Search Legislation

Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) (Diwygio) 2019

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Enwi a chychwyn

1.—(1Enwʼr Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) (Diwygio) 2019.

(2Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Ebrill 2019.

Diwygiadau i Reoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2017

2.  Mae Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2017(1) wedi eu diwygio yn unol âʼr rheoliadau a ganlyn.

Dehongli

3.  Yn rheoliad 1(3), yn y lle priodol yn ôl trefn yr wyddor, mewnosoder y diffiniad a ganlyn—

ystyr “gwasanaethau rheoleiddiedig” (“regulated services”) yw gwasanaethau cartrefi gofal, gwasanaethau cymorth cartref, gwasanaethau llety diogel neu wasanaethau canolfannau preswyl i deuluoedd;.

Eithrio rhag cwmpas gwasanaeth cartref gofal

4.  Yn rheoliad 2—

(a)yn lle is-baragraff (1)(e) rhodder—

(e)y ddarpariaeth o lety, ynghyd â gofal, pan foʼr gofal a ddarperir yn gyfystyr â gwarchod plant o fewn ystyr adran 19(2), neu ofal dydd o fewn ystyr adran 19(3), o Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010(2) ond nid ywʼr eithriad hwn yn gymwys—

(i)os oes, mewn unrhyw gyfnod o 12 mis, 28 neu ragor o gyfnodau o 24 awr y darperir mwy na 15 awr o warchod plant neu ofal dydd ynddynt mewn perthynas ag unrhyw un plentyn; neu

(ii)os darperir y gofal yn gyfan gwbl neuʼn bennaf ar gyfer plant anabl;;

(b)yn is-baragraff (1)(f), yn lle “ywʼr llety wedi ei ddarparu i blentyn anabl” rhodder “darperir gofal yn gyfan gwbl neuʼn bennaf ar gyfer plant anabl”;

(c)yn is-baragraff (1)(i)—

(i)yn y geiriau cyflwyno hepgorer “oherwydd eu hyglwyfedd neu eu hangen”;

(ii)yn is-baragraff (i) oʼr rhan oʼr cymal syʼn nodi pryd nad ywʼr eithriad yn gymwys, yn lle “pan foʼr llety wedi ei ddarparu i blentyn anabl” rhodder “pan fo gofal yn cael ei ddarparu yn gyfan gwbl neuʼn bennaf ar gyfer plant anabl oni bai bod y darparwr gwasanaeth yn gyntaf wedi hysbysu Gweinidogion Cymru yn ysgrifenedig am y trefniadau”;

(d)ar ddiwedd is-baragraff (1)(i), yn lle “.” rhodder “;”;

(e)ar ôl is-baragraff (1)(i) mewnosoder yr is-baragraff a ganlyn—

(j)y ddarpariaeth o lety, ynghyd â gofal, i un plentyn neu i grŵp o frodyr a chwiorydd gan berson yng nghartref y person hwnnw ei hunan a phan na fo gofal a llety yn cael eu darparu gan y person hwnnw am gyfanswm o fwy nag 28 o ddiwrnodau mewn unrhyw gyfnod o 12 mis.;

(f)ar ôl paragraff (3) mewnosoder—

(4) Yn is-baragraff (1)(j) oʼr rheoliad hwn, mae “grŵp o frodyr a chwiorydd” yn cynnwys brodyr a chwiorydd a hanner brodyr a hanner chwiorydd.

Eithriadau rhag cwmpas gwasanaeth cymorth cartref

5.  Yn rheoliad 3(1)—

(a)yn is-baragraff (g), yn lle “.” rhodder “;”;

(b)ar ôl is-baragraff (g) mewnosoder—

(h)y ddarpariaeth o ofal nyrsio gan nyrs gofrestredig;

(i)y ddarpariaeth o ofal a chymorth gan Fwrdd Iechyd Lleol i ddiwallu anghenion syʼn gysylltiedig ag anghenion unigolion am ofal nyrsio.

Mân ddiwygiad i reoliad 12

6.  Yn rheoliad 12(1), yn y cromfachau ar ôl “Derbyniadau a chychwyn y gwasanaeth”, yn lle “Rhan 5” rhodder “Rhan 4”.

Polisi a gweithdrefnau ar gyfer cynilion plant

7.  Yn rheoliad 28 (cefnogi unigolion i reoli eu harian), ar ôl paragraff (2) ychwaneger y paragraff a ganlyn—

(2A) Pan fo gwasanaeth yn darparu llety ar gyfer plant, rhaid i’r polisi a’r gweithdrefnau sy’n ofynnol gan y rheoliad hwn nodi’r camau y bydd y darparwr gwasanaeth yn eu cymryd i sicrhau y caiff cynilion a wneir gan neu ar ran plant eu goruchwylio a’u monitro’n ddigonol, gan gynnwys trefniadau ar gyfer cadw cofnodion o gynilion (a gwariant o gynilion) a throsglwyddo’r cofnodion hyn pan ddaw lleoliad i ben.

Mân ddiwygiad i reoliad 34

8.  Yn y testun Saesneg yn rheoliad 34(5), hepgorer y gair “as” yn yr ail le y mae’n ymddangos.

Diwygiad i’r gofyniad o ran addasrwydd rheolwyr gwasanaethau cymorth cartref o dan amgylchiadau penodol

9.  Yn rheoliad 35—

(a)yn is-baragraff (2)(e), ar y dechrau, mewnosoder “yn ddarostyngedig i baragraff (10) oʼr rheoliad hwn,”;

(b)ym mharagraff (9), yn lle’r geiriau o “adran 1” hyd at y diwedd rhodder “adran 87(1) o Ddeddf Diogelu Rhyddidau 2012(3)”;

(c)ar ôl paragraff (9) mewnosoder—

(10) Tan 1 Ebrill 2020, nid yw’r gofyniad o dan baragraff (2)(e) i reolwr fod wedi ei gofrestru â Gofal Cymdeithasol Cymru yn gymwys i reolwr sydd wedi ei benodi i reoli ymgymeriad—

(a)y mae person wedi ei gofrestru, neu wedi gwneud cais i gofrestru, mewn cysylltiad ag ef, fel darparwr gwasanaeth cymorth cartref, a

(b)yr oedd person wedi ei gofrestru mewn cysylltiad ag ef i gynnal asiantaeth nyrsys o dan Ran 2 o Ddeddf Safonau Gofal 2000(4) yn union cyn 2 Ebrill 2018 ond nad oedd hefyd wedi ei gofrestru i gynnal asiantaeth gofal cartref.

Diwygio rheoliad 49 – Cymhwyso Rhan 13

10.  Yn rheoliad 49—

(a)ym mharagraff (2), yn y testun syʼn disgrifio mangre Categori B, yn lle’r geiriau o “estyniad” i “syʼn” rhodder “adeilad neu adeiladau yr ychwanegir estyniad ato neu atynt ac maeʼr estyniad yn”;

(b)ym mharagraff (3), ar ôl “54” mewnosoder “ond yn achos mangre Categori B, nid ywʼr gofynion ond yn gymwys iʼr rhan oʼr fangre syʼn cynnwys yr estyniad (neu yn achos rheoliad 53, i unrhyw rannau oʼr tiroedd allanol sydd wedi eu datblygu ar y cyd âʼr estyniad)”.

Diwygio rheoliad 52 – gofynion ychwanegol – lle cymunedol

11.  Yn rheoliad 52—

(a)ar y dechrau, yn lle “Rhaid” rhodder “(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), rhaid”;

(b)ar y diwedd, ychwaneger y paragraff a ganlyn—

(2) Ar gyfer mangre Categori B, maeʼr rheoliad hwn yn gymwys fel bod rhaid iʼr gofyniad o ran lle gael ei fodloni mewn perthynas ag unrhyw ystafelloedd ychwanegol i unigolion.

Diwygio rheoliad 53 – gofynion ychwanegol – lle yn yr awyr agored

12.  Yn rheoliad 53, ar ôl “allanol”, mewnosoder “(neu, yn achos mangre Categori B, unrhyw ran oʼr tiroedd allanol a ddatblygir ar y cyd ag adeiladuʼr estyniad)”.

Mân ddiwygiad i reoliad 67

13.  Yn rheoliad 67(4), yn lle “rheoliad 34(2)” rhodder “rheoliad 35(2)”.

Mân ddiwygiad i reoliad 73

14.  Yn rheoliad 73(2), yn lle “unrhyw wasanaethau rheoleiddiedig eraill” rhodder “gwasanaeth cymorth cartref”.

Mân ddiwygiad i reoliad 85

15.  Yn rheoliad 85(4), yn y rhestr o reoliadau, yn lle “33(1)” rhodder “33(2)”.

Diwygiadau i Atodlen 2

16.  Ym mharagraff 5 o Atodlen 2—

(a)yn is-baragraff (a), yn lle “, anaf, neu salwch” rhodder “neu anaf”;

(b)yn is-baragraff (f), yn lle “wlserau” rhodder “niwed”.

Diwygiadau i Atodlen 3

17.  Yn Atodlen 3—

(a)ym mharagraff 13, ar ôl “staff” ychwaneger “a/neu wirfoddolwr”;

(b)ym mharagraff 16, yn lle’r geiriau o “wlser pwyso categori 3 neu 4” iʼr diwedd rhodder “niwed pwyso categori 3 neu 4 neu niwed pwyso nad oes modd ei osod ar unrhyw gam”;

(c)ym mharagraff 17, yn lle “, anaf neu salwch” rhodder “neu anaf”;

(d)ym mharagraff 30, yn lle “Achos o gamfanteisio’n rhywiol ar blentyn neu o amheuaeth o gamfanteisio’n rhywiol ar blentyn” rhodder “Unrhyw achos o gamfanteisio’n rhywiol neu’n droseddol ar blentyn neu o amheuaeth o gamfanteisio’n rhywiol neu’n droseddol ar blentyn”;

(e)ym mharagraff 33, yn lle “, anaf neu salwch” rhodder “neu anaf”;

(f)ym mharagraff 34, yn lle’r geiriau o “wlser pwyso categori 3 neu 4” iʼr diwedd rhodder “niwed pwyso categori 3 neu 4 neu niwed pwyso nad oes modd ei osod ar unrhyw gam.”;

(g)ym mhob un o baragraffau 42, 44 a 46, yn lle “Unrhyw achos o gamfanteisio’n rhywiol ar blentyn neu o amheuaeth o gamfanteisio’n rhywiol ar blentyn” rhodder “Unrhyw achos o gamfanteisio’n rhywiol neu’n droseddol ar blentyn neu o amheuaeth o gamfanteisio’n rhywiol neu’n droseddol ar blentyn”.

Julie Morgan

Y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol o dan awdurdod y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

29 Mawrth 2019

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources