Search Legislation

Rheoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Darpariaethau Arbed a Darpariaethau Trosiannol) 2022

Statws

This is the original version (as it was originally made).

Tenantiaethau sicr

3.—(1Er gwaethaf y diwygiadau a wneir gan Reoliadau Canlyniadol 2022, mae’r darpariaethau a ganlyn o Ddeddf 1988 yn parhau i gael effaith, fel yr oeddent yn union cyn y diwrnod penodedig, mewn perthynas â’r materion penodedig—

(a)adran 7(1) (gorchmynion adennill meddiant), mewn perthynas â hysbysiad a gyflwynwyd i’r tenant yn unol ag adran 8(2) o Ddeddf 1988 cyn y diwrnod penodedig a, phan na fo unrhyw hysbysiad wedi ei gyflwyno, mewn perthynas ag achos a gychwynnwyd cyn y diwrnod penodedig ac y mae adran 8(1)(b) o Ddeddf 1988 yn gymwys iddo;

(b)adran 8(1)(3) (hysbysiad o achos adennill meddiant), mewn perthynas â hysbysiad a gyflwynwyd i’r tenant yn unol â’r adran honno cyn y diwrnod penodedig a, phan na fo unrhyw hysbysiad wedi ei gyflwyno, mewn perthynas ag achos a gychwynnwyd cyn y diwrnod penodedig (ond gweler paragraff (2) o’r rheoliad hwn);

(c)adran 8(2), mewn perthynas â hysbysiad a gyflwynwyd i’r tenant yn unol â’r adran honno cyn y diwrnod penodedig;

(d)adran 8(5)(4), mewn perthynas ag achos a gychwynnwyd cyn y diwrnod penodedig pan na fo’r llys hyd hynny wedi arfer ei bŵer a roddir gan adran 8(1)(b) o Ddeddf 1988;

(e)adran 8A(1)(5) (gofynion hysbysu ychwanegol: sail trais domestig), mewn perthynas â hysbysiad a gyflwynwyd i’r tenant yn unol ag adran 8 o Ddeddf 1988 cyn y diwrnod penodedig;

(f)adran 8A(2) a (3), mewn perthynas â hysbysiad a gyflwynwyd i’r tenant yn unol ag adran 8 o Ddeddf 1988 cyn y diwrnod penodedig (pa un a ychwanegir Sail 14A cyn neu ar ôl y diwrnod hwnnw);

(g)adran 9(6) (disgresiwn estynedig y llys mewn hawliadau meddiant), mewn perthynas â hysbysiad a gyflwynwyd i’r tenant yn unol ag adran 8 o Ddeddf 1988 cyn y diwrnod penodedig a, phan na fo unrhyw hysbysiad wedi ei gyflwyno, mewn perthynas ag achos a gychwynnwyd cyn y diwrnod penodedig ac y mae adran 8(1)(b) o Ddeddf 1988 yn gymwys iddo;

(h)adran 9A(7) (achos adennill meddiant ar seiliau nad ydynt yn rhai absoliwt: ymddygiad gwrthgymdeithasol), mewn perthynas â hysbysiad a gyflwynwyd i’r tenant yn unol ag adran 8 o Ddeddf 1988 cyn y diwrnod penodedig a, phan na fo unrhyw hysbysiad wedi ei gyflwyno, mewn perthynas ag achos a gychwynnwyd cyn y diwrnod penodedig ac y mae adran 8(1)(b) o Ddeddf 1988 yn gymwys iddo;

(i)adran 10(2) (darpariaethau arbennig sy’n gymwys i lety a rennir), mewn perthynas â hysbysiad a gyflwynwyd i’r tenant yn unol ag adran 8 o Ddeddf 1988 cyn y diwrnod penodedig a, phan na fo unrhyw hysbysiad wedi ei gyflwyno, mewn perthynas ag achos a gychwynnwyd cyn y diwrnod penodedig ac y mae adran 8(1)(b) o Ddeddf 1988 yn gymwys iddo;

(j)adrannau 11 (talu costau symud dodrefn mewn achosion penodol) a 12 (digolledu am gamliwio neu gelu), mewn perthynas â gorchymyn adennill meddiant a wnaed cyn neu ar ôl y diwrnod penodedig (yn rhinwedd arbedion a wneir yn y rheoliad hwn);

(k)adran 21(1)(8) (adennill meddiant pan fo tenantiaeth fyrddaliol sicr yn dod i ben neu’n cael ei therfynu), mewn perthynas â hysbysiad a gyflwynwyd i’r tenant yn unol â’r is-adran honno cyn y diwrnod penodedig (ond gweler paragraff (5));

(l)adran 21(4)(9), mewn perthynas â hysbysiad a gyflwynwyd i’r tenant yn unol â’r is-adran honno cyn y diwrnod penodedig (ond gweler paragraff (5));

(m)adran 21(5)(10) a (5A)(11), mewn perthynas â gorchymyn adennill meddiant a wnaed gan y llys o dan is-adran (1) neu (4) o’r adran honno ar ôl y diwrnod penodedig (yn rhinwedd arbedion a wneir yn y rheoliad hwn);

(n)Atodlen 2(12) (seiliau ar gyfer meddiannu tai annedd sy’n cael eu gosod o dan denantiaethau sicr), mewn perthynas â hysbysiad a gyflwynwyd i’r tenant yn unol ag adran 8 o Ddeddf 1988 cyn y diwrnod penodedig a, phan na fo unrhyw hysbysiad wedi ei gyflwyno, mewn perthynas ag achos a gychwynnwyd cyn y diwrnod penodedig ac y mae adran 8(1)(b) o Ddeddf 1988 yn gymwys iddo.

(2Er gwaethaf y diwygiadau a wneir gan Reoliadau Canlyniadol 2022—

(a)mae adran 8(3)(c) o Ddeddf 1988 yn parhau i gael effaith ar ôl y diwrnod penodedig, ond fel pe bai “twelve months from the date of service of the notice, or six months after the appointed day, whichever comes first” wedi ei roi yn lle “twelve months from the date of service of the notice”, a

(b)mae cyfeiriad at y terfynau amser a nodir yn yr hysbysiad yn adran 8(1)(a) (fel y’i harbedir gan baragraff (1)(b) o’r rheoliad hwn) i’w ddarllen yn unol â hynny.

(3Mae paragraff (2) o’r rheoliad hwn yn cael blaenoriaeth dros unrhyw ddarpariaeth i’r gwrthwyneb mewn unrhyw hysbysiad a gyflwynwyd i’r tenant yn unol ag adran 8 o Ddeddf 1988 cyn y diwrnod penodedig.

(4Mae adran 206(1) o Ddeddf 2016 (effaith gorchymyn adennill meddiant) yn gymwys mewn perthynas â gorchymyn adennill meddiant a wnaed gan y llys o dan adran 7 neu 21 o Ddeddf 1988 ar ôl y diwrnod penodedig (yn rhinwedd arbedion a wneir yn y rheoliad hwn), fel y mae’n gymwys mewn perthynas â gorchymyn adennill meddiant a wnaed o dan Ddeddf 2016.

(5Mae hysbysiad a gyflwynwyd i’r tenant yn unol ag adran 21(1) neu (4) o Ddeddf 1988 cyn y diwrnod penodedig yn peidio â chael effaith (ac ni chaniateir cychwyn unrhyw achosion adennill meddiant newydd gan ddibynnu ar yr hysbysiad)—

(a)ar ddiwedd y cyfnod o ddau fis sy’n dechrau â’r diwrnod penodedig, neu

(b)ar ddiwedd y cyfnod o ddau fis sy’n dechrau â’r diwrnod a bennir yn yr hysbysiad fel y diwrnod y mae adennill meddiant yn ofynnol yn unol ag adran 21(1)(b) neu (4)(a) o Ddeddf 1988,

pa un bynnag yw’r diweddaraf.

(6Er gwaethaf y diwygiadau a wneir gan Reoliadau Canlyniadol 2022, mae adran 5(1A)(13) o Ddeddf 1988 yn parhau i gael effaith mewn perthynas â gorchymyn adennill meddiant a wnaed gan y llys o dan adran 7 neu 21 o Ddeddf 1988 cyn y diwrnod penodedig.

(7Mae unrhyw arbedion yn y rheoliad hwn sy’n ymwneud â hysbysiad a gyflwynwyd i’r tenant yn unol ag adran 8 neu 21 o Ddeddf 1988 cyn y diwrnod penodedig yn cael effaith pa un a gychwynnwyd yr achos cyn neu ar ôl y diwrnod hwnnw.

(8Mae unrhyw arbedion yn y rheoliad hwn sy’n ymwneud ag achos a gychwynnwyd cyn y diwrnod penodedig ac y mae adran 8(1)(b) o Ddeddf 1988 yn gymwys iddo yn cael effaith pa un a oedd y llys wedi hepgor y gofyniad i gyflwyno hysbysiad cyn neu ar ôl y diwrnod penodedig.

(1)

Diwygiwyd adran 7 gan adran 194 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (p. 42) a pharagraff 101 o Atodlen 11 iddi, adran 41 o Ddeddf Mewnfudo 2016 (p. 19), adran 181 o Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014 (p. 12) a pharagraff 18 o Ran 1 o Atodlen 11 iddi, adran 162(4) o Ddeddf Lleoliaeth 2011 (p. 20) ac adran 299 o Ddeddf Tai ac Adfywio 2008 (p. 17) a pharagraffau 5 a 7 o Ran 1 o Atodlen 11 iddi.

(2)

Diwygiwyd adran 8 gan adran 151 o Ddeddf Tai 1996 (p. 52), adran 97 o Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014 (p. 12), ac adran 41 o Ddeddf Mewnfudo 2016 (p. 19).

(3)

Diwygiwyd adran 8(1) gan adran 151(2) o Ddeddf Tai 1996 (p. 52).

(4)

Diwygiwyd is-adran 8(5) gan adran 97 o Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014 (p. 12) ac adran 41(4) o Ran 2 o Ddeddf Mewnfudo 2016 (p. 19).

(5)

Mewnosodwyd adran 8A gan adran 150 o Ddeddf Tai 1996 (p. 52).

(6)

Diwygiwyd adran 9 gan adrannau 299 a 321 o Ddeddf Tai ac Adfywio 2008 (p. 17) a pharagraffau 5 ac 8 o Ran 1 o Atodlen 11 ac Atodlen 16 iddi ac adran 66(1) o Ddeddf Cyfraith Teulu 1996 (p. 27) a pharagraff 59(3) o Atodlen 8 iddi.

(7)

Mewnosodwyd adran 9A gan adran 16(2) o Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 2003 (p. 38) ac fe’i diwygiwyd gan adran 181 oDdeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014 (p. 12) a pharagraff 19 o Ran 1 o Atodlen 11 iddi.

(8)

Diwygiwyd adran 21(1) gan adran 194 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (p. 42) a pharagraff 103 o Atodlen 11 iddi ac adran 98(2) o Ddeddf Tai 1996 (p. 52).

(9)

Diwygiwyd adran 21(4) gan adran 98(3) o Ddeddf Tai 1996 (p. 52).

(10)

Mewnosodwyd adran 21(5) gan adran 99 o Ddeddf Tai 1996 (p. 52).

(11)

Mewnosodwyd adran 21(5A) gan adran 15(2) o Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 2003 (p. 38).

(12)

Diwygiwyd Atodlen 2 gan adran 81 o Ddeddf Partneriaeth Sifil 2004 (p. 33) a pharagraff 43 o Atodlen 8 iddi, adran 138 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014 (dccc 7), adran 194 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (p. 42) a pharagraffau 108 a 109 o Atodlen 11 iddi, adran 60(2)(b) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal yn y Gymuned 1990 (p. 19) a pharagraff 10 o Ran 2 o Atodlen 8 iddi, adrannau 101, 102, 148, 149 a 277 o Ddeddf Tai 1996 (p. 52) a Rhan 9 o Atodlen 19 iddi, adran 6(2) o Ddeddf Diwygio’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Phroffesiynau Gofal Iechyd 2002 (p. 17) a pharagraff 28 o Atodlen 5 iddi, adran 111 o Ddeddf Troseddu Cyfundrefnol Difrifol a’r Heddlu 2005 (p. 15) a pharagraff 46 o Ran 3 o Atodlen 7 iddi, adrannau 162 a 237 o Ddeddf Lleoliaeth 2011 (p. 20) a Rhan 23 o Atodlen 25 iddi, adrannau 97(1), 98(2) a 99(2) o Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014 (p. 12), adran 410 o Ddeddf Dedfrydu 2020 (p. 17) a pharagraff 97 o Ran 1 o Atodlen 24 iddi, adran 41 o Ddeddf Mewnfudo 2016 (p. 19), erthygl 5 o Orchymyn Deddf Tai 1996 (Darpariaethau Canlyniadol) 1996 (O.S. 1996/2325) a pharagraff 18 o Atodlen 2 iddo, erthygl 5 o Orchymyn Deddf Tai ac Adfywio 2008 (Darpariaethau Canlyniadol) 2010 (O.S. 2010/866) a pharagraffau 18, 63 a 74 o Atodlen 2 iddo, rheoliad 41(a) o Reoliadau Partneriaeth Sifil (Cyplau o Rywiau Gwahanol) 2019 (O.S. 2019/1458) a pharagraff 12 o Ran 1 o Atodlen 3 iddynt, rheoliad 8 o Reoliadau Deddf Mewnfudo a Chyd-drefnu Nawdd Cymdeithasol (Ymadael â’r UE) 2020 (Darpariaethau Canlyniadol, Darpariaethau Arbed, Darpariaethau Trosiannol a Darpariaethau Darfodol) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1309).

(13)

Amnewidiwyd adran 5(1A) gan adran 299 o Ddeddf Tai ac Adfywio 2008 (p. 17) a pharagraffau 5 a 6 o Ran 1 o Atodlen 11 iddi.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources