Search Legislation

Gorchymyn Daliadau Amaethyddol (Unedau Cynhyrchu) (Cymru) 2019

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r Gorchymyn hwn yn rhagnodi unedau cynhyrchu ar gyfer asesu gallu cynhyrchiol tir amaethyddol a leolir yng Nghymru ac yn nodi’r swm sydd i’w ystyried fel yr incwm blynyddol net o bob uned o’r fath am y flwyddyn o 12 Medi 2018 i 11 Medi 2019 at ddibenion penodol yn Neddf Daliadau Amaethyddol 1986 (“Deddf 1986”).

Mae’n ofynnol asesu gallu cynhyrchiol tir amaethyddol er mwyn penderfynu a yw’r tir o dan sylw yn “uned fasnachol o dir amaethyddol” ai peidio at ddibenion y darpariaethau olynu yn Neddf 1986: gweler yn benodol adrannau 36(3) a 50(2). Ystyr “uned fasnachol o dir amaethyddol” yw uned o dir amaethyddol sydd, pan gaiff ei ffermio o dan reolaeth gymwys, yn gallu cynhyrchu incwm blynyddol net nad yw’n llai na chyfanred enillion blynyddol cyfartalog dau weithiwr amaethyddol gwrywaidd llawnamser sy’n 20 mlwydd oed neu’n hŷn (paragraff 3 o Atodlen 6 i Ddeddf 1986). Wrth bennu’r ffigur incwm blynyddol hwn, pa bryd bynnag y bydd defnydd ffermio penodol a grybwyllir yng ngholofn 1 o’r Atodlen yn berthnasol i’r asesiad o allu cynhyrchiol y tir o dan sylw, mae erthygl 2 o’r Gorchymyn hwn yn darparu mai’r unedau cynhyrchu a’r incwm blynyddol net a bennir yng ngholofnau 2 a 3, yn eu trefn, fydd sail yr asesiad.

Mae’r Gorchymyn hwn yn cynnwys ffigurau incwm blynyddol net ar gyfer tir a oedd, yn 2017, yn hectar cymwys o fewn ystyr Erthygl 32(2) o Reoliad (EU) Rhif 1307/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n gosod rheolau ar gyfer taliadau uniongyrchol i ffermwyr o dan gynlluniau cymorth o fewn fframwaith y polisi amaethyddol cyffredin (OJ Rhif L 347, 20.12.2013, t. 608). Rhoddir ffigurau ar wahân yn yr Atodlen ar gyfer tir dan anfantais a thir dan anfantais ddifrifol, tir mewn ardal lai ffafriol a thir arall.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources