Search Legislation

Rheoliadau Gwasanaethau Maethu Awdurdodau Lleol (Cymru) 2018

Statws

This is the original version (as it was originally made).

NODYN ESBONIADOL

(Nid ywʼr nodyn hwn yn rhan oʼr Rheoliadau)

Mae adran 94A o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (“Deddf 2014”) yn darparu y caiff rheoliadau wneud darpariaeth ynghylch arfer swyddogaethau gan awdurdodau lleol a roddir iddynt gan reoliadau a wneir o dan adran 87 (rheoliadau ynghylch plant sy’n derbyn gofal) o’r Ddeddf honno.

Caiff rheoliadau a wneir o dan adran 87 o Ddeddf 2014 wneud darpariaeth bellach ynghylch plant sy’n derbyn gofal gan awdurdodau lleol, gan gynnwys rheoliadau ynghylch lleoli plant gyda rhieni maeth awdurdod lleol (adran 92 o’r Ddeddf honno).

Mae’r Rheoliadau hyn yn gosod gofynion ar ddarparwyr gwasanaethau maethu awdurdodau lleol, a ddisgrifir fel “darparwyr awdurdodau lleol” yn y Rheoliadau hyn.

Mae Rhan 1 o’r Rheoliadau hyn yn cynnwys diffiniadau o dermau penodol sy’n cael eu defnyddio yn y Rheoliadau.

Mae Rhan 2 o’r Rheoliadau hyn yn amlinellu’r gofynion cyffredinol sy’n gymwys i ddarparwyr awdurdodau lleol o ran y ffordd y darperir y gwasanaeth, gan gynnwys gofynion mewn perthynas â’r datganiad o ddiben (ac mae Atodlen 1 yn nodi’r wybodaeth sydd i’w chynnwys mewn datganiad o ddiben a lunnir gan ddarparwr awdurdod lleol), y trefniadau ar gyfer monitro a gwella a’r gofyniad i benodi rheolwr i fod yn gyfrifol am reoli’r gwasanaeth.

Mae Rhan 3 yn nodi gofynion sy’n ymwneud â darparu gwybodaeth. Mae Rhan 4 yn nodi gofynion o ran safon y gofal a’r cymorth sydd i’w darparu, diwallu anghenion iaith a chyfathrebu plentyn a thrin plant â pharch a sensitifrwydd.

Mae Rhan 5 yn ei gwneud yn ofynnol i bolisïau a gweithdrefnau fod yn eu lle mewn perthynas â diogelu a’r defnydd priodol o reolaeth ac ataliaeth. Mae’r rheoliadau yn y Rhan hon yn gosod gofynion penodol o ran y camau gweithredu sydd i’w cymryd os bydd honiad neu dystiolaeth o gamdriniaeth, er mwyn sicrhau bod plant yn ddiogel ac yn cael eu hamddiffyn rhag camdriniaeth, esgeulustod a thriniaeth amhriodol. Mae’r Rhan hon hefyd yn manylu ar bolisïau a gweithdrefnau eraill y mae rhaid iddynt fod yn eu lle, gan gynnwys y weithdrefn sydd i’w dilyn pan aiff plentyn sydd wedi ei leoli gyda rhieni maeth yn absennol heb ganiatâd, a pholisi a gweithdrefnau yn ymdrin â bwlio.

Mae Rhan 6 yn nodi gofynion i sicrhau bod plant yn cael mynediad i wasanaethau iechyd, gwasanaethau addysg a gwasanaethau eraill.

Mae Rhan 7 yn cynnwys gofynion o ran staffio, sy’n cynnwys gofynion cyffredinol o ran defnyddio niferoedd digonol o staff a gofynion penodol o ran addasrwydd unigolion sy’n gweithio yn y gwasanaeth. Mae’r gofynion hyn yn gymwys nid yn unig i gyflogeion ond hefyd i wirfoddolwyr ac i bersonau eraill sy’n gweithio yn y gwasanaeth maethu, a fyddai’n cynnwys staff asiantaeth. Mae’r gofynion addasrwydd yn cynnwys gofyniad i wybodaeth a dogfennaeth benodol fod ar gael mewn cysylltiad â phersonau sy’n gweithio mewn gwasanaethau maethu, fel y’u nodir yn Atodlen 3.

Ymhlith y gofynion eraill a gynhwysir yn Rhan 7 mae gofynion sy’n ymwneud â chefnogi a datblygu staff, darparu gwybodaeth i staff a gweithredu gweithdrefn ddisgyblu addas. I sicrhau bod cyflogeion yn adrodd am achosion o gamdriniaeth i berson priodol, mae’r rheoliadau yn y Rhan hon yn ei gwneud yn ofynnol i weithdrefn ddisgyblu’r darparwr ddarparu y byddai methu ag adrodd ynddo’i hun yn sail dros achos disgyblu. Mae’r Rhan hon hefyd yn cynnwys cyfyngiadau ar bersonau na chaniateir iddynt gael eu cyflogi gan y darparwr awdurdod lleol mewn rolau allweddol penodedig.

Mae Rhan 8 yn sicrhau bod mangreoedd, cyfleusterau a chyfarpar sydd i’w defnyddio mewn perthynas â gwasanaethau maethu yn addas ac yn ddiogel.

Mae Rhan 9 yn nodi’r gofyniad i gadw cofnodion mewn cysylltiad â gwasanaethau maethu ac mae Atodlen 2 yn nodi’r cofnodion penodol y mae rhaid eu cadw. Mae’r Rhan hon hefyd yn nodi’r rhwymedigaethau ar ddarparwr awdurdod lleol mewn perthynas ag ymdrin â chwynion a phryderon chwythu’r chwiban.

Mae Rhan 10 yn amlinellu’r cymorth a’r cynhorthwy arall sydd i’w rhoi i rieni maeth. Mae’r Rhan hon hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i ddarparwyr awdurdod lleol oruchwylio rhieni maeth a sicrhau bod rhieni maeth yn gyfarwydd â pholisïau a gweithdrefnau allweddol ac yn gweithredu yn unol â hwy.

Mae Rhan 11 yn disgrifio’r dyletswyddau y mae rhaid i’r rheolwr a gyflogir gan wasanaeth maethu’r awdurdod lleol eu cyflawni. Mae’r rhain yn cynnwys cyfrifoldebau sy’n ymwneud â goruchwylio digonolrwydd adnoddau, gwneud adroddiadau i’r darparwr awdurdod lleol, sicrhau bod systemau yn eu lle i gofnodi cwynion a sicrhau bod polisïau a gweithdrefnau yn cael eu cadw’n gyfredol.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Yr Adran Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources