Search Legislation

Rheoliadau Iechyd Planhigion etc. (Ffioedd) (Cymru) (Diwygio) 2021

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2021 Rhif 713 (Cy. 181)

Ymadael Â’r Undeb Ewropeaidd, Cymru

Iechyd Planhigion, Cymru

Hadau, Cymru

Rheoliadau Iechyd Planhigion etc. (Ffioedd) (Cymru) (Diwygio) 2021

Gwnaed

16 Mehefin 2021

Yn dod i rym

17 Mehefin 2021

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddir gan baragraff 7 o Atodlen 4 a pharagraff 21(b) o Atodlen 7 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018(1).

Gosodwyd drafft o’r offeryn hwn gerbron Senedd Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddi yn unol â pharagraff 1(8) o Atodlen 7 i’r Ddeddf honno(2).

Enwi a chychwyn

1.  Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Iechyd Planhigion etc. (Ffioedd) (Cymru) (Diwygio) 2021 a deuant i rym drannoeth y diwrnod y’u gwneir.

Diwygio Rheoliadau Iechyd Planhigion etc. (Ffioedd) (Cymru) 2018

2.—(1Mae Rheoliadau Iechyd Planhigion etc. (Ffioedd) (Cymru) 2018(3) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 3 (ffioedd arolygu mewnforio)—

(a)yn lle paragraff (2) rhodder—

(2) Y ffi sy’n daladwy gan fewnforiwr llwyth o drydedd wlad mewn cysylltiad â gwiriad dogfennol o bob tystysgrif ffytoiechydol neu dystysgrif ffytoiechydol ar gyfer ailallforio sy’n mynd gyda’r llwyth yw £5.25.

(b)ar ôl paragraff (2) mewnosoder—

(2A) Y ffioedd sy’n daladwy gan fewnforiwr llwyth o drydedd wlad mewn cysylltiad ag atebolrwydd am wiriad ffisegol a gwiriad adnabod y caniateir eu cynnal ar y llwyth (pa un a gynhelir unrhyw wiriad o’r fath ai peidio) yw—

(a)(yn ddarostyngedig i baragraffau (2B) i (2E)) yn achos llwyth sy’n tarddu o un o Aelod-wladwriaethau’r UE, Liechtenstein neu’r Swistir, pan fo’r llwyth yn cynnwys planhigion, cynhyrchion planhigion neu wrthrychau eraill o un neu ragor o ddisgrifiadau a bennir yng ngholofn 1 o’r tabl yn Atodlen 1A, ac sy’n tarddu o wlad a bennir yn y cofnod cyfatebol yng ngholofn 2 o’r tabl hwnnw—

(i)y ffi neu’r ffioedd a bennir yng ngholofn 3 o’r tabl hwnnw mewn cysylltiad â gwiriad ffisegol o blanhigion neu gynhyrchion planhigion o bob disgrifiad o’r fath a geir yn y llwyth; a

(ii)y ffi neu’r ffioedd a bennir yng ngholofn 4 o’r tabl hwnnw mewn cysylltiad â gwiriad adnabod o blanhigion neu gynhyrchion planhigion o bob disgrifiad o’r fath a geir yn y llwyth;

(b)yn achos llwyth sy’n tarddu o unrhyw wlad arall—

(i)yn achos llwyth o flodau wedi eu torri Atodlen 2 sy’n cynnwys un lot o flodau wedi eu torri—

(aa)y ffi a bennir yng ngholofn 3 o’r tabl yn Atodlen 2 mewn cysylltiad â gwiriad ffisegol o’r blodau wedi eu torri hynny; a

(bb)y ffi a bennir yng ngholofn 4 o’r tabl hwnnw mewn cysylltiad â gwiriad adnabod o’r blodau wedi eu torri hynny;

(ii)yn achos llwyth o flodau wedi eu torri Atodlen 2 sy’n cynnwys dau neu ragor o lotiau o flodau wedi eu torri—

(aa)ffi sy’n cyfateb i’r ffi uchaf a bennir yng ngholofn 3 o’r tabl yn Atodlen 2 mewn cysylltiad â gwiriad ffisegol o unrhyw un o’r lotiau hynny; a

(bb)y ffi a bennir yng ngholofn 4 o’r tabl hwnnw mewn cysylltiad â gwiriad adnabod sy’n cyfateb i’r ffi sy’n daladwy o dan is-baragraff (aa);

(iii)yn achos llwyth o ffrwythau neu lysiau Atodlen 2 sy’n cynnwys un lot o ffrwythau neu lysiau—

(aa)y ffi a bennir yng ngholofn 3 o’r tabl yn Atodlen 2 mewn cysylltiad â gwiriad ffisegol o’r ffrwythau hynny neu’r llysiau hynny; a

(bb)y ffi a bennir yng ngholofn 4 o’r tabl hwnnw mewn cysylltiad â gwiriad adnabod o’r ffrwythau hynny neu’r llysiau hynny;

(iv)yn achos llwyth o ffrwythau neu lysiau Atodlen 2 sy’n cynnwys dau neu ragor o lotiau o ffrwythau neu lysiau—

(aa)ffi sy’n cyfateb i’r ffi uchaf a bennir yng ngholofn 3 o’r tabl yn Atodlen 2 mewn cysylltiad â gwiriad ffisegol o unrhyw un o’r lotiau hynny; a

(bb)y ffi a bennir yng ngholofn 4 o’r tabl hwnnw mewn cysylltiad â gwiriad adnabod sy’n cyfateb i’r ffi sy’n daladwy o dan is-baragraff (aa);

(v)yn achos llwyth sy’n cynnwys—

(aa)planhigion neu gynhyrchion planhigion o unrhyw ddisgrifiad arall a bennir yn y tabl yng ngholofn 1 o Atodlen 2, neu

(bb)peiriannau neu gerbydau sydd wedi eu gweithredu at ddibenion amaethyddol neu goedwigaeth,

i’r graddau y maent (yn y naill achos neu’r llall) yn tarddu o wlad a bennir yng ngholofn 2 o’r tabl hwnnw, y ffi neu’r ffioedd a bennir yng ngholofnau 3 a 4 o’r tabl hwnnw mewn cysylltiad â gwiriad ffisegol a gwiriad adnabod, yn y drefn honno, o’r planhigion neu’r cynhyrchion planhigion o bob disgrifiad o’r fath a geir yn y llwyth (ac eithrio unrhyw rai a bennir hefyd yn Atodlen 1), ac (i’r graddau y maent yn berthnasol) peiriannau neu gerbydau;

(vi)pan fo’r llwyth yn cynnwys planhigion, cynhyrchion planhigion neu wrthrychau eraill o un neu ragor o’r disgrifiadau a bennir yng ngholofn 1 o’r tabl yn Atodlen 1—

(aa)y ffi neu’r ffioedd a bennir yng ngholofn 2 o’r tabl hwnnw mewn cysylltiad â gwiriad ffisegol o blanhigion, cynhyrchion planhigion neu wrthrychau eraill o bob disgrifiad o’r fath a geir yn y llwyth;

(bb)y ffi neu’r ffioedd a bennir yng ngholofn 3 o’r tabl hwnnw mewn cysylltiad â gwiriad adnabod o blanhigion, cynhyrchion planhigion neu wrthrychau eraill o bob disgrifiad o’r fath a geir yn y llwyth.

(2B) Y ffioedd sy’n daladwy o dan baragraff (2A)(a) mewn cysylltiad ag atebolrwydd i gynnal gwiriad ffisegol a gwiriad adnabod o flodau wedi eu torri neu ffrwythau neu lysiau yw, ni waith faint o lotiau a geir yn y llwyth—

(a)yn achos llwyth sydd ond yn cynnwys blodau wedi eu torri neu ond yn cynnwys ffrwythau neu lysiau, y ffioedd hynny sy’n daladwy mewn cysylltiad ag un lot o’r math o dan sylw;

(b)yn achos llwyth sy’n cynnwys blodau wedi eu torri a ffrwythau neu lysiau, y ffioedd hynny sy’n daladwy mewn cysylltiad ag un lot o bob math.

(2C) Y ffioedd sy’n daladwy o dan baragraff (2A)(a) mewn cysylltiad ag atebolrwydd i gynnal gwiriad ffisegol a gwiriad adnabod o blanhigion neu gynhyrchion planhigion, i’r graddau y mae’r planhigion neu’r cynhyrchion planhigion o un categori perthnasol ac yn tarddu o’r un wlad ond yn dod o fewn dau neu ragor o’r disgrifiadau a bennir yng ngholofn 1 o’r tabl yn Atodlen 1A, yw’r ffioedd uchaf o’r ffioedd a bennir mewn cysylltiad â phlanhigion neu gynhyrchion planhigion o unrhyw ddisgrifiad o’r fath.

(2D) At ddibenion paragraff (2C), ystyr “categori perthnasol”, mewn perthynas â phlanhigion neu gynhyrchion planhigion, yw unrhyw un o’r categorïau a ganlyn o blanhigion neu gynhyrchion planhigion—

(a)rhisgl;

(b)bylbiau;

(c)cormau;

(d)planhigion a fwriedir ar gyfer eu plannu;

(e)rhisomau;

(f)hadau;

(g)meithriniad meinwe;

(h)cloron (ac eithrio cloron tatws).

(2E) Nid yw ffi yn daladwy o dan baragraff (2A)(a) mewn cysylltiad ag unrhyw lwyth a fewnforir cyn 1 Mawrth 2022, pan fyddai wedi bod yn daladwy mewn cysylltiad ag unrhyw blanhigion neu gynhyrchion planhigion a bennir yn Atodlen 2A a geir yn y llwyth hwnnw..

(3Yn rheoliad 5A (gwasanaethau tystysgrifau allforio a gwasanaethau cyn-allforio: ffioedd)—

(a)Ar ddechrau paragraff (1), mewnosoder “Yn ddarostyngedig i baragraff (4A),”;

(b)Ar ôl paragraff (4), mewnosoder—

(4A) Nid yw’r ffioedd a bennir yn Atodlen 4A yn daladwy mewn cysylltiad â llwyth sydd i’w gludo i Ogledd Iwerddon—

(a)gan berson sy’n gweithredu ac eithrio yng nghwrs busnes, pan na fo’r llwyth i’w roi ar y farchnad; neu

(b)i’w ddanfon i—

(i)gweithredwr proffesiynol y mae ei brif fan busnes yng Ngogledd Iwerddon; neu

(ii)unrhyw berson sy’n preswylio yng Ngogledd Iwerddon, pan na fo’r llwyth i’w roi ar y farchnad na’i ddefnyddio at ddiben unrhyw fusnes.

(4B) Mae paragraff (4A) yn peidio â chael effaith ar ddiwedd 31 Rhagfyr 2022..

(c)ym mharagraff (5), yn y lle priodol, mewnosoder—

ystyr “gweithredwr proffesiynol” yw unrhyw berson a lywodraethir gan y gyfraith gyhoeddus neu’r gyfraith breifat, sy’n ymwneud yn broffesiynol ag un neu ragor o’r gweithgareddau a ganlyn sy’n ymwneud â phlanhigion, cynhyrchion planhigion a gwrthrychau eraill, ac sydd â chyfrifoldeb proffesiynol amdanynt—

(a)

plannu;

(b)

bridio;

(c)

cynhyrchu, gan gynnwys tyfu, lluosogi a chynnal;

(d)

cyflwyno i Ogledd Iwerddon, symud o fewn Gogledd Iwerddon a symud allan o Ogledd Iwerddon;

(e)

eu cynnig ar y farchnad;

(f)

storio, casglu, anfon a phrosesu..

(4Yn lle Atodlen 1 rhodder—

Rheoliad 3(1) a (2A)(b)(vi)

ATODLEN 1Ffioedd arolygu mewnforio: Llwythi sy’n tarddu o wledydd ac eithrio un o Aelod-wladwriaethau’r UE, Liechtenstein neu’r Swistir

Colofn 1

Disgrifiad o’r Planhigyn, y cynnyrch planhigion neu wrthrych arall

Colofn 2

Ffi: Gwiriad ffisegol (£)

Colofn 3

Ffi: Gwiriad adnabod (£)

Torion, egin blanhigion (ac eithrio deunydd lluosogi coedwigaeth), planhigion ifanc mefus neu lysiau173.915.25
Llwyni, coed (ac eithrio coed Nadolig wedi eu torri), planhigion meithrinfa prennaidd eraill gan gynnwys deunydd lluosogi coedwigaeth (ac eithrio hadau)182.385.25
Bylbiau, cormau, rhisomau, cloron, a fwriedir ar gyfer eu plannu (ac eithrio cloron tatws)205.045.25
Hadau, meithriniad meinwe128.135.25
Planhigion eraill a fwriedir ar gyfer eu plannu, nas pennir yn unman arall yn y tabl hwn182.385.25
Blodau wedi eu torri42.755.25
Canghennau gyda deiliant, rhannau o goed conwydd (ac eithrio coed Nadolig sydd wedi eu torri)33.995.25
Coed Nadolig wedi eu torri119.645.25
Dail planhigion, megis perlysiau, sbeisys a llysiau deiliog71.685.25
Ffrwythau, llysiau (ac eithrio llysiau deiliog)53.105.25
Cloron tatws156.695.25
Pridd a chyfrwng tyfu, rhisgl119.645.25
Grawn142.985.25
Planhigion eraill neu gynhyrchion planhigion eraill nas pennir yn unman arall yn y tabl hwn, ac eithrio coed fforestydd22.735.25..

(5Ar ôl Atodlen 1, mewnosoder yr Atodlen a ganlyn—

Rheoliad 3(2A)(a)

ATODLEN 1AFfioedd arolygu mewnforio: llwythi sy’n tarddu o un o Aelod-wladwriaethau’r UE, Liechtenstein neu’r Swistir

Colofn 1

Planhigyn, cynnyrch planhigion neu wrthrych arall a’i genws (os yw’n gymwys)

Colofn 2

Gwlad tarddiad

Colofn 3

Ffi: Gwiriad ffisegol (£)

Colofn 4

Ffi: Gwiriad adnabod (£)

(1)

Mae “a fwriedir ar gyfer defnyddwyr terfynol” yn cynnwys deunydd sydd wedi ei becynnu’n glir ac yn barod i’w gyflenwi i ddefnyddwyr terfynol, ac y gellir adnabod ei fod yn barod i’w ddefnyddio gan weithwyr tirlunio neu gontractwyr ar gyfer ei blannu yn safle terfynol y planhigion a phan fo angen pecynnu ychwanegol neu waith paratoi ychwanegol (ac eithrio lluosogi, neu dyfu pellach) cyn bod y planhigion ar gael i ddefnyddwyr terfynol.

(2)

ystyr “Pob” yw unrhyw un o Aelod-wladwriaethau’r UE, Liechtenstein neu’r Swistir..

Torion, egin blanhigion (ac eithrio deunydd lluosogi coedwigaeth), planhigion ifanc mefus neu lysiau, nas bwriedir ar gyfer defnyddwyr terfynol(1)
Pob generaPob(2)173.915.25
Bylbiau, cormau, rhisomau, cloron, (ac eithrio cloron tatws), nas bwriedir ar gyfer defnyddwyr terfynol(1)
Pob generaPob(2)205.045.25
Bylbiau, cormau, rhisomau, cloron, (ac eithrio cloron tatws), a fwriedir ar gyfer defnyddwyr terfynol(1)
Pob generaPob(2)20.500.52
Hadau, nas bwriedir ar gyfer defnyddwyr terfynol(1)
Allium cepa L.Pob(2)128.135.25
Allium porrum L.Pob(2)128.135.25
Castanea Mill.Pob(2)128.135.25
Capsicum spp. L.Pob(2)128.135.25
Helianthus annuus L.Pob(2)128.135.25
Medicago sativa L.Pob(2)128.135.25
Phaseolus cocineusPob(2)128.135.25
Phaseolus vulgaris L.Pob(2)128.135.25
Solanum lycopersicum L.Pob(2)128.135.25
Solanum tuberosum L. (Gwir hadau tatws)Pob(2)128.135.25
Hadau llysiau Pisum sativum L. a Vicia faba L.Pob(2)128.135.25
Hadau planhigion olew a ffibr —
Brassica napus L.Pob(2)128.135.25
Brassica rapa L.Pob(2)128.135.25
Sinapis alba L.Pob(2)128.135.25
Glycine max (L.) MerrillPob(2)128.135.25
Linum usitatissimum L.Pob(2)128.135.25
Hadau, a fwriedir ar gyfer defnyddwyr terfynol(1)
Allium cepa L.Pob(2)6.400.26
Allium porrum L.Pob(2)6.400.26
Castanea Mill.Pob(2)6.400.26
Capsicum spp. L.Pob(2)6.400.26
Helianthus annuus L.Pob(2)6.400.26
Medicago sativa L.Pob(2)6.400.26
Phaseolus cocineusPob(2)6.400.26
Phaseolus vulgaris L.Pob(2)6.400.26
Solanum lycopersicum L.Pob(2)6.400.26
Solanum tuberosum L. (Gwir hadau tatws)Pob(2)6.400.26
Hadau llysiau Pisum sativum L. a Vicia faba L.Pob(2)6.400.26
Hadau planhigion olew a ffibr —
Brassica napus L.Pob(2)6.400.26
Brassica rapa L.Pob(2)6.400.26
Sinapis alba L.Pob(2)6.400.26
Glycine max (L.) MerrillPob(2)6.400.26
Linum usitatissimum L.Pob(2)6.400.26
Hadau eraill nas pennir yn unman arall yn y tabl hwn
Pob generaPob(2)3.840.15
Meithriniad meinwe, nas bwriedir ar gyfer defnyddwyr terfynol(1)
Pob generaPob(2)128.135.25
Meithriniad meinwe, a fwriedir ar gyfer defnyddwyr terfynol(1)
Pob generaPob(2)6.400.26
Planhigion eraill a fwriedir ar gyfer eu plannu (ac eithrio coed Nadolig sydd wedi eu torri), nas bwriedir ar gyfer defnyddwyr terfynol(1)
Pob generaPob(2)182.385.25
Planhigion eraill a fwriedir ar gyfer eu plannu nas pennir yn unman arall yn y tabl hwn, a fwriedir ar gyfer defnyddwyr terfynol(1)
Pob generaPob(2)18.230.52
Blodau wedi eu torri
Pob generaPob(2)1.280.15
Canghennau gyda deiliant, rhannau o goed conwydd ac eithrio rhisgl a choed Nadolig sydd wedi eu torri
Pob generaPob(2)1.020.15
Coed Nadolig wedi eu torri
Pob generaPob(2)3.580.15
Dail planhigion, megis perlysiau, sbeisys a llysiau deiliog
Pob generaPob(2)2.150.15
Ffrwythau neu lysiau
Pob generaPob(2)1.590.15
Cloron tatws
Solanum tuberosum L. a fwriedir ar gyfer eu plannu (tatws hadyd)Pob(2)156.695.25
Solanum tuberosum L. (tatws bwyta)Gwlad Pwyl, Portiwgal neu Rwmania78.342.62
Solanum tuberosum L. (tatws bwyta)Sbaen156.695.25
Solanum tuberosum L. (tatws bwyta)Unrhyw un arall o Aelod-wladwriaethau’r UE, Liechtenstein neu’r Swistir4.700.15
Pridd a chyfrwng tyfu, rhisgl
Rhisgl—
Castanea Mill.Pob(2)5.980.26
Conwydd (Pinales)Pob(2)5.980.26
Juglans L.Pob(2)5.980.26
Pterocarya Kunth.Pob(2)5.980.26
Pridd a chyfrwng tyfu, rhisgl
Rhisgl pob genera nas pennir yn unman arall yn y tabl hwnPob(2)3.580.15
Grawn
Pob generaPob(2)4.280.15
Planhigion neu gynhyrchion planhigion eraill nas pennir yn unman arall yn y tabl hwn, ac eithrio coed fforestydd, pridd a chyfrwng tyfu
Pob generaPob(2)0.680.15
Peiriannau neu gerbydau sydd wedi eu gweithredu at ddibenion amaethyddol neu goedwigaeth
Pob(2)5.980.26

(6Yn lle Atodlen 2 rhodder—

Rheoliad 3(2A)(b)(i) i (v) a (3)

ATODLEN 2  Ffioedd arolygu mewnforio: cyfraddau gostyngol ar gyfer llwythi sy’n tarddu o wledydd ac eithrio un o Aelod-wladwriaethau’r UE, Liechtenstein neu’r Swistir

Colofn 1

Planhigyn, cynnyrch planhigion neu wrthrych arall a’i genws (os yw’n gymwys)

Colofn 2

Gwlad tarddiad

Colofn 3

Ffi: Gwiriad ffisegol (£)

Colofn 4

Ffi: Gwiriad adnabod (£)

(1)

Mae “drydedd wlad yn Ewrop” yn cynnwys Albania, Andorra, Armenia, Azerbaijan, Belarws,

Bosnia-Herzegovina, Yr Ynysoedd Dedwydd, Ynysoedd Faröe, Georgia, Gwlad yr Iâ, Moldofa, Monaco, Montenegro, Gogledd Macedonia, Norwy, Rwsia (dim ond y rhannau a ganlyn: Y Rhanbarth Ffederal Canolog (Tsentralny federalny okrug), Rhanbarth Ffederal y Gogledd-orllewin (Severo-Zapadny federalny okrug), Rhanbarth Ffederal y De (Yuzhny federalny okrug), Rhanbarth Ffederal Gogledd y Cawcasws (Severo-Kavkazsky federalny okrug) a Rhanbarth Ffederal y Folga (Privolzhsky
federalny okrug), San Marino, Serbia, Twrci ac Ukrain..
Blodau wedi eu torri
AsterZimbabwe32.063.93
DianthusColumbia1.280.15
Ecuador6.410.78
Kenya2.140.26
Twrci6.410.78
RosaColumbia1.280.15
Ecuador0.430.05
Ethiopia2.140.26
Kenya4.280.52
Tanzania21.382.62
Zambia4.280.52
Canghennau gyda deiliant, rhannau o goed conwydd (ac eithrio coed Nadolig sydd wedi eu torri)
PhoenixCosta Rica17.002.62
Ffrwythau
Carica papayaUnrhyw drydedd wlad ac eithrio un o Aelod-wladwriaethau’r UE, Liechtenstein neu’r Swistir2.660.26
CydoniaUnrhyw drydedd wlad yn Ewrop(1) ac eithrio un o Aelod-wladwriaethau’r UE, Liechtenstein neu’r Swistir2.660.26
FragariaUnrhyw drydedd wlad ac eithrio un o Aelod-wladwriaethau’r UE, Liechtenstein neu’r Swistir2.660.26
MalusUnrhyw drydedd wlad yn Ewrop(1) ac eithrio un o Aelod-wladwriaethau’r UE, Liechtenstein neu’r Swistir2.660.26
Yr Ariannin18.591.83
Brasil26.552.62
Chile2.660.26
Seland Newydd5.310.52
De Affrica2.660.26
Persea AmericanaUnrhyw drydedd wlad ac eithrio un o Aelod-wladwriaethau’r UE, Liechtenstein neu’r Swistir2.660.26
PrunusUnrhyw drydedd wlad yn Ewrop(1) ac eithrio un o Aelod-wladwriaethau’r UE, Liechtenstein neu’r Swistir2.660.26
Yr Ariannin39.833.93
Chile5.310.53
Moroco26.552.62
Twrci18.591.83
Prunus ac eithrio prunus persicaDe Affrica5.310.26
PyrusUnrhyw drydedd wlad yn Ewrop(1) ac eithrio un o Aelod-wladwriaethau’r UE, Liechtenstein neu’r Swistir2.660.26
Yr Ariannin7.970.78
Chile7.970.78
Tsieina26.552.62
De Affrica5.310.53
RibesUnrhyw drydedd wlad yn Ewrop(1) ac eithrio un o Aelod-wladwriaethau’r UE, Liechtenstein neu’r Swistir2.660.26
RubusUnrhyw drydedd wlad ac eithrio un o Aelod-wladwriaethau’r UE, Liechtenstein neu’r Swistir2.660.26
VacciniumUnrhyw drydedd wlad yn Ewrop(1) ac eithrio un o Aelod-wladwriaethau’r UE, Liechtenstein neu’r Swistir2.660.26
Yr Ariannin13.281.31
Chile5.310.53
Periw5.310.53
VitisUnrhyw drydedd wlad ac eithrio un o Aelod-wladwriaethau’r UE, Liechtenstein neu’r Swistir2.660.26
Llysiau
Solanum lycopersiconYr Ynysoedd Dedwydd2.660.26
Moroco2.660.26
Solanum melongenaTwrci7.971.31
Peiriannau neu gerbydau sydd wedi eu gweithredu at ddibenion amaethyddol neu goedwigaeth
Unrhyw drydedd wlad5.980.26

(7Ar ôl Atodlen 2, mewnosoder yr Atodlen a ganlyn—

Rheoliad 3(2E)

ATODLEN 2ARhestr o blanhigion neu gynhyrchion planhigion sy’n tarddu o un o Aelod-wladwriaethau’r UE, Liechtenstein neu’r Swistir sy’n ddarostyngedig i ffioedd ar gyfer gwiriadau ffisegol a gwiriadau adnabod o 1 Mawrth 2022

1.  Hadau y cyfeirir atynt yn Atodlen 1A sy’n dod o fewn y disgrifiad “Hadau eraill nas pennir yn unman arall yn y tabl hwn”.

2.  Blodau wedi eu torri.

3.  Canghennau gyda deiliant, rhannau o goed conwydd ac eithrio rhisgl neu goed Nadolig sydd wedi eu torri.

4.  Coed Nadolig wedi eu torri.

5.  Dail planhigion, megis perlysiau, sbeisys a llysiau deiliog.

6.  Ffrwythau.

7.  Llysiau.

8.  Cloron tatws sy’n tarddu o unrhyw un o Aelod-wladwriaethau’r UE (ac eithrio Portiwgal, Gwlad Pwyl, Rwmania a Sbaen), Liechtenstein neu’r Swistir.

9.  Rhisgl pob genera ac eithrio Castanea Mill, conwydd (Pinales), Juglans L a Pterocarya Kunth.

10.  Grawn.

11.  Planhigion neu gynhyrchion planhigion y cyfeirir atynt yn Atodlen 1A sy’n dod o fewn y disgrifiad “Planhigion neu gynhyrchion planhigion eraill nas pennir yn unman arall yn y tabl hwn, ac eithrio coed fforestydd, pridd a chyfrwng tyfu”..

Julie James

Y Gweinidog Newid Hinsawdd, un o Weinidogion Cymru

16 Mehefin 2021

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud drwy arfer y pwerau a roddir gan baragraff 7 o Atodlen 4 a pharagraff 21(b) o Atodlen 7 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 (p. 16) ac maent yn diwygio Rheoliadau Iechyd Planhigion etc. (Ffioedd) (Cymru) 2018 (O.S. 2018/1179) (Cy. 238) (“Rheoliadau 2018”).

Mae’r Rheoliadau yn gwneud addasiadau, o ganlyniad i ymadawiad y Deyrnas Unedig â’r Undeb Ewropeaidd, i ffioedd penodol sy’n daladwy i Weinidogion Cymru mewn perthynas ag arolygu mewnforio planhigion, cynhyrchion planhigion neu wrthrychau eraill.

Yn benodol—

(a)mae’r ffi sy’n daladwy gan fewnforiwr mewn cysylltiad â phob tystysgrif ffytoiechydol neu dystysgrif ffytoiechydol ar gyfer ailallforio sy’n mynd gyda llwyth yn cael ei rhannu’n ffioedd ar wahân sy’n daladwy mewn cysylltiad â gwiriad dogfennol a gwiriad adnabod (rheoliad 2(2)(a) a (b));

(b)mae Atodlen 1A newydd wedi ei mewnosod yn Rheoliadau 2018 i ddarparu ar gyfer ffioedd sy’n daladwy gan fewnforiwr mewn cysylltiad â gwiriad ffisegol a gwiriad adnabod o blanhigion, cynhyrchion planhigion neu wrthrychau eraill sy’n tarddu o un o Aelod-wladwriaethau’r UE, y Swistir neu Liechtenstein, gan gynnwys y rheini sy’n ddarostyngedig i wiriadau llai manwl, gan adlewyrchu lefel yr arolygu, yn seiliedig ar y risgiau sy’n gysylltiedig â’r planhigion hynny, y cynhyrchion planhigion hynny neu’r gwrthrychau eraill hynny (rheoliad 2(2)(b) a (5)); ac

(c)mae Atodlen 2 wedi ei amnewid yn Rheoliadau 2018 i ddarparu ar gyfer ffioedd gostyngedig mewn cysylltiad â gwiriad adnabod o blanhigion, cynhyrchion planhigion neu wrthrychau eraill sy’n tarddu o drydedd wlad ac eithrio un o Aelod-wladwriaethau’r UE, y Swistir neu Liechtenstein, gan adlewyrchu’r lefel bresennol o arolygu (rheoliad 2(2)(b) a (6)).

Nid yw’r ffioedd sy’n daladwy yn rhinwedd rheoliad 3(2A)(a) newydd Rheoliadau 2018 yn daladwy mewn cysylltiad â llwythi a fewnforir cyn 1 Mawrth 2022, mewn cysylltiad â phlanhigion penodol neu gynhyrchion planhigion penodol.

Mae’r ffioedd sy’n gymwys mewn cysylltiad â gwiriadau ffisegol a gwiriadau adnabod llwythi o blanhigion penodol, cynhyrchion planhigion penodol neu wrthrychau eraill penodol o un o Aelod-wladwriaethau’r UE, Liechtenstein neu’r Swistir yn adlewyrchu cyfraddau amlder y gwiriadau hynny fel y’u nodir yn Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol, Iechyd Planhigion, Hadau a Thatws Hadyd (Diwygio etc.) 2021 (O.S. 2021/426).

Mae’r Rheoliadau hyn hefyd yn darparu esemptiad rhag talu ffioedd sydd fel arall yn daladwy mewn cysylltiad ag ardystio a gwasanaethau cyn-allforio o ran llwythi ffytoiechydol o dan amgylchiadau penodol. Mae’r esemptiad yn peidio â chael effaith ar ddiwedd 31 Rhagfyr 2022 (rheoliad 2(3)).

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.

(1)

2018 p. 16; gweler paragraff 8 o Atodlen 4 am ystyr “appropriate authority”. Diwygiwyd paragraff 21 o Atodlen 7 gan adran 41(4) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Y Cytundeb Ymadael) 2020 (p. 1) a pharagraffau 38 a 53(2) o Atodlen 5 iddi.

(2)

Mae’r cyfeiriad yn Neddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 at Gynulliad Cenedlaethol Cymru bellach yn cael effaith fel cyfeiriad at Senedd Cymru yn rhinwedd adran 150A(2) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32).

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources