- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
(Nid ywʼr nodyn hwn yn rhan oʼr Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud o dan adran 186 o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (“y Ddeddf”).
Mae’r Ddeddf yn cyflwyno system newydd o reoleiddio gwasanaethau gofal a chymorth yng Nghymru, gan ddisodli’r un a sefydlwyd gan Ddeddf Safonau Gofal 2000 (“Deddf 2000”).
Mae Rhan 1 o’r Ddeddf yn disodli’r system gofrestru ar gyfer darparwyr gwasanaethau gofal cymdeithasol, a nodir yn Rhannau 1 a 2 o Ddeddf 2000, pan oedd sefydliadau ac asiantaethau yn cael eu cofrestru. Roedd hyn yn ei gwneud yn ofynnol cael cofrestriad ar wahân ar gyfer pob lleoliad lle yr oedd gwasanaeth yn cael ei ddarparu.
Mae’r Ddeddf yn gweithredu dull gwahanol sy’n seiliedig ar y gwasanaeth. Rhaid i ddarparwr gofrestru â Gweinidogion Cymru er mwyn darparu unrhyw wasanaeth gofal a chymorth sydd wedi ei reoleiddio o dan y Ddeddf a bydd y cofrestriad hwnnw yn cynnwys manylion pob un o’r lleoliadau y mae’r darparwr yn darparu’r gwasanaeth rheoleiddiedig ynddo.
Mae Rhan 1 o’r Ddeddf wedi ei chychwyn ar 2 Ebrill 2018 mewn perthynas â’r gwasanaethau rheoleiddiedig a ganlyn:
gwasanaeth cartref gofal;
gwasanaeth llety diogel;
gwasanaeth canolfan breswyl i deuluoedd; a
gwasanaeth cymorth cartref.
Bydd sefydliadau ac asiantaethau sy’n darparu gwasanaethau mabwysiadu a maethu, a lleoliadau i oedolion yn parhau’n ddarostyngedig i gofrestriad ac arolygiad o dan Ddeddf 2000 hyd nes y bydd Rhan 1 o’r Ddeddf wedi ei chychwyn yn llawn.
Mae rheoliad 2 ac Atodlen 1 yn gwneud diwygiadau i is-ddeddfwriaeth o ganlyniad i’r cychwyniad rhannol hwn.
Mae rheoliad 3 ac Atodlen 2 yn pennu’r is-ddeddfwriaeth sydd wedi ei dirymu drwy’r Rheoliadau hyn.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: