- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
45. Emylsiad o’r canlynol yw ceuled “X”—
(a)braster neu olew bwytadwy (neu’r ddau);
(b)siwgr;
(c)ŵy cyfan neu felynwy (neu’r ddau); a
(d)ffrwythau, mwydion ffrwythau, piwrî ffrwythau, sudd ffrwythau, echdynnyn dyfrllyd ffrwythau neu olewau naws ffrwythau neu unrhyw gyfuniad o’r rhain.
46. Er gwaethaf paragraff 45(b), caniateir i felysydd a ganiateir gael ei ddefnyddio mewn ceuled “X” naill ai’n gyfan gwbl neu’n rhannol yn lle siwgr.
47. Heblaw’r cynhwysion a bennir ym mharagraff 45(d), ni chaniateir defnyddio unrhyw ddeunydd cyflasu mewn ceuled “X” i roi blas neu arogl (neu flas ac arogl) ffrwyth.
48. Yn ogystal â’r cynhwysion a grybwyllir ym mharagraffau 45 a 46, yn ddarostyngedig i baragraff 47, caniateir i’r cynnyrch gynnwys unrhyw gynhwysion bwytadwy eraill.
49. Rhaid i swm y braster neu’r olew (neu’r ddau) a ddefnyddir am bob 1,000 gram o’r cynnyrch gorffenedig beidio â bod yn llai na 40 gram.
50. Rhaid defnyddio nid llai na 6.5 gram o solidau melynwy (p’un ai’n deillio o gynhwysyn wyau cyfan, melynwy neu’r ddau) am bob 1,000 gram o’r cynnyrch gorffenedig.
51. Rhaid i swm y ffrwythau, y mwydion ffrwythau, y piwrî ffrwythau, y sudd ffrwythau, yr echdynnyn dyfrllyd ffrwythau a’r olew naws ffrwythau fod yn ddigon i nodweddu’r cynnyrch gorffenedig.
52. Rhaid bod gan y cynnyrch gynnwys deunydd sych toddadwy o 65% neu ragor fel y’i pennir gan reffractomedr ar 20°C ac eithrio—
(a)cynnyrch lle mae siwgr wedi ei ddisodli’n gyfan gwbl neu’n rhannol gan felysydd a ganiateir; a
(b)cynnyrch y gwneir honiad yn ei gylch ei fod â llai o siwgr yn unol â’r amodau a nodir yn Rheoliad (EC) Rhif 1924/2006.
53. Mae’r Rhan hon i gael ei darllen fel pe bai “X” wedi ei disodli gan—
(a)enw math neu fathau penodol o ffrwyth yn achos cynnyrch y mae’r cynhwysion a ddefnyddiwyd wrth ei baratoi yn unol â pharagraff 45(d) yn dod o’r math neu’r mathau hynny o ffrwyth yn unig;
(b)y geiriau “ffrwythau cymysg” yn achos cynnyrch y mae’r cynhwysion a ddefnyddiwyd wrth ei baratoi yn unol â pharagraff 45(d) yn dod o fwy nag un math o ffrwyth; neu
(c)y gair “ffrwyth” wedi ei ragflaenu gan rif yn achos cynnyrch y mae’r cynhwysion a ddefnyddiwyd wrth ei baratoi yn unol â pharagraff 45(d) yn dod o’r nifer hwnnw o fathau o ffrwyth.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: