Search Legislation

Rheoliadau Trydan (Gorsafoedd Cynhyrchu Alltraeth) (Ffioedd) (Cymru) 2019

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2019 Rhif 296 (Cy. 74)

Trydan, Cymru

Rheoliadau Trydan (Gorsafoedd Cynhyrchu Alltraeth) (Ffioedd) (Cymru) 2019

Gwnaed

18 Chwefror 2019

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

20 Chwefror 2019

Yn dod i rym

1 Ebrill 2019

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 36(8A) a 60 o Ddeddf Trydan 1989(1), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

Enwi, cychwyn a dehongli

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Trydan (Gorsafoedd Cynhyrchu Alltraeth) (Ffioedd) (Cymru) 2019 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2019.

(2Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “cais” (“application”) yw cais i Weinidogion Cymru o dan adran 36(2) o Ddeddf Trydan 1989 am gydsyniad i adeiladu, estyn neu weithredu gorsaf gynhyrchu alltraeth, ynghyd ag unrhyw gais o dan adran 36A(3) o’r Ddeddf honno am ddatganiad sy’n ymwneud â hawliau mordwyo sy’n cael ei wneud gyda’r cais o dan adran 36; ac

ystyr “colofn 3” (“column 3”) yw colofn 3 o’r tabl yn yr Atodlen i’r Rheoliadau hyn.

Ffioedd

2.—(1Rhaid i’r ceisydd dalu ffi i Weinidogion Cymru am wneud cais.

(2Y ffi yw cyfanswm—

(a)y ffi gychwynnol yn unol â rheoliad 3;

(b)y ffi ar gyfer archwilio cais a gyfrifir yn unol â rheoliad 4; ac

(c)y ffi ar gyfer gwneud penderfyniad ynghylch cais a gyfrifir yn unol â rheoliad 5.

Y ffi gychwynnol

3.—(1Pan fo cais yn cael ei wneud i Weinidogion Cymru, rhaid talu ffi gychwynnol i Weinidogion Cymru (“y ffi gychwynnol”).

(2Y ffi gychwynnol yw’r swm a nodir yn rhes 1 o golofn 3.

(3Rhaid i’r ffi gychwynnol fynd gyda’r cais.

Y ffi archwilio

4.—(1Rhaid talu ffi i Weinidogion Cymru am archwilio cais (“y ffi archwilio”).

(2Mae’r ffi archwilio i’w gyfrifo fel cyfanswm—

(a)nifer y diwrnodau neu ran o ddiwrnod a dreulir yn archwilio cais wedi ei luosi â—

(i)pan fo cais yn cael ei archwilio drwy wrandawiad neu ymchwiliad, y gyfradd ddyddiol a nodir yn rhes 2 o golofn 3;

(ii)ym mhob achos arall, y gyfradd ddyddiol a nodir yn rhes 3 o golofn 3; a

(b)unrhyw gostau ac alldaliadau yr eir iddynt mewn gwirionedd gan Weinidogion Cymru neu ar ran Gweinidogion Cymru mewn cysylltiad ag archwilio’r cais.

(3Rhaid i Weinidogion Cymru, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol, roi amcangyfrif ysgrifenedig i’r ceisydd o nifer y diwrnodau y disgwylir eu cymryd i archwilio’r cais.

(4Caiff Gweinidogion Cymru ddiwygio’r amcangyfrif y cyfeirir ato ym mharagraff (3) ar unrhyw adeg.

(5Caiff Gweinidogion Cymru anfonebu’r ceisydd ar gyfnodau rhesymol mewn cysylltiad â nifer y dyddiau a dreulir mewn gwirionedd yn archwilio’r cais ac unrhyw gostau yr eir iddynt wrth archwilio’r cais.

(6Rhaid i Weinidogion Cymru gael unrhyw ffi sy’n ddyledus o dan y rheoliad hwn o fewn y cyfnod o 21 o ddiwrnodau gan ddechrau â’r dyddiad yr anfonir yr anfoneb berthnasol.

(7Os bydd y ceisydd yn methu â thalu unrhyw ffi sy’n ddyledus o dan y rheoliad hwn o fewn y cyfnod a bennir ym mharagraff (6), nid oes angen i Weinidogion Cymru gymryd unrhyw gamau pellach mewn perthynas â’r cais hyd nes i Weinidogion Cymru gael y taliad.

(8Os bydd y ceisydd yn methu â thalu unrhyw ffi sy’n ddyledus o dan y rheoliad hwn o fewn y cyfnod o 12 wythnos sy’n dechrau pan fydd y cyfnod a bennir ym mharagraff (6) yn dod i ben, bernir bod y cais wedi ei dynnu’n ôl.

(9Mae’r ffi archwilio yn parhau i fod yn daladwy er gwaethaf tynnu’r cais yn ôl.

(10Yn y rheoliad hwn, bernir bod “diwrnod” yn 7.4 awr.

Y ffi benderfynu

5.—(1Rhaid talu ffi i Weinidogion Cymru am benderfyniad ynghylch cais (“y ffi benderfynu”).

(2Y ffi benderfynu yw cyfanswm—

(a)ffi benodedig sef y swm a nodir yn rhes 4 o golofn 3; a

(b)unrhyw gostau ac alldaliadau yr eir iddynt mewn gwirionedd gan Weinidogion Cymru neu ar ran Gweinidogion Cymru mewn cysylltiad â gwneud penderfyniad ynghylch y cais.

(3Mae’r costau y cyfeirir atynt ym mharagraff (2)(b) yn cynnwys unrhyw gostau cyfreithiol rhesymol neu alldaliadau eraill yr eir iddynt neu a delir gan Weinidogion Cymru neu ar ran Gweinidogion Cymru mewn cysylltiad â gwneud penderfyniad ynghylch cais.

(4Caiff Gweinidogion Cymru anfonebu’r ceisydd—

(a)ar gyfer y ffi benodedig ar unrhyw adeg ar ôl gorffen archwilio’r cais, a

(b)mewn cysylltiad â chostau ac alldaliadau ar gyfnodau rhesymol.

(5Rhaid i Weinidogion Cymru gael unrhyw ffi sy’n ddyledus o dan y rheoliad hwn o fewn y cyfnod o 21 o ddiwrnodau gan ddechrau â’r dyddiad yr anfonir yr anfoneb berthnasol.

(6Os bydd y ceisydd yn methu â thalu unrhyw ffi sy’n ddyledus o dan y rheoliad hwn o fewn y cyfnod a bennir ym mharagraff (5), nid oes angen i Weinidogion Cymru gymryd unrhyw gamau pellach mewn perthynas â’r cais hyd nes iddynt gael y taliad.

(7Os bydd y ceisydd yn methu â thalu unrhyw ffi sy’n ddyledus o dan y rheoliad hwn o fewn y cyfnod o 12 wythnos sy’n dechrau pan fydd y cyfnod a bennir ym mharagraff (5) yn dod i ben, bernir bod y cais wedi ei dynnu’n ôl.

(8Mae’r ffi benderfynu yn parhau i fod yn daladwy er gwaethaf tynnu’r cais yn ôl.

Julie James

Y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru

18 Chwefror 2019

Rheoliadau 3(2), 4(2)(a)(i), 4(2)(a)(ii) a 5(2)(a)

YR ATODLENFfioedd penodedig a chyfraddau dyddiol

Y Tabl

Colofn 1

Y Rheoliad

Colofn 2

Y Pwnc

Colofn 3

Y Ffi

3(2)Y ffi gychwynnol£15,350
4(2)(a)(i)Y gyfradd ddyddiol pan fo cais yn cael ei archwilio mewn gwrandawiad neu ymchwiliad£920 heb gynnwys treth ar werth os oes peth
4(2)(a)(ii)Y gyfradd ddyddiol ym mhob achos arall£870 heb gynnwys treth ar werth os oes peth
5(2)(a)Y ffi benderfynu£14,700

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer talu ffioedd mewn cysylltiad â cheisiadau am gydsyniad o dan adran 36 o Ddeddf Trydan 1989 (p. 29) (“Deddf 1989”) i adeiladu, estyn neu weithredu gorsaf gynhyrchu alltraeth.

Gweinidogion Cymru, o 1 Ebrill 2019, yw’r awdurdod priodol mewn perthynas â cheisiadau o dan adrannau 36 a 36A o Ddeddf 1989 sy’n ymwneud â gorsafoedd cynhyrchu yn nyfroedd Cymru sydd â gallu cynhyrchu nad yw’n fwy na 350 megawat.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi ar www.llyw.cymru.

(1)

1989 p. 29. Gweler adran 36(10) am y diffiniad o “appropriate authority”. Mewnosodwyd adran 36(8A) gan baragraff 47 o Atodlen 6 i Ddeddf Cymru 2017 (p. 4) (“Deddf 2017”). Mae diwygiadau i adran 60 nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(2)

Diwygiwyd adran 36 gan adran 93(1) a (3) o Ddeddf Ynni 2004 (p. 20) (“Deddf 2004”), paragraffau 31 a 32 o Atodlen 2 i Ddeddf Cynllunio 2008 (p. 29) , adran 12(7) ac (8) o Ddeddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009 (p. 23) (“Deddf 2009”), adran 78 o Ddeddf Ynni 2016 (p. 20) ac adran 39(7) i (11) o Ddeddf 2017 a pharagraff 47 o Atodlen 6 iddi. Mae diwygiadau eraill i adran 36 nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(3)

Mewnosodwyd adran 36A gan adran 99 o Ddeddf 2004 ac fe’i diwygiwyd gan adran 12(7) ac (8) o Ddeddf 2009 ac adran 40(1) i (5) o Ddeddf 2017.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources