Search Legislation

Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 21) 2020

Newidiadau dros amser i: Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 21) 2020

 Help about opening options

Alternative versions:

Statws

Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 18/03/2022.

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Mae newidiadau yn dal heb eu gwneud i Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 21) 2020. Mae unrhyw newidiadau sydd wedi cael eu gwneud yn barod gan y tîm yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt gydag anodiadau. Help about Changes to Legislation

Close

Changes to Legislation

Nid yw newidiadau ac effeithiau sydd eto i'w gwneud gan y tîm golygyddol ond yn berthnasol wrth edrych ar y fersiwn ddiweddaraf neu fersiwn ragolygol o ddeddfwriaeth. Felly, nid oes modd eu gweld wrth edrych ar ddeddfwriaeth fel y mae ar bwynt penodol mewn amser. Er mwyn gweld yr wybodaeth 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth' ar gyfer y ddarpariaeth hon ewch yn ôl i'r fersiwn ddiweddaraf gan ddefnyddio'r opsiynau yn y blwch 'Pa Fersiwn' uchod.

Offerynnau Statudol Cymru

2020 Rhif 1362 (Cy. 301)

Iechyd Y Cyhoedd, Cymru

Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 21) 2020

Gwnaed

am 2.14 p.m. ar 27 Tachwedd 2020

Gosodwyd gerbron Senedd Cymru

ar 5.00 p.m. ar 27 Tachwedd 2020

Yn dod i rym

am 4.00 a.m. ar 28 Tachwedd 2020

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 45B a 45P(2) o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984(1), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.

RHAN 1LL+CCyffredinol

Enwi, dod i rym a dehongliLL+C

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 21) 2020.

(2Daw’r Rheoliadau hyn i rym am 4.00 a.m. ar 28 Tachwedd 2020.

(3Yn y Rheoliadau hyn, ystyr y “Rheoliadau Teithio Rhyngwladol” yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020(2).

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 1 mewn grym ar 28.11.2020 am 4.00 a.m., gweler rhl. 1(2)

RHAN 2LL+CDiwygiadau i’r rhestr o wledydd a thiriogaethau esempt yn Atodlen 3 i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol

Hepgor gwledydd o’r rhestr o wledydd a thiriogaethau esemptLL+C

2.  Yn Rhan 1 o Atodlen 3 i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol (gwledydd a thiriogaethau esempt y tu allan i’r ardal deithio gyffredin), hepgorer y cofnodion a ganlyn—

Estonia

Latfia.

Gwybodaeth Cychwyn

I2Rhl. 2 mewn grym ar 28.11.2020 am 4.00 a.m., gweler rhl. 1(2)

Darpariaeth drosiannol mewn cysylltiad â rheoliad 2LL+C

3.—(1Mae paragraff (2) yn gymwys pan fo person (“P”)—

(a)yn cyrraedd Cymru am 4:00 a.m. ar 28 Tachwedd 2020 neu wedi hynny, a

(b)wedi bod mewn gwlad a restrir yn rheoliad 2 ddiwethaf—

(i)o fewn y cyfnod o 14 o ddiwrnodau sy’n dod i ben â’r diwrnod y mae P yn cyrraedd Cymru, a

(ii)cyn 4.00 a.m. ar 28 Tachwedd 2020.

(2Mae P, yn rhinwedd y ffaith iddo fod mewn gwlad a restrir yn rheoliad 2, i’w drin at ddibenion rheoliadau 7(1) ac 8(1) o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol fel pe bai wedi cyrraedd Cymru o wlad neu diriogaeth nad yw’n esempt, neu fel pe bai wedi cyrraedd ar ôl bod mewn gwlad neu diriogaeth o’r fath.

Gwybodaeth Cychwyn

I3Rhl. 3 mewn grym ar 28.11.2020 am 4.00 a.m., gweler rhl. 1(2)

Ychwanegiadau at y rhestr o wledydd a thiriogaethau esemptLL+C

4.  Yn Rhan 1 o Atodlen 3 i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol (gwledydd a thiriogaethau esempt y tu allan i’r ardal deithio gyffredin), yn y lle priodol mewnosoder—

Aruba

Gweriniaeth Ddemocrataidd Timor-Leste

Gweriniaeth Kiribati

Gweriniaeth Vanuatu

Gwladwriaeth Annibynnol Samoa

Gwladwriaethau Ffederal Micronesia

Mongolia

Teyrnas Bhutan

Teyrnas Tonga

Ynysoedd Solomon.

Gwybodaeth Cychwyn

I4Rhl. 4 mewn grym ar 28.11.2020 am 4.00 a.m., gweler rhl. 1(2)

Darpariaeth drosiannol mewn cysylltiad â rheoliad 4LL+C

5.—(1Mae paragraff (2) yn gymwys pan, yn union cyn 4.00 a.m. ar 28 Tachwedd 2020—

(a)oedd person (“P”) yn ddarostyngedig i ofyniad i ynysu yn rhinwedd y ffaith iddo gyrraedd Cymru o wlad neu diriogaeth a restrir yn rheoliad 4, neu ar ôl bod mewn gwlad neu diriogaeth o’r fath, a

(b)diwrnod olaf ynysiad P yw 28 Tachwedd 2020 neu ddiwrnod ar ôl y diwrnod hwnnw.

(2Nid yw ychwanegu’r gwledydd a’r tiriogaethau a restrir yn rheoliad 4 at Ran 1 o Atodlen 3 i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol yn effeithio ar y gofyniad i ynysu fel y mae’n gymwys i P, nac ar y modd y pennir diwrnod olaf ynysiad P o dan y Rheoliadau Teithio Rhyngwladol.

(3Mae paragraff (4) yn gymwys pan fo person (“P”)—

(a)yn cyrraedd Cymru am 4.00 a.m. ar 28 Tachwedd 2020 neu wedi hynny, a

(b)wedi bod mewn gwlad neu diriogaeth a restrir yn rheoliad 4 o fewn y cyfnod o 14 o ddiwrnodau sy’n dod i ben â’r diwrnod y mae P yn cyrraedd Cymru.

(4At ddibenion rheoliadau 7(1) ac 8(1) o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol, mae’r cwestiwn o ran a yw P wedi cyrraedd Cymru o wlad neu diriogaeth nad yw’n esempt neu ar ôl bod mewn gwlad neu diriogaeth o’r fath i’w bennu, mewn perthynas â gwlad neu diriogaeth a restrir yn rheoliad 4, drwy gyfeirio at ba un a oedd y wlad neu’r diriogaeth yn wlad neu’n diriogaeth nad oedd yn esempt pan oedd P yno ddiwethaf (ac nid drwy gyfeirio at statws y wlad neu’r diriogaeth pan fo P yn cyrraedd Cymru).

(5Yn y rheoliad hwn, mae i “gofyniad i ynysu” yr ystyr a roddir gan reoliad 10(2) o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol; ac mae cyfeiriadau at ddiwrnod olaf ynysiad P i’w dehongli yn unol â rheoliad 12 o’r Rheoliadau hynny.

Gwybodaeth Cychwyn

I5Rhl. 5 mewn grym ar 28.11.2020 am 4.00 a.m., gweler rhl. 1(2)

RHAN 3LL+CDiwygiadau i Ran 3 a hepgor Rhan 3A o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol a diwygiad canlyniadol

Diwygiadau i Ran 3 (gofyniad i ynysu etc.) o’r Rheoliadau Teithio RhyngwladolLL+C

6.—(1Mae Rhan 3 (gofyniad i ynysu etc.) o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 9(2)(b), yn lle “38” rhodder “39”.

(3Hepgorer rheoliad 12A.

Gwybodaeth Cychwyn

I6Rhl. 6 mewn grym ar 28.11.2020 am 4.00 a.m., gweler rhl. 1(2)

Darpariaeth arbed mewn cysylltiad â rheoliad 6(3)LL+C

7.  Pan, yn union cyn 4.00 a.m. ar 28 Tachwedd 2020, yr oedd rheoliad 12A o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol yn gymwys i berson, mae’r rheoliad hwnnw yn parhau i fod yn gymwys i’r person hwnnw er gwaethaf ei ddirymiad gan reoliad 6(3).

Gwybodaeth Cychwyn

I7Rhl. 7 mewn grym ar 28.11.2020 am 4.00 a.m., gweler rhl. 1(2)

Hepgor Rhan 3A (teithio o Ddenmarc) o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol a diwygiad canlyniadolLL+C

8.—(1Hepgorer Rhan 3A (teithio o Ddenmarc) o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol.

(2Mae rheoliad 14(1) yn Rhan 4 o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol wedi ei ddiwygio fel a ganlyn—

(a)yn is-baragraff (c), ar y diwedd mewnosoder “neu”;

(b)yn is-baragraff (f), hepgorer “neu”;

(c)hepgorer is-baragraff (g).

Gwybodaeth Cychwyn

I8Rhl. 8 mewn grym ar 28.11.2020 am 4.00 a.m., gweler rhl. 1(2)

RHAN 4LL+CDiwygio Atodlen 2 i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol

Diwygio paragraff 13 o Atodlen 2 (personau esempt)LL+C

9.  Ym mharagraff 13(2)(c) o Atodlen 2 (personau esempt) i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol, yn lle “gan yr” rhodder “gan Weinidogion Cymru neu’r”.

Gwybodaeth Cychwyn

I9Rhl. 9 mewn grym ar 28.11.2020 am 4.00 a.m., gweler rhl. 1(2)

RHAN 5LL+CDiwygiadau i’r rhestr o ddigwyddiadau chwaraeon yn Atodlen 4 i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol

Ychwanegiadau at y rhestr o ddigwyddiadau chwaraeon penodedigLL+C

10.—(1Mae Atodlen 4 (digwyddiadau chwaraeon penodedig) i’r Rheoliadau Teithio Ryngwladol wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2Ym mharagraff 3, ar y diwedd mewnosoder—

(n)Y Gorfforaeth Ddartiau Broffesiynol – Meistri Ladbrookes.

(3Ym mharagraff 7, ar y diwedd mewnosoder—

(m)Motorsport UK – Pencampwriaeth Rali Groes Prydain a’r Bencampwriaeth Gefnogi.

(4Ym mharagraff 10, ar y diwedd mewnosoder—

(l)Taith Snwcer y Byd – Meistri’r Almaen;

(m)Taith Snwcer y Byd – Y Meistri;

(n)Taith Snwcer y Byd – Pencampwriaeth y Chwaraewyr;

(o)Taith Snwcer y Byd – Pencampwriaeth Agored Cymru.

(5Ar ôl paragraff 24 mewnosoder—

25.  Nofio – Cyfarfod Rhyngwladol British Swimming.

Gwybodaeth Cychwyn

I10Rhl. 10 mewn grym ar 28.11.2020 am 4.00 a.m., gweler rhl. 1(2)

Vaughan Gething

Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

Am 2.14 p.m. ar 27 Tachwedd 2020

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020 (O.S. 2020/574 (Cy. 132)) (y “Rheoliadau Teithio Rhyngwladol”). Diwygiwyd y Rheoliadau Teithio Rhyngwladol yn flaenorol gan:

  • Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd ar gyfer Personau sy’n Teithio i Gymru etc.) 2020 (O.S. 2020/595) (Cy. 136);

  • Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd i Deithwyr) (Cymru) (Diwygio) 2020 (O.S. 2020/714) (Cy. 160);

  • Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) 2020 (O.S. 2020/726) (Cy. 163);

  • Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2020 (O.S. 2020/804) (Cy. 177);

  • Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 3) 2020 (O.S. 2020/817) (Cy. 179);

  • Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 4) 2020 (O.S. 2020/840) (Cy. 185);

  • Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 5) 2020 (O.S. 2020/868) (Cy. 190);

  • Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 6) 2020 (O.S. 2020/886) (Cy. 196);

  • Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 7) 2020 (O.S. 2020/917) (Cy. 205);

  • Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 8) 2020 (O.S. 2020/944) (Cy. 210);

  • Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 9) 2020 (O.S. 2020/962) (Cy. 216);

  • Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 10) 2020 (O.S. 2020/981) (Cy. 220);

  • Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 11) 2020 (O.S. 2020/1015) (Cy. 226);

  • Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 12) 2020 (O.S. 2020/1042) (Cy. 231);

  • Gorchymyn Trosglwyddo Swyddogaethau (Yr Ysgrifennydd Gwladol dros Faterion Tramor, Materion y Gymanwlad a Materion Datblygu) 2020 (O.S. 2020/942);

  • Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 13) 2020 (O.S. 2020/1080) (Cy. 243);

  • Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 14) 2020 (O.S. 2020/1098) (Cy. 249);

  • Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 15) 2020 (O.S. 2020/1133) (Cy. 258);

  • Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 16) 2020 (O.S. 2020/1165) (Cy. 263);

  • Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 17) 2020 (O.S. 2020/1191) (Cy. 269);

  • Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 18) 2020 (O.S. 2020/1223) (Cy. 277);

  • Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 19) 2020 (O.S. 2020/1232) (Cy. 278);

  • Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Chyfyngiadau) (Diwygio) (Cymru) 2020 (O.S. 2020/1237) (Cy. 279);

  • Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Chyfyngiadau) (Diwygio) (Rhif 2) (Cymru) 2020 (O.S. 2020/1288) (Cy. 286);

  • Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 20) 2020 (O.S. 2020/1329) (Cy. 295).

Mae’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol yn gosod gofynion ar bersonau sy’n dod i Gymru ar ôl bod dramor. Maent yn cynnwys gofyniad i bersonau sy’n cyrraedd Cymru ynysu am gyfnod i’w bennu yn unol â’r Rheoliadau hynny.

Mae gofynion y Rheoliadau Teithio Rhyngwladol yn ddarostyngedig i eithriadau, ac mae categorïau penodol o bersonau wedi eu hesemptio rhag gorfod cydymffurfio.

Nid yw’n ofynnol i bersonau sy’n dod i Gymru ynysu ar ôl bod mewn un neu ragor o’r gwledydd a’r tiriogaethau a restrir yn Atodlen 3 i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol. Cyfeirir at y gwledydd a’r tiriogaethau a restrir yn Atodlen 3 fel “gwledydd a thiriogaethau esempt”.

Mae Rhan 2 o’r Rheoliadau hyn yn diwygio’r rhestr o wledydd a thiriogaethau esempt. Mae rheoliad 2 yn diwygio’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol er mwyn hepgor y cofnodion ar gyfer Estonia a Latfia. Mae rheoliad 4 yn diwygio’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol er mwyn ychwanegu Aruba, Gweriniaeth Ddemocrataidd Timor-Leste, Gweriniaeth Kiribati, Gweriniaeth Vanuatu, Gwladwriaeth Annibynnol Samoa, Gwladwriaethau Ffederal Micronesia, Mongolia, Teyrnas Bhutan, Teyrnas Tonga ac Ynysoedd Solomon at y rhestr o wledydd a thiriogaethau esempt.

Mae rheoliadau 3 a 5 o’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth drosiannol mewn cysylltiad â’r newid yn statws y gwledydd a’r tiriogaethau hyn. Mae’r ddarpariaeth drosiannol yn ymdrin â maes a all fod yn destun amheuaeth o ran effaith y diwygiadau a wneir gan reoliadau 2 a 4 o’r Rheoliadau hyn ar weithredu’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol.

Mae Rhan 3 o’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rhan 3 ac yn hepgor Rhan 3A o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol ac yn gwneud diwygiad canlyniadol i reoliad 14 yn Rhan 4 o’r Rheoliadau hynny.

Mae rheoliad 6 yn diwygio Rhan 3 o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol. Yn gyntaf, mae’n gwneud diwygiad technegol i reoliad 9 o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol er mwyn cynnwys cyfeiriad at baragraff 39 o Atodlen 2 i’r Rheoliadau hynny. Yn ail, mae’n hepgor rheoliad 12A o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol sy’n gosod rheolau arbennig ar unrhyw berson sy’n teithio o Ddenmarc ac aelodau o aelwyd y person hwnnw. Mae rheoliad 7 yn gwneud darpariaeth arbed mewn cysylltiad â hepgor rheoliad 12A o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol. Mae’r ddarpariaeth arbed yn ymdrin â maes a all fod yn destun amheuaeth o ran effaith y diwygiadau a wneir gan reoliad 6(3) o’r Rheoliadau hyn ar weithredu’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol.

Mae rheoliad 8 yn hepgor Rhan 3A o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol sy’n gwahardd awyrennau a llestrau sy’n teithio’n uniongyrchol o Ddenmarc rhag cyrraedd Cymru. Mae hefyd yn gwneud diwygiad canlyniadol i reoliad 14 yn Rhan 4 o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol i hepgor y drosedd a gyflawnir drwy dorri gofynion rheoliad 12B(1) yn Rhan 3A o’r Rheoliadau hynny.

Nid yw Denmarc wedi ei chynnwys yn y rhestr o wledydd a thiriogaethau esempt yn Atodlen 3 i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol. Felly, bydd yn dal yn ofynnol i deithwyr o Ddenmarc ynysu yn unol â’r Rheoliadau hynny.

Mae Rhan 4 o’r Rheoliadau hyn – yn rheoliad 9 – yn diwygio paragraff 13 o Atodlen 2 i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol er mwyn pennu y caiff Gweinidogion Cymru ddynodi bod gwaith yn “gwaith llywodraeth hanfodol” at ddibenion yr esemptiad i’r gofyniad i ynysu sydd yn y paragraff hwnnw.

Mae Rhan 5 o’r Rheoliadau hyn – yn rheoliad 10 – yn diwygio’r rhestr o ddigwyddiadau chwaraeon yn Atodlen 4 i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol.

Caniateir i berson sy’n ddarostyngedig i ofyniad i ynysu a osodir gan y Rheoliadau Teithio Rhyngwladol adael y man lle y mae’r person yn ynysu am nifer cyfyngedig o resymau. Nodir yr eithriadau hyn i’r gofyniad i ynysu yn rheoliad 10 o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol, ac maent yn cynnwys eithriad sy’n caniatáu i berson gymryd rhan mewn digwyddiad chwaraeon a restrir.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ni luniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Point in Time: This becomes available after navigating to view revised legislation as it stood at a certain point in time via Advanced Features > Show Timeline of Changes or via a point in time advanced search. A point in time version is only available in English.

Close

See additional information alongside the content

Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.

Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

Timeline of Changes

This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.

Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources