- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
4. Yn lle rheoliad 56 rhodder—
56.—(1) Pan fo myfyriwr llawnamser yn cymhwyso i gael taliad cymorth arbennig o dan reoliad 50, cyfrifir swm y benthyciad cynhaliaeth sy’n daladwy i’r myfyriwr yn unol â pharagraff (2).
(2) Cyfrifir swm y benthyciad cynhaliaeth sy’n daladwy drwy gymhwyso’r camau a ganlyn—
Nodi swm—
(a)y grant cynhaliaeth sy’n daladwy i’r myfyriwr o dan reoliad 46, a
(b)y grant sylfaenol sy’n daladwy i’r myfyriwr o dan reoliad 45.
Nodi swm y grant sylfaenol a’r grant cynhaliaeth sydd i’w drin fel taliad cymorth arbennig o dan reoliad 50.
Nodi swm cymwys y cymorth byw i’r myfyriwr drwy gyfeirio at Dabl 8, pan fo—
(a)Colofn 1 yn pennu’r flwyddyn academaidd y mae symiau’r cymorth byw yng Ngholofn 3 yn gymwys mewn perthynas â hi;
(b)Colofn 2 yn pennu’r lleoliad y mae’r myfyriwr yn byw ynddo (gweler paragraff 3 o Atodlen 1);
(c)Colofn 3 yn pennu symiau cymwys y cymorth byw ar gyfer y cofnodion cyfatebol yng Ngholofnau 1 a 2.
Colofn 1 Blwyddyn academaidd | Colofn 2 Lleoliad y myfyriwr | Colofn 3 Swm cymwys y cymorth byw i’r myfyriwr cymorth arbennig |
---|---|---|
Sy’n dechrau ar neu ar ôl 2018 | Byw gartref | £7,650 |
Byw oddi cartref, astudio yn Llundain | £11,250 | |
Byw oddi cartref, astudio yn rhywle arall | £9,000 |
Pa un bynnag yw’r mwyaf o—
(a)y swm a nodir yng Ngham 3, neu
(b)symiau’r grant a nodir yng Ngham 1 plws isafswm y benthyciad cynhaliaeth sy’n daladwy i’r myfyriwr fel y’i pennir drwy gyfeirio at Dabl 8A,
yw uchafswm y cymorth byw sydd ar gael i’r myfyriwr.
Cyfrifo uchafswm tybiannol y benthyciad cynhaliaeth drwy ddidynnu swm y taliad cymorth arbennig a nodir yng Ngham 2 o uchafswm y cymorth byw a nodir yng Ngham 4.
Didynnu swm unrhyw grant cynhaliaeth sy’n daladwy i’r myfyriwr nad yw’n cael ei drin fel taliad cymorth arbennig o uchafswm tybiannol y benthyciad cynhaliaeth a gyfrifir yng Ngham 5.
Y canlyniad yw swm y benthyciad cynhaliaeth sy’n daladwy i’r myfyriwr.
(3) Yn Nhabl 8A—
(a)mae Colofn 1 yn pennu’r flwyddyn academaidd y mae isafsymiau’r benthyciad cynhaliaeth yng Ngholofn 3 yn gymwys mewn perthynas â hi;
(b)mae Colofn 2 yn pennu’r lleoliad y mae’r myfyriwr yn byw ynddo (gweler paragraff 3 o Atodlen 1);
(c)mae Colofn 3 yn pennu isafsymiau’r benthyciad cynhaliaeth sy’n daladwy ar gyfer y cofnodion cyfatebol yng Ngholofnau 1 a 2.
Colofn 1 Blwyddyn academaidd | Colofn 2 Lleoliad y myfyriwr | Colofn 3 Isafswm y benthyciad cynhaliaeth sy’n daladwy |
---|---|---|
Sy’n dechrau ar neu ar ôl 2018 | Byw gartref | £3,325 |
Byw oddi cartref, astudio yn Llundain | £5,125 | |
Byw oddi cartref, astudio yn rhywle arall | £4,000 |
(4) Yn y rheoliad hwn, “cymorth byw” yw’r term ar gyfer y taliad cymorth arbennig, y grant cynhaliaeth a’r benthyciad cynhaliaeth ar y cyd.”
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: