Search Legislation

Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2018

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio—

(a)Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2018 (“Rheoliadau 2018”);

(b)Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2017 (“Rheoliadau 2017”);

(c)Rheoliadau Addysg (Ffioedd a Dyfarniadau) (Cymru) 2007 (“y Rheoliadau Ffioedd a Dyfarniadau”);

(d)Rheoliadau Addysg (Athrofa Brifysgol Ewropeaidd) (Cymru) 2014 (“Rheoliadau’r Athrofa Brifysgol Ewropeaidd”);

(e)Rheoliadau Addysg Uwch (Cyrsiau Cymhwysol, Personau Cymhwysol a Darpariaeth Atodol) (Cymru) 2015 (“y Rheoliadau Cyrsiau a Phersonau Cymhwysol”);

(f)Rheoliadau Addysg (Benthyciadau at Radd Feistr Ôl-raddedig) (Cymru) 2017 (“y Rheoliadau Graddau Meistr”); ac

(g)Rheoliadau Addysg (Benthyciadau at Radd Ddoethurol Ôl-raddedig) (Cymru) 2018 (“y Rheoliadau Graddau Doethurol”).

Mae Rheoliadau 2017 a Rheoliadau 2018 yn darparu ar gyfer cymorth ariannol i fyfyrwyr sy’n dilyn cyrsiau addysg uwch dynodedig sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2017, ac ar neu ar ôl 1 Awst 2018, yn y drefn honno. Mae Rheoliadau 2018 hefyd yn darparu cymorth ar gyfer cyrsiau sy’n dechrau cyn 1 Awst 2018 ac sy’n cael eu troi wedi hynny o gyrsiau llawnamser i gyrsiau rhan-amser neu o gyrsiau rhan-amser i gyrsiau llawnamser ar neu ar ôl 1 Awst 2018.

Mae rheoliad 16 yn diwygio Atodlen 2 i Reoliadau 2018 er mwyn creu categori newydd o fyfyriwr cymwys: personau y rhoddwyd caniatâd iddynt aros fel personau diwladwriaeth ac aelodau o’u teuluoedd. Mae hefyd yn diwygio’r Atodlen honno i sicrhau bod personau sydd wedi cael caniatâd i aros ar sail bywyd preifat ac aelodau o’u teuluoedd wedi eu cynnwys yn y categori presennol o fyfyriwr cymwys “personau sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros ac aelodau o’u teuluoedd”.

Mae rheoliadau 5, 13, 14, 17(b), (c) a (d), 19 ac 20 yn gwneud diwygiadau sy’n ganlyniadol i’r diwygiadau a wneir gan reoliad 16.

Mae crynodeb o’r diwygiadau pellach a wneir i Reoliadau 2018 wedi ei nodi isod.

Mae rheoliad 3 yn diwygio rheoliad 14 o Reoliadau 2018 fel nad yw’r cyfnod cymhwystra hwyaf a gyfrifir yn unol â pharagraff (2) yn gymwys i grantiau ar gyfer dibynyddion neu fyfyrwyr anabl.

Mae rheoliad 4 yn diwygio rheoliad 16 o Reoliadau 2018. Mae’r diwygiadau yn darparu bod myfyrwyr cymwys sydd wedi cwblhau cwrs llawnamser ar gyfer y Dystysgrif Addysg Uwch neu radd arferol, ac sy’n mynd ymlaen i ymgymryd ag astudiaeth bellach benodol, yn ddarostyngedig i’r cyfnod cymhwystra hwyaf a gyfrifir yn unol â pharagraff (2). Mae paragraff (2) wedi ei ddiwygio fel nad yw’r cyfrifiad o’r cyfnod cymhwystra hwyaf yn gymwys i grantiau ar gyfer dibynyddion neu fyfyrwyr anabl.

Mae rheoliad 6 yn gwneud diwygiad i destun Cymraeg paragraff (4) o reoliad 30, i sicrhau cyfwerthedd â’r testun Saesneg.

Mae rheoliad 7 yn cyflwyno rheoliad newydd 34A yn Rheoliadau 2018. Mae rheoliad 34A yn darparu bod gan Weinidogion Cymru ddisgresiwn i drin myfyriwr sydd wedi cael hysbysiad anghywir ganddynt ei fod yn gymwys mewn achosion pan na fo’r wybodaeth neu’r ddogfennaeth a ddarparwyd gan y myfyriwr, mewn perthynas â’i gais am gymorth, yn sylweddol anghywir, yn fyfyriwr cymwys.

Mae rheoliad 8 yn diwygio rheoliad 40 o Reoliadau 2018 mewn perthynas ag uchafswm y benthyciad at ffioedd dysgu i fyfyrwyr cymwys sy’n ymgymryd â blwyddyn Erasmus o gwrs llawn-amser a ddarperir gan sefydliad yng Nghymru, Lloegr neu’r Alban. Mae hefyd yn diwygio uchafswm y benthyciad at ffioedd dysgu i fyfyrwyr Categori 4 yn rheoliad 40, sy’n astudio gyda darparwr cwrs arferol sydd yn yr Alban.

Mae rheoliad 9 yn diwygio rheoliad 47(4) o Reoliadau 2018. Mae’r diwygiad hwn yn darparu na fydd y myfyriwr yn cael grant cynhaliaeth os yw incwm aelwyd y myfyriwr rhan-amser yn £59,200 neu ragor.

Mae rheoliad 10 yn diwygio rheoliad 54 o Reoliadau 2018. Mae’r diwygiad hwn yn dileu Eithriad 5, fel bod myfyrwyr cymwys sy’n astudio ar gyrsiau sy’n arwain at gymhwyster fel pensaer tirwedd, dylunydd tirwedd, rheolwr tirwedd, cynllunydd tref neu gynllunydd gwlad a thref yn cymhwyso i gael benthyciad cynhaliaeth.

Mae rheoliadau 11 a 12 yn diwygio rheoliadau 65 a 66 o Reoliadau 2018 yn y drefn honno. Mae’r diwygiadau yn addasu symiau trothwy incwm aelwyd myfyriwr cymwys at ddibenion cyfrifo grant at deithio ar gyfer myfyrwyr meddygol (rheoliad 65) a grant at deithio ar gyfer astudio neu weithio dramor (rheoliad 66).

Mae rheoliad 15 yn diwygio’r diffiniad o “perthynas agos” ym mharagraff 6(1) o Atodlen 1 i Reoliadau 2018.

Mae rheoliad 17(a) yn diwygio paragraff 2(2) o Atodlen 4 i Reoliadau 2018. Mae’r diwygiadau yn newid y term “sefydliad addysgol cydnabyddedig” i “sefydliad a gyllidir yn gyhoeddus”, er mwyn bod yn gyson ag Amod 4 o baragraff 2(1).

Mae rheoliad 18 yn gwneud mân ddiwygiadau i’r testun Cymraeg o baragraffau 2(2)(c) a 9(c) o Atodlen 4 i Reoliadau 2018, i sicrhau cyfwerthedd â’r testun Saesneg.

Mae rheoliad 22 yn diwygio rheoliad 2(1) o Reoliadau 2017. Mae’n mewnosod pedwar diffiniad newydd: “aelod o’r lluoedd arfog”, “person y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth”, “perthynas agos” a “rheolau mewnfudo”. Mae hefyd yn diwygio’r diffiniad o “person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros” i sicrhau bod personau sydd â chaniatâd i aros ar sail bywyd preifat, ac aelodau o’u teuluoedd, yn cael eu cynnwys yn y categori perthnasol o fyfyriwr cymwys. Mae rheoliad 37 yn gwneud diwygiadau i Atodlen 1 i Reoliadau 2017 sy’n ganlyniadol i ddiwygio’r diffiniad o “person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros” ac i greu categori newydd o fyfyriwr cymwys: personau y rhoddwyd caniatâd iddynt aros fel personau diwladwriaeth ac aelodau o’u teuluoedd.

Mae rheoliadau 23, 26, 27, 30, 31, 32, 33(a) a (b), 34, 35, 36 a 38 yn diwygio Rheoliadau 2017 sy’n ganlyniadol i’r diwygiadau a wneir gan reoliadau 22 a 37.

Mae crynodeb o’r diwygiadau pellach a wneir i Reoliadau 2017 wedi ei nodi isod.

Mae rheoliad 24 yn diwygio rheoliad 6 o Reoliadau 2017 fel nad yw’r cyfrifiadau o’r cyfnod cymhwystra hwyaf ym mharagraffau (8) ac (11) yn gymwys i grantiau ar gyfer dibynyddion neu fyfyrwyr anabl. Mae’r diwygiadau hefyd yn darparu bod myfyrwyr cymwys sydd wedi cwblhau cwrs llawnamser ar gyfer y Dystysgrif Addysg Uwch neu radd arferol, ac sy’n mynd ymlaen i ymgymryd ag astudiaeth bellach benodol, yn ddarostyngedig i’r cyfnod cymhwystra hwyaf a gyfrifir yn unol â pharagraff (11).

Mae rheoliad 25 yn diwygio rheoliad 13 o Reoliadau 2017 i ddarparu esemptiadau i’r gofynion bod rhaid i fyfyriwr cymwys ymgymryd â’i gwrs dysgu o bell yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs, ac ymgymryd â’r cwrs hwnnw yn y Deyrnas Unedig, er mwyn bod yn gymwys i gael cymorth at ffioedd.

Mae rheoliad 28 yn diwygio rheoliad 24 o Reoliadau 2017 i ddarparu esemptiadau i’r gofynion bod rhaid i fyfyriwr cymwys ymgymryd â’i gwrs dysgu o bell yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs, ac ymgymryd â’r cwrs hwnnw yn y Deyrnas Unedig, er mwyn bod yn gymwys i gael grant at gostau byw myfyriwr anabl.

Mae rheoliad 29 yn diwygio rheoliad 41 o Reoliadau 2017. Mae’r diwygiad hwn yn dileu paragraff (4), fel bod myfyrwyr cymwys sy’n astudio ar gyrsiau sy’n arwain at gymhwyster fel pensaer tirwedd, dylunydd tirwedd, rheolwr tirwedd, cynllunydd tref neu gynllunydd gwlad a thref yn cymhwyso i gael benthyciad at gostau byw.

Mae rheoliad 33(c) a (d) yn diwygio rheoliad 81 o Reoliadau 2017 i ddarparu esemptiadau i’r gofynion bod rhaid i fyfyriwr rhan-amser cymwys ymgymryd â’i gwrs dysgu o bell yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs, ac ymgymryd â’r cwrs hwnnw yn y Deyrnas Unedig, er mwyn bod yn gymwys i gael cymorth o dan reoliadau 85 i 88.

Mae’r Rheoliadau Ffioedd a Dyfarniadau yn darparu, o dan yr amgylchiadau a ddisgrifir yn y Rheoliadau, ei bod yn gyfreithlon i sefydliadau wahaniaethu rhwng rhai neu bob un o’r personau hynny a grybwyllir yn yr Atodlen ac unrhyw berson arall, drwy godi ffioedd uwch ar bersonau na chrybwyllir yn yr Atodlen, na’r ffioedd a godir ar bersonau a grybwyllir felly. Mae rheoliadau 40 ac 41 o’r Rheoliadau hyn yn diwygio rheoliad 5 a’r Atodlen i’r Rheoliadau Ffioedd a Dyfarniadau i gynnwys personau sydd wedi cael caniatâd i aros ar sail bywyd preifat yn y diffiniad o “person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros” ac i fewnosod categori newydd o “personau y rhoddwyd caniatâd iddynt aros fel personau diwladwriaeth ac aelodau o’u teuluoedd”.

Mae Rheoliadau’r Athrofa Brifysgol Ewropeaidd yn darparu ar gyfer cymorth i un myfyriwr cymwys sy’n dilyn cwrs addysg uwch dynodedig yn yr Athrofa Brifysgol Ewropeaidd. Mae rheoliadau 43 i 45 o’r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau i Reoliadau’r Athrofa Brifysgol Ewropeaidd i sicrhau bod personau sydd wedi cael caniatâd i aros ar sail bywyd preifat ac aelodau o’u teuluoedd wedi eu cynnwys yn y categori presennol o fyfyriwr cymwys “personau sydd â chaniatâd i ddod mewn neu i aros ac aelodau o’u teuluoedd” ac i greu categori newydd o fyfyriwr cymwys: “personau y rhoddwyd caniatâd iddynt aros fel personau diwladwriaeth ac aelodau o’u teuluoedd”.

Mae’r Rheoliadau Cyrsiau a Phersonau Cymhwysol yn rhagnodi’r cyrsiau cymhwysol a’r personau cymhwysol at ddibenion adran 5 o Ddeddf Addysg Uwch (Cymru) 2015, sy’n nodi bod rhaid i gynlluniau ffioedd a mynediad bennu terfynau ffioedd (neu ddarparu ar gyfer penderfynu ar derfynau ffioedd) mewn perthynas â chyrsiau cymhwysol bob blwyddyn academaidd. Mae rheoliadau 47 ac 48 o’r Rheoliadau hyn yn diwygio’r Rheoliadau Cyrsiau a Phersonau Cymhwysol i gynnwys cyfeiriadau at Reoliadau 2017 a Rheoliadau 2018. Mae rheoliad 49 yn diwygio’r Atodlen i’r Rheoliadau Cyrsiau a Phersonau Cymhwysol er mwyn sicrhau bod personau sydd â chaniatâd i aros ar sail bywyd preifat yn cael eu cynnwys yn y diffiniad o “person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros” ac i ychwanegu categori newydd: “personau y rhoddwyd caniatâd iddynt aros fel personau diwladwriaeth ac aelodau o’u teuluoedd”. Mae’r Atodlen honno yn rhestru’r personau hynny a gânt fod yn bersonau cymhwysol.

Mae rheoliadau 51 i 53 a rheoliadau 55 a 56 yn gwneud diwygiadau cyfatebol i’r Rheoliadau Graddau Meistr a’r Rheoliadau Graddau Doethurol yn y drefn honno.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Yr Is-adran Addysg Uwch, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources