- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
46.—(1) Mae person yn cyflawni trosedd os ydyw, heb esgus rhesymol, y mae’n rhaid i’r person ei brofi—
(a)yn torri neu’n methu â chydymffurfio ag—
(i)erthygl 6(1);
(ii)erthygl 9;
(iii)erthygl 10(1) neu (2);
(iv)erthygl 16(2), (3) neu (4);
(v)erthygl 17(6);
(vi)erthygl 19(1);
(vii)erthygl 20;
(viii)erthygl 21;
(ix)erthygl 24(3) neu (4);
(x)erthygl 26;
(xi)erthygl 27(2);
(xii)erthygl 28(1) neu (3);
(xiii)erthygl 39(1) neu (2);
(xiv)erthygl 41(4);
(xv)erthygl 42(1);
(xvi)erthygl 43(1);
(xvii)erthygl 45(3); neu
(xviii)paragraffau 5, 8, 9 neu 11 o Atodlen 14;
(b)yn torri neu’n methu â chydymffurfio â darpariaeth neu amod mewn hysbysiad a gyflwynir i’r person, neu mewn trwydded neu unrhyw gyfarwyddyd a roddir, o dan y Gorchymyn hwn; neu
(c)yn fwriadol yn rhwystro arolygydd neu unrhyw berson a awdurdodir gan arolygydd wrth iddo arfer y pwerau a roddir i’r arolygydd gan y Gorchymyn hwn neu oddi tano.
(2) Mae person yn cyflawni trosedd os yw’r person, at ddiben sicrhau y dyroddir pasbort planhigion, pasbort planhigion amnewid, tystysgrif ffytoiechydol, tystysgrif ffytoiechydol ar gyfer ailallforio neu drwydded o dan y Gorchymyn hwn—
(a)yn gwneud datganiad ffug yn fwriadol neu’n ddi-hid o ran manylyn perthnasol; neu
(b)yn fwriadol yn methu â datgelu unrhyw wybodaeth berthnasol.
(3) Mae person yn cyflawni trosedd os yw’r person—
(a)yn dyroddi pasbort planhigion mewn modd anonest;
(b)yn newid pasbort planhigion mewn modd anonest; neu
(c)yn ailddefnyddio pasbort planhigion mewn modd anonest.
(4) Mae’n amddiffyniad i berson a gyhuddir o drosedd o dan baragraff (1)(a)(xvii) brofi bod y person yn credu’n rhesymol—
(a)bod y datgeliad yn gyfreithlon; neu
(b)bod yr wybodaeth ar gael i’r cyhoedd eisoes a hynny mewn modd cyfreithlon.
(5) Os profir bod trosedd o dan y Gorchymyn hwn wedi ei chyflawni gyda chydsyniad neu ymoddefiad, neu ei bod wedi ei phriodoli i unrhyw esgeulustod ar ran—
(a)unrhyw gyfarwyddwr, rheolwr neu ysgrifennydd neu swyddog arall tebyg yn y corff corfforaethol; neu
(b)unrhyw berson a oedd yn honni ei fod yn gweithredu yn rhinwedd unrhyw swydd o’r fath,
bydd y person, yn ogystal â’r corff corfforaethol, yn euog o’r drosedd a bydd yn agored i gael ei erlyn a’i gosbi yn unol â hynny.
(6) At ddibenion paragraff (5), mae “cyfarwyddwr” (“director”), mewn perthynas â chorff corfforaethol y mae ei faterion yn cael eu rheoli gan ei aelodau, yn cynnwys aelod o’r corff corfforaethol.
(7) Pan fo trosedd o dan y Gorchymyn hwn yn cael ei chyflawni gan bartneriaeth Albanaidd ac y profir ei bod wedi ei chyflawni gyda chydsyniad neu ymoddefiad partner, neu ei bod wedi ei phriodoli i unrhyw esgeulustod ar ran partner, mae’r partner, yn ogystal â’r bartneriaeth, yn euog o’r drosedd ac yn agored i gael ei erlyn a’i gosbi yn unol â hynny.
(8) Pan fo unrhyw berson yn cyflawni trosedd o dan y Gorchymyn hwn o ganlyniad i weithred neu anwaith rhyw berson arall, caniateir i’r person arall hwnnw gael ei gyhuddo a’i euogfarnu o’r drosedd honno yn rhinwedd y paragraff hwn pa un a ddygir achos am y drosedd yn erbyn y person a grybwyllir gyntaf ai peidio.
The Whole Instrument you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.
Would you like to continue?
The Whole Instrument you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download.
Would you like to continue?
The Whole Instrument you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.
Would you like to continue?
The Schedules you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.
Would you like to continue?
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: