Search Legislation

Rheoliadau Paneli Maethu (Sefydlu a Swyddogaethau) (Cymru) 2018

Statws

This is the original version (as it was originally made).

Offerynnau Statudol Cymru

2018 Rhif 1333 (Cy. 260)

Gofal Cymdeithasol, Cymru

Rheoliadau Paneli Maethu (Sefydlu a Swyddogaethau) (Cymru) 2018

Gwnaed

10 Rhagfyr 2018

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

11 Rhagfyr 2018

Yn dod i rym

29 Ebrill 2019

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 87, 93, 94A a 196(1) a (2) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014(1).

Enwi a chychwyn

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Paneli Maethu (Sefydlu a Swyddogaethau) (Cymru) 2018.

(2Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 29 Ebrill 2019.

Dehongli

2.  Yn y Rheoliadau hyn—

mae i “cyflogai” yr un ystyr ag “employee” yn adran 230(1) o Ddeddf Hawliau Cyflogaeth 1996(2);

ystyr “cytundeb gofal maeth” (“foster care agreement”) yw’r cytundeb ysgrifenedig sy’n cwmpasu’r materion a bennir yn Atodlen 3 yr ymrwymir iddo rhwng y darparwr gwasanaethau maethu a’r rhiant maeth;

ystyr “darparwr gwasanaethau maethu” (“fostering services provider”) yw—

(a)

darparwr gwasanaethau maethu awdurdod lleol;

(b)

darparwr gwasanaethau maethu rheoleiddiedig;

ystyr “darparwr gwasanaethau maethu awdurdod lleol” (“local authority fostering services provider”) yw’r awdurdod lleol sy’n darparu gwasanaethau maethu’r awdurdod lleol;

ystyr “darparwr gwasanaethau maethu rheoleiddiedig” (“regulated fostering services provider”) yw person sydd wedi ei gofrestru o dan adran 7 o Ddeddf 2016 i ddarparu gwasanaeth maethu;

ystyr “darparwr gwasanaethau maethu yn Lloegr” (“fostering services provider in England”) yw—

(a)

asiantaeth faethu o fewn ystyr “fostering agency” yn adran 4(4)(a) o Ddeddf Safonau Gofal 2000(3), neu

(b)

awdurdod lleol sy’n cyflawni “swyddogaethau maethu perthnasol” o fewn ystyr “relevant fostering functions” yn adran 43(3)(b)(i) o’r Ddeddf honno(4);

ystyr “Deddf 2014” (“the 2014 Act”) yw Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014;

ystyr “Deddf 2016” (“the 2016 Act”) yw Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016(5);

ystyr “gwasanaeth maethu awdurdod lleol” (“local authority fostering service”) yw unrhyw wasanaeth a ddarperir yng Nghymru gan awdurdod lleol sy’n gwneud y naill neu’r llall o’r canlynol neu sy’n cynnwys y naill neu’r llall o’r canlynol, sef lleoli plant gyda rhieni maeth neu arfer swyddogaethau mewn cysylltiad â lleoliad o’r fath, ac mae “gwasanaeth” (“service”) i’w ddehongli yn unol â hynny;

ystyr “gwasanaeth maethu rheoleiddiedig” (“regulated fostering service”) yw unrhyw wasanaeth a ddarperir yng Nghymru gan berson sydd wedi ei gofrestru o dan adran 7 o Ddeddf 2016 i ddarparu gwasanaeth maethu;

ystyr “gweithiwr cymdeithasol” (“social worker”) yw person sydd wedi ei gofrestru fel gweithiwr cymdeithasol yn y gofrestr a gynhelir gan Ofal Cymdeithasol Cymru(6) o dan adran 80 o Ddeddf 2016, yn Rhan 16 o’r gofrestr a gynhelir gan y Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal o dan erthygl 5 o Orchymyn Proffesiynau Iechyd a Gwaith Cymdeithasol 2001(7) neu mewn cofrestr gyfatebol a gynhelir o dan gyfraith yr Alban neu Ogledd Iwerddon;

ystyr “lleoliad” (“placement”) yw lleoli plentyn gyda rhiant maeth o dan adran 81(5), (6)(a) a (b) o Ddeddf 2014;

ystyr “panel maethu” (“fostering panel”) yw panel a sefydlir yn unol â rheoliad 4;

ystyr “Rheoliadau 2003” (“the 2003 Regulations”) yw Rheoliadau Gwasanaethau Maethu (Cymru) 2003(8);

ystyr “Rheoliadau 2015” (“the 2015 Regulations”) yw Rheoliadau Cynllunio Gofal, Lleoli ac Adolygu Achosion (Cymru) 2015(9);

ystyr “rhestr ganolog” (“central list”) yw rhestr a sefydlir yn unol â rheoliad 3;

mae “rhiant” (“parent”), mewn perthynas â phlentyn, yn cynnwys unrhyw berson a chanddo gyfrifoldeb rhiant dros y plentyn;

ystyr “rhiant maeth” (“foster parent”) yw person sydd wedi cael ei gymeradwyo fel rhiant maeth yn unol â’r Rheoliadau hyn.

Y rhestr ganolog

3.—(1Rhaid i’r darparwr gwasanaethau maethu gynnal rhestr o bersonau y mae’r darparwr yn ystyried eu bod yn addas i fod yn aelodau o banel maethu (“y rhestr ganolog”), gan gynnwys—

(a)un neu ragor o weithwyr cymdeithasol a chanddynt o leiaf dair blynedd o brofiad ôl-gymhwyso perthnasol, a

(b)un neu ragor o bersonau sydd wedi gweithredu fel rhiant maeth, ar yr amod nad ydynt wedi eu penodi, ac nad ydynt erioed wedi eu penodi, yn rhiant maeth gan y darparwr gwasanaethau maethu y cyfeirir ato yn y paragraff hwn.

(2Caiff person sydd wedi ei gynnwys ar y rhestr ganolog ofyn ar unrhyw adeg i’w enw gael ei ddileu o’r rhestr ganolog drwy roi mis o rybudd yn ysgrifenedig i’r darparwr gwasanaethau maethu.

(3Pan fo’r darparwr gwasanaethau maethu o’r farn bod person sydd wedi ei gynnwys ar y rhestr ganolog yn anaddas i aros ar y rhestr neu pan na all person o’r fath aros ar y rhestr, caiff y darparwr gwasanaethau maethu ddileu enw’r person hwnnw o’r rhestr drwy roi mis o rybudd yn ysgrifenedig iddo, gan nodi’r rhesymau dros y penderfyniad.

(4Yn ddarostyngedig i baragraff (5), o ran aelod o’r rhestr ganolog—

(a)caiff ddal swydd am dymor nad yw’n hwy na thair blynedd, a

(b)ni chaiff ddal swydd fel aelod o restr ganolog yr un darparwr gwasanaethau maethu am fwy na thri thymor heb gyfnod o ysbaid yn y canol.

(5At ddibenion paragraff (4)(b), ystyr “cyfnod o ysbaid yn y canol” yw cyfnod di-dor o dair blynedd o leiaf pan nad oedd yr unigolyn o dan sylw yn aelod o’r rhestr ganolog yn ystod y cyfnod cyfan hwnnw.

Paneli maethu

4.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2), rhaid i’r darparwr gwasanaethau maethu gyfansoddi un neu ragor o baneli maethu, fel y bo angen, i gyflawni swyddogaethau panel maethu o dan y Rheoliadau hyn, a rhaid iddo benodi aelodau’r paneli o blith y personau sydd ar y rhestr ganolog gan gynnwys—

(a)person, y mae rhaid iddo fod yn annibynnol ar y darparwr gwasanaethau maethu, i gadeirio’r panel (gweler paragraff (7)), a

(b)un neu ddau o bersonau a gaiff weithredu fel cadeirydd os yw’r person a benodwyd i gadeirio’r panel yn absennol neu os yw’r swydd honno yn wag (“yr is-gadeiryddion”).

(2Caniateir i banel maethu gael ei gyfansoddi ar y cyd gan unrhyw ddau neu ragor o ddarparwyr gwasanaethau maethu, ac yn yr achos hwnnw rhaid i’r aelodau gael eu penodi drwy gytundeb rhwng y darparwyr gwasanaethau maethu, ar yr amod nad yw unrhyw aelod a benodir wedi ei gymeradwyo, neu erioed wedi ei gymeradwyo, fel rhiant maeth gan y naill neu’r llall neu unrhyw un neu ragor o’r darparwyr gwasanaethau maethu sy’n cyfansoddi’r panel ar y cyd.

(3Caiff darparwr gwasanaethau maethu dalu i unrhyw aelod o banel maethu a gyfansoddir ganddo unrhyw ffi a benderfynir ganddo, a hynny’n ffi o swm rhesymol.

(4Rhaid i’r darparwr gwasanaethau maethu sicrhau bod digon o aelodau ar y panel maethu, a bod gan yr aelodau unigol rhyngddynt y profiad a’r arbenigedd sy’n angenrheidiol i gyflawni swyddogaethau’r panel yn effeithiol.

(5Caiff unrhyw aelod o banel maethu ymddiswyddo ar unrhyw adeg drwy roi mis o rybudd yn ysgrifenedig i’r darparwr gwasanaethau maethu a’i penododd.

(6Pan fo darparwr gwasanaethau maethu o’r farn bod unrhyw aelod o’r panel maethu a benodwyd ganddo yn anaddas i barhau fel aelod o’r panel neu na all person o’r fath barhau fel aelod o’r panel, caiff derfynu penodiad yr aelod hwnnw ar unrhyw adeg drwy roi rhybudd yn ysgrifenedig iddo, gan nodi’r rhesymau dros y penderfyniad.

(7At ddibenion y rheoliad hwn a rheoliad 6, nid yw person yn annibynnol ar y darparwr gwasanaethau maethu—

(a)os yw wedi ei gymeradwyo ar hyn o bryd gan y darparwr gwasanaethau maethu i fod yn rhiant maeth,

(b)os yw’n perthyn i un o gyflogeion y darparwr gwasanaethau maethu, neu i unrhyw berson sy’n ymwneud â rheoli’r gwasanaeth hwnnw,

(c)yn achos gwasanaeth maethu awdurdod lleol, os yw’r person yn aelod etholedig o’r awdurdod lleol hwnnw, neu wedi ei gyflogi gan yr awdurdod lleol hwnnw at ddibenion y gwasanaeth maethu neu at ddibenion unrhyw un neu ragor o swyddogaethau’r awdurdod lleol hwnnw sy’n ymwneud ag amddiffyn neu leoli plant,

(d)yn achos gwasanaeth maethu rheoleiddiedig, os yw’r person wedi ei gyflogi gan y gwasanaeth hwnnw neu yn un o ymddiriedolwyr y gwasanaeth hwnnw,

(e)at ddibenion is-baragraff (b), mae person (“person A”) yn perthyn i berson arall (“person B”) os yw person A—

(i)yn aelod o aelwyd person B, neu’n briod â pherson B neu’n bartner sifil i berson B;

(ii)yn fab, merch, mam, tad, chwaer neu frawd person B, neu

(iii)yn fab, merch, mam, tad, chwaer neu frawd y person y mae person B yn briod ag ef neu y mae person B wedi cofrestru partneriaeth sifil ag ef.

Swyddogaethau paneli maethu

5.—(1Swyddogaethau’r panel maethu mewn cysylltiad ag achosion a atgyfeirir iddo gan y darparwr gwasanaethau maethu yw—

(a)ystyried pob cais am gymeradwyaeth ac argymell pa un a yw person yn addas i weithredu fel rhiant maeth ai peidio,

(b)pan fo’n argymell bod cais yn cael ei gymeradwyo, argymell ar ba delerau y rhoddir y gymeradwyaeth,

(c)argymell pa un a yw person yn parhau i fod yn addas i weithredu fel rhiant maeth ai peidio, a pha un a yw telerau cymeradwyaeth y person yn parhau i fod yn briodol ai peidio—

(i)ar adeg cynnal yr adolygiad cyntaf yn unol â rheoliad 9(2), a

(ii)ar adeg cynnal unrhyw adolygiad arall pan ofynnir iddo wneud hynny gan y darparwr gwasanaethau maethu yn unol â rheoliad 9(5), a

(d)ystyried unrhyw achos a atgyfeirir iddo o dan reoliad 8(9) neu 9(10).

(2Wrth ystyried pa argymhelliad i’w wneud o dan baragraff (1), o ran y panel maethu—

(a)rhaid iddo bwyso a mesur ac ystyried yr holl wybodaeth sy’n cael ei throsglwyddo iddo yn unol â rheoliad 7, 8 neu 9 (yn ôl y digwydd),

(b)caiff ofyn i’r darparwr gwasanaethau maethu gael unrhyw wybodaeth berthnasol arall y mae’r panel maethu yn ystyried ei bod yn angenrheidiol neu ddarparu unrhyw gynhorthwy arall y mae’r panel maethu yn gofyn amdano, ac

(c)caiff gael unrhyw gyngor cyfreithiol neu feddygol y mae’n ystyried ei fod yn angenrheidiol mewn perthynas â’r achos.

(3Mewn perthynas ag achos person y mae adroddiad wedi ei lunio mewn cysylltiad ag ef yn unol â rheoliad 7(6), rhaid i’r panel maethu naill ai—

(a)gofyn i’r darparwr gwasanaethau maethu lunio adroddiad ysgrifenedig pellach, sy’n cwmpasu’r holl faterion a nodir yn rheoliad 7(5)(c), neu

(b)argymell nad yw’r person yn addas i fod yn rhiant maeth.

(4Rhaid i’r darparwr gwasanaethau maethu gael unrhyw wybodaeth y mae’r panel maethu yn ystyried ei bod yn angenrheidiol ac anfon yr wybodaeth honno i’r panel, a darparu unrhyw gynhorthwy arall y mae’r panel maethu yn gofyn amdano, i’r graddau y bo’n rhesymol ymarferol.

(5Rhaid i’r panel maethu hefyd—

(a)cynghori ar y gweithdrefnau y cynhelir adolygiadau oddi tanynt gan y darparwr gwasanaethau maethu yn unol â rheoliad 9, a monitro eu heffeithiolrwydd o bryd i’w gilydd,

(b)goruchwylio’r ffordd y cynhelir asesiadau gan y darparwr gwasanaethau maethu, ac

(c)rhoi cyngor a chynnig argymhellion ar unrhyw faterion eraill neu achosion unigol y mae’r darparwr gwasanaethau maethu yn eu hatgyfeirio iddo.

(6Rhaid i’r panel maethu hefyd wneud cofnod ysgrifenedig o’i drafodion a’r rhesymau dros ei argymhellion.

(7Yn y rheoliad hwn, ystyr “argymell” yw argymell i’r darparwr gwasanaethau maethu.

Cyfarfodydd paneli maethu

6.—(1Ni chaniateir i unrhyw fusnes gael ei gynnal gan banel maethu oni bai bod o leiaf y canlynol yn cyfarfod fel panel—

(a)naill ai’r person a benodwyd i gadeirio’r panel neu un o’r is-gadeiryddion,

(b)un aelod sy’n weithiwr cymdeithasol a chanddo o leiaf dair blynedd o brofiad ôl-gymhwyso perthnasol, ac

(c)tri, neu yn achos panel maethu a gyfansoddir ar y cyd o dan reoliad 4(2), bedwar aelod arall, a

phan na fo’r cadeirydd yn bresennol ac na fo’r is-gadeirydd sy’n bresennol yn annibynnol ar y darparwr gwasanaethau maethu, rhaid i o leiaf un o aelodau eraill y panel fod yn annibynnol ar y darparwr gwasanaethau maethu.

(2Rhaid i banel maethu wneud cofnod ysgrifenedig o’i drafodion a’r rhesymau dros ei argymhellion.

Asesu darpar rieni maeth

7.—(1Pan fo person yn gwneud cais i ddod yn rhiant maeth a bod y darparwr gwasanaethau maethu yn penderfynu asesu addasrwydd y person hwnnw i ddod yn rhiant maeth, rhaid cynnal unrhyw asesiad o’r fath yn unol â’r rheoliad hwn.

(2Yn ddarostyngedig i baragraff (3), o ran y darparwr gwasanaethau maethu—

(a)rhaid iddo, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol, gael yr wybodaeth a bennir yn Rhan 1 o Atodlen 1 sy’n ymwneud â’r person ac aelodau eraill o aelwyd y person a’i deulu,

(b)pan fo’r person wedi bod yn rhiant maeth o fewn y tair blynedd flaenorol ac wedi ei gymeradwyo felly gan ddarparwr gwasanaethau maethu arall neu gan ddarparwr gwasanaethau maethu yn Lloegr, rhaid iddo ofyn am eirda ysgrifenedig oddi wrth y darparwr gwasanaethau maethu arall hwnnw,

(c)ac eithrio mewn achos pan fo is-baragraff (b) yn gymwys a bod y darparwr gwasanaethau maethu arall yn darparu’r geirda y gofynnir amdano, rhaid iddo gyf-weld ag o leiaf ddau unigolyn sydd wedi eu henwebu gan y person i ddarparu geirda personol ar ei gyfer, a llunio adroddiadau ysgrifenedig am y cyfweliadau,

(d)ac eithrio pan fo’r darparwr gwasanaethau maethu yn awdurdod lleol a bod y person yn byw yn ardal yr awdurdod hwnnw, rhaid iddo ymgynghori â’r awdurdod lleol y mae’r person yn byw yn ei ardal, ac ystyried safbwyntiau’r awdurdod hwnnw,

(e)pan fo’r person wedi ei gymeradwyo yn rhiant maeth gan ddarparwr gwasanaethau maethu arall a’i fod yn cydsynio i hynny, caiff ofyn am gael mynediad i’r cofnodion perthnasol a luniwyd gan y darparwr gwasanaethau maethu arall hwnnw mewn perthynas â’r person, ac

(f)pan fo’r person wedi ei gymeradwyo yn ddarpar fabwysiadydd gan asiantaeth fabwysiadu a’i fod yn cydsynio i hynny, caiff ofyn am gael mynediad i’r cofnodion perthnasol a luniwyd gan yr asiantaeth fabwysiadu honno mewn perthynas â’r person hwnnw.

(3Pan fo—

(a)y darparwr gwasanaethau maethu, ar ôl rhoi sylw i unrhyw wybodaeth a geir o dan baragraff (2), yn penderfynu nad yw’r person yn addas i ddod yn rhiant maeth, neu

(b)y person yn anaddas i ddod yn rhiant maeth yn rhinwedd paragraffau (8) i (10), ac nid yw paragraff (11) yn gymwys,

rhaid i’r darparwr gwasanaethau maethu hysbysu’r person yn ysgrifenedig nad yw’n addas i fod yn rhiant maeth, gan roi’r rhesymau dros y penderfyniad hwnnw.

(4O ran yr hysbysiad ym mharagraff (3)—

(a)nid yw’n benderfyniad y caiff y person wneud cais i Weinidogion Cymru am adolygiad gan banel adolygu annibynnol mewn cysylltiad ag ef,

(b)caniateir iddo gael ei roi er gwaethaf nad yw’r darparwr gwasanaethau maethu wedi cael yr holl wybodaeth a nodir ym mharagraff (2), a

(c)ni chaniateir iddo gael ei roi fwy na 10 niwrnod gwaith ar ôl i’r darparwr gwasanaethau maethu gael yr holl wybodaeth a nodir ym mharagraff (2).

(5Pan fo’r darparwr gwasanaethau maethu wedi cael yr holl wybodaeth a nodir ym mharagraff (2) ac na fo wedi rhoi’r hysbysiad ym mharagraff (3) o fewn 10 niwrnod gwaith i wneud hynny, rhaid i’r darparwr gwasanaethau maethu, yn ddarostyngedig i baragraff (6)—

(a)cael yr wybodaeth a bennir yn Rhan 2 o Atodlen 1 sy’n ymwneud â’r person ac aelodau eraill o aelwyd y person ac unrhyw wybodaeth arall yr ystyrir ei bod yn berthnasol,

(b)ystyried a yw’r person yn addas i fod yn rhiant maeth ac a yw aelwyd y person yn addas ar gyfer unrhyw blentyn,

(c)llunio adroddiad ysgrifenedig ar y person sy’n cynnwys y materion a ganlyn—

(i)yr wybodaeth sy’n ofynnol gan Atodlen 1 ac unrhyw wybodaeth arall y mae’r darparwr gwasanaethau maethu yn ystyried ei bod yn berthnasol,

(ii)asesiad y darparwr gwasanaethau maethu o addasrwydd y person i fod yn rhiant maeth; a

(iii)cynigion y darparwr gwasanaethau maethu ynghylch unrhyw delerau cymeradwyo, a

(d)hysbysu’r person bod yr achos i’w atgyfeirio i’r panel maethu, a rhoi copi i’r person o’r adroddiad a lunnir o dan is-baragraff (c) gan wahodd y person i anfon unrhyw sylwadau yn ysgrifenedig i’r darparwr gwasanaethau maethu o fewn 10 niwrnod gwaith sy’n dechrau â’r dyddiad yr anfonir yr hysbysiad.

(6Pan fo’r darparwr gwasanaethau maethu, ar ôl rhoi sylw i unrhyw wybodaeth a geir o dan baragraff (5)(a), yn penderfynu nad yw’r person yn debygol o gael ei ystyried yn addas i ddod yn rhiant maeth, caiff fwrw ymlaen i lunio adroddiad ysgrifenedig o dan baragraff (5)(c) er gwaethaf nad yw o bosibl wedi cael yr holl wybodaeth am y person sy’n ofynnol gan baragraff (5)(c).

(7Ar ddiwedd y cyfnod o 10 niwrnod gwaith y cyfeirir ato ym mharagraff (5)(d) (neu pan geir sylwadau’r person, pa un bynnag sydd gynharaf), rhaid i’r darparwr gwasanaethau maethu anfon—

(a)yr adroddiad a lunnir o dan baragraff (5)(c),

(b)sylwadau’r person ar yr adroddiad hwnnw, os oes sylwadau, ac

(c)unrhyw wybodaeth berthnasol arall a geir gan y darparwr gwasanaethau maethu,

i’r panel maethu.

(8Yn ddarostyngedig i baragraff (11), nid yw’r person yn addas i fod yn rhiant maeth os yw’r person, neu unrhyw aelod o aelwyd y person sy’n 18 oed neu drosodd—

(a)wedi ei euogfarnu o drosedd benodedig a gyflawnwyd pan oedd yn 18 oed neu drosodd, neu

(b)wedi cael rhybuddiad gan gwnstabl mewn cysylltiad ag unrhyw drosedd o’r fath.

(9Ym mharagraff (8), ystyr “trosedd benodedig” (“specified offence”) yw—

(a)trosedd yn erbyn plentyn,

(b)trosedd a bennir yn Rhan 1 o Atodlen 2,

(c)trosedd yn groes i adran 170 o Ddeddf Rheoli Tollau Tramor a Chartref 1979(10) mewn perthynas â nwyddau y gwaherddir eu mewnforio o dan adran 42 o Ddeddf Cydgrynhoi Tollau 1876(11)(gwaharddiadau a chyfyngiadau) pan oedd y nwyddau gwaharddedig yn cynnwys ffotograffau anweddus o blant o dan 16 oed,

(d)unrhyw drosedd arall sy’n ymwneud ag anaf corfforol i blentyn, ac eithrio trosedd o ymosod cyffredin neu guro, ac

mae i’r ymadrodd “trosedd yn erbyn plentyn” yr ystyr a roddir i “offence against a child” gan adran 26(1) o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a Gwasanaethau Llysoedd 2000(12), er gwaethaf bod y ddarpariaeth honno wedi ei diddymu(13), ac eithrio nad yw’n cynnwys trosedd yn groes i adran 9 o Ddeddf Troseddau Rhywiol 2003(14) (gweithgaredd rhywiol gyda phlentyn) mewn achos pan oedd y troseddwr o dan 20 oed ar adeg cyflawni’r drosedd a bod y plentyn yn 13 oed neu drosodd.

(10Yn ddarostyngedig i baragraff (11), nid yw person yn addas i fod yn rhiant maeth os yw’r person, neu unrhyw aelod o aelwyd y person sy’n 18 oed neu drosodd—

(a)wedi ei euogfarnu o drosedd a bennir ym mharagraff 11 o Ran 2 o Atodlen 2 a gyflawnwyd pan oedd yn 18 oed neu drosodd, neu wedi cael rhybuddiad gan gwnstabl mewn cysylltiad ag unrhyw drosedd o’r fath, neu

(b)yn dod o fewn paragraff 12 neu 13 o Ran 2 o Atodlen 2,

er gwaethaf bod y troseddau statudol yn Rhan 2 o Atodlen 2 wedi eu diddymu.

(11Caiff y darparwr gwasanaethau maethu ystyried bod person sy’n dod o fewn paragraff (8) neu (10) yn addas i fod yn rhiant maeth mewn perthynas â phlentyn (neu blant) penodol, os yw’r darparwr gwasanaethau maethu wedi ei fodloni bod hynny’n ofynnol er lles y plentyn hwnnw (neu’r plant hynny), a naill ai—

(a)bod y person, neu aelod o’i aelwyd, yn berthynas i’r plentyn, neu

(b)bod y person eisoes yn gweithredu fel rhiant maeth i’r plentyn.

(12Yn y rheoliad hwn, rheoliad 9 ac Atodlen 1, mae person sy’n byw yn aelwyd y person o dan drefniadau rhiant a phlentyn yn aelod o aelwyd y person.

Cymeradwyo rhieni maeth

8.—(1Ni chaiff darparwr gwasanaethau maethu gymeradwyo person sydd wedi ei gymeradwyo’n rhiant maeth gan ddarparwr gwasanaethau maethu arall neu gan ddarparwr gwasanaethau maethu yn Lloegr ac nad yw’r gymeradwyaeth honno wedi ei therfynu.

(2Ni chaiff darparwr gwasanaethau maethu gymeradwyo person yn rhiant maeth oni bai—

(a)bod y darparwr wedi cwblhau ei asesiad o addasrwydd y person, a

(b)bod panel maethu’r darparwr wedi ystyried y cais.

(3Rhaid i ddarparwr gwasanaethau maethu, wrth benderfynu pa un ai i gymeradwyo person yn rhiant maeth ac o ran telerau unrhyw gymeradwyaeth, ystyried argymhelliad y panel maethu.

(4Ni chaiff unrhyw aelod o’r panel maethu gymryd rhan mewn unrhyw benderfyniad a wneir gan ddarparwr gwasanaethau maethu o dan baragraff (3).

(5Os yw darparwr gwasanaethau maethu yn penderfynu cymeradwyo person yn rhiant maeth, rhaid i’r darparwr—

(a)rhoi hysbysiad ysgrifenedig i’r person sy’n pennu telerau’r gymeradwyaeth i fod yn rhiant maeth, er enghraifft, a yw’r gymeradwyaeth wedi ei rhoi mewn cysylltiad â phlentyn neu blant penodol a enwir, neu nifer penodol o blant ac ystod oedran benodol o blant, neu leoliadau o unrhyw fath penodol, neu o dan unrhyw amgylchiadau penodol, a

(b)ymrwymo i gytundeb gofal maeth â’r person.

(6Os yw darparwr gwasanaethau maethu yn ystyried nad yw person yn addas i weithredu fel rhiant maeth, rhaid i’r darparwr, yn ddarostyngedig i baragraff (7)—

(a)rhoi hysbysiad ysgrifenedig i’r person o’r cynnig i beidio â chymeradwyo’r person fel un sy’n addas i weithredu fel rhiant maeth (“penderfyniad”), ynghyd â’r rhesymau dros y cynnig hwnnw a chopi o argymhelliad y panel maethu, a

(b)hysbysu’r person y caiff, o fewn 28 o ddiwrnodau i ddyddiad yr hysbysiad—

(i)cyflwyno unrhyw sylwadau ysgrifenedig y mae’r person yn dymuno eu cyflwyno i’r darparwr gwasanaethau maethu; neu

(ii)gwneud cais i Weinidogion Cymru am adolygiad o’r penderfyniad gan banel adolygu annibynnol.

(7Nid yw paragraff (6)(b)(ii) yn gymwys mewn achos pan fo’r darparwr gwasanaethau maethu yn penderfynu nad yw o’r farn mwyach fod person yn addas i weithredu neu i barhau i weithredu, yn ôl y digwydd, fel rhiant maeth o dan reoliad 7(11).

(8Os, o fewn y cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff (6)(b)—

(a)nad yw’r darparwr gwasanaethau maethu yn cael unrhyw sylwadau, a

(b)nad yw’r person yn gwneud cais i Weinidogion Cymru am adolygiad gan banel adolygu annibynnol o’r penderfyniad,

caiff y darparwr gwasanaethau maethu fwrw ymlaen i wneud ei benderfyniad.

(9Os yw’r darparwr gwasanaethau maethu yn cael unrhyw sylwadau ysgrifenedig o fewn y cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff (6)(b), rhaid i’r darparwr—

(a)atgyfeirio’r achos i’r panel maethu i’w ystyried ymhellach, a

(b)gwneud penderfyniad, gan ystyried unrhyw argymhelliad newydd a wneir gan y panel maethu.

(10Os yw’r person, o fewn y cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff (6)(b), yn gwneud cais i Weinidogion Cymru am adolygiad gan banel adolygu annibynnol o’r penderfyniad, rhaid i’r darparwr gwasanaethau maethu wneud penderfyniad gan ystyried argymhelliad y panel maethu ac argymhelliad y panel adolygu annibynnol.

(11Cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl gwneud y penderfyniad y cyfeirir ato ym mharagraff (8), (9)(b) neu (10) yn ôl y digwydd, rhaid i’r darparwr gwasanaethau maethu roi hysbysiad ysgrifenedig i’r person ac—

(a)os cymeradwyo’r person i fod yn rhiant maeth yw’r penderfyniad, gydymffurfio â pharagraff (5) mewn perthynas â’r person, neu

(b)os peidio â chymeradwyo’r person yw’r penderfyniad, ddarparu rhesymau ysgrifenedig dros ei benderfyniad.

(12Mewn achos pan fo panel adolygu annibynnol wedi gwneud argymhelliad, rhaid i’r darparwr gwasanaethau maethu anfon copi o’r hysbysiad y cyfeirir ato ym mharagraff (11) at Weinidogion Cymru.

Adolygu a therfynu cymeradwyaeth

9.—(1Rhaid i’r darparwr gwasanaethau maethu adolygu cymeradwyaeth pob rhiant maeth yn unol â’r rheoliad hwn.

(2Rhaid cynnal adolygiad o fewn blwyddyn ar ôl cael y gymeradwyaeth fan bellaf, ac ar ôl hynny pa bryd bynnag y mae’r darparwr gwasanaethau maethu yn ystyried ei bod yn angenrheidiol, ond o leiaf unwaith y flwyddyn.

(3Wrth gynnal adolygiad, rhaid i’r darparwr gwasanaethau maethu—

(a)gwneud unrhyw ymholiadau a chael unrhyw wybodaeth y mae’n ystyried eu bod yn angenrheidiol er mwyn adolygu a yw’r rhiant maeth yn parhau i fod yn addas i weithredu fel rhiant maeth ac a yw aelwyd y rhiant maeth yn parhau i fod yn aelwyd addas,

(b)ceisio ac ystyried safbwyntiau—

(i)y rhiant maeth;

(ii)(yn ddarostyngedig i oedran y plentyn a’i ddealltwriaeth) unrhyw blentyn sydd wedi ei leoli gyda’r rhiant maeth, a

(iii)yn achos darparwr gwasanaethau maethu rheoleiddiedig, unrhyw awdurdod lleol sydd wedi lleoli plentyn gyda’r rhiant maeth yn y flwyddyn flaenorol.

(4Ar ddiwedd yr adolygiad rhaid i’r darparwr gwasanaethau maethu lunio adroddiad ysgrifenedig sy’n nodi—

(a)a yw’r rhiant maeth yn parhau i fod yn addas i weithredu fel rhiant maeth ac a yw aelwyd y rhiant maeth yn parhau i fod yn addas, a

(b)a yw telerau cymeradwyaeth y rhiant maeth yn parhau i fod yn briodol.

(5Rhaid i’r darparwr gwasanaethau maethu, ar adeg yr adolygiad cyntaf o dan y rheoliad hwn, atgyfeirio ei adroddiad i’r panel maethu er mwyn iddo ei ystyried, a chaiff wneud hynny ar adeg unrhyw adolygiad dilynol.

(6Os yw’r darparwr gwasanaethau maethu yn penderfynu, ar ôl ystyried unrhyw argymhelliad a wneir gan y panel maethu, fod y rhiant maeth ac aelwyd y rhiant maeth yn parhau i fod yn addas a bod telerau cymeradwyaeth y rhiant maeth yn parhau i fod yn briodol, rhaid i’r darparwr roi hysbysiad ysgrifenedig i’r rhiant maeth o’r penderfyniad hwnnw.

(7Os nad yw’r darparwr gwasanaethau maethu, wrth ystyried unrhyw argymhelliad a wneir gan y panel maethu, wedi ei fodloni mwyach fod y rhiant maeth ac aelwyd y rhiant maeth yn parhau i fod yn addas, neu fod telerau’r gymeradwyaeth yn briodol, rhaid i’r darparwr (yn ddarostyngedig i baragraff (9))—

(a)rhoi hysbysiad ysgrifenedig i’r rhiant maeth o’r cynnig i derfynu neu, yn ôl y digwydd, ddiwygio telerau cymeradwyaeth y rhiant maeth (“penderfyniad”), ynghyd â’r rhesymau dros y cynnig hwnnw a chopi o unrhyw argymhelliad a wneir gan y panel maethu, a

(b)hysbysu’r rhiant maeth y caiff, o fewn 28 o ddiwrnodau i ddyddiad yr hysbysiad—

(i)cyflwyno unrhyw sylwadau ysgrifenedig y mae’r rhiant maeth yn dymuno eu cyflwyno i’r darparwr gwasanaethau maethu, neu

(ii)gwneud cais i Weinidogion Cymru am adolygiad o’r penderfyniad gan banel adolygu annibynnol.

(8Nid yw paragraff (7)(b)(ii) yn gymwys i achos pan fo’r darparwr gwasanaethau maethu yn penderfynu nad yw o’r farn mwyach fod person yn addas i weithredu neu i barhau i weithredu, yn ôl y digwydd, fel rhiant maeth o dan reoliad 7(11).

(9Os, o fewn y cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff (7)(b)—

(a)nad yw’r darparwr gwasanaethau maethu yn cael unrhyw sylwadau, a

(b)nad yw’r rhiant maeth yn gwneud cais i Weinidogion Cymru am adolygiad o’r penderfyniad gan banel adolygu annibynnol,

caiff y darparwr gwasanaethau maethu fwrw ymlaen i wneud ei benderfyniad.

(10Os yw’r darparwr gwasanaethau maethu yn cael unrhyw sylwadau ysgrifenedig o fewn y cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff (7)(b), rhaid i’r darparwr—

(a)atgyfeirio’r achos i’r panel maethu er mwyn iddo ei ystyried ymhellach, a

(b)gwneud penderfyniad, gan ystyried unrhyw argymhelliad a wneir gan y panel maethu.

(11Os yw’r rhiant maeth yn gwneud cais, o fewn y cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff (7)(b), i Weinidogion Cymru am adolygiad o’r penderfyniad gan banel adolygu annibynnol, rhaid i’r darparwr gwasanaethau maethu wneud ei benderfyniad gan ystyried unrhyw argymhellion a wneir gan y panel maethu ac argymhelliad y panel adolygu annibynnol.

(12Cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl gwneud y penderfyniad y cyfeirir ato ym mharagraff (9), (10)(b) neu (11), rhaid i’r darparwr gwasanaethau maethu roi hysbysiad ysgrifenedig i’r rhiant maeth sy’n datgan, yn ôl y digwydd—

(a)bod y rhiant maeth ac aelwyd y rhiant maeth yn parhau i fod yn addas, a bod telerau’r gymeradwyaeth yn parhau i fod yn briodol,

(b)bod cymeradwyaeth y rhiant maeth wedi ei therfynu o ddyddiad penodedig, a’r rhesymau dros ei therfynu, neu

(c)telerau diwygiedig y gymeradwyaeth a’r rhesymau dros ei diwygio.

(13Caiff rhiant maeth roi hysbysiad ysgrifenedig i’r darparwr gwasanaethau maethu ar unrhyw adeg sy’n nodi nad yw’n dymuno parhau i weithredu fel rhiant maeth mwyach, ac ar hynny mae cymeradwyaeth y rhiant maeth wedi ei therfynu gydag effaith o 28 o ddiwrnodau i’r dyddiad y mae’r darparwr gwasanaethau maethu yn cael yr hysbysiad.

(14Rhaid i gopi o unrhyw hysbysiad a roddir o dan y rheoliad hwn gael ei anfon i’r awdurdod lleol ar gyfer unrhyw blentyn sydd wedi ei leoli gyda’r rhiant maeth (oni bai mai’r awdurdod lleol yw’r darparwr gwasanaethau maethu hefyd).

(15Mewn achos pan fo panel adolygu annibynnol wedi gwneud argymhelliad, rhaid i’r darparwr gwasanaethau maethu anfon copi o’r hysbysiad y cyfeirir ato ym mharagraff (13) at Weinidogion Cymru.

Gwybodaeth sydd i’w hanfon i’r panel adolygu annibynnol

10.—(1Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo’r darparwr gwasanaethau maethu yn cael hysbysiad oddi wrth Weinidogion Cymru bod person wedi gwneud cais am adolygiad o benderfyniad gan banel adolygu annibynnol.

(2Rhaid i’r darparwr gwasanaethau maethu, o fewn 10 niwrnod gwaith i gael yr hysbysiad y cyfeirir ato ym mharagraff (1), anfon y dogfennau a’r wybodaeth a bennir ym mharagraff (3) at Weinidogion Cymru.

(3Mae’r dogfennau a’r wybodaeth a ganlyn wedi eu pennu at ddibenion paragraff (2)—

(a)copi o unrhyw adroddiad a lunnir ar gyfer y panel maethu, ac unrhyw ddogfennau eraill a atgyfeirir i’r panel maethu, at ddibenion rheoliad 7, 8 neu 9 yn ôl y digwydd,

(b)unrhyw wybodaeth berthnasol mewn perthynas â’r person a gafwyd gan y darparwr gwasanaethau maethu ar ôl y dyddiad y lluniwyd yr adroddiad neu yr atgyfeiriwyd y dogfennau i’r panel maethu, ac

(c)copi o’r hysbysiad ac o unrhyw ddogfennau eraill a anfonir yn unol â rheoliad 8(6)(a) neu 9(7)(a).

Cofnodion achos sy’n ymwneud â rhieni maeth ac eraill

11.—(1Rhaid i ddarparwr gwasanaethau maethu gynnal cofnod achos ar gyfer pob rhiant maeth sydd wedi ei gymeradwyo gan y darparwr a rhaid iddo gynnwys copïau o’r dogfennau a bennir ym mharagraff (2) a’r wybodaeth a bennir ym mharagraff (3).

(2Y dogfennau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) yw, yn ôl y digwydd—

(a)yr adroddiad a lunnir o dan reoliad 7(5)(c) ac unrhyw adroddiadau eraill a gyflwynir i’r panel maethu,

(b)yr hysbysiad o gymeradwyaeth a roddir o dan reoliad 8(5)(a),

(c)unrhyw adroddiad ar adolygiad o gymeradwyaeth a lunnir o dan reoliad 9(4)(a),

(d)unrhyw hysbysiad a roddir o dan reoliad 9(12),

(e)y cytundeb gofal maeth sy’n nodi’r materion a’r rhwymedigaethau a restrir yn Atodlen 3, ac

(f)unrhyw argymhellion a wneir gan y panel maethu.

(3Yr wybodaeth y cyfeirir ati ym mharagraff (1) yw, yn ôl y digwydd—

(a)cofnod o bob lleoliad gyda’r rhiant maeth gan gynnwys enw, oedran a rhyw pob plentyn sydd wedi ei leoli, dyddiad dechrau a therfynu pob lleoliad ac amgylchiadau’r terfyniad,

(b)yr wybodaeth a gaiff y darparwr gwasanaethau maethu mewn perthynas ag asesu a chymeradwyo’r rhiant maeth ac mewn perthynas ag unrhyw adolygiad o’r gymeradwyaeth neu ei therfynu.

(4Rhaid i’r darparwr gwasanaethau maethu lunio cofnod ar gyfer pob person nad yw’n ei gymeradwyo’n rhiant maeth, neu y mae ei gais wedi ei dynnu’n ôl cyn ei gymeradwyo, a rhaid iddo gynnwys, mewn perthynas â’r person—

(a)yr wybodaeth a geir mewn cysylltiad â’r asesiad,

(b)unrhyw adroddiad a gyflwynir i’r panel maethu ac unrhyw argymhelliad a wneir gan y panel maethu, ac

(c)unrhyw hysbysiad a roddir o dan reoliad 8.

(5Rhaid i ddarparwr gwasanaethau maethu awdurdod lleol hefyd gynnal cofnod achos ar gyfer pob person y mae plentyn wedi ei leoli gydag ef o dan reoliad 26 o Reoliadau 2015 (cymeradwyo dros dro berthynas, cyfaill neu berson arall sydd â chysylltiad â phlentyn) neu o dan reoliad 28 o’r Rheoliadau hynny (cymeradwyo dros dro ddarpar fabwysiadydd penodol fel rhiant maeth) a rhaid iddo gynnwys mewn perthynas â’r person hwnnw—

(a)cofnod mewn perthynas â’r lleoliad, gan gynnwys enw, oedran a rhyw pob plentyn sydd wedi ei leoli, dyddiad dechrau’r lleoliad ac, os yw’r lleoliad wedi ei derfynu, dyddiad ac amgylchiadau’r terfyniad, a

(b)yr wybodaeth a geir mewn perthynas â’r ymholiadau a wneir o dan reoliad 26(2) neu reoliad 28 (fel y bo’n briodol) o Reoliadau 2015.

Rhestr o rieni maeth

12.  Rhaid i’r darparwr gwasanaethau maethu gynnal rhestr o rieni maeth a chofnodi ynddi y manylion a ganlyn mewn perthynas â phob rhiant maeth—

(a)enw, cyfeiriad, dyddiad geni a rhyw pob rhiant maeth ac, yn achos gwasanaeth maethu awdurdod lleol, enw, cyfeiriad, dyddiad geni a rhyw pob person y mae wedi lleoli plentyn gydag ef o dan reoliad 26 neu reoliad 28 o Reoliadau 2015,

(b)dyddiad y gymeradwyaeth a dyddiad pob adolygiad o gymeradwyaeth (yn ôl y digwydd), ac

(c)telerau cyfredol y gymeradwyaeth (os oes rhai).

Cadw cofnodion a’u cyfrinachedd

13.—(1Rhaid cadw’r cofnodion a lunnir mewn perthynas â rhiant maeth o dan reoliad 11(1), ac unrhyw gofnod sy’n ymwneud â’r person hwnnw ar y rhestr a gynhelir o dan reoliad 12, am o leiaf ddeng mlynedd o’r dyddiad y caiff cymeradwyaeth y person hwnnw ei therfynu.

(2Rhaid cadw’r cofnodion a lunnir gan awdurdod lleol o dan reoliad 11(5) mewn perthynas â pherson y mae plentyn wedi ei leoli gydag ef o dan reoliad 26 neu reoliad 28 o Reoliadau 2015, ac unrhyw gofnod sy’n ymwneud â pherson o’r fath ar y rhestr a gynhelir o dan reoliad 12, am o leiaf ddeng mlynedd o’r dyddiad y caiff y lleoliad ei derfynu.

(3Rhaid cadw’r cofnodion a lunnir o dan reoliad 11(4) am o leiaf dair blynedd o’r adeg y caiff y cais i ddod yn rhiant maeth ei wrthod neu ei dynnu’n ôl, yn ôl y digwydd.

(4Rhaid i unrhyw gofnodion a gynhelir yn unol â rheoliad 11 neu 12 gael eu cadw’n ddiogel ac ni chaniateir iddynt gael eu datgelu i unrhyw berson ac eithrio—

(a)yn unol ag unrhyw ddarpariaeth mewn statud, neu a wneir o dan neu yn rhinwedd statud, yr awdurdodir mynediad i gofnodion o’r fath oddi tani, neu

(b)yn unol ag unrhyw orchymyn llys sy’n awdurdodi mynediad i gofnodion o’r fath.

Darpariaethau trosiannol

14.—(1Bernir bod unrhyw aelod o banel maethu a sefydlir o dan reoliad 24 o Reoliadau 2003 a arhosodd yn aelod o’r panel yn union cyn i’r Rheoliadau hyn ddod i rym, o’r dyddiad y daw’r Rheoliadau hyn i rym, wedi ei benodi’n aelod o banel a gyfansoddir o dan y Rheoliadau hyn am gyfnod sy’n cyfateb i weddill tymor y swydd y penodwyd y person amdano o dan Reoliadau 2003.

(2Pan fo panel maethu a sefydlir o dan reoliad 24 o Reoliadau 2003 yn dechrau ystyried achos a atgyfeirir iddo o dan adran 26(1) o’r Rheoliadau hynny ond yn gohirio gwneud argymhelliad tan ar ôl y dyddiad y daw’r Rheoliadau hyn i rym, caiff y panel maethu barhau i ystyried yr achos hwnnw o dan Reoliadau 2003 fel pe na bai’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud.

(3Mewn achos pan oedd darparwr gwasanaeth maethu, fel y’i diffinnir yn Rheoliadau 2003(15), cyn i’r Rheoliadau hyn ddod i rym—

(a)wedi dechrau, ond heb gwblhau, ei asesiad o ddarpar riant maeth o dan reoliad 27 o Reoliadau 2003,

(b)wedi dechrau ystyried, ond heb wneud, ei benderfyniad i gymeradwyo person fel rhiant maeth o dan reoliad 28 o Reoliadau 2003,

(c)wedi dechrau, ond heb gwblhau, ei adolygiad o gymeradwyaeth i riant maeth o dan reoliad 29 o Reoliadau 2003,

rhaid i’r darparwr gwasanaeth maethu gwblhau’r swyddogaethau hynny fel pe na bai’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud.

Huw Irranca-Davies

Y Gweinidog Plant, Pobl Hŷn a Gofal Cymdeithasol o dan awdurdod Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

10 Rhagfyr 2018

Rheoliad 7(2), (5) a (12)

ATODLEN 1Gwybodaeth am ddarpar rieni maeth ac aelodau eraill oʼu haelwyd aʼu teulu

RHAN 1

1.  Enw llawn, cyfeiriad a dyddiad geni.

2.  Manylion iechyd (wedi eu hategu gan adroddiad meddygol).

3.  Manylion unrhyw aelodau eraill oʼr aelwyd syʼn oedolion.

4.  Manylion y plant yn y teulu, pa un a ydynt yn aelodau oʼr aelwyd ai peidio, ac unrhyw blant eraill yn yr aelwyd.

5.  Manylion eu llety.

6.  Canlyniad unrhyw archiad neu gais a wnaed ganddynt neu gan unrhyw aelod arall oʼu haelwyd i faethu neu fabwysiadu plant, neu i gofrestruʼn warchodwr plant neuʼn ddarparwr gofal dydd o dan Ran 2 o Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010(16), gan gynnwys manylion unrhyw gymeradwyaeth flaenorol syʼn ymwneud â hwy neu ag unrhyw aelod arall oʼr aelwyd, neu unrhyw wrthodiad blaenorol i gymeradwyaeth oʼr fath.

7.  Os ywʼr person, yn y tair blynedd flaenorol, wedi bod yn rhiant maeth a gymeradwywyd gan ddarparwr gwasanaethau maethu arall neu ddarparwr gwasanaethau maethu yn Lloegr, enw a chyfeiriad y darparwr gwasanaethau maethu hwnnw.

8.  Enwau a chyfeiriadau dau berson a fydd yn darparu geirda personol ar gyfer y person.

9.  Mewn perthynas âʼr person ac unrhyw aelod arall o aelwyd y person syʼn 18 oed neu drosodd, tystysgrif cofnod troseddol manwl a ddyroddir o dan adran 113B o Ddeddf yr Heddlu 1997(17) syʼn cynnwys gwybodaeth addasrwydd syʼn ymwneud â phlant (o fewn ystyr “suitability information relating to children” yn adran 113BA(2) oʼr Ddeddf honno).

10.  Manylion priodas, partneriaeth sifil neu berthynas debyg gyfredol ac unrhyw briodas, partneriaeth sifil neu berthynas debyg flaenorol.

RHAN 2

11.  Manylion personoliaeth.

12.  Argyhoeddiad crefyddol, a gallu i ofalu am blentyn o unrhyw argyhoeddiad crefyddol penodol.

13.  Tarddiad hiliol, cefndir diwylliannol ac ieithyddol a gallu i ofalu am blentyn o unrhyw darddiad hiliol neu gefndir diwylliannol neu ieithyddol penodol.

14.  Gallu i ddarparu cymorth i blentyn mewn perthynas âʼi gyfeiriadedd rhywiol aʼi hunaniaeth o ran rhywedd.

15.  Cyflogaeth neu alwedigaeth yn y gorffennol aʼr presennol, safon byw, gweithgareddau hamdden a diddordebau.

16.  Profiad blaenorol (os o gwbl) o ofalu am eu plant eu hunain a phlant eraill.

17.  Sgiliau, cymhwysedd a photensial syʼn berthnasol iʼw gallu i ofaluʼn effeithiol am blentyn sydd wedi ei leoli gyda hwy.

Rheoliad 7(9) a (10)

ATODLEN 2Troseddau a bennir at ddibenion rheoliad 7(9) a (10)

RHAN 1

Troseddau yng Nghymru a Lloegr

1.  Unrhyw un oʼr troseddau a ganlyn yn erbyn oedolyn—

(a)trosedd treisio o dan adran 1 o Ddeddf Troseddau Rhywiol 2003 (18),

(b)trosedd ymosod drwy dreiddio o dan adran 2 oʼr Ddeddf honno,

(c)trosedd achosi i berson gymryd rhan mewn gweithgaredd rhywiol heb gydsyniad o dan adran 4 oʼr Ddeddf honno, os oedd y gweithgaredd yn dod o fewn is-adran (4) oʼr adran honno,

(d)trosedd gweithgaredd rhywiol gyda pherson ag anhwylder meddwl syʼn llesteirio dewis o dan adran 30 oʼr Ddeddf honno, os oedd y cyffwrdd yn dod o fewn is-adran (3) oʼr adran honno,

(e)trosedd achosi neu ysgogi person ag anhwylder meddwl syʼn llesteirio dewis i gymryd rhan mewn gweithgaredd rhywiol o dan adran 31 oʼr Ddeddf honno, os oedd y gweithgaredd a achoswyd neu a ysgogwyd yn dod o fewn is-adran (3) oʼr adran honno,

(f)trosedd cymell, bygwth neu ddichell i gaffael gweithgaredd rhywiol gyda pherson ag anhwylder meddwl o dan adran 34 oʼr Ddeddf honno, os oedd y cyffwrdd o dan sylw yn dod o fewn is-adran (2) oʼr adran honno, ac

(g)trosedd achosi i berson ag anhwylder meddwl gymryd rhan neu gytuno i gymryd rhan mewn gweithgaredd rhywiol drwy gymell, bygwth neu ddichell o dan adran 35 oʼr Ddeddf honno, os oedd y gweithgaredd yn dod o fewn is-adran (2) oʼr adran honno.

Troseddau yn yr Alban

2.  Trosedd o dan adran 1 (treisio) a 18 (treisio plentyn ifanc) o Ddeddf Troseddau Rhywiol (Yr Alban) 2009(19).

3.  Trosedd a bennir yn Atodlen 1 i Ddeddf Gweithdrefn Droseddol (Yr Alban) 1995(20), ac eithrio mewn achos pan oedd y troseddwr o dan 20 oed ar adeg cyflawniʼr drosedd.

4.  Trosedd plagiwm (lladrata plentyn o dan oedran aeddfedrwydd).

5.  Trosedd o dan adran 52 neu 52A o Ddeddf Llywodraeth Ddinesig (Yr Alban) 1982(21) (ffotograffau anweddus o blant).

6.  Trosedd o dan adran 3 o Ddeddf Troseddau Rhywiol (Diwygio) 2000(22) (camfanteisio ar ymddiriedaeth).

Troseddau yng Ngogledd Iwerddon

7.  Trosedd o dan Erthygl 5 (treisio) ac Erthygl 12 (treisio plentyn o dan 13 oed) o Orchymyn Troseddau Rhywiol (Gogledd Iwerddon) 2008(23).

8.  Trosedd a bennir yn Atodlen 1 i Ddeddf Plant a Phobl Ifanc (Gogledd Iwerddon) 1968(24), ac eithrio yn yr achos pan oedd y troseddwr o dan 20 oed ar adeg cyflawniʼr drosedd.

9.  Trosedd o dan Erthygl 3 o Orchymyn Amddiffyn Plant (Gogledd Iwerddon) 1978(25) (ffotograffau anweddus).

10.  Trosedd yn groes i Erthygl 15 o Orchymyn Cyfiawnder Troseddol (Tystiolaeth, etc) (Gogledd Iwerddon) 1988(26) (meddu ar ffotograffau anweddus o blant).

RHAN 2

11.—(1Trosedd o dan unrhyw un neu ragor oʼr adrannau a ganlyn o Ddeddf Troseddau Rhywiol 1956(27)

(a)adran 1 (treisio),

(b)adran 5 (cyfathrach â merch o dan 13 oed),

(c)yn ddarostyngedig i baragraff 14, adran 6 (cyfathrach â merch rhwng 13 ac 16 oed),

(d)adran 19 neu 20 (herwgydio merch o dan 18 neu 16 oed),

(e)adran 25 neu 26 (caniatáu i ferch o dan 13 oed, neu rhwng 13 ac 16 oed, ddefnyddio mangre i gael cyfathrach), ac

(f)adran 28 (achosi neu annog puteinio merch o dan 16 oed, cyfathrach â hi neu ymosodiad anweddus arni).

(2Trosedd o dan adran 1 o Ddeddf Anwedduster gyda Phlant 1960(28) (ymddygiad anweddus tuag at blentyn ifanc).

(3Trosedd o dan adran 54 o Ddeddf Cyfraith Trosedd 1977(29) (ysgogi merch o dan 16 oed i gyflawni llosgach).

(4Trosedd o dan adran 3 o Ddeddf Troseddau Rhywiol (Diwygio) 2000(30) (camfanteisio ar ymddiriedaeth).

12.  Daw person o fewn y paragraff hwn os yw wedi ei euogfarnu o unrhyw un neu ragor oʼr troseddau a ganlyn yn erbyn plentyn a gyflawnwyd pan oedd yn 18 oed neu drosodd neu os yw wedi cael rhybuddiad gan gwnstabl mewn cysylltiad ag unrhyw drosedd oʼr fath—

(a)trosedd o dan adran 2 neu 3 o Ddeddf Troseddau Rhywiol 1956 (caffael menyw drwy fygwth neu haeru anwir),

(b)trosedd o dan adran 4 oʼr Ddeddf honno (rhoi cyffuriau i gael neu hwyluso cyfathrach),

(c)trosedd o dan adran 14 neu 15 oʼr Ddeddf honno (ymosod anweddus),

(d)trosedd o dan adran 16 oʼr Ddeddf honno (ymosod gan fwriadu cyflawni sodomiaeth),

(e)trosedd o dan adran 17 oʼr Ddeddf honno (herwgydio menyw drwy rym neu oherwydd ei heiddo), ac

(f)trosedd o dan adran 24 oʼr Ddeddf honno (cadw menyw mewn puteindy neu mewn mangre arall).

13.  Daw person o fewn y paragraff hwn os yw wedi ei euogfarnu o unrhyw un neu ragor oʼr troseddau a ganlyn a gyflawnwyd pan oedd yn 18 oed neu drosodd neu os yw wedi cael rhybuddiad gan gwnstabl mewn cysylltiad ag unrhyw drosedd oʼr fath—

(a)trosedd o dan adran 7 o Ddeddf Troseddau Rhywiol 1956 (cyfathrach â pherson diffygiol) drwy gael cyfathrach rywiol â phlentyn,

(b)trosedd o dan adran 9 oʼr Ddeddf honno (caffael person diffygiol) drwy gaffael plentyn i gael cyfathrach rywiol,

(c)trosedd o dan adran 10 oʼr Ddeddf honno (llosgach gan ddyn) drwy gael cyfathrach rywiol â phlentyn,

(d)trosedd o dan adran 11 oʼr Ddeddf honno (llosgach gan fenyw) drwy ganiatáu i blentyn gael cyfathrach rywiol â hi,

(e)yn ddarostyngedig i baragraff 14, trosedd o dan adran 12 oʼr Ddeddf honno drwy gyflawni sodomiaeth â phlentyn o dan 16 oed,

(f)yn ddarostyngedig i baragraff 14, trosedd o dan adran 13 oʼr Ddeddf honno drwy gyflawni gweithred o anwedduster difrifol â phlentyn,

(g)trosedd o dan adran 21 oʼr Ddeddf honno (herwgydio person diffygiol oddi wrth riant neu warcheidwad) drwy gymryd plentyn o feddiant ei riant neu ei warcheidwad,

(h)trosedd o dan adran 22 oʼr Ddeddf honno (achosi puteinio menywod) mewn perthynas â phlentyn,

(i)trosedd o dan adran 23 oʼr Ddeddf honno (caffael merch o dan 21 oed) drwy gaffael plentyn i gael cyfathrach rywiol â thrydydd person,

(j)trosedd o dan adran 27 oʼr Ddeddf honno (caniatáu i berson diffygiol ddefnyddio mangre ar gyfer cyfathrach) drwy gymell neu ganiatáu i blentyn droi at fangre neu fod mewn mangre at ddiben cael cyfathrach rywiol,

(k)trosedd o dan adran 29 oʼr Ddeddf honno (achosi neu annog puteinio person diffygiol) drwy achosi neu annog puteinio plentyn,

(l)trosedd o dan adran 30 oʼr Ddeddf honno (dyn yn byw ar enillion puteindra) mewn achos pan foʼr butain yn blentyn,

(m)trosedd o dan adran 31 oʼr Ddeddf honno (menyw yn arfer rheolaeth dros butain) mewn achos pan foʼr butain yn blentyn,

(n)trosedd o dan adran 128 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1959(31) (cyfathrach rywiol â chleifion), er gwaethaf bod y ddarpariaeth wedi ei diddymu, drwy gael cyfathrach rywiol â phlentyn,

(o)trosedd o dan adran 4 o Ddeddf Troseddau Rhywiol 1967(32) (caffael eraill i gyflawni gweithredoedd cyfunrhywiol) (er gwaethaf bod y ddarpariaeth wedi ei diddymu) drwy—

(i)caffael plentyn i gyflawni gweithred o sodomiaeth ag unrhyw berson, neu

(ii)caffael unrhyw berson i gyflawni gweithred o sodomiaeth â phlentyn,

(p)trosedd o dan adran 5 oʼr Ddeddf honno (byw ar enillion puteindra gwryw) drwy fyw yn gyfan gwbl neuʼn rhannol ar enillion puteindra plentyn, a

(q)trosedd o dan adran 9(1)(a) o Ddeddf Dwyn 1968(33) (bwrgleriaeth), drwy fynd i adeilad neu ran o adeilad gan fwriadu treisio plentyn.

14.  Nid yw paragraffau 11(1)(c) a 13(e) ac (f) yn cynnwys troseddau mewn achos pan oedd y troseddwr o dan 20 oed ar adeg cyflawni’r drosedd.

Rheoliadau 2 ac 11(2)(e)

ATODLEN 3Materion a rhwymedigaethau mewn cytundebau gofal maeth

1.  Materion iʼw cofnodi—

(a)telerau cymeradwyaeth y rhiant maeth,

(b)y cymorth aʼr hyfforddiant sydd iʼw rhoi iʼr rhiant maeth,

(c)y weithdrefn ar gyfer adolygu cymeradwyaeth rhiant maeth,

(d)y weithdrefn mewn cysylltiad â lleoli plant,

(e)y trefniadau ar gyfer bodloni unrhyw atebolrwyddau cyfreithiol y rhiant maeth syʼn codi oherwydd lleoliad,

(f)y weithdrefn sydd ar gael i rieni maeth ar gyfer cyflwyno cwynion a sylwadau.

2.  Rhwymedigaethauʼr rhiant maeth—

(a)gofalu am unrhyw blentyn sydd wedi ei leoli gydag ef fel pe baiʼr plentyn yn aelod o deuluʼr rhiant maeth a hybu lles y plentyn hwnnw gan roi sylw iʼr cynlluniau hirdymor a byrdymor ar gyfer y plentyn,

(b)rhoi hysbysiad ysgrifenedig iʼr darparwr gwasanaethau maethu yn ddi-oed, gyda manylion llawn, am—

(i)unrhyw fwriad i newid cyfeiriad y rhiant maeth,

(ii)unrhyw newid yn y personau syʼn ffurfioʼr aelwyd,

(iii)unrhyw newid arall yn amgylchiadau personol y rhiant maeth ac unrhyw ddigwyddiad arall syʼn effeithio naill ai ar ei allu i ofalu am unrhyw blentyn sydd wedi ei leoli neu ar addasrwydd yr aelwyd, a

(iv)unrhyw archiad neu gais i fabwysiadu plant, neu i gofrestru ar gyfer gwarchod plant neu ofal dydd o dan Ran 2 o Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010,

(c)peidio â chosbiʼn gorfforol unrhyw blentyn sydd wedi ei leoli gydaʼr rhiant maeth,

(d)sicrhau bod unrhyw wybodaeth syʼn ymwneud â phlentyn sydd wedi ei leoli gydaʼr rhiant maeth, â theuluʼr plentyn neu ag unrhyw berson arall, ac sydd wedi ei rhoi iddo yn gyfrinachol mewn cysylltiad â lleoliad, yn cael ei chadwʼn gyfrinachol ac nad ywʼn cael ei datgelu i unrhyw berson heb gydsyniad y darparwr gwasanaethau maethu,

(e)darparu gofal a chymorth i blentyn sydd wedi ei leoli gydaʼr rhiant maeth yn unol â chynllun gofal a chymorth y plentyn ac mewn ffordd syʼn cynnal, yn amddiffyn ac yn hybu diogelwch a llesiant y plentyn,

(f)cynnal perthynas bersonol a phroffesiynol dda â phlentyn sydd wedi ei leoli gydaʼr rhiant maeth,

(g)peidio ag amddifadu unrhyw blentyn sydd wedi ei leoli gydaʼr rhiant maeth o ryddid heb awdurdod cyfreithlon,

(h)hybu cyswllt rhwng plentyn sydd wedi ei leoli gyda rhiant maeth a rhieni, perthnasau a ffrindiauʼr plentyn, yn unol â chynllun gofal a chymorth y plentyn ac unrhyw orchymyn llys syʼn ymwneud â chyswllt,

(i)cydymffurfio â pholisïau a gweithdrefnauʼr darparwr gwasanaethau maethu,

(j)hybu iechyd a datblygiad plentyn sydd wedi ei leoli gyda rhiant maeth,

(k)sicrhau bod y mangreoedd, y cyfleusterau aʼr cyfarpar a ddefnyddir gan rieni maeth—

(i)yn addas ac yn ddiogel i’r diben y bwriedir iddynt gael eu defnyddio ato,

(ii)yn cael eu defnyddio mewn ffordd ddiogel,

(iii)yn cael eu cynnal aʼu cadwʼn briodol, ac

(iv)yn cael eu cadwʼn lân yn unol â safon sy’n briodol i’r diben y maent yn cael eu defnyddio ato,

(l)cydweithredu fel y boʼn rhesymol ofynnol â Gweinidogion Cymru ac yn benodol ganiatáu i berson sydd wedi ei awdurdodi gan Weinidogion Cymru gyf-weld âʼr rhiant maeth ac ymweld â chartref y rhiant maeth ar unrhyw adeg resymol,

(m)hysbysuʼr darparwr gwasanaethau maethu yn rheolaidd am gynnydd y plentyn aʼi hysbysu cyn gynted ag y boʼn rhesymol ymarferol am unrhyw ddigwyddiadau arwyddocaol syʼn effeithio ar y plentyn.

NODYN ESBONIADOL

(Nid ywʼr nodyn hwn yn rhan oʼr Rheoliadau)

Mae adran 94A o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (“Deddf 2014”) yn darparu y caiff rheoliadau wneud darpariaeth ynghylch arfer swyddogaethau gan awdurdodau lleol a roddir iddynt gan adran 87 (rheoliadau ynghylch plant sy’n derbyn gofal) o’r Ddeddf honno. Caiff rheoliadau a wneir o dan adran 87 o Ddeddf 2014 wneud darpariaeth bellach ynghylch plant sy’n derbyn gofal gan awdurdodau lleol, gan gynnwys rheoliadau sy’n darparu ar gyfer cymeradwyo rhieni maeth awdurdodau lleol gan ddarparwyr gwasanaethau maethu awdurdodau lleol neu bersonau penodedig eraill (adran 93).

Cyflwynodd Rhan 1 o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (“Deddf 2016”) gysyniad newydd o “gwasanaeth rheoleiddiedig” sydd wedi ei ddiffinio yn adran 2 o’r Ddeddf honno. Mae adran 2(1)(e) o Ddeddf 2016 yn darparu bod gwasanaeth maethu yn wasanaeth rheoleiddiedig, sydd wedi ei ddiffinio ym mharagraff 5 o Atodlen 1 i’r Ddeddf honno i olygu unrhyw wasanaeth a ddarperir yng Nghymru gan berson ac eithrio awdurdod lleol sy’n gwneud y naill neu’r llall o’r canlynol neu sy’n cynnwys y naill neu’r llall o’r canlynol, sef lleoli plant gyda rhieni maeth neu arfer swyddogaethau mewn cysylltiad â lleoliad o’r fath, ac y cyfeirir ato yn y Rheoliadau hyn fel “gwasanaeth maethu rheoleiddiedig”.

Mae’r Rheoliadau hyn yn pennu darparwyr gwasanaethau maethu rheoleiddiedig fel personau penodedig a gaiff gymeradwyo rhieni maeth awdurdodau lleol at ddibenion adran 93(1)(a) o Ddeddf 2014.

Mae’r Rheoliadau hyn yn gosod gofynion mewn perthynas â sefydlu paneli maethu a’u swyddogaethau ar ddarparwyr gwasanaethau maethu awdurdodau lleol ac ar ddarparwyr gwasanaethau maethu rheoleiddiedig, y cyfeirir atynt gyda’i gilydd fel “darparwyr gwasanaethau maethu”, a hynny yn lle’r gofynion a nodir yn Rhan 4 o Reoliadau Gwasanaethau Maethu (Cymru) 2003 (O.S. 2003/237 (Cy. 35)).

Mae rheoliad 3 yn gwneud darpariaeth ar gyfer sefydlu rhestr ganolog o bobl yr ystyrir eu bod yn addas i eistedd ar banel maethu, y caniateir i aelodau panel maethu gael eu dewis ohoni o dan reoliad 4.

Mae rheoliad 5 yn nodi swyddogaethau paneli maethu, yn benodol, i ystyried ceisiadau ar gyfer cymeradwyo rhieni maeth a gwneud argymhellion o ran a yw person yn addas i weithredu fel rhiant maeth. Mae paneli maethu hefyd yn gwneud argymhellion o ran a yw person yn parhau i fod yn addas i weithredu fel rhiant maeth pryd bynnag y cynhelir adolygiad o dan reoliad 9.

Mae rheoliad 6 yn rhagnodi’r gofynion presenoldeb sylfaenol ar gyfer cyfarfodydd paneli maethu, ac yn ei gwneud yn ofynnol i bob panel wneud cofnod ysgrifenedig o’i drafodion a’r rhesymau dros yr argymhellion a wneir.

Mae rheoliad 7 yn nodi’r gofynion ar gyfer asesu darpar rieni maeth. O dan reoliad 7(3), caiff y darparwr gwasanaethau maethu hysbysu person nad yw’n addas i ddod yn rhiant maeth. Os na roddir hysbysiad o’r fath, rhaid i’r darparwr gwasanaethau maethu barhau i asesu addasrwydd y person i fod yn rhiant maeth o dan reoliad 7(5).

Mae rheoliad 8 yn ymdrin â chymeradwyo person, neu beidio â chymeradwyo person, i fod yn rhiant maeth, ac yn nodi’r broses sydd i’w dilyn pan fo’r darparwr gwasanaethau maethu yn ystyried bod person yn anaddas. Mae rheoliad 9 yn darparu bod gan berson sy’n cael gwybod ei fod yn annhebygol o gael ei gymeradwyo yr hawl i (a) cyflwyno sylwadau i’r darparwr gwasanaethau maethu neu (b) cael adolygiad o’i achos gan y panel adolygu annibynnol. Mae rheoliad 10 yn rhestru’r wybodaeth y mae rhaid i’r darparwr gwasanaethau maethu ei hanfon i’r panel adolygu annibynnol.

Rhaid i’r darparwr gwasanaethau maethu gynnal cofnodion achos mewn perthynas â phob rhiant maeth (rheoliad 11) a rhestr o bob rhiant maeth y mae wedi ei gymeradwyo ac nad yw wedi ei gymeradwyo (rheoliad 12). Mae rheoliad 13 yn nodi’r cyfnodau cadw ar gyfer y cofnodion y mae rhaid eu cadw, ac yn ei gwneud yn ofynnol i’r cofnodion gael eu storio’n ddiogel.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Yr Adran Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.

(4)

Mae adran 43(3)(b)(i) o Ddeddf Safonau Gofal 2000 yn diffinio “relevant fostering functions” mewn perthynas ag awdurdod lleol fel swyddogaethau o dan adran 22C o Ddeddf Plant 1989 (p. 41) mewn cysylltiad â lleoliadau gyda rhieni maeth awdurdodau lleol neu reoliadau a wneir o dan baragraff 12E(a), (b), (d) neu (e) neu 12F o Atodlen 2 i’r Ddeddf honno.

(6)

Gweler adran 67(3) o Ddeddf 2016 am y diffiniad o Ofal Cymdeithasol Cymru.

(10)

1979 p. 2.

(11)

1876 p. 36. Diwygiwyd adran 42 gan Ran 9 o Atodlen 1 i Ddeddf Cyfraith Statud (Diddymiadau) 1993 (p. 50), a pharagraff 1 o Atodlen 2 i Ddeddf Cyfraith Statud (Diddymiadau) 2008 (p. 12) a chan ddarpariaethau eraill nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(13)

Gweler Atodlen 10 i Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006 (p. 47).

(15)

Gweler y diffiniad o “darparydd gwasanaeth maethu” yn rheoliad 2(1) o Reoliadau 2003.

(20)

1995 p. 46. Diwygiwyd Atodlen 1 gan baragraff 2(8)(a) a (b) o Atodlen 5 i Ddeddf Troseddau Rhywiol (Yr Alban) 2009, adrannau 7(1) ac 8(2) o Ddeddf Gwahardd Anffurfio Organau Cenhedlu Benywod (Yr Alban) 2005 (dsa 8), paragraff 2 o Atodlen 1 i Ddeddf Amddiffyn Plant ac Atal Troseddau Rhywiol (Yr Alban) 2005 (dsa 9) a chan adran 41(2) o Ddeddf Trwyddedu Cyfiawnder Troseddol (Yr Alban) 2010 (dsa 13).

(21)

1982 p. 45. Diwygiwyd adran 52 gan adran 84(6) o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a Threfn Gyhoeddus 1994 (p. 33) (“Deddf 1994”) a pharagraff 17 o Atodlen 9 iddi, paragraff 44(3) o Atodlen 4 i Ddeddf Gweithdrefn Droseddol (Darpariaethau Canlyniadol) (Yr Alban) 1995 (p. 40) a pharagraff 89 o Atodlen 15 i Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 1988 (p. 33) (“Deddf 1988”). Mewnosodwyd adran 52A gan adran 161 o Ddeddf 1988 ac feʼi diwygiwyd gan adran 84(7) o Ddeddf 1994.

(22)

2000 p. 44. Diwygiwyd adran 3 gan baragraff 62 o Atodlen 28 i Ddeddf Partneriaeth Sifil 2004 (p. 33) ac feʼi diddymwyd gan Atodlen 6 i Ddeddf Troseddau Rhywiol (Yr Alban) 2009 (nad yw mewn grym eto).

(23)

O.S. 2008/1769 (G.I. 2) (“Gorchymyn 2008”).

(24)

1968 p. 34 (G.I.). Diwygiwyd Atodlen 1 gan baragraff 7 o Atodlen 10 i Ddeddf Trais Domestig, Troseddu a Dioddefwyr 2004 (p. 28), Erthygl 7 o Orchymyn Herwgydio Plant (Gogledd Iwerddon) 1985 (G.I. 17), paragraff 54(b) o Atodlen 9 i Orchymyn Plant (Gogledd Iwerddon) 1995 (G.I. 17), paragraff 6(a), (b) ac (c) o Atodlen 1 i Orchymyn Cyfiawnder Troseddol (Gogledd Iwerddon) 2003 (G.I. 13), paragraff 18(3) o Atodlen 6 i Ddeddf Troseddau Rhywiol 2003 (p. 42), paragraff 12(4) o Atodlen 1 i Orchymyn 2008 a pharagraff 57 o Atodlen 21 i Ddeddf Crwneriaid a Chyfiawnder 2009 (p. 25).

(25)

O.S. 1978/1047 (G.I. 17). Diwygiwyd Erthygl 3 gan adran 84 o Ddeddf 1994 ac Erthygl 42(4) o Orchymyn 2008.

(26)

O.S. 1988/1847 (G.I. 17). Diwygiwyd Erthygl 15 gan adran 41(4) o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a Gwasanaethau Llysoedd 2000 (p. 43), adran 84(11) o Ddeddf 1994, paragraff 25 o Atodlen 26 i Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a Mewnfudo 2008 ac Erthygl 42(7) o Orchymyn 2008.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources