- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
Ymadael Â’r Undeb Ewropeaidd, Cymru
Llywodraeth Leol, Cymru
Gofynion sifftio wedi eu bodloni
18 Chwefror 2019
Gwnaed
4 Mawrth 2019
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
5 Mawrth 2019
Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1
Mae gofynion paragraff 4(2) o Atodlen 7 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018(1) (sy’n ymwneud â’r weithdrefn graffu briodol ar gyfer y Rheoliadau hyn) wedi eu bodloni.
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 11 o’r Ddeddf honno a pharagraff 1(1) o Atodlen 2 iddi.
1. Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cyllid Llywodraeth Leol (Diwygio) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019 a deuant i rym ar y diwrnod ymadael(2).
2.—(1) Mae Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Darganfod Twyll a Gorfodi) (Cymru) 2013(3) wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 4 (pŵer i wneud darparu gwybodaeth yn ofynnol), ym mharagraff (11)—
(a)yn lle’r diffiniad o “banc” rhodder—
“ystyr “banc” (“bank”) yw—
person sydd â chaniatâd o dan Ran 4A o Ddeddf Gwasanaethau a Marchnadoedd Ariannol 2000(4) i dderbyn adneuon; neu
person nad oes arno angen caniatâd o dan y Ddeddf honno i dderbyn adneuon, yng nghwrs busnes y person hwnnw yn y Deyrnas Unedig;”;
(b)yn lle’r diffiniad o “yswiriwr” rhodder—
“ystyr “yswiriwr” (“insurer”) yw person sydd â chaniatâd o dan Ran 4A o Ddeddf Gwasanaethau a Marchnadoedd Ariannol 2000 i effeithio neu gyflawni contractau yswiriant.”
3.—(1) Mae Rheoliadau Rhestr Ardrethu Canolog (Cymru) 2005(5) wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 7 (hereditamentau rheilffyrdd), ym mharagraff (3), yn lle’r diffiniad o “licence exempt operator” a “licence holder” rhodder—
““licence exempt operator” and “licence holder” have the meanings given by sections 10(6) and 83(1) respectively of the Railways Act 1993(6) except that licence holder also includes a holder of a railway undertaking licence granted pursuant to the Railway (Licensing of Railway Undertakings) Regulations 2005(7); and”.
Rebecca Evans
Y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd, un o Weinidogion Cymru
4th Mawrth 2019
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 11 o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 a pharagraff 1(1) o Atodlen 2 iddi er mwyn ymdrin ag unrhyw fethiant yng nghyfraith yr UE a ddargedwir i weithredu’n effeithiol a diffygion eraill sy’n deillio o ymadawiad y Deyrnas Unedig â’r Undeb Ewropeaidd.
Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau i ddeddfwriaeth cyllid llywodraeth leol.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.
Mae “exit day” (y diwrnod ymadael) wedi ei ddiffinio yn adran 20(1) i (5) (dehongli) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018.
O.S. 2013/588 (Cy. 67), y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.
O.S. 2005/422 (Cy. 40). Gwnaed diwygiadau perthnasol gan O.S. 2005/3050 ac O.S. 2016/645.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: