- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
4.—(1) Pan fo myfyriwr yn dod yn fyfyriwr cymwys am fod un o’r digwyddiadau a restrir yn is-baragraff (2) yn digwydd yn ystod blwyddyn academaidd, caiff y myfyriwr gymhwyso i gael benthyciad at ffioedd colegau Oxbridge yn unol â’r Atodlen hon mewn cysylltiad â’r flwyddyn academaidd honno ar yr amod i’r digwyddiad ddigwydd o fewn tri mis cyntaf y flwyddyn academaidd.
(2) Y digwyddiadau yw—
(a)bod y myfyriwr neu ei briod, ei bartner sifil neu ei riant yn cael ei gydnabod yn ffoadur neu’n dod yn berson sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros;
(b)bod gwladwriaeth yn ymaelodi â’r Undeb Ewropeaidd pan fo’r myfyriwr yn wladolyn o’r wladwriaeth honno neu’n aelod o deulu gwladolyn o’r wladwriaeth honno;
(c)bod y myfyriwr yn dod yn aelod o deulu gwladolyn UE;
(d)bod y myfyriwr yn caffael yr hawl i breswylio’n barhaol;
(e)bod y myfyriwr yn dod yn blentyn i weithiwr Twrcaidd;
(f)bod y myfyriwr yn dod yn berson a ddisgrifir ym mharagraff 4(1)(a) o Atodlen 2;
(g)bod y myfyriwr yn dod yn blentyn i wladolyn Swisaidd.
(3) Yn is-baragraff (2) mae i’r termau a ganlyn yr un ystyr ag yn Atodlen 2—
“aelod o deulu”(“family member”) (o fewn yr ystyr a roddir gan baragraff 6(5) o Atodlen 2); (within the meaning given by paragraph 6(5) of Schedule 2);
“ffoadur” (“refugee”);
“gweithiwr Twrcaidd” (“Turkish worker”);
“hawl i breswylio’n barhaol” (“right of permanent worker”);
“person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros” (“person with leave to enter or remain”;
“plentyn” (“child”);
“rhiant” (“parent”).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: