1).

Enwi a dod i rym

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) (Diwygio) 2022.

(2Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 31 Rhagfyr 2022.

Diwygio Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) 2021

2.—(1Mae Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) 2021(2) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 2 (mesurau trosiannol ar gyfer daliadau nad oeddent gynt mewn parth perygl nitradau)—

(a)ar ôl “y map perthnasol o’r enw “Parthau Perygl Nitradau Map Mynegai 2013”” mewnosoder “(y “map mynegai PPN”)”;

(b)yn lle paragraffau (a) a (b) rhodder—

(a)nid yw rheoliadau 5 i 11, 15, 23, 27, 33 i 35, na 37 i 43 yn gymwys hyd nes 1 Ionawr 2023,

(b)nid yw rheoliadau 4 nac 36 yn gymwys hyd nes 30 Ebrill 2023, ac

(c)nid yw rheoliadau 17 i 21, 25, 26, nac 28 i 31 yn gymwys hyd nes 1 Awst 2024.

(3Yn rheoliad 3 (dehongli), ym mharagraff (1), ar ôl y diffiniad o “hysbysiad”, mewnosoder—

mae i “map mynegai PPN” (“NVZ index map”) yr ystyr a roddir gan reoliad 2;.

(4Yn rheoliad 4 (dodi tail da byw – y terfyn o ran cyfanswm y nitrogen ar gyfer yr holl ddaliad)—

(a)ym mharagraff (1), yn lle “unrhyw flwyddyn sy’n dechrau ar 1 Ionawr”, rhodder “y cyfnod perthnasol”;

(b)ar ôl paragraff (3), mewnosoder—

(4) Ym mharagraff (1), ystyr “y cyfnod perthnasol” yw—

(a)ar gyfer meddiannydd daliad o fewn parth perygl nitradau fel y’i dangosir ar y map mynegai PPN, unrhyw gyfnod o 12 mis sy’n dechrau ar 1 Ionawr;

(b)ar gyfer meddiannydd daliad neu ran o ddaliad nad oedd gynt wedi ei leoli neu wedi ei lleoli o fewn parth perygl nitradau fel y’i dangosir ar y map mynegai PPN, unrhyw gyfnod o 12 mis sy’n dechrau ar 30 Ebrill.

(5Yn rheoliad 36 (cofnod o’r nitrogen a gynhyrchwyd gan anifeiliaid ar y daliad)—

(a)ym mharagraff (1), yn lle “30 Ebrill”, rhodder “y dyddiad perthnasol”;

(b)ym mharagraff (1)(a), yn lle “flwyddyn galendr flaenorol” rhodder “cyfnod o 12 mis blaenorol”;

(c)ar ôl paragraff (5), mewnosoder—

(6) Yn y rheoliad hwn—

ystyr “cyfnod o 12 mis blaenorol” (“previous 12 month period”) yw—

(a)

ar gyfer meddiannydd daliad o fewn parth perygl nitradau fel y’i dangosir ar y map mynegai PPN, y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau ar 1 Ionawr ac sy’n gorffen ar 31 Rhagfyr cyn y dyddiad perthnasol;

(b)

ar gyfer meddiannydd daliad neu ran o ddaliad nad oedd gynt wedi ei leoli neu wedi ei lleoli o fewn parth perygl nitradau fel y’i dangosir ar y map mynegai PPN—

(i)

y cyfnod o 12 mis cyntaf at y dibenion hyn yw 30 Ebrill 2023 i 29 Ebrill 2024, a

(ii)

wedi hynny, y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau ar 30 Ebrill ac sy’n gorffen ar 29 Ebrill cyn y dyddiad perthnasol;

ystyr “dyddiad perthnasol” (“relevant date”) yw—

(a)

ar gyfer meddiannydd daliad o fewn parth perygl nitradau fel y’i dangosir ar y map mynegai PPN, 30 Ebrill;

(b)

ar gyfer meddiannydd daliad neu ran o ddaliad nad oedd gynt wedi ei leoli neu wedi ei lleoli o fewn parth perygl nitradau fel y’i dangosir ar y map mynegai PPN, 31 Awst 2024 ac ar gyfer pob blwyddyn ddilynol 31 Awst.

(6Yn Atodlen 1 (meintiau o dail, nitrogen a ffosffad a gynhyrchir gan dda byw sy’n pori a da byw nad ydynt yn pori), yn Nhabl 1 (da byw sy’n pori)—

(a)yn y categori “Gwartheg”, yn y cofnod ar gyfer “Buchod godro”, yn y rhes ar gyfer “O 13 mis ymlaen tan y llo cyntaf”, yng ngholofn 4 (ffosffad a gynhyrchir gan bob anifail yn ddyddiol (gramau)), yn lle “34” rhodder “69”;

(b)yn y categori “Defaid”, yn y cofnod ar gyfer “Ar ôl wyna neu hwrdda”, yn y rhes ar gyfer “yn pwyso o 60 kg i fyny”, yng ngholofn 3 (nitrogen a gynhyrchir gan bob anifail yn ddyddiol (gramau)), yn lle “3” rhodder “33”.

(7Yn Atodlen 3 (cyfrifo’r nitrogen sydd mewn tail organig), yn Rhan 1, yn y Tabl Safonol, yn y cofnod ar gyfer “Tail ac eithrio slyri”, yn y rhes ar gyfer “Tail o dyrcwn neu ieir brwylio”, yng ngholofn 2 (cyfanswm y nitrogen ym mhob tunnell (kg)), yn lle “10” rhodder “30”.

Lesley Griffiths

Y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd, un o Weinidogion Cymru

8 Rhagfyr 2022

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) 2021 (“Rheoliadau 2021”).

Mae rheoliad 2(2) yn diwygio rheoliad 2 o Reoliadau 2021 er mwyn newid y dyddiad gweithredu ar gyfer rheoliadau 4 ac 36 o Reoliadau 2021 o 1 Ionawr 2023 i 30 Ebrill 2023 ar gyfer daliadau neu rannau o ddaliadau nad oeddent gynt wedi eu lleoli o fewn parth perygl nitradau (“PPN”).

Mae rheoliad 2(3) yn mewnosod diffiniad o “map mynegai PPN”.

Mae rheoliad 2(4) yn diwygio rheoliad 4 o Reoliadau 2021 fel bod y terfyn uchaf o 170kg yr hectar o nitrogen mewn tail da byw yn gymwys i bob cyfnod o 12 mis sy’n dechrau ar 30 Ebrill ar gyfer daliadau neu rannau o ddaliadau nad oeddent gynt wedi eu lleoli o fewn PPN.

Mae rheoliad 2(5) yn diwygio rheoliad 36 o Reoliadau 2021 fel bod y cyfnod cadw cofnodion perthnasol yn adlewyrchu’r cyfnod o 12 mis sy’n dechrau ar 30 Ebrill o dan reoliad 4 ar gyfer daliadau neu rannau o ddaliadau nad oeddent gynt wedi eu lleoli o fewn PPN. Mae hefyd yn ei gwneud yn glir mai’r cyfnod cadw cofnodion perthnasol cyntaf ar gyfer meddianwyr daliadau neu rannau o ddaliadau nad oeddent gynt wedi eu lleoli o fewn PPN yw 30 Ebrill 2023 i 29 Ebrill 2024.

Mae rheoliad 2(6) a (7) yn cywiro gwallau yn Atodlenni 1 a 3 yn y drefn honno i Reoliadau 2021.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ ac mae wedi ei gyhoeddi ar www.llyw.cymru.

(1)

1991 p. 57. Diwygiwyd adran 92 gan adran 120 o Ddeddf yr Amgylchedd 1995 (p. 25) a pharagraffau 128 a 144 o Atodlen 22 i’r Ddeddf honno, a chan O.S. 2010/675 ac O.S. 2013/755 (Cy. 90). Mae diwygiadau i adran 219 nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn. Yn rhinwedd erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672), ac Atodlen 1 iddo, trosglwyddwyd swyddogaethau’r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 92 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru o ran y rhannau hynny o Gymru sydd y tu allan i ddalgylchoedd afon Dyfrdwy, afon Gwy ac afon Hafren. O ran y rhannau hynny o Gymru sydd o fewn y dalgylchoedd hynny, mae swyddogaethau o dan adran 92 yn arferadwy gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar y cyd â’r Ysgrifennydd Gwladol. Yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32), a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi, mae swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adrannau 92 a 219 bellach wedi eu breinio yng Ngweinidogion Cymru.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources