Search Legislation

Gorchymyn y Rhestrau Ardrethu (Dyddiad Prisio) (Cymru) 2018

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made).

Offerynnau Statudol Cymru

2018 Rhif 1001 (Cy. 204)

Ardrethu A Phrisio, Cymru

Gorchymyn y Rhestrau Ardrethu (Dyddiad Prisio) (Cymru) 2018

Gwnaed

12 Medi 2018

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

17 Medi 2018

Yn dod i rym

10 Hydref 2018

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pŵer a roddwyd i’r Ysgrifennydd Gwladol gan baragraff 2(3)(b) o Atodlen 6 i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988(1) ac a freinir bellach ynddynt hwy(2).

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn y Rhestrau Ardrethu (Dyddiad Prisio) (Cymru) 2018 a daw i rym ar 10 Hydref 2018.

(2Mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.

Dyddiad prisio

2.  1 Ebrill 2019 yw’r diwrnod a bennir fel y diwrnod y mae’n rhaid cyfeirio ato i bennu gwerthoedd ardrethol hereditamentau annomestig at ddibenion y rhestrau ardrethu annomestig lleol a chanolog pan fyddant yn cael eu llunio nesaf ar gyfer Cymru ar ôl i’r Gorchymyn hwn ddod i rym.

Dirymu

3.  Mae Gorchymyn y Rhestrau Ardrethu (Dyddiad Prisio) (Cymru) 2014(3) wedi ei ddirymu.

Mark Drakeford

Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, un o Weinidogion Cymru

12 Medi 2018

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Yn rhinwedd adrannau 41(2) a 52(2) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 (“Deddf 1988”), sydd i’w darllen ar y cyd â Gorchymyn Rhestrau Ardrethu (Gohirio Gwneud Rhestrau) (Cymru) 2014 (O.S. 2014/1370 (Cy. 139)) a wneir o dan adran 54A o Ddeddf 1988, mae rhestrau ardrethu annomestig ar gyfer Cymru i’w llunio ar 1 Ebrill 2017 a phob pumed flwyddyn wedi hynny.

Mae paragraff 2(3)(b) o Atodlen 6 i Ddeddf 1988 yn darparu, at ddibenion llunio rhestrau o’r fath, fod gwerth ardrethol hereditament annomestig i’w bennu drwy gyfeirio at y diwrnod y mae rhaid llunio’r rhestrau neu ar unrhyw ddiwrnod cyn y diwrnod hwnnw a bennir drwy orchymyn.

Mae erthygl 2 o’r Gorchymyn hwn yn pennu 1 Ebrill 2019 fel y diwrnod hwnnw at ddibenion llunio’r rhestrau ardrethu annomestig lleol a chanolog nesaf pan fydd y Gorchymyn hwn wedi dod i rym.

Mae erthygl 3 yn diddymu Gorchymyn y Rhestrau Ardrethu (Dyddiad Prisio) (Cymru) 2014 (O.S. 2014/2917 (Cy. 297)), a oedd yn pennu’r diwrnod yr oedd rhaid cyfeirio ato o ran yr eiddo a oedd i’w brisio at ddibenion y rhestrau a luniwyd ar 1 Ebrill 2017. Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn. Gellir cael copi oddi wrth y Gangen Polisi Trethi Lleol, yr Is-adran Cyllid Strategol Llywodraeth Leol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.

(2)

Trosglwyddwyd y pŵer o dan baragraff 2(3)(b) o Atodlen 6 i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988, i’r graddau y mae’n arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac fe’i trosglwyddwyd wedi hynny i Weinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources