- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
22.—(1) Nid yw’r darpariaethau a ganlyn yn gymwys i symiau bach o ddeunydd perthnasol, ac eithrio deunydd eithriedig, os yw’r deunydd perthnasol yn bodloni’r amodau ym mharagraff (2)—
(a)erthygl 18(1)(e), (f) ac (g) a (5);
(b)erthygl 19(1);
(c)erthygl 20(1)(e) ac (f); a
(d)erthygl 21(1), (2), (5) a (6).
(2) Yr amodau yw—
(a)nad yw’r deunydd perthnasol yn dangos unrhyw arwyddion bod pla planhigion yn bresennol;
(b)na fwriedir i’r deunydd perthnasol gael ei ddefnyddio wrth fasnachu neu redeg busnes; ac
(c)y bwriedir y deunydd perthnasol at ddefnydd aelwydydd.
(3) Nid yw’r gofynion yn erthygl 21(1) yn gymwys i blanhigion a fwriedir ar gyfer eu plannu, ac eithrio hadau, na allant ond tyfu mewn dŵr neu bridd sydd wedi ei drwytho â dŵr yn barhaol, sy’n tarddu o ardal a sefydlwyd yn unol ag Erthygl 5 o Benderfyniad 2012/697/EU ac nad ydynt ond yn cael eu symud o fewn yr ardal honno.
(4) Mae’r gofynion yn erthygl 21(1) a (5) a fyddai’n gymwys yn rhinwedd paragraffau 16 a 17 o Ran A o Atodlenni 6 a 7 i blanhigion cynhaliol Xylella o fewn ystyr Erthygl 1(b) o Benderfyniad (EU) 2015/789 ac i blanhigion tarddiol cyn-sylfaenol a deunydd cyn-sylfaenol y cyfeirir atynt yn Erthygl 9(9) o’r Penderfyniad hwnnw yn anghymwys pan fo’r planhigion yn cael eu symud gan berson sy’n gweithredu at ddibenion y tu allan i fasnach, busnes neu broffesiwn y person, a’r person yn eu caffael at ddefnydd personol.
(5) Caiff Gweinidogion Cymru eithrio symud deunydd perthnasol sy’n tarddu o Brydain Fawr o’r gwaharddiad ar symud yn erthygl 21(1) neu (2) os yw Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni—
(a)bod y symudiad yn cael ei wneud yn lleol gan gynhyrchwyr neu broseswyr bach y bwriedir y broses gyfan o gynhyrchu a gwerthu deunydd o’r fath ar gyfer defnyddio’r deunydd yn y pen draw gan bersonau yn y farchnad leol nad ydynt yn ymwneud yn broffesiynol â chynhyrchu planhigion; a
(b)nad oes unrhyw risg y bydd y plâu planhigion yn lledaenu neu’n cael eu lledaenu o ganlyniad i’r symudiad hwnnw.
(6) Ym mharagraff (1), ystyr “deunydd eithriedig” (“excluded material”) yw unrhyw un neu ragor o’r deunydd a ganlyn—
(a)planhigion Castanea Mill. a fwriedir ar gyfer eu plannu;
(b)planhigion Fraxinus L. a fwriedir ar gyfer eu plannu;
(c)planhigion, ac eithrio hadau, Platanus L, a fwriedir ar gyfer eu plannu.
The Whole Instrument you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.
Would you like to continue?
The Whole Instrument you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download.
Would you like to continue?
The Whole Instrument you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.
Would you like to continue?
The Schedules you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.
Would you like to continue?
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: