Search Legislation

Rheolau Etholiadau Lleol (Cymunedau) (Cymru) 2021

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made).

Enwebu

Dyletswydd y swyddog canlyniadau i gyflenwi ffurflenni enwebu etc.

4.—(1Yn y man ac ar yr amserau ar gyfer cael ffurflenni papurau enwebu a nodir yn hysbysiad yr etholiad, rhaid i’r swyddog canlyniadau—

(a)cyflenwi cynifer o ffurflenni papurau enwebu i unrhyw berson ag y bydd y person yn gofyn amdanynt, a

(b)os gwneir cais, paratoi papur enwebu i’w lofnodi.

(2Rhaid i’r swyddog canlyniadau wneud trefniadau hefyd i sicrhau bod modd cael ffurflenni enwebu ar-lein yn unol â’r wybodaeth a roddir yn hysbysiad yr etholiad.

(3Er hynny, nid oes angen i enwebiad gael ei wneud ar ffurflen a gyflenwir gan y swyddog canlyniadau neu a geir ar-lein.

Enwebu ymgeiswyr

5.—(1Rhaid i ymgeisydd ei enwebu ei hun gan ddefnyddio papur enwebu yn y ffurf yn Atodiad 1 neu ffurf i’r un perwyl.

(2Caniateir i’r papur enwebu gael ei ddanfon naill ai—

(a)yn y man a bennir gan y swyddog canlyniadau yn hysbysiad yr etholiad, neu

(b)yn unol â’r trefniadau a nodir yn y datganiad danfon electronig.

(3Rhaid i’r papur enwebu—

(a)datgan enwau llawn yr ymgeisydd, gan osod y cyfenwau’n gyntaf,

(b)os yw’r ymgeisydd yn dymuno, cynnwys disgrifiad sy’n cydymffurfio â rheol 6,

(c)cynnwys datganiad o aelodaeth plaid sy’n cydymffurfio â rheol 8, a

(d)cynnwys y datganiadau a nodir yn y ffurf yn Atodiad 1, wedi eu llofnodi gan yr ymgeisydd.

(4Os yw ymgeisydd yn defnyddio’n gyffredin enwau blaen neu gyfenwau sy’n wahanol mewn unrhyw ffordd i’r enwau blaen neu’r cyfenwau a ddatgenir yn unol â pharagraff (3)(a) (gan gynnwys pan y gwahaniaeth yw defnyddio’r enwau blaen neu’r cyfenwau a ddefnyddir yn gyffredin mewn trefn wahanol, cynnwys rhai o’r enwau yn unig neu gynnwys enwau ychwanegol), caniateir i’r papur enwebu hefyd ddatgan yr enwau blaen neu’r cyfenwau a ddefnyddir yn gyffredin.

(5Rhaid i’r papur enwebu gael ei lofnodi gan yr ymgeisydd ym mhresenoldeb tyst sy’n gorfod tystio i’r llofnod.

(6I gyd-fynd â’r papur enwebu rhaid cael ffurflen (“ffurflen cyfeiriad cartref”) sy’n cydymffurfio â rheol 9.

Papurau enwebu: disgrifiadau

6.—(1Mae’r rheol hon yn nodi gofynion ynghylch y disgrifiadau y caniateir eu cynnwys mewn papur enwebu fel y crybwyllir yn rheol 5(3)(b).

(2Caiff y disgrifiad fod naill ai—

(a)yn ddisgrifiad sy’n debygol o arwain etholwyr i gysylltu’r ymgeisydd â phlaid wleidyddol gofrestredig neu â dwy neu ragor o bleidiau gwleidyddol cofrestredig ac a ganiateir o dan baragraff (3) neu (yn ôl y digwydd) paragraff (4), neu

(b)y gair “Independent” neu’r gair “Annibynnol”, neu’r ddau air hynny.

(3Caniateir disgrifiad sy’n debygol o arwain etholwyr i gysylltu’r ymgeisydd â phlaid wleidyddol gofrestredig—

(a)pan fo’r blaid yn blaid gymwys,

(b)pan fo’r disgrifiad naill ai—

(i)yn enw cofrestredig y blaid neu, os yw’r blaid wedi cofrestru enw Cymraeg ac enw Saesneg, y naill neu’r llall o’r enwau hynny neu’r ddau, neu

(ii)yn ddisgrifiad cofrestredig i’r blaid neu, yn achos disgrifiad a gofrestrwyd yn Gymraeg ac yn Saesneg, y naill neu’r llall o’r disgrifiadau hynny neu’r ddau, ac

(c)pan fo defnydd y disgrifiad gan yr ymgeisydd wedi ei awdurdodi gan dystysgrif a ddyroddwyd gan neu ar ran swyddog enwebu cofrestredig y blaid ac a ddaeth i law’r swyddog canlyniadau cyn yr amser olaf ar gyfer danfon papurau enwebu.

(4Caniateir disgrifiad sy’n debygol o arwain etholwyr i gysylltu’r ymgeisydd â dwy neu ragor o bleidiau gwleidyddol cofrestredig—

(a)pan fo pob un o’r pleidiau’n bleidiau cymwys,

(b)pan fo’r disgrifiad yn cynnwys enw cofrestredig pob un o’r pleidiau a ddangosir yn y naill neu’r llall o’r fersiynau a ddisgrifir ym mharagraff (5) neu’r ddau, ac

(c)pan fo defnydd y disgrifiad gan yr ymgeisydd wedi ei awdurdodi gan dystysgrif a ddyroddwyd gan neu ar ran swyddog enwebu cofrestredig pob un o’r pleidiau ac a ddaeth i law’r swyddog canlyniadau cyn yr amser olaf ar gyfer danfon papurau enwebu.

(5Y fersiynau y cyfeirir atynt ym mharagraff (4)(b) yw—

(a)fersiwn sy’n dangos (mewn unrhyw drefn) enwau cofrestredig y pleidiau, ynghyd ag ychwanegu unrhyw gysyllteiriau ac atalnodau priodol yn Saesneg (“y fersiwn Saesneg”);

(b)fersiwn sy’n dangos (mewn unrhyw drefn) enwau cofrestredig y pleidiau, ynghyd ag ychwanegu unrhyw gysyllteiriau ac atalnodau priodol yn Gymraeg (“y fersiwn Gymraeg”).

(6Pan fo unrhyw un neu ragor o’r pleidiau wedi cofrestru enw Saesneg ac enw Cymraeg—

(a)caniateir i enw cofrestredig y blaid yn Saesneg (ac nid enw cofrestredig y blaid yn Gymraeg) gael ei ddefnyddio yn y fersiwn Saesneg, a

(b)caniateir i enw cofrestredig y blaid yn Gymraeg (ac nid enw cofrestredig y blaid yn Saesneg) gael ei ddefnyddio yn y fersiwn Gymraeg.

(7Gweler hefyd reol 7 (sy’n nodi pryd a sut y caniateir ychwanegu’r gair “Wales”, “Welsh”, “Cymru” neu “Cymreig” at ddisgrifiadau a ganiateir o dan baragraff (3) neu (4)).

(8Mae person yn euog o arfer lwgr os yw’r person hwnnw’n honni’n dwyllodrus ei fod wedi ei awdurdodi i ddyroddi tystysgrif o dan baragraff (3)(c) neu (4)(c) ar ran swyddog enwebu plaid wleidyddol gofrestredig.

(9Yn y rheol hon—

(a)mae cyfeiriadau at enw cofrestredig plaid wleidyddol gofrestredig yn gyfeiriadau at enw’r blaid a gofrestrwyd o dan adran 28 o Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000;

(b)mae cyfeiriadau at ddisgrifiad cofrestredig plaid wleidyddol gofrestredig yn gyfeiriadau at ddisgrifiad o’r blaid a gofrestrwyd o dan adran 28A o’r Ddeddf honno.

(10At ddibenion cymhwyso’r rheol hon mewn perthynas ag etholiad—

(a)ystyr “plaid wleidyddol gofrestredig” yw plaid sydd wedi ei chofrestru o dan Ran 2 o Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 ar y diwrnod sydd ddau ddiwrnod cyn y diwrnod olaf ar gyfer danfon papurau enwebu yn yr etholiad (gan ddiystyru unrhyw ddiwrnod eithriedig);

(b)mae plaid wleidyddol gofrestredig yn blaid gymwys os yw’r blaid, ar y diwrnod hwnnw, wedi ei chofrestru mewn cysylltiad â Chymru yng nghofrestr Prydain Fawr a gynhelir o dan Ran 2 o’r Ddeddf honno.

Ychwanegu “Wales”, “Welsh”, “Cymru” neu “Cymreig”

7.—(1Mae’r rheol hon yn nodi pryd a sut y caiff ymgeisydd wneud ychwanegiadau mewn papur enwebu at ddisgrifiad y caniateir i’r ymgeisydd ei ddefnyddio o dan reol 6(3) neu (4).

(2Mae paragraff (3) yn gymwys—

(a)pan fo enw cofrestredig yn ddisgrifiad y caniateir i’r ymgeisydd ei ddefnyddio o dan reol 6(3) neu’n ffurfio rhan o’r disgrifiad hwnnw, a

(b)pan nad yw’r enw cofrestredig yn cynnwys yr un o’r geiriau “Wales”, “Welsh”, “Cymru” a “Cymreig”.

(3Caiff yr ymgeisydd wneud un o’r canlynol—

(a)ychwanegu’r gair “Wales” o flaen yr enw;

(b)ychwanegu’r gair “Welsh” o flaen yr enw;

(c)ychwanegu’r gair “Cymru” ar ôl yr enw;

(d)ychwanegu’r gair “Cymreig” ar ôl yr enw.

(4Mae paragraffau (5) a (6) yn gymwys—

(a)pan fo enw cofrestredig yn ffurfio rhan o ddisgrifiad y caniateir i’r ymgeisydd ei ddefnyddio o dan reol 6(4), a

(b)pan nad yw’r enw cofrestredig yn cynnwys yr un o’r geiriau “Wales”, “Welsh”, “Cymru” a “Cymreig”.

(5Os yw’r enw cofrestredig yn y fersiwn Saesneg o’r disgrifiad (p’un a yw hefyd yn y fersiwn Gymraeg ai peidio), caiff yr ymgeisydd ychwanegu naill ai’r gair “Wales” neu’r gair “Welsh” o flaen yr enw yn y fersiwn honno.

(6Os yw’r enw cofrestredig yn y fersiwn Gymraeg o’r disgrifiad (p’un a yw hefyd yn y fersiwn Saesneg ai peidio), caiff yr ymgeisydd ychwanegu naill ai’r gair “Cymru” neu’r gair “Cymreig” ar ôl yr enw yn y fersiwn honno.

(7Mae paragraff (8) yn gymwys—

(a)pan fo disgrifiad cofrestredig yn ddisgrifiad y caniateir i’r ymgeisydd ei ddefnyddio o dan reol 6(3) neu’n ffurfio rhan o’r disgrifiad hwnnw, a

(b)pan nad yw’r disgrifiad cofrestredig yn cynnwys yr un o’r geiriau “Wales”, “Welsh”, “Cymru” a “Cymreig”.

(8Caiff yr ymgeisydd wneud un o’r canlynol—

(a)ychwanegu’r gair “Wales” ar ddechrau’r disgrifiad cofrestredig;

(b)ychwanegu’r gair “Welsh” ar ddechrau’r disgrifiad cofrestredig;

(c)ychwanegu’r gair “Cymru” ar ddiwedd y disgrifiad cofrestredig;

(d)ychwanegu’r gair “Cymreig” ar ddiwedd y disgrifiad cofrestredig.

(9At ddibenion paragraffau (3)(a) a (b) a (5), pan fo’r gair “the” (neu unrhyw air mewn iaith arall sydd â’r un swyddogaeth â’r gair “the”) yn ymddangos ar ddechrau enw cofrestredig, rhaid ei anwybyddu.

(10Pan fo ymgeisydd yn ychwanegu unrhyw beth at ddisgrifiad mewn papur enwebu yn unol â’r rheol hon, mae cyfeiriadau yn y darpariaethau a ganlyn yn yr Atodlen hon at y disgrifiad yn gyfeiriadau at y disgrifiad gyda’r ychwanegiad.

Papurau enwebu: datganiadau aelodaeth plaid

8.—(1Mae’r rheol hon yn nodi’r gofynion ynglŷn â datganiadau aelodaeth plaid y mae’n rhaid eu cynnwys mewn papurau enwebu fel y crybwyllir yn rheol 5(3)(c).

(2Rhaid i’r datganiad ddatgan a yw’r ymgeisydd wedi bod yn aelod o unrhyw blaid wleidyddol gofrestredig unrhyw bryd yn ystod y cyfnod perthnasol.

(3Os yw’r ymgeisydd wedi bod yn aelod o un neu ragor o bleidiau gwleidyddol cofrestredig unrhyw bryd yn ystod y cyfnod perthnasol, rhaid i’r datganiad hefyd gynnwys yr wybodaeth a ganlyn mewn perthynas â’r blaid neu (yn ôl y digwydd) pob un o’r pleidiau y bu’r ymgeisydd yn aelod ohonynt—

(a)enw cofrestredig y blaid neu, pan fo gan y blaid ddau enw cofrestredig, enwau cofrestredig y blaid, a

(b)y dyddiadau yn ystod y cyfnod perthnasol pan fu’r ymgeisydd yn aelod o’r blaid.

(4Nid yw paragraff (3) yn gymwys—

(a)pan fo’r papur enwebu’n cynnwys disgrifiad sy’n debygol o arwain etholwyr i gysylltu’r ymgeisydd â phlaid wleidyddol gofrestredig neu â dwy neu ragor o bleidiau gwleidyddol cofrestredig ac a ganiateir o dan reol 6(3) neu (yn ôl y digwydd) rheol 6(4), a

(b)pan nad yw’r ymgeisydd wedi bod yn aelod o blaid wleidyddol gofrestredig unrhyw bryd yn ystod y cyfnod perthnasol ac eithrio’r blaid neu’r pleidiau y mae’r disgrifiad hwnnw’n ymwneud â hi neu â hwy.

(5Mae ymgeisydd sy’n methu’n fwriadol â chynnwys yn y papur enwebu ddatganiad o aelodaeth plaid sy’n cydymffurfio â gofynion y rheol hon yn euog o arfer lwgr.

(6Yn y rheol hon—

(a)ystyr “plaid wleidyddol gofrestredig” yw plaid sydd wedi ei chofrestru o dan Ran 2 o Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 unrhyw bryd yn ystod y cyfnod perthnasol pan fo’r ymgeisydd yn aelod;

(b)mae cyfeiriadau at enw cofrestredig plaid wleidyddol gofrestredig yn gyfeiriadau at enw’r blaid a gofrestrwyd o dan adran 28 o’r Ddeddf honno;

(c)ystyr “y cyfnod perthnasol” yw’r cyfnod o 12 mis sy’n dod i ben â’r diwrnod y cyhoeddir hysbysiad yr etholiad.

Ffurflenni cyfeiriad cartref

9.—(1Mae’r rheol hon yn nodi’r gofynion ynglŷn â ffurflenni cyfeiriad cartref y mae’n rhaid iddynt gyd-fynd â phapurau enwebu o dan reol 5(6).

(2Rhaid i ffurflen cyfeiriad cartref ddatgan—

(a)enwau llawn yr ymgeisydd,

(b)cyfeiriad cartref yr ymgeisydd yn llawn,

(c)cyfeiriad neu gyfeiriadau cymwys yr ymgeisydd, a

(d)y cymhwyster y mae pob cyfeiriad cymwys yn ymwneud ag ef.

(3Mae cyfeiriad neu gyfeiriadau cymwys yr ymgeisydd, a’r cymhwyster y mae pob cyfeiriad cymwys yn ymwneud ag ef, yn dibynnu ar ba un neu ragor o opsiynau (a) i (d) ar y papur enwebu sydd wedi eu dewis gan yr ymgeisydd, fel y’u nodir yn y tabl a ganlyn.

Yr opsiwn a ddewisir ar y papur enwebuCyfeiriad cymwys yr ymgeisyddY cymhwyster y mae cyfeiriad cymwys yr ymgeisydd yn ymwneud ag ef
Opsiwn (a)Y cyfeiriad llawn y mae’r ymgeisydd wedi ei gofrestru fel etholwr llywodraeth leol mewn cysylltiad ag efY cymhwyster a ddisgrifir yn opsiwn (a) (cofrestru fel etholwr llywodraeth leol ar gyfer ardal y cyngor cymuned)
Opsiwn (b)Disgrifiad a chyfeiriad y tir neu’r fangre y mae’r ymgeisydd wedi eu meddiannu fel perchennog neu denant (neu, os yw’r ymgeisydd yn dibynnu ar fwy nag un meddiant i fodloni’r cymhwyster, y disgrifiadau a’r cyfeiriadau)Y cymhwyster a ddisgrifir yn opsiwn (b) (meddiannu tir neu fangre arall yn ardal y cyngor cymuned fel perchennog neu denant)
Opsiwn (c)Cyfeiriad gweithle’r ymgeisydd (neu, os yw’r ymgeisydd yn dibynnu ar fwy nag un gweithle i fodloni’r cymhwyster, y cyfeiriadau)Y cymhwyster a ddisgrifir yn opsiwn (c) (prif neu unig weithle yn ardal y cyngor cymuned)
Opsiwn (d)Y cyfeiriad neu’r cyfeiriadau llawn lle mae’r ymgeisydd wedi preswylioY cymhwyster a ddisgrifir yn opsiwn (d) (preswylio yn y gymuned neu o fewn 3 milltir iddi)

(4Os yw papur enwebu’r ymgeisydd yn cynnwys enwau blaen neu gyfenwau a ddefnyddir yn gyffredin, rhaid i’r ffurflen cyfeiriad cartref hefyd ddatgan yr enwau a ddefnyddir yn gyffredin.

(5Rhaid i’r ffurflen cyfeiriad cartref ddatgan hefyd—

(a)enwau llawn y person sy’n dyst i lofnod yr ymgeisydd ar y papur enwebu, a

(b)cyfeiriad cartref y person hwnnw yn llawn.

(6Caiff y ffurflen cyfeiriad cartref gynnwys datganiad a wnaed ac a lofnodwyd gan yr ymgeisydd na chaniateir cyhoeddi cyfeiriad cartref yr ymgeisydd.

(7Os yw’r ffurflen cyfeiriad cartref yn cynnwys datganiad o’r fath, mae’n rhaid iddi—

(a)pan fo cyfeiriad cartref yr ymgeisydd yn y Deyrnas Unedig, ddatgan enw’r ardal berthnasol (gweler paragraff (8));

(b)pan fo cyfeiriad cartref yr ymgeisydd y tu allan i’r Deyrnas Unedig, ddatgan y wlad y mae wedi ei leoli ynddi.

(8Yn y rheol hon, ystyr “ardal berthnasol” yw—

(a)pan fo cyfeiriad cartref yr ymgeisydd yng Nghymru—

(i)os yw’r cyfeiriad mewn sir, y sir honno;

(ii)os yw’r cyfeiriad mewn bwrdeistref sirol, y fwrdeistref sirol honno;

(b)pan fo cyfeiriad cartref yr ymgeisydd yn Lloegr—

(i)os yw’r cyfeiriad mewn dosbarth y ceir cyngor dosbarth ar ei gyfer, y dosbarth hwnnw;

(ii)os yw’r cyfeiriad mewn sir nad oes dosbarthau â chynghorau ynddi, y sir honno;

(iii)os yw’r cyfeiriad yn un o fwrdeistrefi Llundain, y fwrdeistref honno yn Llundain;

(iv)os yw’r cyfeiriad yn Ninas Llundain (gan gynnwys y Temlau Mewnol a Chanol), Dinas Llundain;

(v)os yw’r cyfeiriad yn Ynysoedd Sili, Ynysoedd Sili;

(c)pan fo cyfeiriad cartref yr ymgeisydd yn yr Alban, yr ardal llywodraeth leol y mae’r cyfeiriad wedi ei leoli ynddi;

(d)pan fo cyfeiriad cartref yr ymgeisydd yng Ngogledd Iwerddon, y dosbarth llywodraeth leol y mae wedi ei leoli ynddo.

Penderfyniadau ynglŷn â dilysrwydd papurau enwebu

10.—(1Mae’r rheol hon yn gymwys pan ddanfonir papur enwebu a’r ffurflen cyfeiriad cartref sy’n cyd-fynd ag ef yn unol â’r rheolau hyn.

(2Mae’r ymgeisydd yn dal wedi ei enwebu oni bai a hyd nes y bydd un o’r digwyddiadau a ganlyn yn digwydd—

(a)bod y swyddog canlyniadau’n penderfynu bod y papur enwebu’n annilys;

(b)bod y swyddog canlyniadau wedi ei fodloni bod yr ymgeisydd wedi marw;

(c)bod yr ymgeisydd yn tynnu’n ôl.

(3Mae gan y swyddog canlyniadau hawl i ddyfarnu bod papur enwebu’n annilys ar un o’r seiliau a ganlyn yn unig—

(a)nad yw manylion yr ymgeisydd yn unol â gofynion y gyfraith;

(b)nad yw ffurflen cyfeiriad cartref yr ymgeisydd yn cydymffurfio â rheol 9(2) i (6);

(c)pan fo ffurflen cyfeiriad cartref yr ymgeisydd yn cynnwys datganiad na chaniateir cyhoeddi’r cyfeiriad cartref, nad yw’r ffurflen yn cydymffurfio â rheol 9(7);

(d)nad yw’r papur enwebu wedi ei lofnodi gan yr ymgeisydd, neu nad yw llofnod yr ymgeisydd wedi ei ardystio, yn unol â gofynion rheol 5(5).

(4Yn ddarostyngedig i baragraff (5), rhaid i’r swyddog canlyniadau, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl i bob papur enwebu a ffurflen cyfeiriad cartref gael eu danfon, eu harchwilio a phenderfynu a yw’r ymgeisydd wedi ei enwebu’n ddilys.

(5Os oes disgrifiad mewn papur enwebu wedi ei gynnwys ym marn y swyddog canlyniadau yn groes i reol 6(3) neu (4) neu 7, rhaid i’r swyddog canlyniadau roi penderfyniad nad yw manylion yr ymgeisydd yn unol â gofynion y gyfraith—

(a)cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl i’r papur enwebu gael ei ddanfon, a

(b)beth bynnag, cyn diwedd y cyfnod o 24 awr sy’n dechrau â diwedd y cyfnod ar gyfer danfon papurau enwebu.

(6Pan fo’r swyddog canlyniadau’n penderfynu bod papur enwebu’n annilys, rhaid i’r swyddog canlyniadau arnodi ar y papur y ffaith bod y penderfyniad wedi ei wneud a’r rhesymau drosto a llofnodi’r arnodiad.

(7Rhaid i’r swyddog canlyniadau roi hysbysiad i bob ymgeisydd yn datgan penderfyniad y swyddog canlyniadau a yw papur enwebu’r ymgeisydd yn ddilys ynteu’n annilys.

(8Mae penderfyniad y swyddog canlyniadau bod papur enwebu yn ddilys yn derfynol ac ni chaniateir ei amau mewn unrhyw achos.

(9Ac eithrio fel y darperir gan baragraff (8), nid oes dim yn y rheol hon yn atal dilysrwydd enwebiad rhag cael ei amau ar ddeiseb etholiad.

Enwebu mewn mwy nag un ardal etholiadol

11.—(1Rhaid i ymgeisydd sydd wedi ei enwebu’n ddilys ar gyfer mwy nag un ardal etholiadol yn yr un gymuned dynnu’n ôl o ymgeisyddiaeth yn yr holl ardaloedd etholiadol hynny ond un.

(2Mae ymgeisydd nad yw’n tynnu’n ôl yn unol â gofynion paragraff (1) i’w drin fel pe bai wedi tynnu’n ôl o ymgeisyddiaeth yn yr holl ardaloedd etholiadol lle cafodd yr ymgeisydd ei enwebu’n ddilys.

Ymgeiswyr yn tynnu’n ôl

12.—(1Caiff ymgeisydd dynnu’n ôl o ymgeisyddiaeth drwy roi hysbysiad tynnu’n ôl i’r swyddog canlyniadau.

(2Rhaid i’r hysbysiad tynnu’n ôl gael ei lofnodi gan yr ymgeisydd ym mhresenoldeb tyst sy’n gorfod tystio i lofnod yr ymgeisydd.

Cyhoeddi datganiad o’r personau a enwebwyd

13.—(1Rhaid i’r swyddog canlyniadau baratoi a chyhoeddi datganiad (“datganiad o’r personau a enwebwyd”) yn dangos—

(a)y personau a enwebwyd ac sy’n dal wedi eu henwebu, a

(b)unrhyw bersonau eraill a enwebwyd ond nad ydynt yn dal wedi eu henwebu mwyach, gyda’r rheswm nad ydynt yn dal wedi eu henwebu mwyach.

(2Rhaid i’r datganiad ddangos—

(a)enwau a disgrifiadau (os oes rhai) y personau a enwebwyd, fel y’u rhoddwyd yn eu papurau enwebu,

(b)yr wybodaeth am eu cyfeiriad cartref (gweler paragraff (3)), ac

(c)yr wybodaeth a gynhwyswyd yn eu datganiadau o aelodaeth plaid, fel y’i rhoddwyd yn eu papurau enwebu.

(3Yn y rheolau hyn, mae cyfeiriadau at yr wybodaeth am gyfeiriad cartref person a enwebwyd yn gyfeiriadau at yr wybodaeth a ganlyn fel y’i rhoddwyd yn y ffurflen cyfeiriad cartref sy’n cyd-fynd â’r papur enwebu—

(a)pan fo’r ffurflen cyfeiriad cartref yn cynnwys datganiad na chaniateir cyhoeddi’r cyfeiriad cartref, yr wybodaeth a roddwyd yn unol â rheol 9(7);

(b)pan nad yw’r ffurflen cyfeiriad cartref yn cynnwys datganiad o’r fath, cyfeiriad y person a enwebwyd.

(4Rhaid i’r datganiad ddangos y personau sy’n dal wedi eu henwebu yn nhrefn yr wyddor yn ôl eu cyfenwau, ac os oes gan ddau neu ragor ohonynt yr un cyfenwau, rhaid i’r datganiad ddangos y personau hynny yn nhrefn yr wyddor yn ôl eu henwau eraill.

(5Mae rheol 14 (defnyddio enwau a ddefnyddir yn gyffredin) a rheol 15 (enwau sydd yr un fath neu’n debyg) yn gwneud darpariaeth bellach ynghylch cynnwys y datganiad o’r personau a enwebwyd.

Defnyddio enwau a ddefnyddir yn gyffredin yn y datganiad o’r personau a enwebwyd

14.—(1Mae’r rheol hon yn gymwys pan fo papur enwebu person yn rhoi enwau blaen neu gyfenwau a ddefnyddir yn gyffredin yn unol â rheol 5(4).

(2Rhaid i’r datganiad o’r personau a enwebwyd ddangos enwau blaen neu gyfenwau’r person a ddefnyddir yn gyffredin (yn hytrach na’r enwau blaen neu’r cyfenwau a ddatganwyd yn y papur enwebu yn unol â rheol 5(3)(a)) oni bai bod y swyddog canlyniadau’n penderfynu—

(a)y gallai defnyddio enwau blaen neu gyfenwau’r person a ddefnyddir yn gyffredin fod yn debygol o gamarwain neu ddrysu etholwyr, neu

(b)bod yr enwau blaen neu’r cyfenwau a ddefnyddir yn gyffredin yn anweddus neu’n dramgwyddus.

(3Pan fo paragraff (2)(a) neu (b) yn gymwys—

(a)rhaid i’r datganiad o’r personau a enwebwyd ddangos enwau blaen neu gyfenwau eraill y person fel y’u datganwyd yn y papur enwebu yn unol â rheol 5(3)(a) (yn hytrach na’r enwau blaen neu’r cyfenwau a ddefnyddir yn gyffredin), a

(b)rhaid i’r swyddog canlyniadau roi hysbysiad i’r ymgeisydd yn datgan y rhesymau dros wrthod caniatáu defnyddio’r enwau blaen neu’r cyfenwau a ddefnyddir yn gyffredin.

Enwau sydd yr un fath neu’n debyg

15.—(1Mae’r rheol hon yn gymwys pan fo’r swyddog canlyniadau, wrth baratoi datganiad o’r personau a enwebwyd, yn penderfynu—

(a)bod dau neu ragor o’r enwau a fyddai’n cael eu dangos ar y datganiad yr un fath neu mor debyg nes eu bod yn debygol o beri dryswch,

(b)bod pob un o’r personau dan sylw wedi gwneud datganiad eu bod yn ei gwneud yn ofynnol i’w cyfeiriad cartref beidio â chael ei gyhoeddi (gweler rheol 9(6)), ac

(c)bod yr wybodaeth a roddwyd yn unol â rheol 9(7) yr un fath ar gyfer pob un ohonynt.

(2Caiff y swyddog canlyniadau drefnu i unrhyw un neu ragor o’u manylion gael eu dangos ar y datganiad o’r personau a enwebwyd gydag unrhyw ddiwygiadau neu ychwanegiadau sy’n briodol ym marn y swyddog canlyniadau er mwyn lleihau’r tebygolrwydd o ddryswch.

(3Wrth benderfynu a ddylid gwneud diwygiadau neu ychwanegiadau o dan y rheol hon, rhaid i’r swyddog canlyniadau roi sylw i unrhyw ganllawiau a roddwyd gan y Comisiwn Etholiadol at ddibenion y rheol hon.

(4Pan fo’n ymarferol gwneud hynny cyn cyhoeddi’r datganiad, rhaid i’r swyddog canlyniadau ymgynghori ag unrhyw bersonau y bwriedir diwygio’u manylion neu ychwanegu at eu manylion o dan y rheol hon.

(5Rhaid i’r swyddog canlyniadau roi hysbysiad i unrhyw berson y diwygiwyd ei fanylion neu yr ychwanegwyd at ei fanylion o dan y rheol hon, yn nodi’r diwygiadau neu’r ychwanegiadau.

(6Ni chaniateir i unrhyw beth a wneir gan swyddog canlyniadau o dan y rheol hon gael ei amau mewn unrhyw achos heblaw achos ar ddeiseb etholiad.

Cywiro mân wallau mewn papur enwebu neu ffurflen cyfeiriad cartref

16.—(1Caiff swyddog canlyniadau, unrhyw bryd cyn cyhoeddi’r datganiad o’r personau a enwebwyd, gywiro mân wallau mewn papur enwebu neu ffurflen cyfeiriad cartref.

(2Mae’r gwallau y caniateir eu cywiro yn cynnwys—

(a)gwallau o ran rhif etholiadol person;

(b)gwallau sillafu amlwg;

(c)gwallau o ran yr wybodaeth a roddwyd yn unol â rheol 9(7) (gwybodaeth y mae’n rhaid ei chynnwys pan fo’r ymgeisydd wedi datgan na chaniateir cyhoeddi’r cyfeiriad cartref).

(3Ni chaniateir i unrhyw beth a wneir gan swyddog canlyniadau yn unol â’r rheol hon gael ei amau mewn unrhyw achos heblaw achos ar ddeiseb etholiad.

(4Wrth benderfynu a ddylid cywiro mân wallau o dan y rheol hon, rhaid i swyddog canlyniadau roi sylw i unrhyw ganllawiau a roddwyd gan y Comisiwn Etholiadol at ddibenion y rheol hon.

Archwilio papurau enwebu

17.—(1Yn ystod yr amser ar gyfer archwilio, caiff unrhyw berson archwilio papurau enwebu sydd wedi eu danfon.

(2Ym mharagraff (1), ystyr “yr amser ar gyfer archwilio” yw oriau swyddfa arferol ar unrhyw ddiwrnod ar ôl y diwrnod olaf ar gyfer danfon papurau enwebu a chyn diwrnod y bleidlais, ac eithrio diwrnod eithriedig.

(3Caiff person sy’n archwilio papurau enwebu gymryd copi o’r papurau, neu godi dyfyniadau ohonynt.

Archwilio ffurflenni cyfeiriad cartref

18.—(1Yn ystod yr amser ar gyfer archwilio, caniateir i ffurflen cyfeiriad cartref ymgeisydd sy’n dal wedi ei enwebu gael ei harchwilio gan unrhyw un neu ragor o’r canlynol sy’n dymuno ei harchwilio—

(a)ymgeisydd arall sy’n dal wedi ei enwebu yn yr un ardal etholiadol;

(b)asiant etholiadol (os penodwyd un) ymgeisydd arall sy’n dal wedi ei enwebu yn yr ardal honno;

(c)yn achos ymgeisydd arall sy’n dal wedi ei enwebu yn yr ardal honno ac sydd heb benodi asiant etholiadol, person arall a ddewisir gan yr ymgeisydd hwnnw.

(2Ym mharagraff (1), ystyr “yr amser ar gyfer archwilio” yw oriau swyddfa arferol ar unrhyw ddiwrnod ar ôl y diwrnod olaf ar gyfer danfon papurau enwebu a chyn diwrnod y bleidlais, ac eithrio diwrnod eithriedig

(3Ni chaiff ymgeisydd neu berson arall sy’n cynnal archwiliad o dan y rheol hon gymryd copi o ffurflen cyfeiriad cartref na chodi dyfyniadau ohoni.

(4Ni chaiff y swyddog canlyniadau ganiatáu i ffurflen cyfeiriad cartref gael ei harchwilio heblaw yn unol â’r rheol hon neu at ryw ddiben arall a awdurdodir gan y gyfraith.

Gohirio trafodion enwebu os ceir terfysg

19.—(1Mae’r rheol hon yn gymwys os torrir ar draws trafodion ar gyfer enwebu, neu mewn cysylltiad ag enwebu, neu os rhwystrir y trafodion hynny, ar unrhyw ddiwrnod gan derfysg neu drais agored.

(2Rhaid rhoi’r gorau i’r trafodion am y diwrnod hwnnw.

(3Os y diwrnod olaf ar gyfer danfon papurau enwebu yw’r diwrnod y rhoddir y gorau i’r trafodion, rhaid ailddechrau’r trafodion drannoeth.

(4Pan fo paragraff (3) yn ei gwneud yn ofynnol bod y trafodion yn ailddecrhau drannoeth, mae’r dyddiadau cau a bennir yn ail golofn yr amserlen yn rheol 1 ar gyfer danfon papurau enwebu, danfon hysbysiadau tynnu ymgeisyddiaeth yn ôl a chyhoeddi’r datganiad o’r personau a enwebwyd i gyd yn cael eu hymestyn un diwrnod.

(5Pan roddir y gorau i drafodion o dan y rheol hon—

(a)ni chaniateir i ddim byd gael ei wneud ar ôl ailddechrau’r trafodion os oedd yr amser ar gyfer ei wneud wedi mynd heibio pan roddwyd y gorau i’r trafodion, a

(b)nid yw dim byd a wnaed cyn rhoi’r gorau i’r trafodion yn annilys oherwydd rhoi’r gorau iddynt.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources