- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
9.—(1) Rhaid i unrhyw berson sy’n casglu neu’n cludo gwaed y bwriedir ei ddefnyddio ar gyfer cynhyrchu cynhyrchion gwaed sy’n deillio o anifeiliaid nad ydynt yn cnoi cil wneud hynny—
(a)yn unol ag Adran C o Bennod IV o Atodiad IV; a
(b)(pan fo gwaed yn cael ei gasglu) o ladd-dy sydd wedi ei gofrestru neu ei awdurdodi gan Weinidogion Cymru at y diben hwnnw.
(2) Rhaid i unrhyw berson sy’n cynhyrchu, yn storio, yn cludo, yn pecynnu neu’n defnyddio—
(a)cynhyrchion gwaed sy’n deillio o anifeiliaid nad ydynt yn cnoi cil; neu
(b)bwyd anifeiliaid cyfansawdd sy’n cynnwys cynhyrchion o’r fath,
ar gyfer eu bwydo i anifeiliaid nad ydynt yn cnoi cil a ffermir wneud hynny yn unol ag Adran C o Bennod IV o Atodiad IV a chan gydymffurfio ag unrhyw awdurdodiad a ddyroddwyd gan Weinidogion Cymru at ddibenion yr Adran honno.
(3) Rhaid i unrhyw berson sy’n cynhyrchu cynhyrchion gwaed o’r fath neu fwyd anifeiliaid cyfansawdd sy’n cynnwys cynhyrchion o’r fath wneud hynny mewn mangre a gofrestrwyd at ddibenion yr Adran honno gan Weinidogion Cymru, oni bai bod Gweinidogion Cymru wedi awdurdodi fel arall yn unol â’r Adran honno.
(4) Rhaid i’r ddogfennaeth a’r label sy’n mynd gyda’r gwaed neu’r cynhyrchion gwaed fod yn unol â’r Adran honno.
(5) Rhaid i unrhyw berson sy’n cludo neu’n storio swmp o’r cynhyrchion gwaed (neu fwyd anifeiliaid cyfansawdd sy’n cynnwys cynhyrchion o’r fath) ar gyfer eu bwydo i anifeiliaid nad ydynt yn cnoi cil a ffermir, wneud hynny yn unol ag Adran A o Bennod III o Atodiad IV—
(a)gan gydymffurfio ag unrhyw weithdrefn a awdurdodwyd gan Weinidogion Cymru at ddibenion yr Adran honno; a
(b)(yn achos safleoedd storio y mae pwynt 2 o’r Adran honno yn gymwys iddynt), mewn safleoedd storio sydd wedi eu hawdurdodi at y diben hwnnw gan Weinidogion Cymru.
(6) Rhaid i unrhyw berson sy’n mewnforio llwyth o’r cynhyrchion gwaed (neu fwyd anifeiliaid cyfansawdd sy’n cynnwys cynhyrchion o’r fath) o drydedd wlad ar gyfer eu bwydo i anifeiliaid nad ydynt yn cnoi cil a ffermir, sicrhau bod y cynhyrchion yn cael eu dadansoddi yn unol ag Adran C o Bennod III o Atodiad IV er mwyn gwirhau nad oes cyfansoddion heb eu hawdurdodi sy’n dod o anifeiliaid yn bresennol.
(7) Ni chaiff unrhyw feddiannydd mangre sy’n cadw anifeiliaid a ffermir na fwriedir y cynhyrchion ar eu cyfer ddefnyddio na storio’r cynhyrchion nac unrhyw fwyd anifeiliaid cyfansawdd sy’n eu cynnwys yn y fangre ac eithrio yn achos bwyd anifeiliaid cyfansawdd—
(a)pan fo mesurau a gymeradwywyd gan Weinidogion Cymru wedi eu gweithredu yn unol ag Adran D o Bennod III o Atodiad IV; a
(b)gan gydymffurfio ag amodau unrhyw awdurdodiad a ddyroddir i’r meddiannydd at y diben hwnnw.
(8) Mae methu â chydymffurfio â’r paragraff hwn yn drosedd.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: