- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
Llywodraeth Leol, Cymru
Y Gymraeg
Gwnaed
am 9.40 a.m. ar 1 Rhagfyr 2021
Yn dod i rym
3 Rhagfyr 2021
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 26, 27, 39 a 150(5) o Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011(1).
Gosodwyd drafft o’r offeryn hwn gerbron Senedd Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddi drwy benderfyniad yn unol ag adran 150(2) o’r Mesur hwnnw(2).
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Rheoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 1) 2015 (Diwygio) 2021.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 3 Rhagfyr 2021.
2.—(1) Mae Rheoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 1) 2015(3) wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 1(4) (enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli)—
(a)yn y diffiniad o “corff”, ar ôl “neu gyngor bwrdeistref sirol” mewnosoder “, cyd-bwyllgor corfforedig”;
(b)yn y lle priodol mewnosoder—
“ystyr “cyd-bwyllgor corfforedig” (“corporate joint committee”) yw cyd-bwyllgor corfforedig a sefydlir o dan Ran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021(4);”.
(3) Yn rheoliad 3(1) (safonau sy’n benodol gymwys), ar ôl “cynghorau bwrdeistref sirol” mewnosoder “, cyd-bwyllgor corfforedig”.
Rebecca Evans
Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
Am 9.40 a.m. ar 1 Rhagfyr 2021
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 (mccc 1) (“y Mesur”) yn gwneud darpariaeth ar gyfer pennu safonau ymddygiad mewn perthynas â’r Gymraeg (“safonau”).
Mae adran 25 o’r Mesur yn ei gwneud yn ofynnol i berson gydymffurfio â safon ymddygiad mewn perthynas â’r Gymraeg a bennir gan Weinidogion Cymru os yw’r person y agored i orfod cydymffurfio â safonau’r Gymraeg a bod y safon yn gymwysadwy i’r person, yn ogystal â bod amodau eraill yn cael eu bodloni.
Mae adran 26 o’r Mesur yn galluogi Gweinidogion Cymru i bennu safonau drwy reoliadau, ac mae adran 39 yn eu galluogi i ddarparu bod safon yn benodol gymwys i berson drwy awdurdodi Comisiynydd y Gymraeg (“y Comisiynydd”) i roi hysbysiad i’r person hwnnw sy’n ei gwneud yn ofynnol iddo gydymffurfio â’r safon (“hysbysiad cydymffurfio”).
Mae Rheoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 1) 2015 (“Rheoliadau 2015”) yn pennu safonau mewn perthynas ag ymddygiad Gweinidogion Cymru, cynghorau sir a chynghorau bwrdeistref sirol ac awdurdodau Parciau Cenedlaethol. Mae Rheoliadau 2015 hefyd yn awdurdodi’r Comisiynydd (yn ddarostyngedig i eithriadau penodol) i roi hysbysiad cydymffurfio, mewn perthynas â safonau a bennir gan Reoliadau 2015, i’r cyrff hynny.
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau 2015 er mwyn dod â chyd-bwyllgorau corfforedig, a sefydlir o dan Ran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021, o fewn cwmpas y safonau penodedig hynny ac yn galluogi’r Comisiynydd i wneud hysbysiad cydymffurfio mewn cysylltiad â’r corff hwnnw.
Mae’r Rheoliadau hyn yn gysylltiedig â Rheoliadau sy’n sefydlu cyd-bwyllgorau corfforedig penodol o dan Ran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021. Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau sy’n sefydlu cyd-bwyllgorau corfforedig a rheoliadau cysylltiedig. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol. Gellir cael copi oddi wrth: Yr Is-adran Cyllid Strategol Llywodraeth Leol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.
Mae’r cyfeiriad yn adran 150(2) at Gynulliad Cenedlaethol Cymru bellach yn cael effaith fel cyfeiriad at Senedd Cymru, yn rhinwedd adran 150A(2) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32).
O.S. 2015/996 (Cy. 68).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: