- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
30. Yn rheoliad 81 (myfyrwyr rhan-amser cymwys)—
(a)ar ôl paragraff (10) mewnosoder—
“(10A) Os bydd—
(a)Gweinidogion Cymru wedi penderfynu bod person (“A” yn y paragraff hwn), yn rhinwedd bod yn berson sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67, neu fod yn blentyn i berson o’r fath, yn fyfyriwr rhan-amser cymwys mewn cysylltiad â chais am gymorth am flwyddyn gynharach o’r cwrs rhan-amser presennol neu mewn cysylltiad â chais am gymorth mewn cysylltiad â chwrs dynodedig, cwrs dysgu o bell dynodedig neu gwrs rhan-amser dynodedig arall y mae statws A fel myfyriwr rhan-amser cymwys, myfyriwr cymwys neu fyfyriwr dysgu o bell cymwys wedi ei drosglwyddo oddi wrtho i’r cwrs rhan-amser presennol; a
(b)ar y diwrnod cyn diwrnod dechrau’r flwyddyn academaidd y mae A yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi, y cyfnod y caniateir i berson sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67 aros yn y Deyrnas Unedig wedi dod i ben ac nad oes hawl bellach i aros wedi ei rhoi ac nad oes apêl yn yr arfaeth (o fewn yr ystyr yn adran 104 o Ddeddf Cenedligrwydd, Mewnfudo a Lloches 2002),
bydd statws A fel myfyriwr rhan-amser cymwys yn terfynu yn union cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae A yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi.”;
(b)ym mharagraff (11), yn lle “paragraffau (9), (9A) a (10)” rhodder “paragraffau (9), (9A), (10) a (10A)”; ac
(c)yn lle paragraffau (28) a (29) rhodder—
“(28) Mae cwrs wedi ei bennu at ddiben paragraff (27)—
(a)os yw’n ymwneud ag astudio hanes a gramadeg y Gymraeg a’r defnydd ohoni;
(b)os yw’r cwrs wedi ei restru yn y Dosbarthiad Pynciau Addysg Uwch yn un o’r meysydd pwnc a ganlyn—
(i)pynciau perthynol i feddygaeth (CAH02);
(ii)y gwyddorau biolegol a’r gwyddorau chwaraeon (CAH03);
(iii)seicoleg (CAH04);
(iv)milfeddygaeth (CAH05);
(v)amaethyddiaeth, bwyd ac astudiaethau cysylltiedig (CAH06);
(vi)y gwyddorau ffisegol (CAH07);
(vii)y gwyddorau mathemategol (CAH09);
(viii)peirianneg a thechnoleg (CAH10);
(ix)cyfrifiadura (CAH11); neu
(c)os yw’n gwrs y mae ei god a’i label o dan y Dosbarthiad Pynciau Addysg Uwch wedi eu rhestru yn Atodlen 7.
(29) Yn y rheoliad hwn ac yn Atodlen 7, ystyr “y Dosbarthiad Pynciau Addysg Uwch” yw’r Dosbarthiad Pynciau Addysg Uwch a gynhelir gan Wasanaeth Derbyn y Prifysgolion a’r Colegau ac Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch(1).”
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: