- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
5.—(1) At ddibenion Erthygl 11, pan fo person ag unrhyw anifail yn ei feddiant neu o dan ei reolaeth yr amheuir ei fod wedi ei heintio â TSE rhaid i’r person hwnnw hysbysu Gweinidogion Cymru ar unwaith a chadw’r anifail yn y daliad hyd nes y bydd arolygydd milfeddygol wedi ei archwilio.
(2) Pan fo arolygydd milfeddygol yn archwilio neu’n arolygu anifail ac yn amau’n rhesymol fod yr anifail wedi ei heintio â TSE, rhaid i’r arolygydd milfeddygol hysbysu Gweinidogion Cymru ar unwaith am yr amheuaeth honno.
(3) Pan fo person yn archwilio carcas anifail mewn labordy ac yn amau’n rhesymol fod TSE yn bresennol, rhaid i’r person hwnnw hysbysu Gweinidogion Cymru ar unwaith, a chadw’r carcas hyd nes y bydd arolygydd milfeddygol wedi awdurdodi ei waredu.
(4) Mae’r gofynion TSE yn Atodlen 1 yn gymwys.
(5) Rhaid i feddiannydd lladd-dy gydymffurfio â’r gofyniad i gymryd samplau neu hwyluso cymryd samplau gan arolygydd sy’n deillio o ofynion monitro TSE Gweinidogion Cymru yn Atodiad 3.
(6) Yn unol ag Erthygl 12, rhaid i berson sydd ag anifeiliaid a osodir o dan gyfyngiad swyddogol ar symud gydymffurfio ag—
(a)unrhyw gyfarwyddiadau a roddir gan arolygydd a chydweithredu â Gweinidogion Cymru i gyflawni’r gofynion monitro TSE yn Atodiad III;
(b)unrhyw gyfarwyddiadau a roddir gan arolygydd a chydweithredu â Gweinidogion Cymru i gymryd y camau i reoli a dileu TSE yn Atodiad VII;
(c)y gofynion yn Atodiad IV ar gyfer cynhyrchu, defnyddio cyfarpar, pecynnu, storio a chludo bwyd anifeiliaid;
(d)y gofynion bwydo anifeiliaid yn Atodiad IV;
(e)y gwaharddiadau sy’n ymwneud â bwydo anifeiliaid yn Erthygl 7, oni bai bod y cynhyrchion bwyd anifeiliaid yn cael eu cynhyrchu gan ddefnyddio prosesau cynhyrchu a gweithgynhyrchu a gymeradwywyd gan Gomisiwn yr UE;
(f)y gofynion o ran ymdrin â deunydd risg penodedig yn Erthygl 8 ac Atodiad V ac Atodlen 7;
(g)y cyfyngiadau yn Atodiad VIII ac Atodlen 8 ynghylch rhoi anifeiliaid neu gynhyrchion ar y farchnad neu ar gyfer eu hallforio.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: