Search Legislation

Rheoliadau Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymwysterau) (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2020

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Mewnosod darpariaeth ddehongli

5.  Yn Rhan 2 (arbedion a darpariaeth drosiannol), o Reoliadau 2019 o flaen rheoliad 16 mewnosoder—

Dehongli Rhan 2

15A.(1) Yn y Rhan hon—

ystyr “contract presennol” (“existing contract”) yw contract ysgrifenedig a gwblhawyd, ac y dechreuwyd ei gyflawni, cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu;

ystyr “Cyfarwyddeb 2005/36” (“Directive 2005/36”) yw Cyfarwyddeb 2005/36/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor dyddiedig 7 Medi 2005 ar gydnabod cymwysterau proffesiynol, fel yr oedd yn cael effaith yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu;

ystyr “cyfnod cydnabod Swisaidd” (“Swiss recognition period”) yw’r cyfnod o bedair blynedd sy’n dechrau â’r diwrnod yn union ar ôl diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu;

ystyr “cyfnod trosiannol ymarferwyr sydd ar ymweliad” (“visiting practitioner transitional period”) yw—

(a)

y cyfnod o bum mlynedd sy’n dechrau â diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu (gweler Erthygl 23(1) o’r cytundeb ar hawliau dinasyddion Swisaidd), neu

(b)

os yw’r cyfnod ym mharagraff (a) yn cael ei estyn yn unol ag Erthygl 23(2) o’r Cytundeb hwnnw, y cyfnod hwnnw fel y’i hestynnir;

ystyr “cymhwyster perthnasol” (“relevant qualification”) yw—

(a)

cymhwyster proffesiynol a geir mewn Gwladwriaeth AAE neu yn y Swistir cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu;

(b)

cymhwyster proffesiynol a ddechreuodd mewn Gwladwriaeth AEE neu yn y Swistir ond nas cwblhawyd cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu;

(c)

cymhwyster proffesiynol trydedd wlad a gydnabyddir gan awdurdod cymwys yn y Swistir yn unol ag Erthygl 2(2) o Gyfarwyddeb 2005/36 cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu;

(d)

cymhwyster proffesiynol trydedd wlad y mae cais i’w gydnabod yn unol ag Erthygl 2(2) o Gyfarwyddeb 2005/36 wedi ei gyflwyno i awdurdod cymwys yn y Swistir cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu, pan fo’r cais hwnnw yn llwyddiannus,

ac at ddibenion y diffiniad hwn, ystyr “cymhwyster proffesiynol” yw cymhwyster sy’n berthnasol i ddilyn gwaith cymdeithasol neu waith fel rheolwr gofal cymdeithasol;

ystyr “cytundeb ar hawliau dinasyddion Swisaidd” (“Swiss citizens’ rights agreement”) (fel y’i haddesir o bryd i’w gilydd yn unol ag unrhyw ddarpariaeth ohono) yw’r Cytundeb a lofnodwyd yn Bern ar 25 Chwefror 2019 rhwng Teyrnas Unedig Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon a Chydffederasiwn y Swistir ar hawliau dinasyddion yn dilyn ymadawiad y Deyrnas Unedig â’r canlynol—

(a)

yr Undeb Ewropeaidd, a

(b)

y cytundeb ar symudiad rhydd personau,

i’r graddau y mae’r Cytundeb yn gweithredu at ddibenion yr achos pan fo i “dyddiad penodedig” at ddibenion y Cytundeb hwnnw yr ystyr a roddir i “specified date” yn Erthygl 2(b)(ii) o’r Cytundeb hwnnw;

ystyr “Gwladwriaeth Ewropeaidd berthnasol” (“relevant European State”) yw Gwladwriaeth AEE neu’r Swistir;

ystyr “hawl UE orfodadwy” (“enforceable EU right”) yw hawl a gydnabyddir ac sydd ar gael mewn cyfraith ddomestig yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu, yn rhinwedd adran 2(1) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972(1);

ystyr “Rheoliadau 2007” (“the 2007 Regulations”) yw Rheoliadau’r Cymunedau Ewropeaidd (Cydnabod Cymwysterau Proffesiynol) 2007(2) fel—

(a)

yr oeddent, cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu, yn parhau i fod yn gymwys yn rhinwedd—

(i)

rheoliad 78 o Reoliadau’r Undeb Ewropeaidd (Cydnabod Cymwysterau Proffesiynol) 2015;

(ii)

rheoliad 155 o Reoliadau Cymwysterau Ewropeaidd (Proffesiynau Iechyd a Gofal Cymdeithasol) 2016(3); a

(b)

y maent, ar ôl diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu, yn parhau i fod yn gymwys o dan Ran 3 o Atodlen 1 i Reoliadau Cydnabod Cymwysterau Proffesiynol (Diwygio etc.) (Ymadael â’r UE) 2019(4);

ystyr “Rheoliadau 2015” (“the 2015 Regulations”) yw Rheoliadau’r Undeb Ewropeaidd (Cydnabod Cymwysterau Proffesiynol) 2015(5);

mae i “trydedd wlad” yr un ystyr â “third country” yn rheoliad 2(1) o Reoliadau 2007;

ystyr “ymgeisydd perthnasol” (“relevant applicant”) yw person—

(a)

sy’n darparu gwasanaethau fel gweithiwr cymdeithasol neu reolwr gofal cymdeithasol yn y Deyrnas Unedig ar sail dros dro ac yn achlysurol ac ar sail contract presennol,

(b)

a ddechreuodd ddarparu gwasanaeth a grybwyllir ym mharagraff (a), neu sy’n dechrau darparu gwasanaeth o’r fath, naill ai—

(i)

cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu, fel cyflogai neu yn rhinwedd hunangyflogaeth, neu

(ii)

ar neu ar ôl diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu, fel cyflogai a leolir at ddiben cyflawni gwaith cymdeithasol neu waith fel rheolwr gofal cymdeithasol yn y Deyrnas Unedig gan ei gyflogwr sydd wedi ei sefydlu yn y Deyrnas Unedig neu’r Swistir,

(c)

sydd—

(i)

yn wladolyn o’r Deyrnas Unedig,

(ii)

yn wladolyn o’r Swistir, neu

(iii)

yn wladolyn o drydedd wlad, a oedd, yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu, yn rhinwedd unrhyw hawl UE orfodadwy, â hawlogaeth i beidio â chael ei drin yn llai ffafriol na gwladolyn o’r Deyrnas Unedig neu’r Swistir at ddibenion mynediad at waith cymdeithasol, neu waith fel rheolwr gofal cymdeithasol, a dilyn y gwaith hwnnw,

(d)

sydd wedi ei sefydlu’n gyfreithlon yn y Swistir at ddiben mynediad at waith cymdeithasol neu waith fel rheolwr gofal cymdeithasol yno, a dilyn y gwaith hwnnw yno,

(e)

sydd, os nad yw proffesiwn gweithiwr cymdeithasol neu reolwr gofal cymdeithasol y mae’r person yn dymuno cael mynediad ato a’i ddilyn yn y Deyrnas Unedig na’r addysg a’r hyfforddiant sy’n arwain ato yn cael eu rheoleiddio yn y Swistir, wedi dilyn y proffesiwn hwnnw yn y Swistir am o leiaf 2 flynedd yn ystod y 10 mlynedd cyn darparu gwasanaethau.

(1)

1972 p. 68. Diddymwyd adran 2, yn ddarostyngedig i arbedion, gan Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2019 (p. 16), adran 1.

(2)

O.S. 2007/2781. Dirymwyd O.S. 2007/2781 gan O.S. 2015/2059 ond roedd yn parhau i fod yn gymwys mewn perthynas â gwladolion Swisaidd cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu yn rhinwedd rheoliad 78 o O.S. 2015/2059 a rheoliad 155 o O.S. 2016/1030.

(4)

O.S. 2019/312, a ddiwygiwyd gan O.S. 2020/1038. Mae Atodlen 1 i O.S. 2019/312 yn diwygio Rheoliadau’r Cymunedau Ewropeaidd (Cydnabod Cymwysterau Proffesiynol) 2007 (O.S. 2007/2781) a Rheoliadau’r Undeb Ewropeaidd (Cydnabod Cymwysterau Proffesiynol) 2015 (O.S. 2015/2059) ac yn cynnwys darpariaethau arbed a darpariaethau trosiannol sy’n ymwneud â phob un o’r offerynnau hynny. Dirymwyd O.S. 2007/2781 gydag arbedion gan O.S. 2015/2059 a chan O.S. 2019/312. Mae O.S. 2015/2059 wedi ei ddiwygio gan baragraff 389 o Atodlen 19 i Ddeddf Diogelu Data 2018 (p. 12), a chan O.S. 2016/696, 1094 ac 1030, 2018/838 ac 1101 a 2019/89 a 312. O ganlyniad i gymhwyso paragraff 1 o Atodlen 5 i Ddeddf 2020, mae’r darpariaethau yn O.S. 2019/312 y mynegir eu bod i ddod i rym ar y diwrnod ymadael i’w darllen yn lle hynny fel pe baent yn dod i rym ar ddiwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources