- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
12.—(1) Er gwaethaf y gwaharddiad ar gigydda anifail neu lwyth o anifeiliaid drwy hysbysiad a roddir yn unol â rheoliad 22(4), caniateir cigydda’r anifail hwnnw neu’r llwyth hwnnw o anifeiliaid cyn i’r hysbysiad hwnnw gael ei dynnu’n ôl os bydd perchennog yr anifail hwnnw neu’r llwyth hwnnw o anifeiliaid yn cydymffurfio â’r paragraffau a ganlyn yn y rheoliad hwn.
(2) Rhaid rhoi hysbysiad ynglŷn â dyddiad a lle arfaethedig y cigydda i swyddog awdurdodedig cyn y dyddiad hwnnw.
(3) Rhaid i’r anifail neu’r llwyth o anifeiliaid, a farciwyd gan swyddog awdurdodedig, neu y parwyd iddynt gael eu marcio gan swyddog awdurdodedig, o dan reoliad 21(2)(c), fynd i’r lle cigydda gyda thystysgrif a ddyroddwyd gan swyddog awdurdodedig yn nodi’r anifail neu’r llwyth o anifeiliaid a’r fferm wreiddiol.
(4) Ar ôl cigydda, rhaid i unrhyw gynnyrch anifeiliaid sy’n deillio o’r anifail hwnnw neu o anifail o’r llwyth hwnnw o anifeiliaid gael ei gadw mewn unrhyw le a modd a bennir gan swyddog awdurdodedig, wrth iddo fynd drwy unrhyw archwiliad y mae’n rhesymol i swyddog awdurdodedig ystyried ei fod yn angenrheidiol.
(5) Pan fo’r archwiliad (y mae’n rhaid i swyddog awdurdodedig roi ei ganlyniad i’r perchennog drwy hysbysiad ysgrifenedig) yn cadarnhau bod unrhyw gynnyrch anifeiliaid y cyfeirir ato ym mharagraff (4) yn cynnwys sylwedd awdurdodedig yn ôl crynodiad sy’n uwch na’r terfyn gweddillion uchaf perthnasol, rhaid gwaredu’r cynnyrch anifeiliaid at ddiben heblaw ei fwyta gan bobl.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: