Search Legislation

Gorchymyn Deddf Rheoleiddio Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig (Cymru) 2018 (Cychwyn a Darpariaeth Drosiannol) 2018

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Enwi a dehongli

1.—(1Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Rheoleiddio Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig (Cymru) 2018 (Cychwyn a Darpariaeth Drosiannol) 2018.

(2Yn y Gorchymyn hwn—

ystyr “cronfa enillion o warediadau” (“disposal proceeds fund”) yw cronfa o dan adran 24(1) o Ddeddf 1996;

ystyr “Deddf 1996” (“the 1996 Act”) yw Deddf Tai 1996(2);

ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Rheoleiddio Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig (Cymru) 2018.

Y darpariaethau sy’n dod i rym ar 15 Mehefin 2018

2.  Y diwrnod penodedig i’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf ddod i rym yw 15 Mehefin 2018—

(a)adran 1 (trosolwg o’r Ddeddf);

(b)adran 2 (ystyr “Deddf 1996”); ac

(c)adran 18 (pŵer i wneud diwygiadau canlyniadol pellach etc.).

Y darpariaethau sy’n dod i rym ar 15 Awst 2018

3.  Daw’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf i rym ar 15 Awst 2018—

(a)adrannau 3 i 5 (landlord cymdeithasol cofrestredig yn hysbysu am newidiadau cyfansoddiadol, etc.);

(b)adrannau 6 i 9 (pwerau sy’n arferadwy mewn cysylltiad â swyddogion a rheolaeth landlord cymdeithasol cofrestredig);

(c)adran 10 (pwerau sy’n arferadwy mewn cysylltiad ag ymchwiliadau etc.);

(d)adrannau 11 a 12 (hysbysiadau gorfodi a chosbau);

(e)adrannau 13 i 15 (gwarediadau tir);

(f)adran 16 ac Atodlen 1 (cyfyngiad ar aelodaeth awdurdodau lleol o fwrdd a hawliau pleidleisio); ac

(g)adran 17 ac Atodlen 2 (mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol).

Darpariaeth drosiannol

4.—(1Nid yw adran 15 o’r Ddeddf yn cael effaith, mewn perthynas â landlord cymdeithasol cofrestredig, hyd nes y cynharaf o’r canlynol—

(a)y dyddiad y mae’r cyllid yng nghronfa enillion o warediadau’r landlord cymdeithasol cofrestredig hwnnw yn dod i ben yn llwyr; neu

(b)y dyddiad y mae’r landlord cymdeithasol cofrestredig yn hysbysu Gweinidogion Cymru nad yw’n gallu defnyddio neu ddyrannu, na pharhau i ddefnyddio neu ddyrannu, cyllid yng nghronfa enillion o warediadau’r landlord cymdeithasol cofrestredig hwnnw yn unol â phenderfyniad a wnaed gan Weinidogion Cymru o dan adran 25 o Ddeddf 1996(3); neu

(c)15 Awst 2021.

(2Er gwaethaf paragraff (1), nid yw’n ofynnol i landlord cymdeithasol cofrestredig sydd â chronfa enillion o warediadau ar 15 Awst 2018, o dan adran 24 o Ddeddf 1996, roi cyfrif am yr enillion o unrhyw warediad ar ôl y dyddiad hwnnw o fewn ei gronfa enillion o warediadau.

(3Os yw landlord cymdeithasol cofrestredig (A), o fewn y cyfnod a nodir ym mharagraff (1), yn trosglwyddo ei gronfa enillion o warediadau i landlord cymdeithasol cofrestredig arall (B), caiff rheolaeth B o’r gronfa honno ei thrin o dan baragraff (1) fel pe bai’n A.

Rebecca Evans

Y Gweinidog Tai ac Adfywio, o dan awdurdod Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus, un o Weinidogion Cymru

14 Mehefin 2018

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources