- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
29.—(1) Rhaid i fasnachwr planhigion cofrestredig sy’n dymuno dyroddi pasbortau planhigion mewn perthynas â deunydd perthnasol sydd i’w symud o unrhyw fangre yng Nghymru wneud cais ysgrifenedig i Weinidogion Cymru am yr awdurdod i wneud hynny.
(2) Rhaid i’r ceisydd ddarparu i Weinidogion Cymru unrhyw fanylion sy’n rhesymol ofynnol gan Weinidogion Cymru ynglŷn â’r deunydd perthnasol.
(3) Caiff Gweinidogion Cymru gynnal unrhyw archwiliad o’r deunydd perthnasol a’r fangre y mae’r deunydd i’w symud ohoni y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei fod yn angenrheidiol mewn perthynas â’r cais.
(4) Ni chaiff Gweinidogion Cymru ond rhoi awdurdodiad i ddyroddi pasbortau planhigion os yw Gweinidogion Cymru, ar ôl rhoi sylw i unrhyw archwiliad o’r deunydd perthnasol a’r fangre sy’n destun y cais, wedi eu bodloni—
(a)bod y fangre a’r deunydd perthnasol yn rhydd rhag unrhyw blâu planhigion perthnasol; a
(b)pan bennir unrhyw ofynion o dan y Gorchymyn hwn mewn perthynas â’r deunydd perthnasol, y cydymffurfiwyd â’r gofynion hynny.
(5) Rhaid i awdurdodiad i ddyroddi pasbortau planhigion a roddir gan Weinidogion Cymru gael ei roi yn ysgrifenedig a chaniateir ei roi yn ddarostyngedig i unrhyw amodau y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried eu bod yn briodol er mwyn sicrhau y cydymffurfir ag unrhyw ofynion perthnasol o dan y Gorchymyn hwn mewn perthynas â’r deunydd perthnasol, gan gynnwys y tiriogaethau y bydd y pasbortau planhigion sydd i’w dyroddi yn ddilys ar eu cyfer.
(6) Caiff Gweinidogion Cymru atal dros dro weithredu awdurdodiad i ddyroddi pasbortau planhigion yn gyfan gwbl neu mewn perthynas â mangre benodedig neu ddeunydd perthnasol penodedig os nad yw Gweinidogion Cymru, ar ôl rhoi sylw i unrhyw archwiliad o fangre’r masnachwr planhigion cofrestredig ac unrhyw ddeunydd perthnasol yno, wedi eu bodloni—
(a)bod y fangre neu’r deunydd perthnasol yn rhydd rhag unrhyw blâu planhigion perthnasol; a
(b)pan bennir unrhyw ofynion o dan y Gorchymyn hwn mewn perthynas â’r deunydd perthnasol, y cydymffurfiwyd â’r gofynion hynny.
(7) Caiff Gweinidogion Cymru atal dros dro weithredu awdurdodiad i ddyroddi pasbort planhigion, neu amrywio awdurdodiad, i’r graddau y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried bod hynny’n angenrheidiol, os ydynt wedi eu bodloni bod y masnachwr planhigion cofrestredig wedi methu ag—
(a)hysbysu Gweinidogion Cymru yn unol ag erthygl 27(2) am unrhyw newid yn y manylion a gofrestrwyd mewn perthynas â’r masnachwr planhigion;
(b)cydymffurfio ag unrhyw un neu ragor o’r amodau a bennir yn erthygl 28(1);
(c)cydymffurfio ag unrhyw amodau yn yr awdurdodiad a roddwyd o dan baragraff (5); neu
(d)cydymffurfio â gofyniad mewn hysbysiad a gyflwynwyd i’r masnachwr planhigion o dan erthygl 32.
(8) Yn yr erthygl hon ystyr “pla planhigion perthnasol” (“relevant plant pest”) yw—
(a)pla planhigion o ddisgrifiad a bennir yn Atodlen 1; neu
(b)mewn perthynas ag unrhyw ddeunydd perthnasol o ddisgrifiad a bennir yng ngholofn 2 o Atodlen 2, pla planhigion o ddisgrifiad a bennir mewn unrhyw gofnod mewn cysylltiad â’r disgrifiad hwnnw o ddeunydd perthnasol yng ngholofn 3 o’r Atodlen honno sy’n bresennol ar y deunydd perthnasol.
The Whole Instrument you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.
Would you like to continue?
The Whole Instrument you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download.
Would you like to continue?
The Whole Instrument you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.
Would you like to continue?
The Schedules you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.
Would you like to continue?
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: