Search Legislation

Rheoliadau Cynlluniau Pensiwn a Chynllun Digolledu’r Diffoddwyr Tân (Cymru) (Diwygio) 2020

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2020 Rhif 1511 (Cy. 323)

Pensiynau Gwasanaethau Cyhoeddus, Cymru

Rheoliadau Cynlluniau Pensiwn a Chynllun Digolledu’r Diffoddwyr Tân (Cymru) (Diwygio) 2020

Gwnaed

10 Rhagfyr 2020

Gosodwyd gerbron Senedd Cymru

14 Rhagfyr 2020

Yn dod i rym

23 Chwefror 2021

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 26(1), (2) a (5) o Ddeddf Gwasanaethau Tân 1947(1); adran 12 o Ddeddf Blwydd-daliadau 1972(2), fel y’u cymhwysir gan adran 16(3) o’r Ddeddf honno(3); a chan adran 34(1) i (4) o Ddeddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004(4)(5), ac a freinir bellach yng Ngweinidogion Cymru.

Mae Gweinidogion Cymru hefyd yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 1(1) a (2)(f)(6), 2(1), 3(1) i (3) a 18(5)(a) a (6) o Ddeddf Pensiynau’r Gwasanaethau Cyhoeddus 2013(7) ac Atodlenni 2 (paragraff 6(b)) a 3 (paragraffau 1 i 4) iddi.

Cyn gwneud y Rheoliadau hyn, ac yn unol ag adran 34(5) o Ddeddf Gwasanaethau Tân ac Achub 2004, ymgynghorodd Gweinidogion Cymru â’r personau hynny yr oeddent yn ystyried eu bod yn briodol.

Yn unol ag adran 21(1) o Ddeddf Pensiynau’r Gwasanaethau Cyhoeddus 2013, mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â chynrychiolwyr y personau hynny y mae’n ymddangos yn debygol i Weinidogion Cymru y bydd y Rheoliadau hyn yn effeithio arnynt.

RHAN 1Cyffredinol

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynlluniau Pensiwn a Chynllun Digolledu’r Diffoddwyr Tân (Cymru) (Diwygio) 2020.

(2Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 23 Chwefror 2021.

(3Mae’r darpariaethau yn—

(a)rheoliadau 4(1), 4(2), 4(4) ac 11 yn cael effaith o 5 Rhagfyr 2005 ymlaen;

(b)rheoliad 12 yn cael effaith o 1 Ebrill 2006 ymlaen;

(c)rheoliad 7 yn cael effaith o 6 Ebrill 2006 ymlaen;

(d)rheoliad 3 yn cael effaith o 1 Ebrill 2007 ymlaen;

(e)rheoliadau 5 ac 8 yn cael effaith o 1 Rhagfyr 2009 ymlaen;

(f)rheoliad 4(3) yn cael effaith o 13 Mawrth 2014 ymlaen;

(g)rheoliad 14 yn cael effaith o 1 Ebrill 2015 ymlaen(8).

(4Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

RHAN 2Gorchymyn Cynllun Pensiwn y Dynion Tân 1992

Diwygiadau i Orchymyn Cynllun Pensiwn y Dynion Tân 1992

2.  Mae Atodlen 2 i Orchymyn Cynllun Pensiwn y Dynion Tân 1992(9) (lle nodir Cynllun Pensiwn y Dynion Tân (Cymru)(10) (“Cynllun 1992”)), wedi ei diwygio fel a nodir yn rheoliadau 3 i 5.

Cynyddu pensiynau hollt: Cynllun 1992

3.  Yn Rhan B (dyfarndaliadau personol), yn rheol B5A (yr hawlogaeth i gael dau bensiwn)(11)

(a)ym mharagraff (2), yn lle “exceeds” rhodder “is lower than”;

(b)ar ôl paragraff (3) mewnosoder—

(3A) The amount of the first pension determined under paragraph (3) or (4B)(a), is increased for each year before the firefighter’s last day of service by an amount equivalent to that which would apply if the first pension were a pension in payment commencing from the day after the date of the firefighter’s last day of service at the higher rate of pay, to which the Pensions (Increase) Act 1971(12) applied.;

(c)ym mharagraff (6), ar ôl “B1,” mewnosoder “B1A,”;

(d)ym mharagraff (9), yn lle “paragraph (3)” rhodder “paragraph (4)”.

Buddion goroeswr i bartneriaid sifil a phriodau o’r un rhyw: Cynllun 1992

4.—(1Yn Rhan C (dyfarndaliadau yn sgil marwolaeth – priodau)—

(a)yn rheol C1 (pensiwn cyffredin priod)—

(i)ym mharagraff (2)(13), ar ôl “spouse” mewnosoder “or surviving civil partner”;

(ii)hepgorer paragraff (2A)(14);

(b)yn rheol C4 (pensiwn cronedig priod), ym mharagraff (3)(15)

(i)yn is-baragraff (a), ar ôl “spouse” mewnosoder “or surviving civil partner”;

(ii)hepgorer is-baragraff (b) a’r “and” sy’n dod o’i flaen;

(c)yn rheol C5 (cyfyngiad ar ddyfarndaliad i briod neu bartner sifil drwy gyfeirio at ddyddiad y briodas neu’r dyddiad y ffurfiwyd y bartneriaeth)(16)

(i)ym mharagraff (2), ar ôl “spouse” mewnosoder “or surviving civil partner”;

(ii)hepgorer paragraff (3);

(d)yn rheol C6 (budd angenrheidiol a phensiwn dros dro priod neu bartner sifil), ym mharagraff (4)(17)

(i)yn is-baragraff (a), hepgorer “in the case of a surviving spouse,”;

(ii)hepgorer is-baragraff (b) a’r “and” sy’n dod o’i flaen;

(e)yn rheol C8 (cyfyngiad pan fo priodau yn byw ar wahân), ym mharagraff (2)(18)

(i)yn is-baragraff (a), hepgorer “in the case of a surviving spouse,”;

(ii)hepgorer is-baragraff (b) a’r “and” sy’n dod o’i flaen.

(2Yn Rhan J (achosion arbennig), yn rheol J1 (lleiafswm pensiwn gwarantedig)(19)

(a)ym mharagraff (2)—

(i)yn lle is-baragraff (b) rhodder—

(b)in the case of a person who dies at any time and leaves a widow, a surviving same sex spouse or surviving civil partner, that person is entitled to a pension of a weekly rate equal to half the deceased person’s guaranteed minimum, and;

(ii)hepgorer is-baragraff (d) a’r “and” sy’n dod o’i flaen;

(b)ym mharagraff (4), yn lle “, (c) or (d)” rhodder “or (c)”.

(3Yn Atodlen 1 (dehongli) i Gynllun 1992, hepgorer paragraffau 1 a 2 o Ran 3 (darpariaeth yn ymwneud â chyplau o’r un rhyw)(20).

(4Yn Atodlen 3 (dyfarndaliadau yn sgil marwolaeth – priodau) i Gynllun 1992—

(a)yn Rhan 3 (pensiwn cronedig priod)—

(i)ym mharagraff 2(1), ar ôl “spouse’s” mewnosoder “, or surviving civil partner’s,”;

(ii)ym mharagraff 3(1), ar ôl “spouse” mewnosoder “or surviving civil partner”;

(b)yn Rhan 4 (pensiwn i briod sy’n goroesi o briodas ar ôl ymddeol), ym mharagraffau 1(1)(21) a 2(1), ar ôl “surviving spouse” mewnosoder “or surviving civil partner”.

Cymudo credydau pensiwn bach: Cynllun 1992

5.  Yn Rhan IA (aelodau credyd pensiwn), yn rheol IA2(1)(22) (cymudo’r buddion credyd pensiwn), yn lle “In the circumstances described in regulation 3(2)(b) of the Pension Sharing (Pension Credit Benefit) Regulations 2000 (commutation of pension credit benefit: small pensions)” rhodder “Where the amount of pension payable under rule IA1 does not exceed the trivial commutation lump sum limit in paragraph 7 of Schedule 29 to the Finance Act 2004 (lump sum rule)(23)”.

RHAN 3Gorchymyn Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân (Cymru) 2007

Diwygiadau i Orchymyn Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân (Cymru) 2007

6.  Mae Atodlen 1 i Orchymyn Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân (Cymru) 2007(24) (lle nodir Cynllun Pensiwn Newydd y Diffoddwyr Tân (Cymru) (“Cynllun 2007”)) wedi ei diwygio fel a nodir yn rheoliadau 7 i 9.

Cynyddu pensiynau hollt: Cynllun 2007

7.  Yn Rhan 3 (dyfarndaliadau personol), yn rheol 7 (yr hawlogaeth i gael dau bensiwn)(25)

(a)ym mharagraff (2), yn lle “ym mharagraffau (3) a (4)” rhodder “ym mharagraffau (3), (3A) a (4)”;

(b)ar ôl paragraff (3) mewnosoder—

(3A) Caiff swm y pensiwn cyntaf a ddyfernir o dan baragraff (3) ei gynyddu bob blwyddyn cyn diwrnod gwasanaeth olaf y diffoddwr tân o swm sy’n gyfwerth â’r swm a fyddai’n gymwys pe byddai’r pensiwn cyntaf yn bensiwn a delir gan gychwyn o’r dyddiad yr oedd paragraff (1) yn gymwys am y tro cyntaf i’r aelod, yr oedd Deddf Pensiynau (Cynnydd) 1971 yn gymwys iddo.

Cymudo credydau pensiwn bach: Cynllun 2007

8.  Yn Rhan 6 (rhannu pensiwn yn sgil ysgaru), yn rheol 2 (cymudo’r cyfan o fuddion credyd pensiwn), ym mharagraff (1), yn lle “O dan yr amgylchiadau a ddisgrifir yn rheoliad 3(2)(b) o Reoliadau Rhannu Pensiwn (Budd Credyd Pensiwn) 2000 (cymudo budd credyd pensiwn: pensiynau bach)” rhodder “Pan na fo swm y pensiwn sy’n daladwy o dan y Rhan hon yn fwy na therfyn y cyfandaliad mân gymudiad o fewn ystyr “trivial commutation lump sum” ym mharagraff 7 o Atodlen 29 i Ddeddf Cyllid 2004 (y rheol ynghylch cyfandaliadau)(26)”.

Y gyfran a gymudwyd: aelodau arbennig: Cynllun 2007

9.  Yn Atodiad ZA, yn lle’r Tabl rhodder—

BlynyddoeddOedran mewn blynyddoedd a misoedd cyflawn ar ddiwrnod cychwyn y pensiwn
01234567891011

Islaw

50

23.4
5022.422.322.322.322.322.222.222.222.222.122.122.1
5122.122.022.022.022.021.921.921.921.921.821.821.8
5221.821.721.721.721.721.621.621.621.621.521.521.5
5321.521.421.421.421.321.321.321.321.221.221.221.1
5421.121.121.121.021.021.021.020.920.920.920.920.8
5520.820.820.820.720.720.720.620.620.620.520.520.5
5620.420.420.420.420.320.320.320.220.220.220.120.1
5720.120.020.020.019.919.919.919.819.819.819.719.7
5819.719.619.619.619.519.519.519.419.419.419.319.3
5919.319.219.219.219.119.119.119.019.019.018.918.9
6018.918.818.818.718.718.718.618.618.618.518.518.5
6118.418.418.418.318.318.218.218.218.118.118.118.0
6218.018.017.917.917.817.817.817.717.717.717.617.6
6317.517.517.517.417.417.417.317.317.217.217.217.1
6417.117.117.017.016.916.916.916.816.816.816.716.7
6516.616.616.616.516.516.516.416.416.316.316.316.2
6616.216.216.116.116.016.016.015.915.915.915.815.8
6715.715.715.715.615.615.615.515.515.415.415.415.3
6815.315.215.215.215.115.115.115.015.014.914.914.9
6914.814.814.714.714.714.614.614.514.514.514.414.4
7014.314.314.314.214.214.114.114.014.014.013.913.9
7113.813.813.813.713.713.613.613.513.513.513.413.4
7213.313.313.213.213.213.113.113.013.012.912.912.8
7312.812.812.712.712.612.612.512.512.412.412.312.3
7412.312.212.212.112.112.012.011.911.911.811.811.7
7511.7

RHAN 4Gorchymyn Cynllun Digolledu’r Diffoddwyr Tân (Cymru) 2007

Diwygiadau i Orchymyn Cynllun Digolledu’r Diffoddwyr Tân (Cymru) 2007

10.  Mae Atodlen 1 i Orchymyn Cynllun Digolledu’r Diffoddwyr Tân (Cymru) 2007(27) (lle nodir Cynllun Digolledu’r Diffoddwyr Tân (Cymru) 2007 (“Cynllun Digolledu 2007”)) wedi ei diwygio fel a nodir yn rheoliadau 11 a 12.

Buddion goroeswr i bartneriaid sifil a phriodau o’r un rhyw: Cynllun Digolledu 2007

11.  Yn Rhan 3 (dyfarndaliadau yn sgil marwolaeth: priodau a phartneriaid sifil)—

(a)yn rheol 1 (dyfarndaliad arbennig ar gyfer priod neu bartner sifil), ym mharagraff (3)(28)

(i)yn is-baragraff (a), ar ôl “spouse” mewnosoder “or surviving civil partner”;

(ii)hepgorer is-baragraff (b);

(b)yn rheol 3 (cyfyngiad ar ddyfarndaliad i briod neu bartner sifil drwy gyfeirio at ddyddiad y briodas neu’r dyddiad y ffurfiwyd y bartneriaeth)—

(i)ym mharagraff (2), ar ôl “spouse” mewnosoder “or surviving civil partner”;

(ii)hepgorer paragraff (3);

(c)yn rheol 4 (cyfyngiad pan fo’r priod neu’r partner sifil yn byw ar wahân), ym mharagraff (2)(29)

(i)yn is-baragraff (a), ar ôl “spouse” mewnosoder “or surviving civil partner”;

(ii)hepgorer is-baragraff (b) a’r “and” sy’n dod o’i flaen.

Dyfarndaliadau yn sgil marwolaeth: plant: Cynllun Digolledu 2007

12.  Yn Rhan 4 (dyfarndaliadau yn sgil marwolaeth: plant), yn rheol 3 (lwfans arbennig neu rodd ariannol plentyn: cyfyngiadau)—

(a)yn y pennawd, hepgorer “or gratuity”;

(b)hepgorer paragraff (1);

(c)ym mharagraff (5)(a), yn lle “(b) or (c)” rhodder “(2)(b) or (c)”.

RHAN 5

Rheoliadau Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân (Cymru) 2015

Diwygiadau i Reoliadau Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân (Cymru) 2015

13.  Mae Rheoliadau Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân (Cymru) 2015, sy’n sefydlu Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân (Cymru) 2015(30) (“Cynllun 2015”), wedi eu diwygio yn unol â rheoliad 14.

Taliadau gwerth trosglwyddiad clwb: Cynllun 2015

14.  Yn Atodlen 2 (darpariaethau trosiannol), ym mharagraff 45 (derbyn taliadau gwerth trosglwyddiad clwb), ar ôl “ymwneud â budd cyflog terfynol aelod” mewnosoder “, ar wahân i daliad o Gynllun 1992 fel y mae’r cynllun hwnnw yn cael effaith yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon,”.

Hannah Blythyn

Y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru

10 Rhagfyr 2020

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio—

(a)Gorchymyn Cynllun Pensiwn y Dynion Tân 1992 sy’n nodi, yn Atodlen 2, Gynllun Pensiwn y Dynion Tân (Cymru) (“Gorchymyn 1992”),

(b)Gorchymyn Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân (Cymru) 2007 sy’n nodi, yn Atodlen 1, Gynllun Pensiwn Newydd y Diffoddwyr Tân (Cymru) (“Gorchymyn 2007”),

(c)Gorchymyn Cynllun Digolledu’r Diffoddwyr Tân (Cymru) 2007 sy’n nodi, yn Atodlen 1, Gynllun Digolledu’r Diffoddwyr Tân (Cymru) 2007 (“Gorchymyn Digolledu 2007”), a

(d)Rheoliadau Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân (Cymru) 2015 sy’n nodi Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân (Cymru) 2015 (“Rheoliadau 2015”).

Mae i rai o’r rheoliadau effaith ôl-weithredol – nodir y rhain yn rheoliad 1(3). Mae’r darpariaethau a ganlyn yn y ddeddfwriaeth alluogi yn caniatáu i’r rheoliadau a wneir o dan y darpariaethau hynny gael effaith ôl-weithredol—

(a)adran 12 o Ddeddf Blwydd-daliadau 1972, fel y’i cymhwysir gan adran 16(3) o’r Ddeddf honno mewn perthynas â gorchmynion a wneir o dan adran 26 o Ddeddf Gwasanaethau Tân 1947,

(b)adran 34(3) o Ddeddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004, ac

(c)adran 3(3)(b) o Ddeddf Pensiynau’r Gwasanaethau Cyhoeddus 2013.

Mae rheoliadau 3 i 5 yn gwneud diwygiadau i Orchymyn 1992. Mae’r diwygiadau a wneir gan reoliad 3(a), (c) a (d), yn sicrhau nad yw diffoddwr tân dan anfantais oherwydd y ddarpariaeth sy’n caniatáu i ddau bensiwn, y cânt eu cyfrifo ar wahân, gael eu dyfarnu, yn dilyn gostyngiad sylweddol mewn cyflog, ac maent hefyd yn gwneud mân ddiweddariadau eraill. Mae rheoliad 3(b) yn egluro, pan fo gan ddiffoddwr tân yr hawl i ddau bensiwn o dan Orchymyn 1992, caiff swm y pensiwn cyntaf ei uwchraddio’n flynyddol o’r dyddiad y peidiodd y diffoddwr tân ag ennill cyflog yn ôl y gyfradd uwch.

Effaith y diwygiadau yn rheoliad 4 yw cysoni’r buddion sy’n daladwy i oroeswyr partneriaethau sifil a phriodasau o’r un rhyw â’r buddion sy’n daladwy i oroeswyr priodasau rhwng pobl o rywiau gwahanol.

Mae rheoliad 5 yn diweddaru cyfeiriad statudol sydd wedi dyddio yng Ngorchymyn 1992.

Mae rheoliadau 7 i 9 yn gwneud diwygiadau i Orchymyn 2007. Mae rheoliad 7 yn egluro, pan fo gan ddiffoddwr tân yr hawl i ddau bensiwn o dan Gynllun 2007, caiff swm y pensiwn cyntaf ei uwchraddio’n flynyddol o’r dyddiad y peidiodd y diffoddwr tân ag ennill cyflog yn ôl y gyfradd uwch.

Mae rheoliad 8 yn diweddaru cyfeiriad statudol sydd wedi dyddio yng Ngorchymyn 2007.

Mae rheoliad 9 yn rhoi tabl newydd yn lle’r tabl o ffactorau cymudo ar gyfer aelodau arbennig a nodir yn Atodiad ZA i Orchymyn 2007 i gynnwys ffactorau y tu hwnt i 65 oed, hyd at 75 oed. Mae’r ffactorau cymudo fel yr oeddent ar 31 Mawrth 2014 (hyd at 65 oed) wedi eu hatgynhyrchu yn y tabl newydd ac nid ydynt wedi newid.

Mae rheoliadau 11 a 12 yn gwneud diwygiadau i Orchymyn Digolledu 2007.

Effaith y diwygiadau yn rheoliad 11 yw cysoni’r buddion sy’n daladwy i oroeswyr partneriaethau sifil a phriodasau o’r un rhyw â’r buddion sy’n daladwy i oroeswyr priodasau rhwng pobl o rywiau gwahanol.

Mae rheoliad 12 yn diwygio rheol 3 (lwfans arbennig plentyn: cyfyngiadau) yn Rhan 4 o Orchymyn Digolledu 2007 drwy ddileu rhai o’r cyfyngiadau ar blant dibynnol, llys blant a phlant wedi eu mabwysiadu, yn ogystal â phlant i rieni di-briod. Mae hefyd yn diwygio pennawd rheol 3 ac yn egluro croesgyfeiriad yn rheol 3(5)(a).

Mae rheoliad 14 yn diwygio Rheoliadau 2015 i egluro bod aelodau gwarchodedig o’r Cynllun a gyfansoddwyd gan Orchymyn 1992 sy’n trosglwyddo i Gymru o Loegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon yn parhau i fod â’r hawl i fod yn aelodau o’r Cynllun hwnnw.

Mae’r diwygiadau a wneir gan—

(a)rheoliadau 4(1), 4(2), 4(4) a 11 yn cael effaith o 5 Rhagfyr 2005 ymlaen;

(b)rheoliad 12 yn cael effaith o 1 Ebrill 2006 ymlaen;

(c)rheoliad 7 yn cael effaith o 6 Ebrill 2006 ymlaen;

(d)rheoliad 3 yn cael effaith o 1 Ebrill 2007 ymlaen;

(e)rheoliadau 5 ac 8 yn cael effaith o 1 Rhagfyr 2009 ymlaen;

(f)rheoliad 4(3) yn cael effaith o 13 Mawrth 2014 ymlaen;

(g)rheoliad 14 yn cael effaith o 1 Ebrill 2015 ymlaen;

(h)rheoliad 9 yn cael effaith o 23 Chwefror 2021 ymlaen.

Ystyriwyd Cod Asesiadau Effaith Rheoleiddiol Gweinidogion Cymru ar Is-ddeddfwriaeth mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.

(1)

1947 p. 41, a ddiddymwyd gan adran 52 o Ddeddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 (p. 21) ac Atodlen 2 iddi. Mae is-adrannau (1), (2) a (5) o adran 26 yn parhau i gael effaith, o ran Cymru, at ddibenion y cynllun a sefydlwyd o dan yr adran honno fel Cynllun Pensiwn y Dynion Tân ac a nodir yng Ngorchymyn Cynllun Pensiwn y Dynion Tân 1992 (O.S. 1992/129), yn rhinwedd erthygl 3 o O.S. 2004/2918 (Cy. 257). Newidiwyd enw’r cynllun i Gynllun Pensiwn y Dynion Tân (Cymru) gan erthygl 4 o’r offeryn hwnnw. Diwygiwyd adran 26 o Ddeddf Gwasanaethau Tân 1947 gan adran 1 o Ddeddf Gwasanaethau Tân 1951 (p. 27), adran 42 o Ddeddf y Lluoedd Wrth Gefn a’r Lluoedd Ategol (Diogelu Buddiannau Sifil) 1951 (p. 65), adran 33 o Ddeddf Dwyn 1968 (p. 60) ac Atodlen 3 iddi, adrannau 16 a 29 o Ddeddf Blwydd-daliadau 1972 (p. 11) ac Atodlen 8 iddi, adrannau 100 a 101 o Ddeddf Nawdd Cymdeithasol 1973 (p. 38) ac Atodlen 27 iddi, adran 1 o Ddeddf Nawdd Cymdeithasol (Darpariaethau Canlyniadol) 1975 (p. 18), ac Atodlen 1 iddi, adran 32(2) o Ddeddf Llysoedd Ynadon 1980 (p. 43), adran 1 o Ddeddf Pensiynau’r Heddlu a’r Dynion Tân 1997 (p. 52), adran 256 o Ddeddf Partneriaeth Sifil 2004 (p. 33) ac Atodlen 25 iddi, a chan O.S. 1976/551. I’r graddau y caiff Cynllun Pensiwn y Dynion Tân ei barhau mewn grym, o ran Cymru, yn rhinwedd O.S. 2004/2918 (erthygl 3(1)), mae adran 26(1), (2) a (5) yn cael effaith fel pe rhoddid cyfeiriad at “National Assembly for Wales” yn lle pob cyfeiriad at “Secretary of State”; gweler erthygl 2 o O.S. 2006/1672 (Cy. 160). Yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32), mae’r swyddogaethau o dan adran 26 o Ddeddf Gwasanaethau Tân 1947 wedi eu breinio bellach yng Ngweinidogion Cymru i’r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru.

(2)

1972 p. 11; diwygiwyd adran 12 gan Ddeddf Pensiynau (Darpariaethau Amrywiol) 1990 (p. 7).

(3)

Diddymwyd adran 16 gan adran 52 o Ddeddf Gwasanaethau Tân ac Achub 2004, ac Atodlen 2 iddi, ond mae’n parhau i gael effaith, o ran Cymru, yn rhinwedd erthygl 3(2) o O.S. 2004/2918 (Cy. 257).

(4)

2004 p. 21. Mae’r pwerau a roddir gan adran 34(1) i (4) o Ddeddf Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 bellach wedi eu breinio yng Ngweinidogion Cymru i’r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru. Yr oeddent wedi eu breinio’n flaenorol yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru yn rhinwedd adran 62 o’r Ddeddf honno. Yn rhinwedd paragraffau 30 a 32 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, trosglwyddwyd hwy i Weinidogion Cymru.

(5)

Caniateir arfer y pŵer i wneud gorchymyn o dan adran 34(4) o Ddeddf Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 i wneud rheoliadau yn rhinwedd adran 39 o Ddeddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019 (dccc 4).

(6)

Gweler hefyd adran 1(3) ac Atodlen 1.

(8)

Mae pŵer i roi effaith ôl-weithredol wedi ei roi gan adran 12 o Ddeddf Blwydd-daliadau 1972, adran 34(3) o Ddeddf Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 a chan adran 3(3)(b) o Ddeddf Pensiynau’r Gwasanaethau Cyhoeddus 2013.

(10)

Cafodd Cynllun 1992 ei ailenwi gan erthygl 4(2) o O.S. 2004/2918.

(11)

Mewnosodwyd rheol B5A gan erthygl 2 o O.S. 2009/1226 (Cy. 109), a pharagraff 1 o’r Atodlen iddo, ac fe’i diwygiwyd gan O.S. 2014/3242 (Cy. 329), O.S. 2015/1016 (Cy. 71) ac O.S. 2018/577 (Cy. 104).

(13)

Amnewidiwyd paragraff (2) o reol C1 gan erthygl 2 o O.S. 2014/3242 (Cy. 329), a pharagraff 3(a) o Atodlen 1 iddo.

(14)

Mewnosodwyd paragraff (2A) o reol C1 gan erthygl 2 o O.S. 2006/1672 (Cy. 160), a pharagraff 3 o Atodlen 2 iddo.

(15)

Amnewidiwyd paragraff (3) o reol C4 gan erthygl 2 o O.S. 2006/1672 (Cy. 160), a pharagraff 6 o Atodlen 2 iddo.

(16)

Amnewidiwyd rheol C5 gan erthygl 2 o O.S. 2006/1672 (Cy. 160), a pharagraff 7 o Atodlen 2 iddo; diwygiwyd paragraffau (2) a (3) gan erthygl 2 o O.S. 2007/1074 (Cy. 112), a pharagraff 17 o Atodlen 1 iddo.

(17)

Amnewidiwyd rheol C6 gan erthygl 2 o O.S. 2007/1074 (Cy. 112), a pharagraff 18 o Atodlen 1 iddo.

(18)

Amnewidiwyd paragraff (2) o reol C8 gan erthygl 2 o O.S. 2006/1672 (Cy. 160), a pharagraff 10 o Atodlen 2 iddo; ac fe’i diwygiwyd gan erthygl 2 o O.S. 2007/1074 (Cy. 112), a pharagraff 20 o Atodlen 1 iddo.

(19)

Amnewidiwyd paragraff 2(d) o reol J1 gan erthygl 2 o O.S. 2014/3242 (Cy. 329), a pharagraff 11 o Atodlen 1 iddo; diwygiwyd paragraff (4) gan erthygl 2 o O.S. 2006/1672 (Cy. 160), a pharagraff 21 o Atodlen 2 iddo.

(20)

Mewnosodwyd Rhan 3 o Atodlen 1 i Gynllun 1992 gan erthygl 4 o O.S. 2014/560, a pharagraff 17 o Ran 2 o Atodlen 3 iddo; mae diwygiad arall i baragraff 1 nad yw’n berthnasol i’r offeryn hwn.

(21)

Amnewidiwyd Rhan 4 gan erthygl 2 o O.S. 2006/1672 (Cy. 160), a pharagraff 83(b) o Atodlen 1 iddo; diwygiwyd paragraff 1(1) ac amnewidiwyd paragraff 1(2) gan erthygl 2 o O.S. 2007/1074 (Cy. 112), a pharagraff 63(c) o Atodlen 1 iddo.

(22)

Diwygiwyd rheol IA2(1) gan erthygl 2 o O.S. 2014/3242 (Cy. 329), a pharagraff 10(b) o Atodlen 1 iddo.

(23)

2004 p. 12; mae diwygiadau i Ran 1 o Atodlen 29 nad ydynt yn berthnasol.

(25)

Diwygiwyd rheol 7, yn Rhan 3, gan O.S. 2014/3254 (Cy. 330) a 2015/1016 (Cy. 71).

(26)

2004 p. 12; mae diwygiadau eraill i Ran 1 o Atodlen 29 nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(28)

Diwygiwyd paragraff (3) o reol 1 gan erthygl 2 o O.S. 2014/3256 (Cy. 331), a pharagraff 3(2) o Atodlen 1 iddo, erthygl 2 o O.S. 2015/1013 (Cy. 69), a pharagraff 3(2)(a)(i) a (ii) o Atodlen 1 iddo.

(29)

Diwygiwyd paragraff 2 o reol 4 gan erthygl 2 o O.S. 2015/1013 (Cy. 69), a pharagraff 3(3) o Atodlen 1 iddo.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources