- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Bwyd Anifeiliaid (Safonau Diogelwch Sylfaenol) (Cymru) 2018.
(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 6 Chwefror 2018.
2.—(1) Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “awdurdod bwyd anifeiliaid” (“feed authority”) yw awdurdod a nodir yn adran 67(1A) o Ddeddf Amaethyddiaeth 1970 fel yr awdurdod sydd â’r ddyletswydd i orfodi Rhan IV o’r Ddeddf honno o fewn ei ardal neu ddosbarth yn ôl y digwydd;
mae i “bwyd anifeiliaid” yr ystyr a roddir i “feed” yn Erthygl 3 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a’r Cyngor;
ystyr “sylwedd ymbelydrol” (“radioactive substance”) yw unrhyw sylwedd sy’n cynnwys un neu ragor o radioniwclidau nad oes modd diystyru ei actifedd neu ei grynodiad actifedd o safbwynt amddiffyn rhag ymbelydredd.
(2) At ddibenion y Rheoliadau hyn mae “mewnforio” (“import”) ac “allforio” (“export”) i gael eu dehongli yn unol â’r ystyron sydd i “importation” ac “exportation” at ddibenion Ddeddf Rheoli Tollau Tramor a Chartref 1979(1).
3. Ni chaiff neb ychwanegu sylwedd ymbelydrol yn fwriadol wrth gynhyrchu bwyd anifeiliaid.
4. Ni chaiff neb fewnforio nac allforio unrhyw fwyd anifeiliaid y mae sylwedd ymbelydrol wedi ei ychwanegu ato’n fwriadol wrth gynhyrchu’r bwyd anifeiliaid hwnnw.
5. Mae unrhyw berson sy’n mynd yn groes i reoliad 3 neu reoliad 4 yn euog o drosedd ac yn agored ar euogfarn ddiannod i ddirwy neu i garchariad am gyfnod nad yw’n hwy na 3 mis, neu’r ddau ohonynt.
6. Dyletswydd awdurdod bwyd anifeiliaid o fewn ei ardal yw gorfodi’r Rheoliadau hyn.
7.—(1) Mae Rheoliadau Bwyd Anifeiliaid (Hylendid, Samplu etc. a Gorfodi) (Cymru) 2016(2) wedi eu diwygio yn unol â pharagraff (2).
(2) Yn Atodlen 1 (cyfraith bwyd anifeiliaid benodedig), ar ôl y cofnod ar gyfer “Rheoliadau Bwyd Anifeiliaid (Hylendid, Samplu etc. a Gorfodi) (Cymru) 2016”, mewnosoder—
“Rheoliadau Bwyd Anifeiliaid (Safonau Diogelwch Sylfaenol) (Cymru) 2018”.
8.—(1) Mae Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Cymru) 2009(3) wedi eu diwygio yn unol â pharagraff (2).
(2) Yn Atodlen 2 (diffiniad o gyfraith bwyd anifeiliaid berthnasol), ar ôl paragraff (dd), mewnosoder y paragraff a ganlyn—
“(e)Rheoliadau Bwyd Anifeiliaid (Safonau Diogelwch Sylfaenol) (Cymru) 2018.”
Vaughan Gething
Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
15 Ionawr 2018
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: