Search Legislation

Rheoliadau Trefniadau ar gyfer Cynhorthwy i Bersonau sy’n Cyflwyno Sylwadau (Cymru) 2019

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2019 Rhif 205 (Cy. 48)

Gofal Cymdeithasol, Cymru

Rheoliadau Trefniadau ar gyfer Cynhorthwy i Bersonau sy’n Cyflwyno Sylwadau (Cymru) 2019

Gwnaed

6 Chwefror 2019

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

8 Chwefror 2019

Yn dod i rym

1 Ebrill 2019

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 178(4) i (6) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014(1), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.

Enwi, cychwyn a dehongli

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Trefniadau ar gyfer Cynhorthwy i Bersonau sy’n Cyflwyno Sylwadau (Cymru) 2019.

(2Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Ebrill 2019.

(3Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014;

ystyr “person ifanc” (“young person”) yw person a chanddo hawlogaeth i gyflwyno sylwadau o dan adran 176 o’r Ddeddf(2).

Personau na chaniateir iddynt ddarparu cynhorthwy

2.—(1Wrth wneud trefniadau ar gyfer darparu cynhorthwy i blentyn neu berson ifanc sy’n cyflwyno sylwadau neu sy’n bwriadu cyflwyno sylwadau o dan adran 174 neu 176 o’r Ddeddf, ni chaiff awdurdod lleol ganiatáu i’r cynhorthwy gael ei ddarparu gan berson—

(a)sy’n destun y sylwadau neu a all fod yn destun y sylwadau;

(b)sy’n gyfrifol am reoli person sy’n destun y sylwadau neu a all fod yn destun y sylwadau;

(c)sy’n rheoli’r gwasanaeth sy’n destun y sylwadau neu a all fod yn destun y sylwadau;

(d)y mae ganddo reolaeth dros yr adnoddau a ddyrennir i’r gwasanaeth sy’n destun y sylwadau neu a all fod yn destun y sylwadau;

(e)sy’n ymwneud ag ystyried y sylwadau neu a all ymwneud â hynny ar ran yr awdurdod lleol.

(2Ni chaiff awdurdod lleol ganiatáu i’r cynhorthwy gael ei ddarparu gan berson os yw’r plentyn neu’r person ifanc sy’n cyflwyno sylwadau neu sy’n bwriadu cyflwyno sylwadau yn gwrthwynebu cael cynhorthwy oddi wrth y person hwnnw.

Gwybodaeth sydd i’w darparu i bersonau sy’n cyflwyno sylwadau

3.  Pan fo awdurdod lleol yn dod yn ymwybodol bod plentyn neu berson ifanc yn bwriadu cyflwyno sylwadau o dan adran 174 neu 176 o’r Ddeddf, rhaid i’r awdurdod—

(a)darparu gwybodaeth am wasanaethau eirioli(3) i’r plentyn neu’r person ifanc, a

(b)cynnig helpu’r plentyn neu’r person ifanc i gael eiriolwr.

Monitro cydymffurfedd â’r Rheoliadau

4.  Rhaid i awdurdod lleol fonitro’r camau y mae wedi eu cymryd i gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn, yn benodol drwy gadw cofnod o bob achlysur pan fo eiriolwr yn darparu cynhorthwy o dan drefniadau a wneir gan yr awdurdod lleol.

Julie Morgan

Y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, o dan awdurdod y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

6 Chwefror 2019

NODYN ESBONIADOL

(Nid ywʼr nodyn hwn yn rhan oʼr Rheoliadau)

O dan adran 178(4) a (5) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, mae’n ofynnol i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau i wneud darpariaeth bellach ynghylch dyletswydd awdurdod lleol i wneud trefniadau i helpu plant a phobl ifanc sydd am gyflwyno sylwadau. Mae hyn yn gymwys i sylwadau gan blant a phobl ifanc ynghylch ystod o swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol yr awdurdod lleol sy’n effeithio ar blant a phobl ifanc.

Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ynghylch y categorïau o bersonau na chânt, o dan drefniadau’r awdurdod lleol, ddarparu cynhorthwy i’r plentyn neu’r person ifanc.

Pan fo awdurdod lleol yn dod yn ymwybodol bod plentyn neu berson ifanc am gyflwyno sylwadau, mae rheoliad 3 yn ei gwneud yn ofynnol i’r awdurdod lleol ddarparu gwybodaeth am wasanaethau eirioli a rhoi cymorth i gael cynhorthwy eiriolwr.

Mae rheoliad 4 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol fonitro ei gydymffurfedd â’r gofynion hyn.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.

(2)

Nodir y personau a chanddynt hawlogaeth i gyflwyno sylwadau o dan adran 176 yn is-adran (2) o’r adran. Maent yn bersonau categori 2, 3, 4, 5 a 6 sy’n ymadael â gofal a phersonau o dan 25 oed a fyddai, pe baent o dan 21 oed, yn (i) personau ifanc categori 5, neu’n (ii) personau ifanc categori 6 sy’n dod o fewn y categori hwnnw yn rhinwedd adran 104(3)(a).

(3)

Diffinnir “gwasanaethau eirioli” yn adran 181(2) o’r Ddeddf yn “wasanaethau sy’n darparu cynhorthwy (ar ffurf cynrychiolaeth neu fel arall) i bersonau at ddibenion sy’n ymwneud â’u gofal a chymorth”.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources