Search Legislation

Gorchymyn Iechyd Planhigion (Cymru) 2018

Statws

This is the original version (as it was originally made).

Erthygl 39(3)

ATODLEN 15Mesurau arbennig ar gyfer rheoli Pydredd cylch tatws

Dehongli

1.  Yn yr Atodlen hon—

ystyr “blwyddyn dyfu gyntaf” (“first growing year”), yn achos mesurau sydd i’w cymryd mewn perthynas â man cynhyrchu halogedig, yw’r flwyddyn dyfu gyntaf yn dilyn y flwyddyn dyfu pryd y dynodir y man cynhyrchu yn halogedig at ddibenion Erthygl 5(1)(a) o Gyfarwyddeb 93/85/EEC;

ystyr “deunydd sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau” (“susceptible material”) yw cloron neu blanhigion Solanum tuberosum L;

ystyr “gwrthrych” (“object”) yw unrhyw beiriant, cerbyd, llestr, storfa neu wrthrych arall, gan gynnwys deunydd pecynnu;

ystyr “halogedig” (“contaminated”) yw wedi ei ddynodi’n halogedig gan arolygydd at ddibenion Erthygl 5(1)(a) o Gyfarwyddeb 93/85/EEC;

ystyr “halogedig o bosibl” (“possibly contaminated”) yw wedi ei bennu’n halogedig o bosibl gan arolygydd at ddibenion Erthygl 5(1)(b) o Gyfarwyddeb 93/85/EEC;

ystyr “hysbysiad” (“notice”) yw hysbysiad o dan erthygl 32;

ystyr “tatws hadyd ardystiedig” (“certified seed potatoes”) yw tatws hadyd cyn-sylfaenol, tatws hadyd sylfaenol neu datws hadyd ardystiedig fel y’u diffinir gan reoliad 2(1) o’r Rheoliadau Tatws Hadyd.

Deunydd sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau neu wrthrychau sy’n halogedig neu’n halogedig o bosibl â Phydredd cylch tatws

2.  Ni chaiff unrhyw berson blannu yn fwriadol, neu beri neu ganiatáu yn fwriadol i gael eu plannu—

(a)unrhyw ddeunydd halogedig sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau; neu

(b)unrhyw ddeunydd halogedig o bosibl sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau.

3.  Caiff hysbysiad ei gwneud yn ofynnol—

(a)bod deunydd halogedig sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau yn cael ei waredu drwy ei ddinistrio neu drwy unrhyw fesur arall sy’n cydymffurfio â phwynt 1 o Atodiad IV i Gyfarwyddeb 93/85/EEC;

(b)bod deunydd sy’n halogedig o bosibl sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau yn cael ei ddefnyddio neu ei waredu yn unol â phwynt 2 o Atodiad IV i Gyfarwyddeb 93/85/EEC;

(c)bod gwrthrych sy’n halogedig neu wrthrych sy’n halogedig o bosibl yn cael ei—

(i)gwaredu drwy ei ddinistrio; neu

(ii)glanhau a’i ddiheintio er mwyn sicrhau nad oes unrhyw risg adnabyddadwy o ledaenu Pydredd cylch tatws.

4.  Ni chaniateir trin unrhyw beth a lanheir ac a ddiheintir yn unol â pharagraff 3(c)(ii) yn halogedig mwyach at ddibenion Cyfarwyddeb 93/85/EEC.

Mesurau y caniateir eu gwneud yn ofynnol mewn perthynas â man cynhyrchu halogedig

5.  Caiff arolygydd gyflwyno’r hysbysiadau a ganlyn mewn perthynas â man cynhyrchu halogedig—

(a)yn achos cae halogedig, hysbysiad sy’n cynnwys y set gyntaf o fesurau dileu neu hysbysiad sy’n cynnwys yr ail set o fesurau dileu;

(b)yn achos cae nad yw’n halogedig, hysbysiad sy’n cynnwys y drydedd set o fesurau dileu.

6.  Y set gyntaf o fesurau dileu yw—

(a)y mesurau sydd i’w cymryd yn y cae o’r dyddiad y ceir yr hysbysiad ac am o leiaf dair blynedd dyfu o ddechrau’r flwyddyn dyfu gyntaf er mwyn dileu planhigion tatws gwirfoddol, ac unrhyw blanhigion eraill sy’n tyfu’n naturiol sy’n cynnal Pydredd cylch tatws;

(b)gwaharddiad ar blannu unrhyw un neu ragor o’r canlynol yn y cae yn ystod y cyfnod hwnnw—

(i)cloron, planhigion neu wir hadau tatws;

(ii)planhigion sy’n tyfu’n naturiol sy’n cynnal Pydredd cylch tatws;

(iii)cnydau lle ceir risg bod Pydredd cylch tatws yn goroesi neu’n lledaenu;

(c)gofyniad mai dim ond tatws ar gyfer cynhyrchu tatws bwyta y caniateir eu plannu yn y cae yn ystod y tymor cnydio tatws cyntaf yn dilyn y cyfnod hwnnw, ar yr amod y canfuwyd bod y cae yn rhydd rhag planhigion tatws gwirfoddol a phlanhigion eraill sy’n tyfu’n naturiol sy’n cynnal Pydredd cylch tatws am o leiaf ddwy flwyddyn dyfu yn olynol cyn plannu; a

(d)gofyniad mai dim ond tatws ar gyfer cynhyrchu tatws hadyd neu datws bwyta y caniateir eu plannu yn y cae yn ystod y tymor cnydio tatws nesaf yn dilyn cylch cylchdroi priodol (rhaid i’r cylch hwnnw fod o leiaf ddwy flynedd pan fo’r tatws i’w plannu i gynhyrchu tatws hadyd).

7.  Yr ail set o fesurau dileu yw—

(a)y mesurau sydd i’w cymryd yn y cae o’r dyddiad y ceir yr hysbysiad ac am bedair blwyddyn dyfu o ddechrau’r flwyddyn dyfu gyntaf er mwyn dileu planhigion tatws gwirfoddol, a phlanhigion eraill sy’n tyfu’n naturiol sy’n cynnal Pydredd cylch tatws;

(b)gofyniad bod y cae yn cael ei gadw, yn ystod y cyfnod hwnnw, yn fraenar neu’n dir pori parhaol, gan dorri’r borfa yn fyr neu bori’r tir yn ddwys yn fynych; ac

(c)gofyniad mai dim ond tatws ar gyfer cynhyrchu tatws bwyta y caniateir eu plannu yn ystod y tymor cnydio tatws cyntaf yn dilyn y cyfnod hwnnw, ar yr amod y canfuwyd bod y cae yn rhydd rhag planhigion tatws gwirfoddol a phlanhigion eraill sy’n tyfu’n naturiol sy’n cynnal Pydredd cylch tatws am o leiaf ddwy flwyddyn dyfu yn olynol cyn plannu.

8.  Y drydedd set o fesurau dileu yw—

(a)gwaharddiad ar blannu unrhyw un neu ragor o’r canlynol yn y cae o’r dyddiad y ceir yr hysbysiad ac am y flwyddyn dyfu gyntaf—

(i)cloron, planhigion neu wir hadau tatws;

(ii)planhigion sy’n tyfu’n naturiol sy’n cynnal Pydredd cylch tatws; a

(iii)tatws hadyd ardystiedig, oni bai eu bod ar gyfer cynhyrchu tatws bwyta yn unig, a bod arolygydd wedi ei fodloni bod y risg o blanhigion tatws gwirfoddol a phlanhigion eraill sy’n tyfu’n naturiol sy’n cynnal Pydredd cylch tatws wedi ei dileu;

(b)gofyniad mai dim ond y tatws a ganlyn y caniateir eu plannu ar gyfer cynhyrchu tatws hadyd neu datws bwyta yn y flwyddyn dyfu ganlynol—

(i)tatws hadyd ardystiedig; a

(ii)tatws hadyd a brofwyd yn swyddogol ar gyfer absenoldeb Pydredd cylch tatws ac a dyfwyd o dan reolaeth swyddogol mewn man cynhyrchu nad yw’n fan cynhyrchu halogedig;

(c)gofyniad mai dim ond tatws hadyd ardystiedig neu datws hadyd a dyfwyd o dan reolaeth swyddogol o datws hadyd ardystiedig y caniateir eu plannu i gynhyrchu tatws hadyd neu datws bwyta yn ystod o leiaf y drydedd flwyddyn dyfu; a

(d)y mesurau sydd i’w cymryd yn y cae o’r dyddiad y ceir yr hysbysiad hyd at ddiwedd y drydedd flwyddyn dyfu er mwyn dileu planhigion tatws gwirfoddol, ac unrhyw blanhigion sy’n tyfu’n naturiol sy’n cynnal Pydredd cylch tatws.

9.  Caniateir i hysbysiad mewn perthynas â man cynhyrchu halogedig bennu bod rhaid i’r holl beiriannau a chyfleusterau storio yn y man cynhyrchu a ddefnyddir i gynhyrchu tatws gael eu glanhau a’u diheintio fel nad oes unrhyw risg adnabyddadwy o ledaenu Pydredd cylch tatws drwy gydol y cyfnod a bennir yn yr hysbysiad.

10.  Caiff y mesurau y caniateir eu pennu mewn hysbysiad o dan baragraff 5 neu 9 gael eu cynnwys mewn hysbysiad gyda mesurau priodol eraill.

Mesurau ychwanegol sy’n gymwys mewn perthynas ag uned gynhyrchu cnwd dan orchudd

11.  Pan fo’n bosibl amnewid yr holl gyfrwng tyfu mewn uned gynhyrchu cnwd dan orchudd halogedig, ni chaiff unrhyw berson blannu yn yr uned unrhyw gloron tatws, planhigion tatws na gwir hadau tatws heb awdurdodiad ysgrifenedig arolygydd.

12.  Ni chaiff arolygydd roi awdurdodiad o dan baragraff 11 oni bai—

(a)y cydymffurfiwyd â’r holl fesurau i ddileu Pydredd cylch tatws a bennir mewn hysbysiad mewn perthynas â’r man cynhyrchu lle y mae’r uned wedi ei lleoli;

(b)bod y cyfrwng tyfu yn yr uned wedi ei newid yn llwyr; ac

(c)bod yr uned a’r holl gyfarpar a ddefnyddiwyd yn yr uned wedi eu glanhau a’u diheintio i ddileu Pydredd cylch tatws a bod yr holl ddeunydd planhigion cynhaliol wedi ei symud ymaith.

13.  Pan roddir awdurdodiad o dan baragraff 11, caiff yr awdurdodiad bennu mai dim ond tatws hadyd ardystiedig, cloron bychain neu ficro-blanhigion sy’n deillio o ffynonellau a brofwyd yn swyddogol y caniateir eu defnyddio yn y broses gynhyrchu.

Back to top

Options/Help

Print Options

You have chosen to open The Whole Instrument

The Whole Instrument you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

You have chosen to open The Whole Instrument as a PDF

The Whole Instrument you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download.

Would you like to continue?

You have chosen to open the Whole Instrument

The Whole Instrument you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

You have chosen to open Schedules only

The Schedules you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources