- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
Cynllunio Gwlad A Thref, Cymru
Henebion Hynafol, Cymru
Gwnaed
16 Medi 2021
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pŵer a roddir iddynt gan adran 41(3) a (4)(a) o Ddeddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2016(1).
1.—(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2016 (Cychwyn Rhif 2) 2021.
(2) Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “Deddf 2016” yw Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2016.
2. Daw’r darpariaethau a ganlyn o Ddeddf 2016 i rym ar 1 Ionawr 2022 i’r graddau nad ydynt eisoes mewn grym—
(a)adran 11;
(b)adran 28.
3. Daw adran 18 o Ddeddf 2016 i rym ar 1 Chwefror 2022.
Dawn Bowden
Y Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, a’r Prif Chwip o dan awdurdod Gweinidog yr Economi, un o Weinidogion Cymru
16 Medi 2021
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Hwn yw’r ail orchymyn cychwyn a wneir gan Weinidogion Cymru o dan Ddeddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2016 (“Deddf 2016”).
Mae erthygl 2 o’r Gorchymyn hwn yn dwyn y darpariaethau a ganlyn o Ddeddf 2016 i rym ar 1 Ionawr 2022, i’r graddau nad yw’r darpariaethau hynny eisoes mewn grym—
(a)adran 11 (cytundebau partneriaeth dreftadaeth);
(b)adran 28 (cytundebau partneriaeth dreftadaeth).
Mae erthygl 3 o’r Gorchymyn hwn yn dwyn adran 18 (cofrestr o barciau a gerddi hanesyddol) o Ddeddf 2016 i rym ar 1 Chwefror 2022.
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Mae’r darpariaethau a ganlyn o Ddeddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2016 (“Deddf 2016”) wedi eu dwyn i rym drwy orchymyn cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn.
Y Ddarpariaeth | Y Dyddiad Cychwyn | Rhif O.S. |
---|---|---|
Adran 3 | 31 Mai 2017 | (Cy. 143) (C. 55) |
Adran 4 | 31 Mai 2017 | (Cy. 143) (C. 55) |
Adran 5 | 31 Mai 2017 | (Cy. 143) (C. 55) |
Adran 24 | 31 Mai 2017 | (Cy. 143) (C. 55) |
Adran 25 | 31 Mai 2017 | (Cy. 143) (C. 55) |
Adran 26 | 31 Mai 2017 | (Cy. 143) (C. 55) |
Adran 30 (yn rhannol) | 4 Mai 2017 | (Cy. 143) (C. 55) |
Adran 34 | 8 Mai 2017 | (Cy. 143) (C. 55) |
Adran 35 | 31 Mai 2017 | (Cy. 143) (C. 55) |
Adran 36 | 31 Mai 2017 | (Cy. 143) (C. 55) |
Adran 37 | 31 Mai 2017 | (Cy. 143) (C. 55) |
Atodlen 1 | 31 Mai 2017 | (Cy. 143) (C. 55) |
Atodlen 2 | 31 Mai 2017 | (Cy. 143) (C. 55) |
Gweler adran 41(1) o Ddeddf 2016 ar gyfer y darpariaethau a ddaeth i rym ar y diwrnod y cafodd Deddf 2016 y Cydsyniad Brenhinol. Gweler adran 41(2) ar gyfer y darpariaethau a ddaeth i rym 2 fis ar ôl i Ddeddf 2016 gael y Cydsyniad Brenhinol. Cafodd Deddf 2016 y Cydsyniad Brenhinol ar 21 Mawrth 2016.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: